Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cynaliadwyedd

Yn ôl y briff gwreiddiol, yr oedd yn ofynnol bod y Senedd yn bodloni dyletswydd gyfansoddiadol y Cynulliad o ran datblygu cynaliadwy ac arferion da.

O ran perfformiad amgylcheddol, bu i’r Senedd fodloni safon ‘Ardderchog’ (yr uchaf i’w ddyfarnu yng Nghymru erioed) o dan Ddull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil i Adeiladau (BREEAM) yn unol â gofynion y briff.

Yr oedd y briff hefyd yn cynnwys y meini prawf isod o ran cynaliadwyedd:

  • dylunio adeilad a fyddai’n para am 100 mlynedd;
  • defnyddio deunyddiau o Gymru;
  • arbed ynni a lleihau gwastraff;
  • defnyddio technoleg adnewyddadwy; a
  • gosod ‘esiampl’ o ran cynaliadwyedd.