Cynulliad Cenedlaethol Cymru - Cynaliadwyedd
Nod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw gosod esiampl i gyrff eraill o ran cynaliadwyedd a pherfformiad amgylcheddol. Fel un o brif sefydliadau Cymru, rydym yn sylweddoli bod cyfrifoldeb arnom i leihau’r effaith a gawn ar yr amgylchedd ac i weithredu mewn modd cyfrifol bob amser yn amgylcheddol.
Mae’r Cynulliad wedi ymrwymo i gynnwys ffactorau amgylcheddol yn systematig yn ei benderfyniadau a’i weithgareddau a chaiff hyn ei ddangos drwy ein rhaglen rheoli amgylcheddol.
Un o amcanion corfforaethol y Cynulliad yw ‘gweithio’n gynaliadwy’. Gan fod hyn yn ganolog i’n gwaith, rydym yn ymdrechu i wella’r amgylchedd yn barhaus o safbwynt ein hadeiladau, ein staff a’n cadwyn gyflenwi.
Y Ddraig Werdd – Safon Amgylcheddol

Safon (sy’n cyfateb i ISO14001 a BS8555) yw’r Ddraig Werdd sy’n cydnabod rheolaeth amgylcheddol bob yn gam. Mae’r Safon yn cynnig system rheolaeth amgylcheddol sy’n berthnasol i anghenion penodol cwmnïau a sefydliadau ac sy’n gwobrwyo’r camau y byddant yn eu cymryd i wella’r amgylchedd.
Yr ystâd yng Nghaerdydd yw un o’r ychydig sefydliadau yng Nghymru i gyrraedd Lefel 5 yng nghynllun y Ddraig Werdd. Dyma’r lefel uchaf a gellir ei gyrraedd. I sicrhau ein bod yn cynnal y safon hon o’r naill flwyddyn i’r llall, ein prif nod yw dangos ymrwymiad i gynaliadwyedd, i wella’r amgylchedd ac i leihau nwyon ty gwydr drwy raglen amgycheddol a gaiff ei harchwilio.
Polisi amgylcheddol (linc)
Mae’r Polisi Amgylcheddol yn gosod allan ymrwymiad y Cynulliad i ymgymryd â’i holl weithgareddau mewn modd cynaliadwy a chyfrifol yn amgylcheddol. Rydym wedi pennu amcanion a thargedau penodol sy’n gyd-fynd â’n prif agweddau amgylcheddol a’r modd rydym yn dylanwadu ar yr amgylchedd ac mae’r rhain wedi’u hamlinellu yn y polisi. Caiff ei ddiweddaru bob blwyddyn.
Adroddiad Amgylcheddol y Ddraig Werdd
Mae’n ofynnol, o dan Lefel 5 y Draig Werdd, i sefydliadau gyhoeddi adroddiad cynhwysfawr bob blwyddyn am eu gweithgareddau a’u perfformiad amgylcheddol.
Gallwch weld adroddiad 2008-09 am Gynulliad Cenedlaethol Cymru yma.

Y Tîm Gwyrdd
Mae’r Cynulliad yn annog ei staff i weithio ac i ymddwyn mewn modd cyfrifol bob amser yn amgylcheddol, pan maent yn eu gwaith a gartref. I godi ymwybyddiaeth staff o’n mentrau ‘gwyrdd’ ac i’w hannog i deimlo bod y mentrau’n berthnasol iddyn nhw, rydym wedi sefydlu ‘Tîm Gwyrdd’ mewnol o
dros 20 o staff o wahanol adrannau yn y sefydliad. Bydd y tîm yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod y ffrydiau gwaith sydd ar y gweill ac mae’n gyfle i staff gynnig eu syniadau eu hunain a chydgysylltu gweithgareddau gwyrdd.
Rheoli ynni a charbon - strategaeth
Ar hyn o bryd, y defnydd o ynni ledled ein hystâd sy’n gyfrifol am tua 80% o ôl-troed carbon y Cynulliad. Rydym wedi sylweddoli bod angen i ni ddefnyddio llai o ynni er mwyn lleihau’n allyriadau carbon. O ganlyniad, mae Comisiwn y Cynulliad wedi cymerdwyo strategaeth uchelgeisiol i reoli’n carbon ac i ddefnyddio 8% yn llai o ynni o’r naill flwyddyn i’r llall erbyn 2015. Enw’r strategaeth hon yw Energy8.
Trafnidiaeth a theithio
Mae’r Cynulliad wedi ysgrifennu cynllun Teithio ac wedi’i hyrwyddo ymhlith yr holl staff ac mae nifer o gymhellion ar gael i annog staff i deithio i’r gwaith ac ar fusnes mewn modd ecogyfeillgar.
I annog yr holl staff i ddefnyddio dulliau gwyrdd o deithio, mae’r Cynulliad yn cynnig:
- Cynllun rhannu car am ddim
- Cynllun beicio i’r gwaith
- Benthyciadau i brynu beic
- Car allyriadau isel ‘gwyrdd’ sydd ar gael i staff deithio ar fusnes
- Cawodydd ac ystafelloedd newid ar y safle
- Cyfleusterau diogel i gadw beiciau
At hyn, cymerwyd y camau a ganlyn:
- Mae’r Cynulliad yn gweithio gyda Chyngor Caerdydd i sefydlu Clwb Car corfforaethol gan obeithio cadw cerbydau’r tu allan i’n safle i’r cyhoedd eu defnyddio.
- Mae cysylltiadau cludiant cyhoeddus ardderchog yn yr ardal.
Lleihau ac ailgylchu gwastraff
Mae’r Cynulliad wedi ymrwymo i leihau’r gwastraff sy’n cael ei anfon i safleoedd tirlenwi. O ganlyniad, caiff staff eu hannog i helpu drwy arbed, ailddefnyddio ac ailgylchu’n amlach, er mwyn:
- Arbed drwy ddefnyddio llai o ddeunyddiau sy’n creu gwastraff yn y lle cyntaf
- AIlddefnyddio cynifer o eitemau neu ddeunyddiau â phosibl
- Ailgylchu eitemau pan fyddant wedi cyrraedd diwedd eu hoes, os nad oes modd eu hailddefnyddio’n uniongyrchol
Mae cyfleusterau ailgylchu ym mhob rhan o’r ystâd ac rydym hefyd yn compostio bwyd o’n plât sbarion yn ffreutur y staff.
Caffael cynaliadwy
Bydd y Cynulliad yn mesur ei berfformiad drwy ddefnyddio Fframwaith Asesu Caffael Cynaliadwy’r Sector Gyhoeddus. Mae’r asesiad wedi’i gynllunio i’n galluogi i olrhain ein cynnydd yn erbyn materion strategol, materion rheoli, caffael a chanlyniadau. Caiff y cynllun gweithredu ei adolygu bob 12 mis a’i fesur yn erbyn y dangosyddion perfformiad allweddol i benderfynu ar y lefel rydym wedi’i chyrraedd. Ar hyn o bryd, rydym ar Lefel 3 – Corff Gweithredol ar y Fframwaith Asesu.
Manylion cysylltu
Os hoffech ragor o wybodaeth am faterion yn ymwneud a chynaliadwyedd neu’r amgylchedd, cysylltwch â ni drwy ffonio, drwy anfon llythyr neu e-bost neu drwy fynd i’n gwefan.
Gwybodaeth a Llinell Archebu: 0845 010 5500
Neges destun: 0845 010 5678
E-bost (cyffredinol): gwybodaeth@cymru.gsi.gov.uk
Gwefan: www.cynulliadcymru.org