Celf

Comisiynwyd pedwar artist i greu gweithiau celf a fyddai’n rhan annatod o’r Senedd:

  • Alexander Beleschenko, a ddyluniodd ac a greodd ‘Calon Cymru’;
  • Martin Richman, a benodwyd i ychwanegu lliw i’r Senedd;
  • Danny Lane, a greodd ‘Maes y Cynulliad’; a
  • Richard Harris, y cerflunydd, a greodd ‘Y Man Cyfarfod’.
Calon Cymru

Canolbwynt y Siambr yw Calon Cymru, sef cromen o wahanol haenau o wydr sy’n codi o’r llawr derw


Lliw yn y Senedd

Defnyddiodd yr artist y paneli acwstig yn yr adeilad i gyflawni’r briff o gyflwyno lliw i’r Senedd.


Maes y Cynulliad

Rhesi o baneli gwydr yw Maes y Cynulliad, a gynlluniwyd er mwyn cysgodi ymwelwyr rhag gwyntoedd cryfion wrth iddynt ddringo’r grisiau i’r Senedd.


Y Man Cyfarfod

Defnyddiodd yr artist dros 40 tunnell o lechi Ffestiniog i greu’r cerflun sy’n estyn allan o blinth y Senedd.


Partneriaid a Help