Ffeithiau Allweddol
Y Comisiwn
Y Senedd
Cyfarfodydd Llawn
Pwyllgorau
Deddfwriaeth
Geirfa
Cafodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei sefydlu gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 yn dilyn refferendwm ar ddatganoli a gynhaliwyd ar 18 Medi 1997. O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, cafodd y Cynulliad ragor o bwerau. Yn awr, gall y 60 aelod etholedig yn y Cynulliad (Aelodau’r Cynulliad) nid yn unig graffu ar waith Llywodraeth Cymru, ond gallant hefyd wneud ddeddfwriaeth mewn meysydd datganoledig.
Caiff etholiadau’r Cynulliad eu cynnal bob pedair blynedd. Etholwyd y Cynulliad cyntaf ym 1999 a chynhaliwyd yr etholiad diweddaraf ym mis Mai 2007. Mae gan bob etholwr cofrestredig ddwy bleidlais i’w defnyddio ym mhob etholiad Cynulliad. Pleidlais ar gyfer Aelod yr etholaeth leol yw’r gyntaf. Caiff Aelod ei ethol i bob un o’r 40 etholaeth yng Nghymru drwy system 'y cyntaf adref’, yr un system ar gyfer ethol Aelodau Seneddol i Dŷ’r Cyffredin - h.y. yr ymgeisydd sydd â’r nifer fwyaf o bleidleisiau sy’n ennill y sedd.
Pleidlais i ethol Aelod Rhanbarthol yw’r ail. Caiff Aelodau Rhanbarthol eu hethol drwy ffurf ar gynrychiolaeth gyfrannol sef 'System yr Aelod Ychwanegol’, ac mae’r etholwyr yn pleidleisio dros blaid wleidyddol. Mae’r system hon yn gwneud rhywfaint tuag at sicrhau bod nifer gyffredinol y seddau sydd gan bob plaid wleidyddol yn adlewyrchu cyfran y bleidlais a gafodd. Rhagor o fanylion am y system etholiadol.
Mae gan y Cynulliad y pŵer i graffu ar waith Llywodraeth Cymru ac i wneud ei ddeddfwriaeth ei hun ar faterion datganoledig fel iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol a llywodraeth leol.
Cyn y gall wneud cyfreithiau i Gymru, mae angen i’r Cynulliad gael caniatâd Senedd y DU i’r pwnc gael ei ddatganoli, gan roi 'cymhwysedd deddfwriaethol’ mewn cyd-destun penodol. Gall y Cynulliad gael cymhwysedd deddfwriaethol naill ai drwy Ddeddfau Seneddol, neu gall y Cynulliad gynnig i bwerau gael eu datganoli drwy broses newydd, sef drwy Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol. Wedi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gael cymhwysedd deddfwriaethol ar bwnc penodol gan Senedd y DU, gall ddechrau’r broses o greu cyfreithiau, sef Mesurau’r Cynulliad.
Comisiwn y Cynulliad yw’r enw ar gorff corfforaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Y Comisiwn sy’n gyfrifol am sicrhau bod eiddo, staff a gwasanaethau yn cael eu darparu i’r Cynulliad. Y Llywydd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas sy’n cadeirio Comisiwn y Cynulliad. Yr aelodau eraill yw Lorraine Barrett, Peter Black, Chris Franks a William Graham.
Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad sy’n arwain staff Comisiwn y Cynulliad.
Dyma amcanion strategol y Comisiwn:
Y Senedd yw cartref Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a phrif ganolfan democratiaeth a datganoli yng Nghymru. Richard Rogers oedd y dylunydd a chafodd ei hagor yn swyddogol gan y Frenhines ar 1 Mawrth 2006. Cost yr adeilad, at ei gilydd, gan gynnwys gosodiadau, dodrefn, celf a chyfarpar TGCh a darlledu oedd £67miliwn.
Yn ôl briff dylunio’r Senedd roedd yn rhaid i’r adeilad fodloni a rhagori ar ofynion cyfansoddiadol y Cynulliad yng nghyswllt datblygu cynaliadwy ac arfer da. O ran perfformiad amgylcheddol, llwyddodd y Senedd i fodloni safon 'Ardderchog’ (yr uchaf i’w ddyfarnu yng Nghymru erioed) o dan Ddull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil i Adeiladau (BREEAM). Yn ystod y broses asesu, ystyriwyd materion ehangach fel cludiant, sŵn, defnyddio defnyddiau cynaliadwy, rheoli’r adeilad ac egwyddorion gwyrdd eraill. Mae’r adeilad yn defnyddio systemau ynni adnewyddadwy ynghyd â systemau naturiol a goddefol i wresogi ac i oeri’r adeilad. Effaith gyffredinol hyn fydd lleihau costau rhedeg yr adeilad 30-50%. 'Simnai’ y Senedd yw cwfl sy’n troi gyda chyfeiriad y gwynt, a ddefnyddir i awyru’r adeilad, a fentiau yn y to i helpu’r system awyru naturiol. Mae hyn yn lleihau’r ynni mae’r adeilad yn ei ddefnyddio.
Yn y Senedd mae Siambr drafod ac ystafelloedd pwyllgora i Aelodau’r Cynulliad ymgymryd â busnes y Cynulliad, ond, yn bwysicach na dim, adeilad cyhoeddus, tryloyw ydyw, a ddyluniwyd i fod yn adeilad i holl bobl Cymru, ac nid i wleidyddion yn unig. Y Neuadd yw man cyhoeddus y Senedd lle caiff ymwelwyr eu croesawu. Mae’r Oriel ar agor i’r cyhoedd hefyd ac oddi yno mae’n bosibl gwylio’r Aelodau wrth eu gwaith yn y Siambr neu’r Ystafelloedd Pwyllgora a cheir golygfeydd godidog o Fae Caerdydd a’r adeiladau cyfagos. Mae’r Siambr wedi’i chynllunio i ganiatáu i’r Aelodau i gyd eu gweld ei gilydd, gan wneud y broses ddemocrataidd yn fwy agored a chynhwysol, gyda llai o wrthdaro. Gall y cyhoedd wylio’r cyfarfodydd llawn yn y Siambr o’r oriel gyhoeddus a gwylio cyfarfodydd y pwyllgorau o oriel y pwyllgorau.
Comisiynwyd pedwar prosiect gan bedwar artist i sicrhau bod celf yn rhan annatod o’r adeilad. Canolbwynt y Siambr yw Calon Cymru, sef cromen o wahanol haenau o wydr sy’n codi o’r llawr derw. Rhesi o baneli gwydr yw Maes y Cynulliad, a gynlluniwyd er mwyn cysgodi ymwelwyr rhag gwyntoedd cryfion wrth iddynt ddringo’r grisiau i’r Senedd. Defnyddiwyd dros 40 tunnell o lechi Ffestiniog i greu cerflun y Man Cyfarfod sy’n estyn allan o blinth y Senedd. Y pedwerydd prosiect oedd y paneli acwstig sydd â diben ymarferol ond sydd hefyd yn cyflwyno lliw i’r Senedd.
Wrth ddatblygu’r gwaith dylunio, nod y Cynulliad oedd creu adeilad a oedd yn esiampl o aeilad sy’n agored i bawb. Sefydlwyd Grŵp Cynghori ar Fynediad yn ystod y broses dylunio ac adeiladu, a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o grwpiau o bob rhan o Gymru a oedd â diddordeb mewn anabledd.
Yn y Cyfarfodydd Llawn bydd y 60 Aelod Cynulliad yn dod at ei gilydd. Bydd hyn yn digwydd bob dydd Mawrth a dydd Mercher yn y Siambr drafod. Bydd Prif Weinidog Cymru yn ateb cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn bob dydd Mawrth, a bydd Gweinidogion eraill yn ateb cwestiynau ar ddydd Mercher. Yn y Cyfarfod Llawn hefyd ceir datganiadau gan y Llywodraeth, a dadleuon a gyflwynir naill ai gan yr wrthblaid neu’r Llywodraeth. Mae cofnod electronig llawn o drafodion yr holl Gyfarfodydd Llawn a holl gyfarfodydd y Pwyllgorau ar wefan y Cynulliad.
Grŵp o Aelodau’r Cynulliad yw Pwyllgor Cynulliad sy’n cyfarfod yn rheolaidd i ymgymryd â darnau o waith manwl a phenodol. Mae bron pob cyfarfod pwyllgor yn cael ei gynnal yn gyhoeddus.
Mae gan Bwyllgorau’r Cynulliad nifer o swyddogaethau: bydd rhai’n craffu ar bolisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru ac yn dwyn Gweinidogion i gyfrif am yr hyn a wnânt ac am yr arian a wariant; bydd rhai’n archwilio deddfwriaeth arfaethedig; a bydd gan eraill swyddogaethau penodol a gaiff eu dyrannu iddynt gan y Cynulliad neu ei Reolau Sefydlog. Manylion cylch gwaith a chyfrifoldebau pob pwyllgor.
Er nad yw bob un o bwyllgorau’r Cynulliad yn cyd-fynd yn union â’r categorïau hyn, gellid dweud bod gan y rhan fwyaf naill ai’n ymwneud â 'chraffu’ (yng nghyswllt polisïau a gwariant Llywodraeth y Cynulliad) neu â 'deddfwriaeth’ (archwilio cynigion deddfwriaethol y Cynulliad).
Mae’r cyfrifoldeb am archwilio holl wariant, gweinyddiaeth a pholisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru a chyrff cysylltiedig wedi’i rannu rhwng y pedwar prif Bwyllgor craffu:
Mae gan nifer o bwyllgorau eraill swyddogaethau mwy penodol mewn perthynas â chraffu ar agweddau penodol gyllid neu feysydd polisi:
Pan fydd y pwyllgorau hyn wedi archwilio mater penodol gallant wneud argymhellion ynglŷn â’i ddatblygu neu ei newid yn y dyfodol. Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n penderfynu sut i ymateb i unrhyw argymhellion.
Mae’r Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth yn trafod agweddau technegol ar yr offerynnau statudol drafft a wneir gan Weinidogion Cymru.
Caiff pwyllgor ar wahân ei sefydlu i graffu ar unrhyw gynigion ar gyfer deddfwriaeth benodol. Cyn gynted ag y bydd y gwaith o graffu ar y cynnig wedi’i gwblhau, bydd y pwyllgor yn dirwyn i ben.
Yn ogystal â hyn, mae gan y Cynulliad Bwyllgor Deisebau, sy’n ystyried deisebau a gyflwynir i’r Cynulliad gan sefydliadau neu’r cyhoedd; Pwyllgor Safonau Ymddygiad, i ofalu bod Aelodau’r Cynulliad yn cadw at safonau priodol ac i ymchwilio i unrhyw gwynion a gaiff eu cyfeirio ato; a Phwyllgor Rhanbarth y Gogledd, sy’n trafod materion sy’n berthnasol i’r Gogledd. Mae’r Pwyllgor Busnes yn gyfrifol am weithdrefnau’r Cynulliad ac am reoli’r busnes y bydd y Cynulliad yn ei drafod pan fydd yn cyfarfod.
Cafodd pwerau deddfu newydd eu rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar ddechrau’r Trydydd Cynulliad ym mis Mai 2007. Darparwyd ar gyfer y pwerau newydd hyn yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006, sy’n galluogi’r Cynulliad i basio deddfwriaeth, a elwir yn Fesurau’r Cynulliad, yn y meysydd y mae ganddo gymhwysedd deddfwriaethol ynddynt.
Mae’r meysydd y mae gan y Cynulliad gymhwysedd deddfwriaethol ynddynt ar hyn o bryd wedi’u nodi yn Atodlen 5 Deddf Llywodraeth Cymru
Mae Atodlen 5 yn rhestru meysydd cymhwysedd deddfwriaethol o dan 'Feysydd’ pwnc, sydd wedi’u diffinio ymhellach gan 'Faterion’ o fewn pob Maes. Gellir newid Atodlen 5 i ychwanegu 'Materion’ pellach ac felly estyn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad. Gellir gwneud hyn naill ai drwy Ddeddf Seneddol, neu drwy Orchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol y mae angen iddo gael ei gymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a dau Dŷ Senedd y Deyrnas Unedig. Diagram o’r broses Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol
Yn y meysydd y mae ganddo gymhwysedd deddfwriaethol, gall y Cynulliad wneud ei ddeddfau ei hun, a gelwir y rhain yn "Fesurau”. Bydd Mesur yn cael effaith debyg i Ddeddf Seneddol. Gall Llywodraeth y Cynulliad, Pwyllgorau’r Cynulliad, Aelod Cynulliad neu Gomisiwn y Cynulliad gyflwyno Mesur. Diagram o’r broses Mesurau
Un o swyddogaethau’r Cynulliad yw craffu ar Is-ddeddfwriaeth a wneir gan Weinidogion Cymru. Mae is-ddeddfwriaeth yn atodol i Fesurau’r Cynulliad neu Ddeddfau Senedd y Deyrnas Unedig a gall gynnwys gorchmynion, rheoliadau, cynlluniau yn ogystal â chanllawiau statudol a gorchmynion lleol.
Aelod Cynulliad (AC) - Person a gaiff ei ethol gan bobl Cymru i’w cynrychioli yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Caiff 60 o Aelodau’r Cynulliad eu hethol.
Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru - Y corff corfforaethol sy'n gyfrifol am gynnal Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’n gyfrifol am gyflogi staff, dal eiddo, llunio contractau a sicrhau bod gwasanaethau cymorth yn cael eu darparu ar gyfer Aelodau'r Cynulliad. Mae’r Comisiwn yn cynnwys y Llywydd a phedwar Aelod Cynulliad arall.
Craffu - Y broses o archwilio mesurau arfaethedig a gorchmynion deddfwriaethol a pherfformiad y llywodraeth.
Cronfa Gyfunol Cymru - Cronfa o arian cyhoeddus a gaiff ei ddyrannu i Gymru gan Lywodraeth y DU, drwy gyfrwng Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ynghyd ag arian o ffynonellau eraill. Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gallu tynnu arian i lawr o Gronfa Gyfunol Cymru cyn belled ag y bônt yn cydymffurfio â chynigion y gyllideb a gymeradwywyd
gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd cyllidebau Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ymddangos ar Gronfa Gyfunol Cymru.
Cwnsler Cyffredinol - Prif gynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r Cwnsler Cyffredinol yn aelod o Lywodraeth Cynulliad Cymru ond nid yw, o reidrwydd, yn Weinidog Cymru a does dim rhaid iddo fod yn Aelod Cynulliad.
Cydsyniad Brenhinol - Cymeradwyaeth ffurfiol gan y Frenhines a fydd yn gyfrwng i Fesur Seneddol gael ei wneud yn Ddeddf. Bydd Mesurau'r Cynulliad yn cael eu cymeradwyo gan y Frenhines yn y Cyfrin Gyngor.
Cyfrin Gyngor - Cyfarfod yn cynnwys y Frenhines a'i Chyfrin Gynghorwyr sy'n aelodau o'r llywodraeth. Caiff Mesurau’r Cynulliad eu cymeradwyo yn y Cyfrin Gyngor.
Cymhwysedd Deddfwriaethol - Y pŵer i wneud deddfau. Mae’r Cynulliad yn cael cymhwysedd deddfwriaethol mewn perthynas â mater penodol cyn gynted ag y bydd y mater hwnnw wedi’i gynnwys yn un o’r meysydd yn Atodiad 5 Deddf Llywodraeth Cymru 2006.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru (hefyd y Cynulliad Cenedlaethol neu’r Cynulliad) - Corff anghorfforedig o 60 Aelod Cynulliad - deddfwrfa ar wahân a sefydlwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac iddi swyddogaethau seneddol/deddfwriaethol a swyddogaeth craffu
Deddf Seneddol - Cyfraith sydd wedi’i phasio gan Senedd y DU sydd wedi cael Cydsyniad Brenhinol h.y. sydd wedi’i llofnodi gan y Frenhines. Caiff Deddfau eu galw’n ddeddfwriaeth sylfaenol yn aml.
Deddfwrfa - Dyma lle mae’r gwaith o drafod a chytuno ar ddeddfau newydd yn mynd rhagddo. Mae hefyd yn craffu ar benderfyniadau’r Llywodraeth ac yn dwyn y Llywodraeth y gyfrif.
Deddfwriaeth Sylfaenol - Deddf Seneddol i bob pwrpas.
Etholaeth - Ardal ddaearyddol benodol yw etholaeth a chaiff ei chynrychioli gan AC yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru neu gan Aelod Seneddol (AS) yn San Steffan. Mae Cymru wedi’i rhannu’n 40 etholaeth sy’n ethol 40 AC o dan system y cyntaf adref.
Etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru - Etholiadau i ddewis 60 AC i gynrychioli etholaethau a rhanbarthau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Caiff etholiadau eu cynnal bob pedair blynedd.
Gorchymyn y Cyfrin Gyngor - Drwy’r dull hwn gall y Cynulliad Cenedlaethol Cymru ofyn i’r Senedd ychwanegu Materion at y Meysydd er mwyn cael cymhwysedd deddfwriaethol i ddod â Mesurau i rym. Gorchymyn y Cyfrin Gyngor yw’r term cyffredinol ar gyfer math arbennig o is-ddeddfwriaeth sydd, oherwydd ei natur gyfansoddiadol, yn cael ei wneud yn ffurfiol gan y Frenhines.
Gweinidog Cymru - Aelod Cynulliad a benodir yn Weinidog Cymru gan Brif Weinidog Cymru, gyda chymeradwyaeth ei Mawrhydi, ac sy’n rhan o Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Gweithrediaeth - Term a ddefnyddir i ddisgrifio’r llywodraeth ac i wahaniaethu rhyngddi a’r ddeddfwrfa
Is-ddeddfwriaeth - Cyfraith a wneir gan Weinidogion o dan bwerau a roddir iddynt gan Senedd y DU. Nid yw’r cyfreithiau hyn yn dilyn yr un broses seneddol ag a ddefnyddir ar gyfer is-ddeddfwriaeth.
Llywodraeth Cynulliad Cymru - Corff newydd ac iddo gyfrifoldebau llywodraethol/gweithredol a sefydlwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i ddatblygu polisïau a gwneud penderfyniadau.
Llywydd - Mae’n Cadeirio’r Cyfarfodydd Llawn ac yn gofalu bod busnes y Cynulliad yn cael ei gynnal yn briodol. Y Llywydd hefyd yw Cadeirydd Comisiwn y Cynulliad a’r Pwyllgor Busnes.
Maes - Bydd y Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gallu gofyn am gymhwysedd deddfwriaethol mewn meysydd polisi datganoledig er mwyn dod â Mesurau i rym. Mae Atodiad 5 Deddf Llywodraeth Cymru wedi’i rannu’n 20 maes gwahanol. Caiff materion eu hychwanegu at y meysydd drwy orchymyn cymhwysedd deddfwriaethol.
Materion - Pwnc penodol y gall y Cynulliad wneud mesurau yn ei gylch - rhaid i fater gael ei gynnwys yn un o’r meysydd yn Atodiad 5 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 cyn y caiff y Cynulliad gymhwysedd deddfwriaethol i ddeddfu yn ei gylch.
Materion a gadwyd yn ôl - Y materion y bydd Senedd y DU yn penderfynu arnynt e.e. Amddiffyn, Materion Tramor, Cyfraith Cyflogaeth, Trethu a Nawdd Cymdeithasol.
Mesurau - Gall y Cynulliad Cenedlaethol wneud ei ddeddfau ei hun, sef Mesurau. Caiff mesur yr un effaith â Deddf Seneddol a chaiff ei gymeradwyo gan y Frenhines yn y Cyfrin Gyngor.
Prif Weinidog Cymru - Aelod Cynulliad sy’n cael ei benodi gan y Frenhines i fod yn Brif Weinidog Cymru wedi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ei (h)enwebu. Pennaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Pwyllgor - Grŵp o Aelodau’r Cynulliad o wahanol bleidiau sy’n dod at ei gilydd i drafod pwnc penodol neu i graffu ar ddarnau penodol o ddeddfwriaeth arfaethedig.
Refferendwm - Y drefn o gyfeirio cwestiwn at sylw'r etholwyr a fydd yn pleidleisio arno mewn modd a fydd yn debyg i etholiad cyffredinol.
Rhanbarth - Mae Cymru wedi’i rhannu’n 5 rhanbarth etholiadol ar gyfer ethol Aelodau Ychwanegol drwy system Cynrychiolaeth Gyfrannol. Caiff pedwar o Aelodau’r Cynulliad eu hethol i gynrychioli pob un o’r rhanbarthau hyn; felly caiff 20 AC eu hethol i gynrychioli’r rhanbarthau.
Rheolau Sefydlog - Y rheolau sy'n sail i'r ffordd y caiff trafodion y Cynulliad eu rheoleiddio.
System yr Aelodau Ychwanegol - System o gynrychiolaeth gyfrannol a ddefnyddir yn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol i ethol 20 o’r 60 Aelod Seneddol.
Y Cyntaf Adref - Y system sy’n cael ei defnyddio i ethol 40 o’r 60 AC yn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol.