Cwrt
Yn y Cwrt, gall Aelodau’r Cynulliad sgwrsio ac ymlacio cyn ac ar ôl cyfarfodydd. Yno, fel mewn mannau eraill, ceir llawr llechi ac mae’r waliau wedi’u gorchuddio â phaneli ffabrig. Mae dau ddrws dwbl yn arwain i’r Siambr drwy’r wal grom yng nghanol y Cwrt.
