Oriel
Mae caffi cyhoeddus yn yr Oriel ynghyd â gofod i gynnal arddangosfeydd a digwyddiadau arbennig. Mae’r paneli gwydr sy’n amgylchynu’r twndis yn rhoi cyfle i ymwelwyr edrych i mewn i’r Siambr islaw - cyfle i etholwyr weld aelodau etholedig wrth eu gwaith.
Mae’r rhan hon o’r adeilad yn edrych dros y brif fynedfa ac mae golygfeydd godidog i bob cyfeiriad.
