Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyfleusterau Cyhoeddus

Oriau agor y Senedd:

Dyddiau gwaith - yn ystod y tymor

Dydd Llun a dydd Gwener 8.00am - 6.00pm

Dydd Mawrth - dydd Iau: 8.00am - 8.00pm

Dyddiau Gwaith - yn ystod toriad

Dydd Llun - dydd Gwener: 9.30am - 6.00pm

Dydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau'r Banc

Y Pasg tan fis Medi: 10.30am – 6.00pm

Hydref tan y Pasg: 10.30am - 4.30pm

(Mynediad olaf hanner awr cyn cau'r adeilad)

Mynediad

Gall y cyhoedd gyrraedd y Senedd drwy ddringo’r grisiau a’r rampiau ar y plinth o flaen yr adeilad neu drwy ddefnyddio’r lifft ar gornel flaen yr adeilad ger Canolfan y Mileniwm. Pa bynnag lwybr a ddewisir, byddwch yn cyrraedd y plinth a’r brif fynedfa. Unwaith y byddwch y tu mewn i’r Senedd, bydd staff diogelwch a staff tywys ar gael i roi cymorth fel bo’r angen. Mae cadeiriau olwyn ar gael i’r rheini sydd eu hangen.

I gael gwybod mwy am weithdrefnau diogelwch yn y Senedd, cliciwch yma.

Ystafell Gotiau

Gellir gadael cotiau yn yr ystafell wrth ymyl y sganiwr ar y dyddiau hynny pan fydd y Cynulliad yn eistedd.

Lifftiau

Mae modd defnyddio’r lifftiau neu’r grisiau i fynd i’r holl fannau cyhoeddus yn y Senedd.

Seddi

Mae seddi ar gael ar gyfer y cyhoedd yn y Neuadd ac yn yr Oriel.

Gwylio Cyfarfodydd Llawn a Chyfarfodydd Pwyllgor yn yr Orielau Cyhoeddus

Er mwyn osgoi cael eich siomi, byddai'n well i chi archebu sedd ymlaen llaw, ond nid oes rhaid gwneud hyn bob amser, a gall ymwelwyr holi staff y Dderbynfa am seddi ar y diwrnod.

Dod â phlant bach i’r Senedd

Gellir cymryd pramiau ac ati i’r holl fannau cyhoeddus. Mae lle i newid babanod yn y Neuadd ac mae Ystafell Rhieni a Phlant, gyda theganau a chyfleusterau eraill i’r cyhoedd ei defnyddio, yn y Neuadd.

Caffi

Mae yna gaffi yn yr Oriel sy'n gwerthu diodydd poeth ac oer a byrbrydau. Dyma oriau agor y caffi:

Dydd Llun, dydd Iau a dydd Gwener rhwng 10.00am a 4.30pm
Dydd Mawrth a dydd Mercher rhwng 10.00am a 5.30pm
Dydd Sadwrn a dydd Sul (haf) rhwng 10.30am a 5.30pm.
Dydd Sadwrn a dydd Sul (gaeaf) rhwng 10.30am a 4.30pm.

Gwybodaeth

Mae gwybodaeth am waith y Cynulliad, Aelodau’r Cynulliad a’r Senedd ar gael i’r cyhoedd ar sgriniau plasma a phodiau gwybodaeth yn y Neuadd a’r Oriel. Mae staff ar gael i roi gwybodaeth ac ateb cwestiynau ac mae amryw o gyhoeddiadau ar gael hefyd.

Cyfleusterau Cyhoeddus

Mae toiledau cyhoeddus yn y Neuadd a thoiled â chymhorthion, yn cynnwys cyfarpar codi, yn y Neuadd.