Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Diogelwch

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth ardderchog i bob ymwelydd.

Mae systemau a gweithdrefnau diogelwch o ran mynediad wedi'u cynllunio ar gyfer darparu mynediad am ddim i’r cyhoedd ymweld â’r mannau cyhoeddus. Ar yr un pryd, mae’r trefniadau hyn yn sicrhau bod yr adeilad, a phawb sydd ynddo, yn ddiogel.

Gall ymwelwyr ddisgwyl:

  • amgylchedd glân a dymunol;
  • gwybodaeth gywir;
  • staff sy’n parchu eu hurddas a'u diwylliant;
  • cyfarwyddiadau clir mewn argyfwng;
  • ystafell cymorth cyntaf a staff sydd wedi’u hyfforddi yn y maes hwn.

Tynnir sylw ymwelwyr at yr amodau a ganlyn:

  • ni chaniateir i unrhyw ymwelydd sydd o dan ddylanwad alcohol ddod i’r adeilad;
  • ni chaiff ymwelwyr ddod â bwyd nac alcohol i’r adeilad;
  • gofynnir i unrhyw ymwelydd sy’n ymddwyn yn amhriodol adael yr adeilad;
  • bydd gofyn i ymwelwyr adael yr adeilad pan ofynnir iddynt wneud hynny;
  • am resymau iechyd a diogelwch, bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn rheoli nifer yr ymwelwyr sy’n cael dod i’r adeilad ar unrhyw adeg.

Mae’r amodau hyn ar waith er mwyn sicrhau diogelwch a lles ymwelwyr a staff. Gellir newid yr amodau os bydd lefel y bygythiad yn newid. Rhaid i staff diogelwch gydymffurfio â'r gweithdrefnau a ganlyn:

  • sgrinio bagiau ymwelwyr drwy ddefnyddio peiriant pelydr x;
  • gofyn i ymwelwyr gerdded drwy sganiwr i ddod o hyd i unrhyw fetel yn eu heiddo;
  • defnyddio sganiwr llaw os oes metel wedi'i ganfod;
  • cadw golwg ar ymddygiad ymwelwyr.

Rhaid i bob ymwelydd gydymffurfio â’r gweithdrefnau hyn.

Mynediad i Ardal Gyfyngedig

Rheolir mynediad i ardaloedd cyfyngedig.

Caiff ymwelwyr fynediad i ardaloedd cyfyngedig os ydynt yng nghwmni deiliad cerdyn ag awdurdod.

Dosberthir cardiau ymwelwyr yn y dderbynfa a dylid eu gwisgo drwy gydol yr ymweliad â’r Senedd. Dylid hefyd sichau bod modd eu gweld yn amlwg.