Comisiynydd Safonau'r Cynulliad Cenedlaethol
Mae Comisiynydd Safonau'r Cynulliad yn berson annibynnol a benodir gan y Cynulliad. Mae'r Comisiynydd yn rhoi cyngor a chymorth ar unrhyw fater o egwyddor sy'n ymwneud ag ymddygiad Aelodau'r Cynulliad ac mae'n cynnal ymchwiliadau annibynnol i gwynion bod Aelodau'r Cynulliad wedi torri Protocolau, Codau neu benderfyniadau'r Cynulliad.
Mae'r Comisiynydd wedi ymrwymo i:
Creu cyfundrefn safonau gadarn oddi mewn i'r Cynulliad Cenedlaethol;
Gweithio gyda phob Aelod Cynulliad ar unrhyw fater sy'n ymwneud â safonau;
Sicrhau bod y broses safonau yn agored ac yn dryloyw.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau ynghylch rôl y Comisiynydd Safonau, mae croeso i chi gysylltu â Swyddfa'r.
Comisiynydd. Dyma'r manylion:
Comisiynydd Safonau'r Cynulliad Cenedlaethol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA
Rhif ffôn: 029 2089 8948
Ffacs: 029 2089 8117
e-bost: standards.commissioner@wales.gov.uk
Rhowch wybod i'r Comisiynydd os oes gennych unrhyw ofynion penodol (er enghraifft, os hoffech dderbyn gohebiaeth gan y Comisiynydd ar ffurf benodol, megis print bras).
