Gerard Elias CF

Penodwyd Gerard Elias yn Gomisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 17 Tachwedd 2010. Penodwyd Comisiynydd annibynnol statudol yn unol â Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009.

Prif swyddogaethau’r Comisiynydd yw:

  • i dderbyn unrhyw gwyn bod ymddygiad Aelod Cynulliad, ar adeg berthnasol, wedi methu â chydymffurfio ag un o ofynion darpariaeth berthnasol;

  • i ymchwilio i unrhyw gwyn o’r fath yn unol â darpariaethau’r Mesur hwn;

  • i gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad ar ganlyniad unrhyw ymchwiliad o’r fath; ac

  • i gynghori Aelodau Cynulliad ac aelodau’r cyhoedd am y gweithdrefnau ynglyn â gwneud cwynion ac ymchwilio i gwynion.

Yn ogystal â’r uchod, gall y Comisiynydd roi cyngor i’r Cynulliad:

  • ar unrhyw fater arall o egwyddor gyffredinol sy’n ymwneud â darpariaethau perthnasol neu â safonau ymddygiad Aelodau Cynulliad yn gyffredinol;

  • ar weithdrefnau ar gyfer ymchwilio i gwynion bod Aelodau Cynulliad wedi methu â chydymffurfio â gofynion darpariaethau perthnasol; ac

  • ar unrhyw fater sy’n ymwneud â hybu, annog a diogelu safonau ymddygiad uchel yn swydd gyhoeddus Aelod Cynulliad.

Bywgraffiad

Mae Gerard yn fargyfreithiwr troseddol blaengar sydd â dros 40 mlynedd o brofiad yn y maes cyfreithiol. Bu’n ymwneud â nifer o’r achosion mwyaf pwysig ar gylchdaith Cymru dros y blynyddoedd diwethaf.  Ers 1996, dominyddwyd ei bractis cyfreithiol gan ymchwiliadau cyhoeddus arwyddocaol, gan gynnwys yr ymchwiliad i gamdrin plant yng Ngogledd Cymru, ymchwiliad Bloody Sunday ac ymchwiliad Baha Mousa. Mae ganddo nifer o flynyddoedd o brofiad ym maes disgyblaeth broffesiynol ar lefel uchel yn y Deyrnas Unedig, yn enwedig mewn chwaraeon. Mae ei benodiadau yn cynnwys: Dirprwy Farnwr yr Uchel Lys; Cofiadur a chyn Arweinydd Cylchdaith Cymru a Chaer; Canghellor, Esgobaeth Abertawe a Brycheiniog; Cadeirydd Comisiwn Disgyblaeth Bwrdd Criced Lloegr a Chymru; a Chadeirydd Sports Resolutions UK.

Partneriaid a Help