Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel cyflowgr

Rhestr y Swyddi Gwag

Pwrpas Staff y Cynulliad yw cefnogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i sicrhau ei fod yn gweithredu’n llwyddiannus fel corff democrataidd. Mae’n gweithredu dan gyfarwyddyd a chyfeiriad y Llywydd a phedwar Aelod Cynulliad arall sy’n cynrychioli’r pleidiau gwleidyddol eraill. Caiff gweithrediadau o ddydd i ddydd eu dirprwyo i Glerc a Phrif Weithredwr y Cynulliad. Mae hyn yn cynnwys ystod eang o weithgareddau yn cynnwys:

  • Darparu swyddfeydd, cyfleusterau, cyfarpar a gwybodaeth y mae eu hangen ar Aelodau’r Cynulliad i wneud eu gwaith;
  • Cefnogi Pwyllgorau’r Cynulliad a’r Cyfarfod Llawn drwy roi cyngor ar weithdrefnau, cyngor cyfreithiol a chyngor arall;
  • Darparu gwasanaethau cyfieithu, cyfieithu ar y pryd a gwasanaethau cofnodi sy’n sicrhau y gall y Cynulliad weithredu yn Gymraeg a Saesneg;
  • Darparu gwybodaeth ac addysg am y Cynulliad i’r cyhoedd; a
  • Darparu gwybodaeth ac addysg i’r cyhoedd am rôl seneddol y Cynulliad a thrwy drefnu ymweliadau â’r Cynulliad ac oddi yno.

Nid gweision sifil yw staff y Cynulliad. Maent yn annibynnol o’r Llywodraeth a gweithredant yn ddiduedd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru.                          

Swyddi yng Nghomisiwn y Cynulliad

Mae Comisiwn y Cynulliad yn cyflogi oddeutu 300 o staff sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cefnogi i’r 60 Aelod Cynulliad. Rydym yn cyflogi pobl sydd ag ystod eang o ddoniau mewn meysydd fel:

  • Gweinyddu    
  • Technoleg Gwybodaeth
  • Gwasanaethau Clercio    
  • Cyfreithiol
  • Datblygu Polisi Corfforaethol
  • Gwasanaethau Llyfrgell
  • Cyfathrebu Allanol  
  • Gwybodaeth i’r Cyhoedd ac Addysg
  • Rheoli Digwyddiadau
  • Ymchwil  
  • Rheoli Cyfleusterau   
  • Diogelwch
  • Gwasanaethau   Ariannol
  • Cyfieithu Saesneg/Cymraeg

Cyfle Cyfartal

Fel cyflogwr, rydym wedi ymrwymo i gyfle cyfartal a cheisiwn gyflogi gweithlu amrywiol sy’n adlewyrchu pobl Cymru. Rydym yn hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth drwy gymryd agwedd gytbwys tuag at ddenu ymgeiswyr a’u hasesu’n wrthrychol. Caiff pob cais ei asesu’n deg heb ystyried oed, lliw, anabledd, rhyw, statws priodasol, hil, crefydd neu gred na thueddiadau rhywiol.  

Logo: yn gadarn o blaid pobl anablLogo: age positive: pencampwr cyflogwyrLogo: stonewall top 100 employer

Manteision Gweithio i'r Cynulliad

Mae'r Cynulliad yn lle cyffrous i weithio gyda pholisïau blaengar ac ymrwymiad i hyfforddi a datblygu. Ar ben eich cyflog sylfaenol, cynigiwn y manteision canlynol:

  • Cynllun pensiwn cyflog terfynol
  • Bydd gennych hawl i gael 30 diwrnod o wyliau bob blwyddyn pan fyddwch yn dechrau ar eich swydd. Yn ogystal â hynny, bydd gennych hefyd 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus a 3 diwrnod braint y flwyddyn
  • Lwfansau absenoldeb mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu hael           
  • Polisïau sy’n ystyriol o deuluoedd yn cynnwys cyfleoedd i gymryd seibiant gyrfa, i weithio oriau hyblyg, i weithio rhan-amser, i weithio gartref ac i rannu swyddi (y cyfan lle mae hynny’n addas ar gyfer y swydd)
  • Cyfleoedd i ddatblygu gyrfa, i hyfforddi ac i gael secondiad
  • Adolygiad cyflog blynyddol ac ystyriaeth ar gyfer codiad cyflog cynyddrannol blynyddol

Gwybodaeth Ychwanegol