Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mapiau a Chynlluniau

Mae’r adran hon yn gosod y Senedd yn ei chynefin ym Mae Caerdydd ac yn egluro'r hyn sy’n digwydd ym mhob rhan o'r adeilad.

Lleoliad

Sut i gyrraedd y Senedd
Mae’r Senedd wedi’i lleoli ar safle godidog ar lan y dwr ym Mae Caerdydd, ger Canolfan Mileniwm Cymru a Glanfa’r Cynulliad, sy’n adeilad rhestredig Gradd 1. Mae’r Senedd yn wynebu’r de-orllewin a cheir golygfeydd panoramig o’r awyr a’r dwr oddi yno.

Croestoriad

Mapiau a Chynlluniau
Mae tri llawr i’r Senedd ac mae i bob llawr ei ddiben yn unol â gweledigaeth y pensaer. Mae’r Senedd yn dryloyw ar lefel y cyhoedd ac mae’r trafodion yn cael eu cynnal ar lefel is o fewn y plinth o lechi.

Parthau

Parthau a Lefelau
Y nod wrth gynllunio'r Senedd oedd creu adeilad mor agored a hygyrch â phosib. Cliciwch yma i weld y gwahanol barthau a'r hyn sy’n digwydd ym mhob un ohonynt.