Nodweddion Amgylcheddol
Er mwyn bodloni gofynion y briff, mabwysiadwyd y dull tri cham isod gan y contractwr Taylor Woodrow a’i dîm cynllunio:
- lleihau’r galw am adnoddau, ynni, dwr a deunyddiau;
- lle bo galw am ynni, defnyddio technoleg gynaliadwy ac adnewyddadwy;
- defnyddio technoleg effeithlon i ateb unrhyw alw eithriadol.
Aeth y tîm dylunio ati mewn ffordd gyfannol i fodloni’r meini prawf, gan lunio cynllun amgylcheddol sy’n cynnwys systemau awyru naturiol ac isel eu hynni i wresogi ac oeri’r adeilad. Yn gyffredinol, y nod yw lleihau costau cynnal a chadw’r adeilad rhwng 30 a 50 y cant.
Prif Nodweddion Amgylcheddol
Aeth y tîm dylunio ati mewn ffordd gyfannol i fodloni’r meini prawf, gan lunio cynllun amgylcheddol sy’n cynnwys systemau awyru naturiol ac isel eu hynni i wresogi ac oeri’r adeilad. Yn gyffredinol, y nod yw lleihau costau cynnal a chadw’r adeilad rhwng 30 a 50 y cant.
Mwy>>
Cynaliadwyedd
Bu i’r Senedd fodloni’r safon uchaf i’w dyfarnu yng Nghymru erioed o dan Ddull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil i Adeiladau (BREEAM). Cewch ragor o wybodaeth am y Senedd a chynaliadwyedd yn y rhan hon.
Mwy>>