Neuadd
Ar y llawr hwn mae derbynfa a lle i rannu gwybodaeth a chynnal digwyddiadau. Wrth ddod i mewn i’r Neuadd, bydd ymwelwyr yn gweld desg fawr wedi’i gwneud o lechfaen a gwydr o dan ganopi syml sy’n gwella safon y sain ac yn rheoli’r tymheredd ar gyfer staff y dderbynfa. Ar ochr chwith desg y dderbynfa, mae grisiau'n arwain i’r Oriel.
