Sut i gyrraedd y Senedd

Cyrraedd y Senedd
Fersiwn mwy o’r map (pdf, 169kb)
Bws
Mae gwasanaethau bws cenedlaethol yn rhedeg i Orsaf Ganolog Caerdydd lle gellir dal bysiau rhif 8 a 9 wrth arosfannau W2 a W3 (y tu allan i’r orsaf fysiau yn Wood Street).
Mae gwasanaeth bws Bay Express yn gadael Gorsaf Ganolog Caerdydd bob 10 munud ac mae’n stopio o flaen Canolfan Mileniwm Cymru sydd gerllaw’r Senedd. Hefyd, mae bws rhif 7 yn rhedeg o Heol Eglwys Fair.
Mae’r gwasanaeth hwn yn rhedeg bob chwarter awr ac yn stopio ar Stryd Pierhead, rhyw 200 metr o’r Senedd a Glanfa’r Cynulliad.
Trên
Mae gwasanaethau’n rhedeg bob 20 munud o Orsaf Heol y Frenhines, Caerdydd i Orsaf Bae Caerdydd. Mae’r orsaf ychydig funudau o’r Senedd a Glanfa’r Cynulliad.
O’r Draffordd
Gadewch yr M4 ar gyffordd 33, dilynwch yr A4232 i gyfeiriad Bae Caerdydd, a dilynwch yr arwyddion i’r Cynulliad neu defnyddiwch y map.
Parcio Car
Mae’r maes parcio agosaf yng Nghei’r Forforwyn nid nepell o Lanfa’r Cynulliad. Mae hwn yn faes parcio talu ac arddangos ac mae staff diogelwch yn gweithio yno drwy’r adeg. Mae maes parcio talebau y tu allan i’r Eglwys Norwyaidd.
Parcio i Bobl Anabl
Mae lleoedd parcio ar gael ar gyfer pobl anabl ym maes parcio’r Cynulliad drwy drefniant ymlaen llaw. Gallwch drefnu drwy gysylltu â swyddfeydd preifat Aelodau’r Cynulliad yn achos cyfarfodydd gydag Aelodau a Gweinidogion neu drwy gysylltu â’r swyddogion perthnasol yn y Cynulliad. Gallwch drefnu lle parcio er mwyn dod i’r Cyfarfod Llawn neu gyfarfodydd y pwyllgorau neu ar gyfer ymweliad â’r Senedd a drefnwyd ymlaen llaw, drwy gysylltu â switsfwrdd y Cynulliad ar 0845 010 5500. Rhaid i ymwelwyr ddangos bathodyn parcio i bobl anabl ar ôl cyrraedd y Senedd.
Parcio Bws
Mae map ar gael gan linell archebu'r Cynulliad yn nodi ble y gall bysiau adael ymwelwyr.
Beicio/Cerdded
Mae llwybr ‘Taith Taf’ yn rhedeg o Aberhonddu ar hyd yr afon, drwy ganol y brifddinas, cyn dod i’w derfyn ger y Basn Hirgrwn y tu allan i’r Senedd ym Mae Caerdydd. Hefyd, mae llwybr i feicwyr a cherddwyr ar hyd yr A4232 o Barc Manwerthu Bae Caerdydd.
Tacsi
Mae nifer o gwmnïau tacsi yn cynnig gwasanaeth o ganol y brifddinas i Fae Caerdydd. Mae arosfannau tacsi y tu allan i Orsaf Reilffordd Ganolog Caerdydd, ger Neuadd Dewi Sant ac ar waelod Park Place.
Efallai y bydd y wybodaeth ar y gwefannau a ganlyn yn ddefnyddiol wrth i chi drefnu’ch ymweliad:
www.nationalrail.co.uk
www.traveline-cymru.org.uk
Cysylltu â Ni
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd
CF99 1NA
Switsfwrdd y Cynulliad: 0845 010 5500
Ffôn Testun: 0845 010 5678
E-bost: assembly.info@wales.gsi.gov.uk