Taith y Llywydd 2009
Yr ymdrech i oresgyn y rhwystrau yn parhau ar ôl degawd o ddatganoli
Bydd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn ymweld â phob etholaeth yng Nghymru fel rhan o fenter barhaus i annog pobl i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd ac ehangu dealltwriaeth o rôl Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Yr ymweliad â Chanolfan Gymunedol Affricanaidd Abertawe ar 29 Ionawr oedd y cyntaf o bum ymweliad â chanolfannau, a gynlluniwyd er mwyn cynnal trafodaethau â’r grwpiau hynny y mae’n bosibl na chawsant, yn draddodiadol, y cyfle i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd yng Nghymru
Gwyliwch y bwletin o'r ymweliad â Abertawe
Dywedodd y Llywydd: “Rôl y Cynulliad yw creu cyfreithiau i Gymru, dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif a chynrychioli dinasyddion Cymru. Felly, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn meithrin cysylltiadau â’r holl grwpiau yng Nghymru.
Gwyliwch y bwletin o'r ymweliad â Llanelli 
“Dyna’r rheswm, fel rhan o fy ngwaith parhaus i sicrhau mwy o ymgysylltiad â’n gwaith yma ym Mae Caerdydd, fy mod yn cyfarfod â grwpiau mewn pum gwahanol ran o Gymru i weld sut y gallwn sicrhau bod y broses ddemocrataidd yn fwy hygyrch.
Gwyliwch y bwletin o'r ymweliad â Treorci
“Erbyn hyn, Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw canolbwynt yr hyn sy’n rhoi’r ymdeimlad gynyddol o hunaniaeth Gymreig i bobl Cymru. Ond nid yw ein gwaith wedi ei gwblhau. Mae angen i bawb yng Nghymru deimlo eu bod yn berchen ar y sefydliad a’i waith. Dyna’r rheswm dros gychwyn ar y gwaith hwn heddiw.”
Gwyliwch y bwletin o'r ymweliad â Llandudno
Bydd y prosiect yn cyfrannu at waith parhaus i gynyddu cyfranogiad ac mae’n dilyn arolwg Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei hun y llynedd a ddangosodd, er bod 70% erbyn hyn yn cefnogi datganoli, nad oedd llawer ohonynt yn gwybod y gwahaniaeth rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru, gyda 52% yn cyfaddef mai ychydig iawn yr oeddynt yn ei wybod am waith y Cynulliad a’i Aelodau.
Nod taith y Llywydd o amgylch Cymru yw mynd i’r afael â’r materion hyn yn uniongyrchol. Bydd hefyd yn ymweld â grwpiau anabl, crefyddol, cyfeiriadedd rhywiol a phobl ifanc fel rhan o’r rhaglen, a hynny ym mhob rhan o Gymru.
