Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Gweledigaeth y Pensaer

Nod y pensaer oedd creu adeilad sy’n ymddangos fel pe bai’n codi o’r Bae ac yn dal sylw’r rheini sy’n cerdded heibio, gyda tho crog y gall pobl ymgynnull oddi tano.

Y syniad gwreiddiol

“Y Bae ei hun oedd yr ysbrydoliaeth wreiddiol wrth gynllunio’r Senedd. Mae’r Aelodau wrth eu gwaith ar y llawr isaf ac mae’r lefel hwn yn adlewyrchu’r tirlun o’u hamgylch. Mae’r to dros y mannau cyhoeddus, ar y llaw arall, yn darlunio’r awyr ac mae’r hyn sydd rhwng y llawr a’r to mor dryloyw â phosib.”

Croesdoriad o'r adeilad
Yr hyn oedd wrth wraidd y cynllun oedd ymgais i greu adeilad fyddai’n symbol o ddemocratiaeth agored. Dylai’r adeilad hefyd fodloni egwyddorion datblygu cynaliadwy.

Fel rhan o’r briff gwreiddiol, nod y penseiri oedd sicrhau y byddai’r Senedd:

  • Yn creu ymdeimlad o lywodraeth agored ac yn croesawu’r cyhoedd;
  • Yn creu gweithle o safon mewn adeilad fyddai’n addas heb fod yn wastraffus;
  • Yn hygyrch i bobl ag anableddau;
  • Yn ymateb yn effeithiol i newid;
  • Yn gwneud y defnydd gorau o dechnoleg gwybodaeth;
  • Yn rhoi gwerth am arian, nid am y gwariant cyfalaf cyntaf yn unig, ond drwy gydol oes yr adeilad;
  • Yn ‘gymydog da’ gan ddod â budd i’r gymuned leol a pharchu a gwella’r amgylchedd lleol yn unol â gofynion Deddf Diogelu’r Amgylchedd.

Braslun o'r adeilad o Lanfa'r Cynulliad
Cytunwyd ar yr egwyddorion canlynol wrth gynllunio’r adeilad:

  • Gwneud defnydd effeithiol o’r safle godidog ar lan y dwr;
  • Sicrhau mai’r safle ei hun fyddai prif ysbrydoliaeth y penseiri;
  • Sicrhau bod prysurdeb pensaernïol ardal Bae Caerdydd yn gwrthgyferbynnu ag ehangder y golygfeydd dros y dwr. Mae’r elfen hon yn gyffredin i ddatblygiadau dinesig pwysig ledled y byd;
  • Sicrhau bod y Senedd yn edrych tuag allan. Mae hyn yn symbol o’i swyddogaeth fel adeilad cenedlaethol a fydd yn atgyfnerthu hunaniaeth Cymru.