Y Llywydd: Yr wyf wedi dethol gwelliant 1 yn enw Glyn Davies, gwelliannau 2, 3 a 5 yn enw Cynog Dafis a gwelliannau 4, 6 a 7 yn enw Peter Black.
Y Prif Ysgrifennydd: Cynigiaf fod
y Cynulliad
1. yn nodi menter y Prif Ysgrifennydd i adolygu’r costau a’r opsiynau ar gyfer adeilad newydd y Cynulliad;
2. yn nodi y gallai’r adolygiad beri i’r amserlen y cytunwyd arni newid;
3. yn pwyso am gynnal yr adolygiad cyn gynted ag y bo modd; a
4. yn mynnu bod darganfyddiadau’r adolygiad, a chynigion ar gyfer gweithredu yn y dyfodol, yn dod yn ôl at y Cynulliad er mwyn iddo wneud penderfyniad, ac y dylai’r wybodaeth allweddol sydd yn sail iddynt fod ar gael.
Bythefnos yn ôl, gwneuthum ddatganiad gerbron y Cynulliad gan hysbysu’r Aelodau am fy mhenderfyniad i atal prosiect yr adeilad newydd am y tro. Nid oeddwn i, ynghyd ag amryw o gydweithwyr ar grwp llywio’r prosiect, mewn sefyllfa i gymeradwyo’r gwariant o £1 miliwn ar y cam nesaf. Rhennais y penderfyniad hwnnw â’r Aelodau ar yr un diwrnod ag y’i cytunwyd gyda grwp llywio polisi adeilad y Cynulliad a chynaliasom drafodaeth helaeth. Mynegasoch awydd ar ran yr Aelodau, Lywydd, i drafod y mater ymhellach a chynigir y ddadl hon yn yr ysbryd o fod yn agored, yn atebol ac yn bwyllog.
Y bwriad erioed oedd i Dy Crycywel fod yn gartref dros dro i’r Cynulliad. Mae ymrwymiad ers dwy flynedd i ddarparu adeilad newydd i gynnwys y Cynulliad, neu o leiaf y siambr ddadlau a chyfleusterau cyhoeddus cysylltiedig. Cynhaliwyd cystadleuaeth Ewropeaidd agored ar fanyleb swyddogaethol o dan adain Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain. Cadeiriodd yr Arglwydd Callaghan banel asesu’r gystadleuaeth dylunio, a benododd Bartneriaeth Richard Rogers i ddylunio’r adeilad newydd. Yr oedd y gwaith wedyn yn cynnwys ymgynghori ag amrediad eang o grwpiau buddiant ac arweiniodd hyn at fanyleb fanwl, a gymeradwywyd gan yr Aelodau.
Fe’ch atgoffaf fod costau’r prosiect a gymeradwywyd gan y Cynulliad yn Ionawr yn £22.8 miliwn heb gynnwys swm wrth gefn o 15 y cant. Mae 15 y cant yn uwch na’r 5 y cant arferol oherwydd natur anarferol yr adeilad. Hyd ychydig wythnosau’n ôl, nid oedd gennyf fawr mwy o wybodaeth am y prosiect nag unrhyw Aelod Cynulliad arall, ond mae fy nghyfrifoldebau wedi newid bellach. Bythefnos yn ôl yr oedd pwynt penderfynu yn y prosiect. Hyd hynny, yr oedd £1 miliwn wedi ei neilltuo a gofynnwyd imi ymrwymo i’r £1 miliwn nesaf o waith dylunio’r cynllun, gan ddyblu’r gwariant a neilltuwyd i’r prosiect. Ar y pwynt hwnnw, nid oedd gennyf ddigon o amser i fyfyrio ynghylch y ffigurau a’r goblygiadau. Dyna’r hyn yr wyf yn ei wneud o hyd.
Mae hwn yn brosiect cymhleth, ac un y mae iddo ganlyniadau tymor hir i Gymru. Ni throsglwyddais yr £1 miliwn nesaf oherwydd yr oeddwn am fod yn sicr y gellid cyflawni’r prosiect mewn pryd, oddi mewn i’r gyllideb ac ar y ffurf a gymeradwywyd. Nid yw’r prosiect wedi ei ddiddymu. Cyhoeddais yr oediad am reswm penodol. Nid oeddwn mewn sefyllfa i gymeradwyo’r £1 miliwn nesaf hwnnw, a oedd i bob pwrpas yn dyblu’r hyn a neilltuwyd i’r broses o greu’r adeilad. Mae eraill wedi gweld hynny mewn goleuni gwahanol. Darllenais sylwadau neu ergyd ymadawol Syr Geoffrey Inkin wrth iddo adael ei swydd fel cadeirydd Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd. Bu o dan y gamargraff mai pwrpas cael adeilad newydd i gynnwys y Cynulliad hwn oedd meithrin hyder busnes ym Mae Caerdydd. Nid oedd erioed yn ymwneud â hynny. Yr oedd yn ymwneud â’r angen am gartref parhaol i’r Cynulliad ac am Siambr fwy ymarferol ac addas i’w phwrpas na’r Siambr dros dro yr ydym ynddi ar hyn o bryd. Felly, nid yw’n ymwneud â’r manteision datblygu o gael y Siambr mewn un lleoliad neu’r llall. Nid yw hynny o bwys. Mae’n ymwneud â’r angen amdani er mwyn democratiaeth. Nid yw’n ymwneud â chwifio baneri neu wneud datganiad mawreddog ynghylch dyfodol Cymru ac nid yw’n ymwneud â balchder gwleidyddion hunanbwysig, rhodresgar sydd am wneud datganiad amdanynt hwy eu hunain neu am Gymru. Nid yw’n ymwneud â hyder busnes. Os oes arnom angen adeilad, dylem gael un. Os nad oes, ni ddylem gael un. Mae mor syml â hynny.
Cynog Dafis: A ydych yn derbyn nad adeilad ar gyfer Aelodau’r Cynulliad yw adeilad Cynulliad ond adeilad i’r genedl ac i’r bobl? Dros dro y mae ein presenoldeb ni fel Aelodau mewn unrhyw adeilad ond mae’r adeilad hwnnw yn barhaol ar gyfer y bobl a chynrychiolwyr y bobl yn y dyfodol.
Y Prif Ysgrifennydd: Nid wyf yn anghytuno ag unrhyw beth a ddywedodd Cynog. Fodd bynnag, mae unrhyw garfan o wleidyddion yn gyfrifol ar y pryd am eu penderfyniadau. Os yw prosiect yn cael ei gyflawni ar wariant arian cyhoeddus, bydd yn parhau am 100 mlynedd.
Yng ngolwg cymhlethdod y prosiect hwn, yr oeddwn am fod yn sicr y gellir dibynnu ar y costau amcangyfrifedig a gynigiwyd. Er mwyn profi’r costau a welais, mae’n holl bwysig ein bod yn mynd yn ein blaenau mewn ffordd sydd yn osgoi unrhyw bwll diwaelod o wariant a’r hyn a elwir weithiau yn ymgripiad prosiect. Yr ydym oll yn cydnabod mai po bellaf yr ewch ar daith, anoddaf ydyw i droi’n ôl. Wedi inni ddyblu’r hyn a neilltuwyd o £1 miliwn i £2 filiwn, gwell yw ystyried a oes ansicrwydd ym meddwl neb. Yr oedd ansicrwydd yn fy meddwl i ynghylch a oeddwn yn barod i wario’r filiwn nesaf gan symud o amlinelliad i ddyluniad o’r cynllun. Ar ôl hynny--fel y rhoddais ar ddeall y tro diwethaf yn Awst--byddai dyluniad manwl a’r contract adeiladu yn Nhachwedd. Ni theimlwn yn barod bythefnos yn ôl i neilltuo’r £1 miliwn nesaf hwnnw. Ar ôl ei neilltuo, yr ydym wedi ymrwymo i batrwm neu leoliad i Lywodraeth. Hynny ar ryw ystyr yw un o hynodion y cynllun hwn. Mae un penderfyniad yn tueddu i ymrwymo i’r penderfyniad nesaf.
Ar ryw ystyr, mae’r penderfyniad a arweiniodd at ein presenoldeb yma heddiw yn Nhy Crycywel yn deillio o benderfyniad saith neu wyth mlynedd yn ôl i godi pencadlys Awdurdod Gwasanaethau Cyffredin Iechyd Cymru yn y bae. Arweiniodd hynny at leoedd gwag mewn bloc swyddfeydd a arweiniodd, yn ei dro, at roi’r dewis i Ysgrifennydd Gwladol Cymru bryd hynny, yr Aelod dros Gaerffili, o symud i floc swyddfeydd hanner gwag ddwy flynedd yn ôl. Daeth wedyn yn gartref dros dro i ni. Yr oedd cartref dros dro yma yn golygu bod y safle drws nesaf bellach yn ffefryn pennaf ar gyfer y cartref parhaol. Mae hynny oll oherwydd penderfyniad tua naw mlynedd yn ôl i gael pencadlys Awdurdod Gwasanaethau Cyffredin Iechyd Cymru yn y lleoliad hwn. Oherwydd hynny yr ydym yma heddiw yn hytrach nag mewn lleoliad arall. Mae un penderfyniad yn ymrwymo i’r nesaf yn berthnasol iawn i hanes y rheswm pam yr ydym yma heddiw ac nid yn rhywle arall. Ar ôl inni ymrwymo i’r adeilad newydd yn Nhachwedd wrth osod y contract adeiladu yr ydym yn ymrwymo i batrwm o Lywodraeth yng Nghymru ar gyfer y 100 mlynedd nesaf.
Ni chredaf mai annoeth yw oedi am ychydig fisoedd er mwyn bod yn sicr bod y patrwm hwnnw’n iawn gennym. Mae’r patrwm hwnnw’n golygu teithio’n ôl ac ymlaen rhwng Parc Cathays, lle y mae’r gwasanaeth sifil, a’r bae, lle y mae’r gwleidyddion. Mae gan aelodau o’r Cabinet swyddfeydd ym Mharc Cathays ond byddem yn ymrwymo i’r patrwm ailadroddus parhaol hwnnw wedi ei wasanaethu gan wasanaeth bws dros dro am y 100 mlynedd nesaf. Buaswn yn teimlo fy mod wedi ymrwymo i brosiect yr adeilad newydd pa bawn wedi arwyddo ar y llinell doredig ar gyfer y £1 miliwn nesaf. Nid oeddwn yn barod i wneud hynny nes y byddwn yn sicr ein bod oll yn barod i ymrwymo felly am y 100 mlynedd nesaf i gael y gwasanaeth sifil ddwy filltir i ffwrdd ym Mharc Cathays a ninnau ym Mae Caerdydd. Ai hynny sydd yn sicr o greu’r ffurf fwyaf effeithiol o lywodraeth i Gymru dros y 100 mlynedd nesaf? Dyna pam y credaf nad oedd yn afresymol imi oedi a darllen yn drwyadl drwy’r ffigurau nes fy mod yn sicr, ac wedyn dod yn ôl i ymrwymo i’r cam nesaf.
Dafydd Wigley: Credaf fod pawb yn derbyn ei bod yn rhesymol edrych eto ar y ffigurau, cyn belled nad yw hynny yn arwain at oedi. Soniodd y Prif Ysgrifennydd ein bod yn codi adeilad a ddylai barhau am 100 mlynedd. Mae’r costiad a gawsom yn seiliedig ar gyfnod o 15 mlynedd. A ydych yn gwbl hapus y bydd yr adeilad yn parhau am 100 mlynedd, a bod y costau yn adlewyrchu hynny?
Y Prif Ysgrifennydd: Credaf fod hwn yn fater technegol ynglyn â sut yr ydych yn gwneud y cyfrifiadau fel y gallwch ffurfio barn heddiw ynglyn â chostau. Dyna pam y cawsom y cyngor mai 15 mlynedd oedd y cyfnod gweddus i’w ddefnyddio ar gyfer y gost net bresennol. Nid wyf yn siwr beth fyddai effaith defnyddio cyfnod arall ar y ffigurau. A yw Dafydd yn anghytuno â’r hyn a ddywedaf, sef ein bod yn penderfynu ar batrwm o lywodraethu Cymru ble y mae’r gwasanaeth sifil mewn un rhan o’r ddinas, yn y ganolfan ddinesig, a ninnau yn y bae mewn ail ganolfan ddinesig â dwy filltir rhyngom? Byddem yn cadarnhau ac yn gosod y patrwm hwnnw am y 100 mlynedd nesaf. Nid wyf yn gweld unrhyw siawns o symud y gwasasnaeth sifil o Barc Cathays i’r bae nac ychwaith, pe byddem yn codi’r adeilad newydd, o symud yr adeilad eto i Barc Cathays. Byddem yn gosod y patrwm o bellter o ddwy filltir rhwng y gwasanaeth sifil a’r ochr ddemocrataidd o’n system o lywodraethu Cymru.
William Graham: Yr ydym wedi sôn yn helaeth am gost. Fe’ch cyfeiriaf at gyhoeddiad cyfredol, er ei bod yn amlwg ei fod wedi dyddio, gan Bartneriaeth Richard Rogers sydd yn datgan yn glir ac yn bendant mai cost yr adeilad fydd £8.25 miliwn ynghyd â TAW. Mae hynny’n £9.69 miliwn, wedi ei brisio ar £2,750 y medr sgwâr. Pa mor fyddiog y gallwch fod yn eich ymgynghorwyr y byddwn yn cael rhywbeth sydd yn debyg i werth am arian ar sail y ffigurau a welsom eisoes?
Y Prif Ysgrifennydd: Nid wyf yn sicr beth yw cyhoeddiad cyfredol sydd wedi dyddio. Ymddengys i mi ei fod yn wrtheiriad. Efallai y dylai William anfon ataf y cyhoeddiad a ddisgrifia mewn dwy ffordd sydd yn gwrthddweud ei gilydd yr un pryd.
Yr wyf yn bryderus ynghylch pa ffactorau y dylem eu cymryd i ystyriaeth ac ynghylch a oedd aneffeithlonrwydd gweithrediadol y gwahaniad rhwng y bae a Pharc Cathays a rhwng y gwasanaeth sifil ac ochr ddemocrataidd llywodraeth yng Nghymru wedi ei ystyried yn ddigonol yn y penderfyniad gwreiddiol. A ddylem yn awr wneud iawn am unrhyw annigonolrwydd yn yr ystyriaeth o’r penderfyniad hwnnw? Ni roddwn ef yn gryfach na hynny ar hyn o bryd. Yr hyn a ddeallaf yn fras yw, er bod cost y gwasanaeth bws sydd yn cludo gweision sifil yn ôl ac ymlaen i Fae Caerdydd wedi ei chynnwys, nad oedd yr aneffeithlonrwydd gweithrediadol o gael y gwasanaeth sifil mewn un man a ninnau mewn man arall wedi ei gynnwys yn y cymariaethau costau gwreiddiol. Yr wyf am fod yn sicr ynghylch hynny cyn inni osod y penderfyniad hwn mewn concrid. Dyna a wnaem i bob pwrpas, yn llythrennol ac yn drosiadol, am y 100 mlynedd nesaf.
Alun Cairns: O’r hyn a awgrymwch, ymddengys mai’r dewis sydd orau gennych yn bersonol fel lleoliad i’r Cynulliad yw Parc Cathays a Neuadd y Ddinas.
Y Prif Ysgrifennydd: Yr ydych yn neidio i gasgliad, Alun. Nid wyf yn gwneud sylw o’r fath. Yr wyf yn gofyn a oes ffactorau y dylem eu hystyried yn awr yr ymddengys eu bod heb eu hystyried o’r blaen, hyd y gallaf weld ar hyn o bryd. Nid wyf yn sicr am hynny, ond y cyngor cyntaf a roddwyd i mi oedd mai ond cost y gwasanaeth bws a ystyriwyd ac nid y gwastraff amser i weision sifil wrth iddynt deithio’n ôl ac ymlaen oddi yma i Barc Cathays. Mae llawer o weision sifil yn aros hyd at 30 munud am fws. Os ychwanegwch yr amser a wastreffir gan bob gwas sifil, mae’n peri ichi feddwl tybed faint y mae hynny’n ei gostio o ran aneffeithlonrwydd gweithrediadol yn y modd yr ydym yn rhedeg Cymru. Efallai, hyd yn oed ar ôl cymryd hynny i ystyriaeth, y byddwn yn dal i gredu mai prosiect adeilad newydd y Cynulliad yw’r prosiect iawn. Fodd bynnag, rhaid inni fod yn ymwybodol o’r gwastraff amser a’i gynnwys yn y ffigurau oherwydd nid ymddengys ei fod wedi ei gynnwys yn y ffigurau’n wreiddiol, yn wahanol i gost y gwasanaeth bws.
4:08 p.m.
Yr ydym wedi ymrwymo i ddatblygu cynaliadwy, sef y rheswm pam yr ydym yn annog gweision sifil i beidio â defnyddio eu ceir i ddod yma. Fodd bynnag, a oes dewis arall a fyddai’n fwy cydnaws â’n rhwymedigaeth gyffredinol fel Cynulliad i ddatblygu cynaliadwy? Nid wyf yn sicr o’r ateb ar hyn o bryd, a dyna pam yr wyf am sicrhau y rhoddir ystyriaeth ddigonol i hynny cyn imi ddod yn ôl ag argymhelliad pendant i’w gyflwyno gerbron y Cynulliad.
David Davies: Llongyfarchaf y Prif Ysgrifennydd ar wneud pwyntiau dilys ar reoli amser, ond onid yw’n rhannu fy syndod a’m pryder nad oedd y ffigurau hyn wedi eu cymryd i ystyriaeth ac onid yw’n meddwl tybed a yw materion eraill wedi eu cymryd i ystyriaeth neu beidio, a allai godi’r gost yn uwch hyd yn oed na’r hyn a ragwelsom?
Y Prif Ysgrifennydd: Mae David yn neidio i gasgliad gyda’r pwynt hwnnw. Nid wyf yn gwbl sicr nad oedd mater gwastraff amser wedi ei gymryd i ystyriaeth ond cefais fy hysbysu’n swyddogol nad oedd. Byddaf yn sicrhau y caiff yr holl bethau hyn eu hoelio i’w lle erbyn imi ddychwelyd ar ôl y Pasg, pan allwn, efallai, gael trafodaeth bellach ar y mater hwn.
Ron Davies: Sicrhaf yr Aelodau sydd yn ymddiddori yn y materion hyn bod ystyriaeth ofalus iawn wedi ei rhoi i’r holl drafferthion gweithrediadol a allai godi o’r penderfyniad i ddod i’r bae. Penderfyniad ffôl fyddai un nad oedd yn rhoi cyfrif am symudiad gweision sifil rhwng Parc Cathays a’r bae. Ystyriwyd y materion hynny’n ofalus er mai gwir yw dweud, pan wneuthum y penderfyniad dechreuol, nad oeddwn wedi gofyn am ddadansoddiad ariannol o’r gost dan sylw am fod y dadansoddiad hwnnw’n dibynnu’n gyfan gwbl ar y paramedrau a osodwch pan ofynnwch am yr wybodaeth honno. Er mwyn sicrhau’r ddadl lawnaf bosibl, sef yr hyn y mae Rhodri am ei gael yr wyf yn siwr, efallai y gallai ddweud wrthym beth yw paramedrau’r ffigurau pellach hynny y gofynnodd amdanynt a pha ragdybiaethau a wnaethpwyd am nifer y gweision sifil sydd yn teithio, amlder y teithio ac yn y blaen?
Y Prif Ysgrifennydd: Yr wyf yn falch bod Ron wedi cadarnhau’r fersiwn o’r digwyddiadau a roddwyd i mi gan y swyddogion. Mae bob amser yn anodd cyfeirio at fater sydd yn ymwneud â gweinyddiaeth flaenorol. Yr hyn a ddeallaf fi yw bod cost grynswth y gwasanaeth bws wedi ei chynnwys ond na cheisiwyd mesur yr amser a gollir. Mae Ron Davies wedi cadarnhau hynny’n awr. Gellid rhoi cynnig ar fesurydd sydd yn ceisio meintoli a ninnau â naw mis o brofiad o’r gwahaniad o ddwy filltir.
Mae hynny’n arwain at bwynt diddorol pellach sydd yn ymwneud ag ymadrodd a ddefnyddiais o’r blaen: ymgripiad prosiect. Ni chawsom ymripiad prosiect gyda chost yr adeilad newydd, er gwaethaf yr hyn a ddywedodd William Graham. Byddai’r penseiri’n dadlau nad yw prosiect yr adeilad wedi dioddef gan ymgripiad prosiect, yn wahanol i brosiectau adeiladu mawr eraill, heblaw am y chwyddiant arferol yng nghost adeiladu, cynnwys TAW yn y ffigurau a roddwyd i’r cyhoedd yn ddiweddarach ac ychwanegu lwfans wrth gefn o 15 y cant--yn hytrach na 5 y cant.
Bu newid mawr yn y diffiniad o anghenion y prosiect. I ddechrau, yr oedd arnom angen 72,000 troedfedd sgwâr o le, a oedd yn ffitio’n rhwydd i hanner yr adeilad hwn dros dro, sydd yn 125,000 troedfedd sgwâr yn glir ac yn 150,000 troedfedd sgwâr yn ei grynswth. Fodd bynnag, bellach nid yw Ty Crycywel yn ddigon mawr oherwydd ymgripiad prosiect. Mae’r ansefydlogrwydd yn y berthynas rhwng Parc Cathays a Thy Crycywel yn golygu bod mwy a mwy o weision sifil wedi eu dwyn i Dy Crycywel. Er enghraifft, mae’r Uned Ohebu, sydd yn cynorthwyo Gweinidogion y Cabinet wrth ateb llythyrau oddi wrth y cyhoedd neu Aelodau Cynulliad. Felly, yn lle angen am 72,000 troedfedd sgwâr, ailddiffiniwyd y prosiect fel ei fod yn gofyn tua 150,000 troedfedd sgwâr neu fwy yn glir. Pe baem wedi cymeradwyo a mynd ymlaen â’r adeilad newydd pan nad oedd ond yn 72,000 troedfedd sgwâr--sef yr hyn a oedd yn y ffigurau yn yr wybodaeth a ddosbarthwyd i’r Aelodau’n gynharach heddiw--a fyddai gennym adeilad yn y diwedd oedd yn anghywir?
Ymddengys yn awr fod arnom angen 150,000 troedfedd sgwâr o le’n glir, hynny yw, gallem ddweud y cyfan o Dy Crycywel yn lle ei hanner. Mae arnom angen yr adeilad newydd oherwydd fel arall bydd yn rhaid dod â gweision sifil yma i weithio’n barhaol, yn fwy o ran eu nifer nag o’r blaen yn ogystal â chyflawni’r daith o ddwy filltir o Barc Cathays. Ni wyddem na fyddai modd sefydlogi nifer y staff ym Mharc Cathays gan fod arnom angen mwy o weision sifil o hyd yn y bae na’r nifer y credem y byddai arnom eu hangen i’n cynorthwyo oherwydd y pellter o ddwy filltir o Barc Cathays. Ar ba bwynt y gallwn fod yn sicr bod gennym niferoedd sefydlog? Nid hynny oedd ein profiad yn y flwyddyn gyntaf.
Ron Davies: Yr wyf yn siwr mai drwy amryfusedd yr aethoch oddi wrth y pwynt a godais. Nodasoch yn gynharach y byddai’r adolygiad wedi ei gwblhau cyn y Pasg. Er mwyn cael trafodaeth gyhoeddus lawn ar y materion hyn a sicrhau nad oes ansicrwydd ynghylch y ffigurau, a fyddwch cystal ag ymgymryd i gyhoeddi’r rhagdybiaethau sydd yn sail i’r gwaith pellach a gyflawnir?
Y Prif Ysgrifennydd: Efallai’ch bod yn gweld rhywbeth nad yw yno yn y cwestiwn o ragdybiaethau fel petai bwriad iddynt gael eu hystumio i greu gogwydd yn y casgliad--nid oes bwriad o’r fath. Nid wyf ond am gynnwys pethau a adawyd allan a chredaf eich bod yn derbyn na fu ymdrech i fesur y costau hyn o’r blaen. Pan fydd ffigurau ar gael, ac oni bai eu bod yn fasnachol gyfrinachol, byddaf yn sicrhau eu bod yn cael eu gosod ar y rhyngrwyd a’r fewnrwyd fel y gall yr Aelodau eu gweld. Ni ddywedais y bydd yr adolygiad hwn wedi ei gwblhau erbyn y Pasg, ond byddaf yn astudio’r ffigurau dros doriad y Pasg ac ar ôl hynny hoffwn gael dadl ar adeg a gâi ei phenderfynu gan y Llywydd, yr Aelodau a’r Pwyllgor Busnes. Gallai canlyniad y ddadl honno arwain at benderfyniad. Nid yw’n deg dweud y byddaf yn sicr o ddod i benderfyniad a chymeradwyo cam nesaf prosiect yr adeilad newydd ar ôl y ddadl honno yn gynnar ym Mai, ond yr wyf am gael dadl cyn gynted ag y bydd y ffigurau ar gael a chyn gynted ag y caf gyfle i’w hystyried dros y toriad.
Jocelyn Davies: Defnyddiaf y gwasanaeth bws yn rheolaidd pan deithiaf i Cathays neu’r orsaf drenau, fel y gwna Ieuan Wyn Jones, Cynog Dafis ac Aelodau eraill. Pe na ddefnyddiwn y bws, mae’n debyg yr awn mewn tacsi. A yw’ch cyfrifiadau’n rhoi ystyriaeth i’r defnydd o’r bws gan Aelodau oherwydd tybiaf fod aelodau’r Cabinet yn defnyddio’r bws bob amser os dymunant deithio i Cathays. Mae’r bws yn effeithlon, yn brydlon bob amser ac nid oes neb yn gorfod disgwyl 30 munud amdano oherwydd mae’n gadael bob 20 munud ni waeth beth. Gwelais aelodau o’r staff yn darllen wrth ei ddisgwyl ac yn ystod y daith. Nid amser gwastraff, marw yw hyn fel y dywedwch; mae’n adeg pan yw pobl yn gweithio a gobeithiaf fod eich cyfrifiadau’n rhoi ystyriaeth i hynny.
Y Prif Ysgrifennydd: Yr wyf yn sicr y bydd y cwbl o hynny’n cael ei ystyried. Ni ddylai Jocelyn na’r un gwleidydd arall byth ddweud 'byth’. Cefais drafodaeth tua phedwar mis yn ôl ag uwch aelod o’r gwasanaeth sifil a fu’n disgwyl y bws ers 40 munud ac a oedd yn barod i roi’r gorau iddi. Yr oedd yn mynd i alw tacsi oherwydd ni wyddai ym mhle’r oedd y bws a pham y bu’n aros. Ni fu’n gweithio am y 40 munud cyn hynny ac yr oedd yn anobeithio. Ni wn pa mor aml y digwydd hynny ond ni ddylai Jocelyn byth ddweud 'byth’ oherwydd ni ddylai’r un gwleidydd wneud hynny. Cytunaf fod unrhyw ddefnydd o’r gwasanaeth ar siawns gan yr Aelodau i gyrraedd yr orsaf yn fonws y mae’n rhaid ei gymryd i ystyriaeth mewn unrhyw ymgais i feintoli’r broblem sydd yn codi oherwydd y pellter o ddwy filltir.
4:18 p.m.
Jenny Randerson: Wrth ailystyried y ffigurau y gobeithiwch y byddant yn barod yn y dyfodol agos, a ydych wedi cysylltu â Chyngor Dinas a Sir Caerdydd i holi beth yw pris Neuadd y Dref yn awr? Ofnaf y gallai’r pris fod wedi newid yn y ddwy flynedd a aeth heibio yn y cyfamser. A oes modd inni ailystyried y ffigurau heb fynd yn ôl at gyngor Caerdydd i weld beth yw’r pris a ofynnir am yr adeilad?
Y Prif Ysgrifennydd: Os dymuna’r Cynulliad imi wneud hynny, fe’i gwnaf. Ni wneuthum hynny hyd yma.
Ron Davies: Ni chynghoraf Rhodri i ddilyn y llwybr hwnnw. Nid wyf yn sicr a fyddai Russell Goodway yn dueddol o fod yn hael wrtho ar hyn o bryd yn ei negodiadau. Gofynnaf y cwestiwn am y trydydd tro: a ydych yn barod i gyhoeddi’r rhagdybiaethau sydd yn sail i’r gwaith pellach a gyflawnir?
Y Prif Ysgrifennydd: Mae mor amlwg mai ydwyf yw’r ateb fel yr anghofiais ei roi. Ymddengys eich bod yn tybio fy mod yn ceisio celu rhywbeth. Nid oes cymhelliad neu fwriad ar fy rhan i i gelu dim. Nid wyf yn sicr pam yr ydych mor ddrwgdybus.
Mae rhwymedigaeth gyffredinol a holl bwysig arnom i ddatblygu cynaliadwy, yr oedd Cynog Dafis a Ron Davies yn bennaf gyfrifol amdani. Felly, mae’n sicr y dylid cymryd i ystyriaeth y pellter rhwng dau safle’r ddemocratiaeth newydd yng Nghymru. Os oes dewis arall--ni wn a oes un--sydd yn fwy cyson â datblygu cynaliadwy, byddai’n rhaid inni ei archwilio. Yr wyf yn sicr y cytunai Cynog a Ron â hynny os oedd yn unol â’n rhwymedigaethau cyffredinol.
Ystyriwch sut y mae’r cyhoedd yn gweld y sefyllfa hon. Gwêl ddau adeilad cyhoeddus mawr cyngor Caerdydd ym Mae Caerdydd ac ym Mharc Cathays a dau adeilad cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru, hefyd ym Mae Caerdydd a Pharc Cathays. Pe bai’r paru’n wahanol gallai fod yn bosibl cerdded o un i’r llall. Ni allwch gerdded o’r bae i Barc Cathays neu o Barc Cathays i’r bae. Ni fyddai o bwys a oeddem yn berchen ar Neuadd Sir Caerdydd a Thy Crycywel ynteu a oeddem yn berchen ar y pariad arall o’r ddau adeilad ar ddwy ochr Parc Cathays. Byddai’r naill bariad neu’r llall yn golygu llai o deithiau mewn bws a mwy o gerdded ac yn fwy cyson â datblygu cynaliadwy. Yr wyf yn sicr y bydd Cynog yn codi ac yn dweud wrthyf ei fod yn cytuno â’r gosodiad hwnnw mewn egwyddor.
Cynog Dafis: Cysylltiadau electronig yw un o’r allweddau i ddatblygu cynaliadwy. Bydd fideo gynadledda rhwng y bae a Pharc Cathays yn arferol ymhen 10 mlynedd neu hyd yn oed cyn hynny. Awgrymaf fod agweddau eraill ar y mater hwn y dylid eu trafod ar wahân i’r teithio rhwng y bae a Pharc Cathays. Petai’r Cynulliad yn symud i Barc Cathays, oni fyddai hynny’n golygu y byddai’n rhaid i ni deithio’n gyson rhwng y ddau le gan nad oes lle i ni i gyd ym Mharc Cathays?
Y Prif Ysgrifennydd: O ran y beirianneg electronig ddiweddaraf, dywedir o hyd bod ateb ar ei ffordd neu eisoes ar gael i oresgyn problem pellter. Nid wyf yn siwr a yw hynny’n hollol ymarferol, ond dywed Cynog ac arbenigwyr eraill yn y maes hwn o hyd bod rhyw beiriant ar gael neu ar fin ymddangos a fydd yn datrys problem pellter. Nid ydym wedi cyrraedd y cyfnod hwnnw hyd yn hyn. Mae hynny’n rhan o’r ystyriaeth. Mae rhai yn meddwl y gall technoleg newydd ddistrywio’r cysyniad o bellter ac y gallem weithio cystal o gartref ag y gwnawn pan yr ydym i gyd gyda’n gilydd yma a bod fideo gynadledda cystal â bod wyneb yn wyneb â’n gilydd. Nid wyf yn siwr fod y cyfnod hwnnw wedi dod eto. Efallai y daw ymhen chwarter neu hanner canrif. Efallai bod Cynog yn meddwl ei fod ar fin dod y flwyddyn nesaf. Mae’n gwestiwn i’w drafod.
Michael German: Ar lawr cyntaf yr adeilad hwn mae gennym ystafelloedd cynadledda fideo ac ar lawr cyntaf adeilad y Swyddfa Gymreig ym Mharc Cathays mae ystafelloedd cynadledda fideo. Mae cyfathrebu’n syml. Mae cynadledda clywedol yn syml. Mae llawer o gyfleoedd y gallem eu defnyddio.
Yn ail, onid yw’n wir mai’r broblem ynglyn â Neuadd y Ddinas, o safbwynt cyngor Caerdydd, yw ei bod yn cynnwys llawer o ystafelloedd cyhoeddus mawr, eang ac agored, ac mai dyna pam y dymunai’r cyngor ei chadw? Gwyddai’r cyngor y byddai’n elwa o gael man agored i’r cyhoedd, ystafelloedd cyhoeddus ac adeiladau cyhoeddus. Nid yw’r cyfleuster hwnnw ar gael yma ac ni fyddai’r cyfleuster hwnnw gan y cyngor pe bai ein celloedd yn cael eu cyfnewid â rhai Neuadd y Ddinas. A yw Neuadd y Ddinas yn addas heb gyflawni gwaith ailadeiladu helaeth, o ystyried maint ei hystafelloedd ar hyn o bryd?
Y Prif Ysgrifennydd: Nid wyf yn dadlau dros symud i Neuadd y Ddinas. Yr hyn a ddywedaf yw ei fod yn beth hynod, mewn unrhyw gorff corfforaethol fel ein hun ni, sydd â rhwymedigaeth gyffredinol i ddatblygu cynaliadwy, fod y pariadau o adeiladau hyn gan gyngor Caerdydd a gennym ni. Mae gan y ddau sefydliad un adeilad yn y Parc ac un yn y bae yn lle dau adeilad yn y Parc sydd yn eiddo i un corff a dau arall yn y bae sydd yn eiddo i’r corff arall. Byddai gostyngiad yn y gofynion cludiant pe bai’r paru fel arall, oherwydd mae gan y ddau gorff cyhoeddus daith o ddwy filltir yn awr rhwng eu dau briod bencadlys. Dyna fy mhwynt. Bydd y cyhoedd am wybod yr ateb i hynny. Ym mha fodd y datryswyd y ddadl honno yn yr asesiad? Ym mha fodd y’i datryswyd mewn perthynas â’r ymrwymiad cyffredinol i ddatblygu cynaliadwy? Yr ydych yn ymrwymo eich hun i system llywodraeth sydd yn gosod mewn concrid y patrwm hwn o leoliadau yn y bae a’r Parc, a’r bwlch o ddwy filltir rhwng y gwasanaeth sifil a’r weinyddiaeth am y 100 mlynedd nesaf. Dyna’r hyn y dymunaf ei weld yn yr asesiad a gobeithiaf asesu hynny ar ôl imi weld yr holl ffigurau dros y Pasg. Bydd y mater yn dod yn ôl i’r Cynulliad gynted ag y bo modd ar ôl Mai.
Nick Bourne: Ni waeth ar ba ochr o’r ddadl yr ydych--a chredaf y dylai’r holl brosiect gael ei ddileu--mae’r Cynulliad cyfan yn disgwyl arweiniad gennych chi. Gwrandewais ag ymdeimlad cynyddol o afrealiti wrth inni drafod materion y mae’n rhaid eu bod yn hysbys cynt. Yr oedd yr holl faterion hyn yn wybyddus o’r blaen i’r cyn-Brif Ysgrifennydd. Oni bai fod gennych wybodaeth newydd i’w dangos i ni, ni ddeallaf pam yr ydym yn ailagor y mater hwn ar hyn o bryd, ac eithrio i symud tuag at ei ddiddymu. Yr ydych yn swnio fwyfwy fel gwerthwr tai, yn ein tywys o gwmpas Neuadd y Ddinas ac yn dweud, oni wna hyn y tro yn iawn? Mae’n amlwg bod cost Neuadd y Ddinas y tu hwnt i ddim sydd yn y gyllideb ar hyn o bryd. Onid yw’n fwy synhwyrol, a rhoddir clod i chi am hyn, ddiddymu’r prosiect hwn a chanolbwyntio ar bethau sydd o bwys gwirioneddol, yn hytrach na dod yn ôl at y mater hwn eto ar ôl y Pasg? Beth yw’r rheswm am hyn? Gadewch inni ei ddiddymu a bwrw ymlaen â busnes gwirioneddol yn y Cynulliad.
Y Prif Ysgrifennydd: Fe’m cyhuddwyd o fod yn llawer o bethau yn fy amser ond nid erioed o fod yn werthwr tai. Pe baech wedi gwrando ar fy eglurhad, gwyddech nad oeddwn yn teimlo’n barod i ymrwymo i’r £1 miliwn nesaf o wariant ar ddylunio’r cynllun, a fyddai wedi digwydd rhwng Mai ac Awst, a’i ddilyn â dyluniad manwl yn Awst. Fel y Prif Ysgrifennydd--a chymerais gyngor gan aelodau eraill o’r Grwp Llywio Polisi--yr oedd yn rhaid imi awdurdodi gwario £1 miliwn. Nid oeddwn yn barod i awdurdodi’r gwariant hwnnw. Mae Nick Bourne a’i gyd-Aelodau am wneud mwy o hynny nag ydyw a deallaf eu cymhellion gwleidyddol dros wneud hynny. Ni ddymunant weld cartref parhaol i’r Cynulliad am eu bod yn poeni ynghylch ymsefydlu’r Cynulliad. Gwyddant mai ond fel cartref dros dro yr ystyriwyd y lle hwn erioed. Efallai y bydd yn dweud bod pethau’n gweithio yma. Fodd bynnag, rhaid iddo gydnabod bod y Siambr hon yn annigonol. Mae ganddo ef a’i blaid eu barn eu hunain ar hynny, nad oes llawer yn ei rhannu. Maent yn llwyr yn erbyn unrhyw wariant a allai fod yn gysylltiedg â’r Cynulliad ac a allai arwain at ymsefydlu’r Cynulliad. Dyna ei safbwynt ef a deallaf hynny. Fodd bynnag, rhaid iddo beidio â cheiso fy recriwtio i oherwydd fy mhenderfyniad i beidio ag awdurdodi £1 miliwn pellach ar ddylunio’r cynllun. Mae gennyf agenda gwbl wahanol i un ei blaid ef.
Janet Davies: Byddwch yn ymwybodol o’r gwaith diweddar a wnaeth y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar hyn. A ydych yn cymryd y gwaith hwnnw i ystyriaeth heddiw, ynteu a yw hynny i’w ystyried ym Mai?
Y Prif Ysgrifennydd: Mae gwaith y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn bwysig i’r ymarferiad hwn. Cafodd ei godi am wahanol reswm gan AS o ran arall o Gymru a oedd wedi digio oherwydd y penderfyniad i leoli’r Cynulliad yng Nghaerdydd. Er hynny, mae’n ddefnyddiol bod cyfrifyddion sector cyhoeddus y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn mynd drwy’r weithdrefn penderfynu. Mae’n benderfyniad ôl-weithredol oherwydd mae cyfrifyddion yn gweithio’n ôl-weithredol. Ar y llaw arall, gallwn ninnau ddefnyddio’r ffeithiau a gronnant a’r ffigurau a brofant pan fydd Edwina a’i thîm yn edrych ar y mater o safbwynt ei gysylltiad â’n penderfyniad heddiw. Nid yw archwilwyr yn edrych ymlaen; edrychant yn ôl. Maent yn bobl sydd yn mynd allan i faes y frwydr ac yn bidogi’r clwyfedigion, gan ffafrio’n arbennig y carcharorion clwyfedig o’u hochr eu hunain. Rhai felly yw archwilwyr. Ni wn pa feddwl sydd gan y cyhoedd ohonynt mewn cymhariaeth â gwerthwyr tai. Bydd y fantais gan Janet fel Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio o edrych yn ôl-weithredol ar hyn. Byddwn yn defnyddio’r holl ffigurau a gronnir gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ac yn eu haddasu i gynghori’r Cynulliad a minnau ynghylch y cwrs gweithredu priodol.
4:28 p.m.
Rhodri Glyn Thomas: Yn ystod y rhagarweiniad hwn, cyfeiriasoch yn gyson at yr angen i fod yn ddarbodus gydag arian cyhoeddus. Byddem i gyd yn cytuno â hynny. Fodd bynnag, mae’r oedi hwn yn cael ei gyflwyno fel bod yn ddarbodus gydag arian cyhoeddus. Gofynnais gwestiwn yr wythnos diwethaf ynglyn â faint yn union y bydd yr oedi hwn yn ei gostio? Os yw’r oedi am dri neu chwe mis, beth fydd y gost? Mae Donald Dewar wedi dadlau y byddai unrhyw oedi yn gostfawr i’r senedd-dy yn yr Alban. Yr argraff a roddir yma yw nad yw’r oedi yn costio unrhyw arian o gwbl i’r pwrs cyhoeddus. Hoffwn eglurhâd ar hynny.
Yr ail gwestiwn a ofynnais yr wythnos diwethaf--ac ni chefais ateb i’r cwestiwn hwnnw ychwaith--oedd pe bai penderfyniad yn cael ei wneud i ganslo’r cytundeb i adeiladu’r adeilad newydd, a fyddai’r Cynulliad yn torri cytundebau sydd eisioes wedi’u harwyddo? Yn ogystal, oni fyddai cost sylweddol yn gysylltiedig ag unrhyw benderfyniad i ganslo? A oes unrhyw ddewis heblaw symud ymlaen gyda’r adeilad newydd?
Y Prif Ysgrifennydd: Ni ellir cymharu’r pwynt y mae’r Alban wedi’i gyrraedd â’n pwynt ni yng Nghymru. Maent hwy wedi dechrau adeiladu. Mae twll yn y ddaear yng Nghaeredin yn barod. Fe fyddai canslo neu gael gwared ar y prosiect yn gostfawr yng Nghaeredin. Maent wedi cyrraedd safle gwahanol yn yr holl benodau y mae’n rhaid mynd drwyddynt cyn cael adeilad newydd. Yr ydym mewn sefyllfa hollol wahanol. Dyna pam yr oeddwn i am oedi yn awr yn hytrach nag ar ôl ymroi i’r £1 miliwn nesaf o arian cyhoeddus. Gofynnwyd i mi ymroi bythefnos yn ôl ond ni fyddwn am oedi ar ôl ymroi i’r £1 miliwn ar gyfer y dylunio cynllun, a fyddai’n digwydd rhwng mis Mawrth a mis Awst.
Bydd yn rhaid imi ysgrifennu’n ofalus ynglyn ag unrhyw gost a achosir gan yr oedi. Ni allaf ddatgelu beth y gallai rhywun ei wneud mewn llys barn yn ein herbyn oherwydd eu bod yn credu bod yna gytundeb. Nid oes cytundeb--mor bell ag yr wyf i’n ei ddeall--heblaw am brynu’r tir am bunt. Nid oes cytundeb gyda Phartneriaeth Richard Rogers. Maent hwy’n gweithio o wythnos i wythnos. Efallai bod agweddau cyfreithiol nad wyf yn eu deall. Dyna fy nealltwriaeth, ond yr wyf am fod yn ofalus i beidio â dweud mwy na hynny heb gyngor gan swyddogion. Fe ysgrifennaf at Rhodri ac arweinyddion y pleidiau os oes costau hollol wahanol i’r rhai y soniais amdanynt.
Nid wyf ond hanner ffordd i lawr tudalen gyntaf fy araith a derbyniais tua 47 o ymyriadau. Fodd bynnag, ystyriaf fod y trafodaethau heddiw yn estyniad o’r sesiwn holi ac ateb ar ddiwrnod fy nghyhoeddiad gwreiddiol. Efallai ei bod yn briodol bod y ddadl wedi ei chynnal. Mae’n gyfle i bawb wneud ei gyfraniad ar ffurf ymyriad neu araith. Y cwbl yr wyf am ei ddweud yw y bydd yn rhaid i’r lle--ym mha le bynnag y bydd--a fydd gennym yn y pen draw yn gartref parhaol feddu ar y gwerthoedd o fod yn agored, yn ddemocrataidd ac yn hygyrch. Rhaid iddo fod yn deilwng o Lywodraeth ein gwlad. Rhaid iddo fod yn lle a dderbynnir gan bobl Cymru fel un sydd yn eiddo iddynt hwy yn ogystal ag i’r gwleidyddion a’r swyddogion sydd yn eu gwasanaethu. Palas ydyw, nid lle busnes. Mae’n ddrwg gennyf, bydd hynny’n wers imi beidio â thynnu fy sbectol. Nid yw’n balas ond yn lle busnes, yn fan lle y gellir cyflawni busnes democrataidd Cymru.
Mae hyn yn gyfle i bawb gyfrannu, nid gofyn cwestiynau imi’n unig.
Glyn Davies: Cynigiaf welliant 1. Dileer cymalau 2, 3 a 4 a rhodder yn eu lle:
2. yn ei gwneud yn ofynnol bod y Prif Ysgrifennydd yn cyhoeddi’r ffigurau a arweiniodd at ei benderfyniad i ohirio’r prosiect dros dro.
3. yn penderfynu bod gohirio adeilad newydd y Cynulliad dros dro yn cael ei wneud yn barhaol.
Amlinellais bolisi Plaid Geidwadol Cymru ar y mater hwn ar sawl achlysur. Dros y 12 mis diwethaf dadleuais yn gyson dros roi’r gorau i brosiect adeilad newydd y Cynulliad. Mae barn grwp Ceidwadol Cymru’n glir, yn gyson ac yn ddiamwys. Gwell fyddai gwario’r swm o £22.6 miliwn, yr amcangyfrif diweddaraf o’r hyn y mae ei angen i godi’r adeilad, ar wasanaethau i bobl Cymru. Dylai’r ataliad ar y prosiect hwn gael ei wneud yn barhaol a dylid rhoi’r gorau i’r adeilad newydd.
Ni ddymunaf ailadrodd y dadleuon a gyflwynais yn Ionawr, er eu bod yn ddilys o hyd. Heddiw, yr wyf am ystyried y penderfyniad i atal y prosiect a wnaeth y Prif Ysgrifennydd bythefnos yn ôl. Brif Ysgrifennydd, wrth wneud sylw am fy ymateb cyntaf ar ôl clywed eich datganiad bod y prosiect i’w barcio neu ei atal, dywedasoch â’ch hiwmor enillgar nodweddiadol nad oeddech yn sicr a oeddwn yn croesawu’ch penderfyniad ai peidio. Gwnaethoch bwynt teg. Yr oeddwn yn ceisio, gyda chryn anhawster, llunio ymateb rhesymegol i’r hyn a ymddangosai i mi bryd hynny, fel y mae’n awr, yn ddatganiad anobeithiol o afresymegol. Ni chredaf fod yr hyn a ddywedasoch heddiw wedi bod o gymorth mawr.
Gadewch inni edrych yn fanylach ar yr hyn yr oeddech yn ceisio ei ddweud wrthym. Ymddengys eich bod wedi gweld ffigurau newydd a oedd mor frawychus fel eich bod wedi atal prosiect yr oeddech yn ei gefnogi’n llwyr o’r blaen ar unwaith. Eto ni roesoch unrhyw awgrym bod cyfanswm y costau amcangyfrifedig wedi codi y tu hwnt i £22.6 miliwn, y ffigur a roddwyd gerbron y Siambr hon yn Ionawr pan bleidleisiasoch mor frwd o blaid y prosiect. A yw’n bosibl bod y ffigur hwn yn dderbyniol i chi yn Ionawr, pan oedd rhywun arall yn dwyn y cyfrifoldeb, ond nad yw yn awr, pan allech chi gael y bai? Nid gweithred o arweinyddiaeth fyddai honno ond un o wendid, gweithred rhywun sydd yn ei chael yn anodd gwneud penderfyniad. Os yw’r costau amcangyfrifedig o £22.6 miliwn wedi codi, byddai hynny’n fater gwahanol. Byddwn yn barod i ganiatáu ichi godi i gadarnhau hynny os yw’n wir.
Mae ail agwedd ar y ffigurau hyn yr honnir eich bod wedi eu gweld hefyd o ddiddordeb i mi: pam nad ydych wedi eu cyhoeddi? Nid oedd yr wybodaeth a anfonwyd drwy e-bost at Aelodau’r Cynulliad y bore yma yn cynnwys unrhyw beth a oedd yn newydd. Yr oedd holl Aelodau’r Cynulliad eisoes yn gwybod cyfanswm y costau amcangyfrifedig a’r dadansoddiad ohonynt o dan isbenawdau, gan gynnwys ffïoedd dylunio. Rhoddodd eich rhagflaenydd y ffigurau hynny inni yn Ionawr a’u cyhoeddi. Hyd y gwn i, nid ydynt wedi newid ers hynny. Rhaid bod holl Aelodau’r Cynulliad yn ymwybodol hefyd o broffil gwariant y costau dylunio. Mae fel arfer tua’r un fath. Mewn gwirionedd, yr oedd yn llai na’r hyn a ddisgwyliais yn Ionawr. Beth sydd yn newydd? Beth sydd wedi arwain at eich penderfyniad? Pam yr ydych yn amharod i ddweud wrthym? Chi yw’r dyn sydd yn siarad mor falch am lywodraeth agored. Pam yr ydych mor amharod i gyhoeddi’r ffigurau newydd a fu’n gymaint o ddylanwad arnoch? Ni allaf ond meddwl tybed a yw’r ffigurau hyn yn bod neu ai dim ond modd i gelu diffyg penderfyniad yw hyn.
Efallai mai’r rheswm yw’r amcangyfrifon o gostau’r adeiladau eraill yng Nghaerdydd-- Neuadd y Ddinas neu Sgwâr Bute. Mae’r neges e-bost heddiw yn awgrymu nad oes unrhyw beth newydd yn y fan honno ychwaith. A welsoch ffigurau newydd ar y dewisiadau hyn? A ydych yn dweud wrthym nad yw’r cymariaethau o gostau a gyflwynwyd inni gan eich rhagflaenydd yn dal eu harchwilio? Cododd un o’ch rhagflaenwyr yn gyflym heddiw pryd bynnag yr awgrymwyd hynny. Neu a ydych yn dweud eich bod wedi taro bargen â Mr Goodway? Neu eich bod yn barod i gefnogi’r ffigurau hynny’n ddigwestiwn tra yr oedd eich rhagflaenydd yn gyfrifol amdanynt, ond nad ydych yn barod i wneud hynny a chwithau bellach yn cymryd cyfrifoldeb amdanynt? Unwaith eto, nid gweithred o arweinyddiaeth yw hynny. Mae cynifer o gwestiynau a chyn lleied o atebion.
4:38 p.m.
Gadewch imi ddychwelyd at yr amwysedd, y cyfeiriasoch ato, yn fy ymateb i chi yr wythnos diwethaf. Croesewais eich datganiad, yn amodol, am ei fod yn awgrymu parodrwydd i dderbyn y ddadl a gyflwynais yn aml y dylid rhoi’r gorau i’r prosiect. Ailadroddasoch fod rhoi’r gorau iddo’n ddewis, er ei fod yn annhebygol, pan oeddech yn eistedd cyn agosed â phedair troedfedd oddi wrthyf yn stiwdio’r BBC i fyny’r grisiau yn fuan ar ôl gwneud eich datganiad.
Cyn eich datganiad, yr oedd Aelodau’r Cynulliad bron â derbyn bod y ddadl drosodd. Yr oedd eich penderfyniad i ailagor y mater hwn yn awgrymu eich bod wedi penderfynu rhoi’r gorau i’r prosiect. Dyna a ddywedodd llawer o bobl y tu allan wrthyf, a daeth â phoblogrwydd i chi. Croesawyd y penderfyniad hwnnw gan y grwp Ceidwadol.
Dywedasoch fod y prosiect wedi ei atal dros dro ac y gallech ddychwelyd ato, â chostau ychwanegol yn deillio o’r oedi. Cyfeiriodd un Aelod at hynny. Ni chroesawn hynny. Ni chroesawem symud i safle drutach o lawer rywle arall yng Nghaerdydd ychwaith. Yr oedd y grwp Ceidwadol yn ffafrio Neuadd y Ddinas pan wnaethpwyd y penderfyniad gyntaf, oherwydd y statws a roddai hynny i’r Cynulliad. Fodd bynnag, mae’n debyg ei bod yn rhy hwyr ac mae’r costau’n rhy uchel erbyn hyn yn ôl pob tebyg. Gwariasom bron £10 miliwn ar yr adeilad hwn.
Brif Ysgrifennydd, mae a wnelo’r ddadl hon gymaint â’ch hygrededd fel arweinydd ag â phrosiect adeiladu newydd. Ai llew ydych neu lygoden â synnwyr digrifwch? A ydych yn arweinydd sydd â’r hyn y mae ei angen i wneud penderfyniadau anodd y mae pobl Cymru am ichi eu gwneud, neu’n rhywun sydd yn anwadalu ac yn ildio pan fo pethau’n dechrau mynd yn anodd? A ddefnyddiwch ffraethineb parod a dywediadau doniol i guddio gwendidau a diffyg penderfyniad? Yr ydych mewn picil. Nid oes ond un ffordd i chi o’r llanastr hwn, sydd o’ch gwneuthuriad eich hun, os ydych i gadw ychydig o’ch hygrededd. Rhaid ichi gyhoeddi’r holl ffigurau a rhoi’r gorau i’r prosiect.
Cynog Dafis: Cynigiaf welliant 2. Yng nghymal 2 dileer 'y gallai’r adolygiad’ a gosoder 'bod yr adolygiad yn debygol o’ yn ei le.
Cynigiaf welliant 3. Yng nghymal 3 dileer 'cyn gynted ag y bo modd’ a gosoder 'ar frys’ yn ei le.
Cynigiaf welliant 5. Yng nghymal 4 ar ôl y gair 'penderfyniad’ ychwaneger 'ar ddydd Mawrth 8 Mai 2000’.
Yr wyf yn falch o’r cyfle i siarad ar ran grwp Plaid Cymru yn y ddadl annisgwyl hon. Fodd bynnag, nid wyf yn falch ei bod yn digwydd, oherwydd ei bod yn ddianghenraid.
Pan gyhoeddodd y Prif Ysgrifennydd ei fod yn gohirio’r prosiect hwn dair wythnos yn ôl, yr oedd yn sioc ac yn siom i lawer o bobl, gan gynnwys Aelodau grwp Llafur y Cynulliad a mwyafrif yr Aelodau eraill. Dim ond y Torïaid oedd yn llawenhau. Heddiw maent yn clochdar. Fodd bynnag, yr wyf yn sicr bod rhai o’r rheini hyd yn oed yn teimlo cryn ddiflastod, ond na feiddiant ddangos hynny. Nid yw Rhodri Morgan wedi cyfiawnhau ei benderfyniad i ohirio’r prosiect. Y cyfan yr ydym wedi ei glywed yw pryderon ynglyn â’r pellter rhwng yr adeilad hwn a Pharc Cathays. Ni yw hynny’n ystyriaeth o ddifrif.
Serch hynny, edrych ymlaen sydd yn bwysig heddiw. Efallai bod modd defnyddio’r gohiriad i bwrpas, er mwyn cyfiawnhau penderfyniad y Prif Ysgrifennydd. Man cychwyn y drafodaeth yw bod yn rhaid i Gymru gael adeilad i’w Chynulliad Cenedlaethol y gall hi fod yn falch ohono. Diraddiodd Rhodri Morgan yr agwedd honno drwy fynnu nad symbol o’r Gymru newydd yw adeilad y Cynulliad, ond rhywbeth swyddogaethol. Ni dderbyniaf y ddadl honno mewn perthynas â senedd-dy. Pa genedl--
Alun Cairns: A dderbyniwch mai gweithgareddau’r Cynulliad sydd yn bwysig, yn hytrach na phalas urddasol ym Mae Caerdydd neu ym Mharc Cathays, ac y dylem gael ein barnu ar yr hyn a wnawn, nid ar y lle yr eisteddwn.
Cynog Dafis: Fe’n bernir yn ôl ein gweithredoedd, wrth gwrs. Gwrandewch ar fy ngeiriau nesaf, Alun, i weld beth a feddyliwch ohonynt.
Pa genedl neu ranbarth gwerth ei halen a fyddai’n bodloni ar adeilad mor ddiolwg â Thy Crycywel fel senedd genedlaethol? Meddyliaf am rai o’r adeiladau seneddol yr wyf wedi eu gweld. Bûm yn y Folketing yn Copenhagen a thu allan i’r Dáil yn Nulyn. Yn ddiweddar, yr oeddwn tu allan i’r Generalitat yn Barcelona, prifddinas Catalonia. Mae senedd-dy Slofenia yn Ljubljana yn werth ei weld, ac felly hefyd yr Assemblée Nationale ym Mharis--adeilad sydd â’r un enw â’n Cynulliad Cenedlaethol ni. Mae’r rhain oll yn adeiladau urddasol sydd yn symbol o ddyheadau’r genedl ac o ddemocratiaeth. Beth sydd yn haeddu symbol nerthol yn fwy na democratiaeth? Mae’r adeiladau hyn yn ganolbwynt dyheadau cenedl ac yn destun balchder i’r dinasyddion. Ystyriwch Balas Westminster yn Llundain. Dyna un o’r senedd-dai lleiaf swynol a’r mwyaf gorwych, fel sydd yn addas i bencadlys ymerodrol. Ni chlywais unrhyw un o’r Blaid Dorïaidd yn awgrymu y dylid torri gwariant ar gynnal a chadw y lle anhygoel hwnnw.
Mae’n iawn inni fod yn gyfrifol o ran gwariant cyhoeddus. Fodd bynnag, mewn difrif, a fyddem yn ystyried bod £26 miliwn, y swm a grybwyllwyd ddiwethaf, yn ormod am senedd-dy cenedlaethol? Y tro diwethaf imi siarad ar y pwnc hwn yn y Cynulliad, rhestrais beth o’r gwariant anhygoel ar Balas Westminster. Ni ddilynaf yr un trywydd heddiw. Fodd bynnag, gallwn eich gwahodd i gymharu cost adeiladu’r Cynulliad newydd â chost adeiladu’r stadiwm genedlaethol, £120 miliwn a mwy, neu Ganolfan y Mileniwm, £80 miliwn. Mae’r ddau yn dibynnu yn helaeth ar wario cyhoeddus sylweddol ar ffurf arian gan y Loteri--
David Melding: Y broblem gydag araith Cynog yw bod y penseiri’n gwrando ac yn lluosogi eu costau yr eiliad hon yn ôl pob tebyg.
Cynog Dafis: Dof at hynny cyn diwedd fy araith. Mae’n bosibl siarad yn frwdfrydig am senedd-dy cenedlaethol heb wahodd y math hwnnw o sylw sbengllyd, â defnyddio iaith Ceredigion.
Go brin bod amheuaeth na fydd y buddsoddiad mewn adeilad teilwng yn talu. Dyna iaith y bydd y Blaid Geidwadol yn ei deall. Bydd adeilad o’r math hwn yn talu ar ei ganfed o ran twristiaeth, denu busnes i Gymru ac ati. Meddyliwch am ymwelwyr tramor, mewnfuddsoddwyr potensial, sydd am weld senedd-dy Cymru. A allwch ddychmygu dod â hwy i weld Ty Crycywel? Dychmygwch, ar y llaw arall, ddod â hwy i weld y math o adeilad sydd gan Richard Rogers mewn golwg. Bûm yn frwd o blaid Neuadd y Ddinas ar un adeg, ac mae gennyf bob parch i’r sawl sydd yn parhau i ffafrio’r opsiwn hwnnw. Pan ddaeth yn glir nad oedd yr opsiwn hwnnw yn runner am bris credadwy, cefnogais Abertawe hyd yn oed. Nid wyf yn un o gefnogwyr mawr y math o ddatblygiad sydd wedi bod yn digwydd yn y bae. Mae llawer o gwestiynau i’w gofyn ynglyn â phatrwm y datblygiad yma. Fodd bynnag, wedi dod yma, pwy a all wadu y cyffro sydd yma? Mae’r achos dros gael adeilad gan bensaer bydenwog sydd yn esiampl o bensaernïaeth gynaliadwy mor gryf nes ei fod yn llethol. Mae ffeithiau y gallwch eu hystyried wrth edrych ar yr adeilad. Y bwriad yw, er enghraifft, cynhyrchu adeilad sydd yn defnyddio llai na 50 y cant o ddefnydd ynni normal adeiladau tebyg. Mae honno’n ystyriaeth o ddatblygu cynaliadwy. Bydd allyrriadau carbon deuocsid yr adeilad newydd yn ddim, net. Bwriedir defnyddio ffynonellau ynni adnewyddol yn gyfan gwbl a defnyddio deunyddiau Cymreig yn helaeth.
Peter Rogers: Wrth drafod effeithlonrwydd rhedeg yr adeilad, ni allwch ddianc rhag un pwynt a wnaethpwyd yn gryf heddiw. Bydd cynnal yr adeilad hwn a Pharc Cathays, a siambr ddadlau ar ochr arall y ffordd oddi yma, yn dyblu’r staffio ac yn dyblu’r holl gostau eraill. Pan fyddwn yn teilyngu ac yn haeddu adeilad newydd ac wedi cyfiawnhau bodolaeth y Cynulliad, dylai’r adeilad gynnwys y Cynulliad cyfan ar un safle.
4:48 p.m.
Cynog Dafis: Nid wyf yn gwadu’r posibilrwydd y gellid datblygu’r adeilad hwn yn gartref i’r Cynulliad cyfan. Nid yw’r cwestiwn o weision sifil yn teithio yn ôl ac ymlaen o Barc Cathays i Fae Caerdydd dan sylw. Fodd bynnag, yn Llundain, mae staff y Llywodraeth yn teithio o’u hadrannau i San Steffan. Nid yw’r daith yn ddwy filltir ond mae’n gryn hanner milltir i rai. Mae hyn yn digwydd drwy’r amser a derbynnir y sefyllfa.
Dywedir nad oes cefnogaeth gyhoeddus i’r prosiect hwn. Mae gennyf ddau beth i’w dweud ynglyn â hynny. Nid wyf yn gwybod am unrhyw arolwg barn ar deimladau’r cyhoedd ar y mater hwn, ond mewn achos o ddatblygiad newydd, clywir lleisiau gwrthwynebwyr yn uwch na lleisiau cefnogwyr. Mae hynny i’w ddisgwyl bob tro ac ystyrir anghytundeb yn hytrach na chytundeb yn fwy diddorol gan y wasg. Felly clywn nad oes cefnogaeth i’r prosiect.
Yn ail, mae’n rhaid inni bwysleisio mai adeilad i’r cyhoedd fydd yr adeilad hwn, i werin bobl Cymru, nid yr Aelodau. Rhaid inni gyflwyno a gwerthu’r adeilad yn y cyd-destun hwnnw. Yr wyf yn fodlon proffwydo y bydd yr adeilad newydd yn destun balchder ac yn dynfa boblogaidd o fewn ychydig amser o’i gwblhau. Bydd y Ceidwadwyr wedyn yn difaru y safbwynt a gymerwyd ganddynt. Yr wyf â’r fraint o gadeirio Pwyllgor Pwnc y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb am ddiwylliant a’r celfyddydau. Un o syniadau’r Pwyllgor a godwyd yn ystod yr ymchwiliad yw’r angen i’r Cynulliad gael polisi ar ddiwylliant a’r celfyddydau fel rhan o’i weithgareddau ei hun. Mae potensial ar gyfer defnyddio adeilad newydd y Cynulliad i arddangos talentau creadigol y genedl, yn gantorion, actorion ac arlunwyr. Gallai perfformwyr o bob math, yn broffesiynol ac amatur, plant ysgol, corau pensiynwyr a sêr rhyngwladol ddefnyddio’r Cynulliad fel llwyfan i’w creadigedd. Edrychwch ar gynllun Richard Rogers a dychmygwch y defnydd y gellid ei wneud ohono at y math hwnnw o bwrpas.
Dylid defnyddio’r cyfnod hwn o ohirio, sydd i barhau hyd at ddechrau Mai a dim hwy hyd y deallaf, i wneud tri pheth. Dylid sicrhau nad yw cost y prosiect yn mynd i godi’n barhaus, fel ddiwgyddodd gyda gormod o adeiladau cyhoeddus. Mae hynny’n berygl, ac ymddengys ei fod yn digwydd yn yr Alban ar hyn o bryd. Yn ail, dylid sicrhau bod dyluniad dychmyglawn Richard Rogers yn gweithio’n ymarferol yn ogystal ag edrych yn brydferth. Yr wyf yn sicr y gellid gwneud hynny. Yn drydydd, dylid sicrhau bod anghenion y methedig o ran cyfleustra a gwedduster yn cael eu bodloni’n llawn. Gwn fod gan Anabledd Cymru rai cwestiynau ynglyn â’r mater hwn ac yr wyf yn sicr bod modd eu hateb. Nid yw Plaid Cymru yn ystyried bod angen i’r broses fod yn un hirfaith. Credwn fod modd cwblhau’r adolygiad erbyn inni ddychwelyd ar ôl toriad y Pasg. Byddwn fel Cynulliad wedyn yn barod i fwrw ymlaen â’r cynllun cyffrous hwn.
Wrth droi at y gwelliannau, rhaid inni wrthod gwelliant 1 trist, negyddol ac oportiwnistaidd Glyn Davies. Mae’n chwith gennyf glywed yr hyn a ddywedodd wrth siarad ar y gwelliannau. Serch hynny, yr oedd ei feirniadaeth heddiw o’r Prif Ysgrifennydd yn nerthol a miniog. Ni fyddai unrhyw adeilad hardd neu waith o gelfyddyd a olygai wario arian cyhoeddus yn cael ei gyflawni pe baem yn derbyn y gwerthoedd a glywsom heddiw. Bydd angen arian ar wasanaethau cyhoeddus a phob math o bethau eraill bob amser. Wrth ddilyn egwyddor o’r fath ni châi adeilad cyhoeddus gwerth edrych arno ei godi fyth. Cefnogwn welliannau 4, 6 a 7 yn enw Peter Black, ar y ddealltwriaeth nad yw’r geiriau 'o fewn tri mis’ yn golygu tri mis. Gellid cwblhau’r adolygiad o fewn mis a barn Plaid Cymru yw y dylid gwneud hynny.
Peter Black: I propose amendment 4. Delete clause 3 and replace with new clause 3
'resolves that the review be completed within three months’.
I propose amendment 6. In clause 4 insert 'publicly’ between 'made’ and 'available’.
I propose amendment 7. At end of motion add clause 5
'resolves that the review process itself be carried out with the maximum possible openness and transparency’.
I welcome the opportunity to debate this matter. When Ron Davies, as Secretary of State for Wales, chose the site for the Assembly, he did so on the assumption that we would have a new building that reflected a new self-confident Wales. Costs are a concern and we must be aware that a delay could add to those costs.
Er fy mod yn cefnogi hawl y Prif Ysgrifennydd i adolygu penderfyniadau ei ragflaenydd, rhaid inni fod yn realistig ynghylch y dewisiadau sydd dan sylw. Rhaid inni osgoi claddu’r broblem drwy ei hanwybyddu. Rhaid i’r Cynulliad benderfynu ar y ffordd ymlaen yn gadarnhaol ar ôl dadl lawn. Nid yw’n ddigon da dechrau ar adolygiad penagored lle y caniateir i’r mater ddrifftio. Gallai hynny fod wrth fodd rhai, ond yn y tymor hir nid yw’n arwain y Cynulliad i unlle ac mae’n gadael ei sefyllfa heb ei datrys, gan sicrhau y bydd ateb yn y dyfodol yn costio mwy.
Beth yw’r dewisiadau? Dywedir wrthym y bydd yr adeilad newydd bellach yn costio £26.5 miliwn i ni. O ran costau rhedeg, gallai hynny arbed arian i ni ar ddewis amgen o ran effeithlonrwydd ynni a’r defnydd o ffynonellau ynni amgen a deunyddiau o Gymru, sydd yn bwysig mewn adeilad symbolaidd o’r math hwn. Gyda chwyddiant adeiladu’n 5 y cant, gallai oedi o chwe mis, sef yr hyn a gyhoeddodd Rhodri Morgan yn ei ddatganiad, ychwanegu hyd at £500,000 at y gost. Mae hynny’n annerbyniol ac ni allwn ddilyn y llwybr hwnnw.
Yr ail ddewis yw aros yma gyda holl gyfyngiadau a rhwystrau’r adeilad hwn. Gallai hynny weithio yn y tymor byr, ond nid oedd Ty Crycywel ond i fod yn ddewis tymor byr. Mae’n anghynaliadwy dros amser hir. Dyna pam y cysylltwyd ef ag adeilad newydd. Y trydydd dewis yw Neuadd y Ddinas, a fydd yn costio’n fwy nag adeilad newydd. Yn ogystal, yn ôl adroddiad a anfonwyd drwy e-bost atom yn gynharach heddiw, hyd yn oed ar ôl y gwariant hwn, byddai’n anodd i Neuadd y Ddinas gynnwys y 280 o Aelodau a staff a ragwelwyd yn wreiddiol yn y lle oedd ar gael. Mae 517 o Aelodau a staff yn yr adeilad hwn ac mae’r adroddiad yn rhagweld y gallai hynny godi i 746. Mae anhawster lleol hefyd wrth negodi pris teg â chyngor Caerdydd a gorfod perswadio Russell Goodway, yng nghanol dadlau arall, y dylai fod yn hael wrth y Cynulliad. Mae’n bosibl na ddeuai dim o hynny byth.
Mae dewisiadau eraill hefyd na ddylem eu diystyru. Os ydym o ddifrif ynghylch sicrhau gwerth am arian, rhaid inni ailwerthuso’r dewisiadau eraill--
David Davies: A gytunwch y dylem ystyried y dewis o aros yn Nhy Crycywel a gwario’r arian ar ysbyty plant i Gymru--rhywbeth y mae taer angen amdano yng Nghymru? A gytunwch hefyd y byddai mwyafrif pobl Cymru’n llwyr gefnogi’r dewis hwnnw ac yn ei weld yn gyfraniad cadarnhaol gan y Cynulliad?
Peter Black: Pe bai David wedi gwrando ar yr hyn a ddywedais, gwyddai fy mod wedi sôn am y dewis o Dy Crycywel. Rhaid archwilio’r dewis hwnnw ochr yn ochr â’r lleill. Mae Ty Crycywel yn gyfyngedig a gwelem cyn hir ein bod yn ei lenwi at yr ymylon, a fyddai’n arwain at gynnig dewis arall gennym yn y dyfodol. Tybed beth yw barn David ar ddewis Peter Rogers, a oedd fel petai’n rhagweld cyflwyno Ty Crycywel, adeilad Parc Cathays a’r adeilad newydd fel un adeilad newydd, a gostiai o leiaf dair gwaith cost y dewis a gynigir ar gyfer yr adeilad a ddisgrifir o’n blaen? Mae gan bob un ohonom lawer o ffigurau o’n blaen ac mae’r adolygiad hwn i’w groesawu ac mae angen ei gyflawni. Fodd bynnag, rhaid ei wneud yn gyflym a rhaid inni sicrhau y cawn werth am arian. Tybiaf fod Ty Crycywel yn rhan o’r adolygiad hwnnw, fel y mae’r dewisiadau eraill. Rhaid inni weld beth a ddaw ohono. Ni ddymunaf ac ni cheisiaf ragfarnu’r adolygiad hwnnw, yn awr nac yng ngwelliannau 4 a 6 o’m heiddo. Rhaid i’r adolygiad fod yn agored ac yn dryloyw a chael ei gyflawni’n gyflym, fel nad yw’n costio mwy o arian i ni os penderfynwn fwrw ymlaen â’r adeilad newydd.
Rhaid inni sicrhau ein bod yn cael gwerth am arian pan wnawn ein penderfyniad, ac yn fwy na dim bod y broses yn agored ac yn dryloyw. Rhaid i ba bynnag benderfyniad a wneir fod yn deg, yn seiliedig ar ddadansoddiad cadarn a rhaid iddo roi gwerth am arian. Rhaid inni egluro’n hunain yn drwyadl a chyhoeddi’r ffigurau a’r rhesymau y tu ôl i’r penderfyniad hwnnw. Mae angen inni bennu amcanion eglur ar gyfer yr adolygiad hwn a chyfnod pan ydyw i’w gynnal. Dyna pam y cyflwynais welliant 4 sydd yn dweud bod rhaid cwblhau’r adolygiad oddi mewn i dri mis. Dylai hynny roi amser inni ystyried adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar yr adeilad newydd ac edrych arno yn y Pwyllgor Archwilio. Bydd yr holl wybodaeth angenrheidiol ar gael a gellir gwneud y penderfyniad mewn modd gwybodus ac ystyriol. Mewn ymateb i sylwadau Cynog, tri mis yw’r cyfnod hwyaf y dylid ei ganiatáu ar gyfer yr adolygiad hwn a gobeithiaf y gellir ei gwblhau ymhell cyn diwedd y cyfnod hwnnw.
Cyflwynais welliannau 6 a 7 hefyd sydd yn tanlinellu’r angen i’r wybodaeth hon fod ar gael i’r cyhoedd ac am y dull mwyaf agored a thryloyw posibl. Yr ydym yn creu democratiaeth newydd yng Nghymru, sydd yn datgelu cilfachau tywyll Llywodraeth i sylw’r cyhoedd. Pa ffordd well o ddangos hynny na’r modd yr ymdriniwn â’n hadeilad newydd? Ni all y Democratiaid Rhyddfrydol gefnogi gwelliant 1 y Ceidwadwyr, wrth gwrs, gan ei fod yn achub y blaen ar yr adolygiad y mae’r Prif Ysgrifennydd wedi dechrau arno. Gobeithiaf y bydd yr holl arweinyddion plaid eraill yn rhan o’r adolygiad hwnnw, gan gynnwys y Ceidwadwyr. Mae’n bosibl wedyn y caem gonsensws ar y canlyniad. Mae tryloywder, atebolrwydd, bod yn agored ac eglurder amcan oll yn egwyddorion y ceisiasom seilio’r Cynulliad hwn arnynt. Rhaid i’r egwyddorion hynny fod yn berthnasol hefyd i ba bynnag le a alwn yn gartref yn y diwedd.
Lorraine Barrett: Yn gyntaf oll, camgymeriad yw sôn am yr adeilad newydd. Dylem sôn am y siambr neu’r estyniad newydd, oherwydd pan benderfynodd Ron Davies leoli’r Cynulliad ym Mae Caerdydd gyntaf, yr oedd hynny ar y ddealltwriaeth y defnyddiem Dy Crycywel i gynnwys y staff swyddfa ac y byddem yn adeiladu siambr dros dro. Byddai siambr newydd barhaol yn cael ei chodi wedyn fel estyniad i’r adeilad hwn, gydag ystafelloedd pwyllgor a mannau cyhoeddus cysylltiedig. Dywedais o’r blaen--ac nid wyf am fynd dros ormod o hen dir--fy mod wedi siomi â phenderfyniad Rhodri i atal y prosiect hwn dros dro. Cawsom ddadleuon a chyflwyniadau ar y mater hwn a phleidleisiasom arno yn y Siambr hon. Tybiasom ein bod yn symud ymlaen. Ni allaf ddeall pam yr ydym yn y caethgyfle hwn.
Pan fydd y Prif Ysgrifennydd yn ymateb, gobeithiaf y gall ein sicrhau nad yw’n ystyried Neuadd y Ddinas. Mae Aelodau eraill wedi sôn am hyn, felly nid af i ormod o fanylion, ond mae’r papur ar y rhyngrwyd heddiw, sydd yn cyflwyno’r cefndir i’r dewis o adeilad ar gyfer y Cynulliad, yn dangos yn eglur fod Neuadd y Ddinas yn ddewis drutach. Byddai angen adeiladu mwy o le i swyddfeydd a byddem yn gweithio o ddau neu dri safle. Yn ogystal, byddai’n rhaid i staff rannu ystafelloedd. Byddai’n rhaid i dri Aelod rannu ystafell ac mae’n gas gennyf feddwl pwy a fyddai’n barod i wneud hynny. Gobeithiaf fod Neuadd y Ddinas wedi ei gosod yn bendant o’r neilltu.
Gadewch inni ystyried yr adeilad hwn heb siambr newydd. Soniodd Cynog am ymwelwyr o dramor. Ddoe, ymwelodd 70 o fyfyrwyr â’r Cynulliad. Daethant o Bortiwgal, Sbaen, yr Eidal, Ffrainc a Phenarth. Cymerodd hanner awr iddynt fynd drwy’r sganiwr. Nid oedd modd dod i’r cyntedd ac yr oedd o bosibl yn berygl i ddiogelwch. Yr oedd staff y dderbynfa a’r staff diogelwch yn rhadlon a rhoesant gymorth imi ddod â hwy drwodd yn eithaf cyflym, ond cymerodd hanner awr er hynny. Fe’u symudais drwy fynedfa’r Cynulliad ac edrychasant ar y peintiadau ar y wal--ni allwn ddangos fawr ddim arall iddynt--ac eisteddasant yng nghefn yr oriel gyhoeddus. Pe buasent yn yr oriel y prynhawn yma caent y pleser o edrych ar gefn ein pennau fel y gallai’r cyhoedd sydd yma heddiw dystio. Nid dyma’r modd i gynnal ein democratiaeth newydd.
Yr ydym i gyd wedi cydnabod diffygion y Siambr hon, fel y pileri a’r acwsteg. Fodd bynnag, nid âi dim yn yr adeilad hwn yn wastraff pe caem siambr newydd. Mae prinder lle eisoes. Yr ydym i gyd wedi cael y profiad o fethu â darganfod unman i gynnal cyfarfodydd â grwpiau o’r tu allan. Fel yr â amser heibio, bydd mwy o ddiddordeb ymysg ymwelwyr a chyrff eraill. Bydd hyn yn arbennig o wir ar ôl cwblhau ailddatblygiadau yn y bae. Mae’r gyrdd peiriant wedi dechrau gweithio ac mae’r palisau’n cael eu codi ar gyfer y ganolfan mileniwm newydd. Mae adeilad hardd y Pierhead gennym a fydd--mae Rhodri’n fy sicrhau--yn agor yn ddiweddarach yn y flwyddyn fel canolfan ar gyfer addysg ac ymwelwyr. Pe baem yn symud i Neuadd y Ddinas neu i rywle arall ym Mharc Cathays, byddai adeilad y Pierhead gennym o hyd, sydd yn cymhlethu materion.
Mae datblygiad Cei’r Fôr-forwyn yn mynd rhagddo, ond dim ond hanner yr unedau sydd ar waith. Dywedwyd wrthyf heddiw fod llawer o fuddsoddwyr posibl yr aeth y negodiadau â hwy yn bell ac i gyfnod tringar wedi atal eu cynlluniau i leoli yma hyd nes y gwneir penderfyniad pendant. Dywedodd Rhodri’n gynharach nad bwriad y Siambr newydd yw annog busnesau i fuddsoddi yn y bae. Fodd bynnag, ar ôl gwneud y penderfyniad, fe’i gwelwyd gan lawer o gwmnïau’n fuddsoddiad da. Yr oeddent am ddod yma i fod yn agos i Lywodraeth newydd Cymru.
Soniodd Rhodri am staff yn teithio rhwng y bae a Pharc Cathays a chymerodd Neuadd y Sir i ystyriaeth. Ofnaf fod yr amcanion yn newid ac ni allaf ddal i fyny. Mae’r oedi’n anfon negeseuon negyddol at fuddsoddwyr ac eraill ac mae amheuaeth a dryswch. Anogaf Rhodri i symud cyn gynted ag y bo modd.
Cydnabyddaf, fel yr ydym oll, fod pobl sydd yn amau a oes arnom angen Siambr newydd neu estyniad. Gallem oll ddod o hyd i bethau eraill i wario’r arian arnynt. Yr wyf yn sicr y gallai’r grwp Ceidwadol feddwl am bethau rhyfeddol y gellid gwario arnynt y £300 miliwn a glustnodwyd cynt gan eu cymheiriaid dros y DU o gyllideb Llywodraeth y DU ar gyfer ystafelloedd i ASau. Fodd bynnag, ni chlywais eu hawgrymiadau.
Alun Cairns: A ydych yn fodlon ildio?
Lorraine Barrett: Dywedais wrthyf fy hun y byddwn yn gwrthod cyfle i siarad--o bawb yn y grwp Ceidwadol--i Alun Cairns. Yr wyf am fynd ymlaen, ond efallai y cewch siarad ar y diwedd.
Gellid gwario’r arian ar bethau eraill a rhaid inni sicrhau na fydd y costau’n codi’n ddireolaeth. Os ydym o ddifrif ynghylch ein Llywodraeth newydd yng Nghymru ac os oes gennym hyder ynom ni ein hunain a’n gwlad a dyheadau ynghylch dyfodol Cymru, rhaid inni sicrhau bod ein Llywodraeth wedi ei chartrefu mewn adeilad sydd yn amlygu’r hyder hwnnw, yn datgan hynny ac yn rhoi Cymru ar y map. Os na wnawn hynny, fe’n gwelir yn gorff eilradd sydd wedi ei fwrw i floc swyddfeydd syml. Os caiff gwledydd eraill a chanolfannau Llywodraeth eraill yn y DU adeiladau nodedig, pam na chawn ni?
Peidiwch ag anwadalu ac oedi, Rhodri, os gwelwch yn dda. Golyga gostau ychwanegol ac nid wyf yn argyhoeddedig bod dim wedi newid ers i Alun Michael, yn Brif Ysgrifennydd, ac Edwina Hart, yn Ysgrifennydd Cyllid, fynd drwy’r ffigurau, ers i’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol archwilio’r llyfrau ddwywaith, nac ers i’r Cynulliad bleidleisio i fynd ymlaen â’r cynllun.
Alun Cairns: Pleser yw gallu cyfrannu i’r ddadl hon unwaith eto. Credais fy mod yn profi déjà vu yn gynharach. Gwnaeth y Prif Ysgrifennydd ei ddatganiad ychydig wythnosau’n ôl a chredais ein bod wedi mynd dros y tir hwn unwaith. Fodd bynnag, croesawaf y ffaith bod y Prif Ysgrifennydd yn symud o leiaf hanner y ffordd drwy dro pedol ac edrychaf ymlaen at ei weld yn symud gweddill y ffordd pan wyneba’r unig benderfyniad a’r penderfyniad cywir i roi’r gorau i adeilad newydd y Cynulliad. Er hynny, derbyniwn y bydd yn rhaid iddo gymryd camau llai, oherwydd y safbwynt a gymerodd, er mwyn dod i’r un meddwl â Phlaid Geidwadol Cymru.
Tro pedol ydyw, oherwydd ar 26 Ionawr cymeradwyodd y Prif Ysgrifennydd y cynnig, a ddywedodd fod y Cynulliad yn nodi cost amcangyfrifedig diwygiedig y cynllun ac yn cytuno y dylai’r datblygiad fynd ymlaen ar y sail ddiwygiedig gyda’r amcan o gael adeilad cwbl weithredol ar waith erbyn Awst 2002. Os oedd yn iawn bryd hynny, pam y mae’n anghywir yn awr? Rhaid ateb hynny a dyna pam yr ydym hanner ffordd drwy’r tro pedol i roi’r gorau i’r prosiect ym Mae Caerdydd.
5:08 p.m.
Synnais at ddadl y Prif Ysgrifennydd yn gynharach heddiw. Yr oeddwn yn disgwyl iddo gyflwyno dadl ar ailystyried y ffigurau er mwyn sicrhau na fyddent yn codi’n uwch na’r £26 miliwn, neu bron i £36 miliwn, a gyraeddasom ar gyfer yr adeilad newydd. Ymddengys yn glir, fodd bynnag, bod y Prif Ysgrifennydd yn bwriadu symud adeilad y Cynulliad i Barc Cathays o Fae Caerdydd. Dywedodd ei fod yn dymuno ystyried y ffigurau a darllen drwyddynt yn drwyadl. A yw’n dweud na fu ystyriaeth ddigonol pan bleidleisiodd ar y cynnig ar 26 Ionawr, y tynnais sylw ato’n gynharach, i gymeradwyo adeilad newydd y Cynulliad ar y maes parcio ar y tir a brynwyd am £1 ac nad yw’n ddigon mawr yn hollol i adeilad newydd y Cynulliad?
Ni wadai neb fod ein cyfleusterau yma’n rhagorol. Gweithiodd gweision sifil, swyddogion a chyn Ysgrifenyddion Gwladol Cymru’n galed i sicrhau bod y cyfleusterau rhagorol hyn gennym. Dywedir mai gennym ni y mae’r adeilad senedd neu gynulliad mwyaf datblygedig yn y byd o ran technoleg gwybodaeth a chyfathrebu. Mae croeso inni ddefnyddio’r cyfleusterau hynny a gwneud hynny er y budd mwyaf i’r hyn y ceisiwn ei wneud neu ei gyflawni.
At hynny y mae’n dod. Ymyrrais yn ystod araith Cynog Dafis am mai gweithredoedd y Cynulliad sydd yn bwysig, nid y palas, yr adeilad, y bri ac nid yr hunanbwysigrwydd a orfodwn arnom ein hunain neu ar ein gilydd. Nid y pwysigrwydd a deimlwn yn yr adeilad lle y safwn neu yn y seddau lle yr eisteddwn ond yr hyn y ceisiwn ei gyflawni. Ers inni gael newid Prif Ysgrifennydd, ychydig y symudasom ymlaen ar Amcan 1, ac ychydig ymlaen--yn ei feddwl ef, ac ym meddwl y Blaid Lafur a’r holl bleidiau eraill--yr aethpwyd ar adeilad newydd y Cynulliad. Y cwbl a wnaethom yw symud yn ôl yn eu dadl hwy ond ymlaen yn ein dadl ni, a chroesawaf y tro pedol.
Soniwyd am y costau diddymu mewn ymyriad i’r Prif Ysgrifennydd. Ymatebodd a phwysleisiodd nad oedd contract yn ei farn ef. Synnwn pe bai’r pensaer a’r grwp y rhoddwyd iddo’r gorchwyl o ddylunio’r adeilad newydd yn teimlo’r un fath. Rhoesant lawer o arian ac o ymdrech i’r adeilad newydd. Yr wyf yn sicr y byddai sialensau oddi wrth y penseiri oherwydd y castiau rhwng un ai cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Ron Davies neu’r cyn Brif Ysgrifennydd neu’r Prif Ysgrifennydd presennol a Russell Goodway. Os nad oes rhwymedigaethau contractiol, mae’n bosibl iawn y bydd rhwymedigaethau moesol o’u safbwynt hwy ynghylch dylunio’r adeilad newydd.
David Davies: Onid yw’n wir nad oedd y penseiri hynny--gofynnwyd i ffrind Tony Blair, yr Arglwydd Rogers baratoi’r dyluniad ar gyfer yr adeilad newydd hwn--pan aethant o gwmpas y maes parcio â thâp mesur, wedi gwneud y mesuriadau’n hollol iawn a bod y dyluniad cyfan yn rhy fawr i’r lle yr oedd i fod i fynd iddo? A yw Alun Cairns yn cytuno y bydd yn anodd inni deimlo hyder yn y penseiri hynny ac yn yr adaeilad arfaethedig os nad ydynt hyd yn oed yn gallu gwneud y mesuriadau’n iawn yn y lle cyntaf?
Alun Cairns: Yr ydych yn llygad eich lle. Ymddengys yn rhesymegol mai’r peth cyntaf a wnâi rhywun sydd yn ceisio codi ty, yn yr enghraifft symlaf, neu godi adeilad cynulliad newydd, mewn enghraifft fwy cymhleth, yw mesur y tir sydd ar gael a dylunio a chynnig adeilad sydd yn gweddu i’r tir hwnnw ac y gellir ei wasgu iddo. Tynnwyd sylw at gostau. Nid oes ond un peth y gallwn fod yn sicr ohono o ran cost--fel y pwysleisiwyd yn achos cynifer o adeiladau cyhoeddus--sef na fyddant ond yn mynd i un cyfeiriad, a’u bod yn sicr o godi. Crybwyllwyd y ffigur o £10 miliwn yn gynharach gan William Graham fel cost yr adeilad a gynigiwyd ar adeg y refferendwm. Mae’r £10 miliwn hwnnw bellach wedi neidio i £26 miliwn neu’n fwy na £26 miliwn a byddwn yn synnu pe bai unrhyw newid o £30 miliwn, neu o £50 miliwn hyd yn oed.
Cyfeiriwyd at y gwariant ar ystafelloedd gan rai o’n cydweithwyr yn San Steffan. Fodd bynnag, onid datganoli yw’r hawl i benderfynu sut y gwariwn y grant bloc a roddir i Gymru mewn modd sydd o’r budd mwyaf i bobl Cymru a’n hetholwyr? Mae gwariant unrhyw lywodraeth arall yn gyfrifoldeb iddynt hwy, nid i ni, ac nid ydym am gael ein galw i gyfrif am wariant mewn unrhyw le arall.
Yn olaf, ni allaf gredu’r ddadl a gyflwynwyd gan rai Aelodau mewn dadleuon a arweiniodd at y ddadl heddiw mai tacteg sbwylio yw hon gan Blaid Geidwadol Cymru. Cynigiwn ffordd ymarferol, syml o ennill parch pobl Cymru. Mae teimlad yng ngolwg llawer--yn sicr nid yng ngolwg Plaid Geidwadol Cymru--nad yw’r Cynulliad wedi cyflawni ei addewid. Oni fyddai rhoi’r gorau i’r adeilad newydd yn rhoi £30 miliwn i’w fuddsoddi mewn addysg ac yn y gwasanaeth iechyd fel y gallem wedyn geisio ennill parch pobl Cymru?
Owen John Thomas: Gallai rhywun ofyn pwy a fydd yn goleuo’r ddadl hon, a’r penderfyniadau yn y pen draw, ynghylch lleoliad a chost adeilad y Cynulliad. Gofynnaf hynny oherwydd ymddengys i mi fod rhai y byddai unrhyw benderfyniad yn anfoddhaol ac a fyddai, mae’n siwr, yn ffocws ar gyfer beirniadaeth yn y dyfodol. Yr oedd llawer o’r cwynwyr hyn wrthi ymhell cyn i’r Prif Ysgrifennydd gyhoeddi’r bwlch hwn mewn trafodaethau sydd eisoes yn doredig ac yn gynhennus.
Mae barn gymysg hefyd ynghylch y siambr newydd arfaethedig, a ddisgrifiwyd gan un gwr ffraeth yn
'dy gwydr â pheli a fydd yn fach o’i gymharu â Thy Crycywel a Chanolfan Gelfyddydau’r Mileniwm ac a welir yn ddi-nod ochr yn ochr ag adeilad y Pierhead’.
Y farn fwy optimistaidd, fodd bynnag, yw y bydd yn gwella’r amgylchedd adeiledig ac yn cyfleu delwedd fodernaidd a bywiog o Gymru, gan fod yn rhan o ddatblygiad cyffrous sydd yn ymestyn ar hyd glannau’r brifddinas. Pa bynnag safbwynt sydd orau gan yr Aelodau, ymddengys y byddai ychwanegu siambr newydd yn sicr yn welliant ar Dy Crycywel yn sefyll ar ei ben ei hun.
Ymddengys fod y gwir ddewis i’r Cynulliad rhwng y prosiect a gynlluniwyd ym Mae Caerdydd a Neuadd y Ddinas. Ni fyddwn yn gwybod am holl fanteision ac anfanteision y dewisiadau hyn hyd nes y bydd ymchwiliad trwyadl i gostau a goblygiadau eraill y ddau leoliad wedi ei gwblhau a’i gyhoeddi. Fel brodor o Gaerdydd, yr wyf yn ymwybodol o’r gefnogaeth gyhoeddus gryf a fynegwyd o blaid Neuadd Ddinas Caerdydd. Fodd bynnag, yr wyf hefyd yn ymwybodol o’r cynnydd yn y gefnogaeth a ddaeth i’r amlwg dros y 12 mis diwethaf i wrthatyniad y siambr arfaethedig ar lan y dwr.
Yr wyf hefyd yn ymwybodol o bryder pobl busnes y bae ynghylch effaith bosibl symud y Cynulliad ar y buddsoddiad anferth ar lan y dwr. Pan osodwyd cynlluniau’r bae gyntaf nid oedd y Cynulliad yn rhan ohonynt. Mewn gwirionedd, yr oedd llawer o’r rhai a oedd yn gysylltiedig â Chorfforaeth Datblygu Bae Caerdydd yn elyniaethus hyd yn oed i’r syniad o ddatganoli. Er hynny, mae agweddau’n newid gydag amgylchiadau newydd, ac mae llawer oddi mewn i’r sector busnes yn y brifddinas bellach yn sylweddoli’r statws uwch a greir drwy bresenoldeb y Cynulliad yma.
Bu llawer o gyfrinachgarwch ac ansicrwydd ynghylch manylion y ddau leoliad. Ni fyddai dim o’i le ar oediad bach i oleuo’r Cynulliad a’r cyhoedd ar fater o bwysigrwydd parhaol fel hyn. Fodd bynnag, gallesid bod wedi osgoi oediad byr hyd yn oed pe derbynesid cais Dafydd Wigley am roi ystyriaeth lawn a phriodol, wrth sefydlu’r Cynulliad, i leoliad parhaol y Cynulliad, ynghyd â manylion y costau a goblygiadau eraill. Yn anffodus, ni dderbyniwyd cais Plaid Cymru, ond llongyfarchaf y Prif Ysgrifennydd ar gymryd y cam dewr hwn wrth benderfynu datgelu holl gostau a goblygiadau’r dewisiadau cyn mynd ymhellach. Fodd bynnag, pwysaf arno i fynnu y caiff yr wybodaeth ei chasglu’n gyflym fel yr adroddir yn ôl i’r Cynulliad pan ddychwelwn ar ôl toriad y Pasg.
5:18 p.m.
Dylid achub ar y cyfle i gyflwyno diwylliant newydd. Mae’n bryd disodli hen ymarferiadau biwrocrataidd o eiriogrwydd, dryswch ac ailadrodd a rhoi eglurder yn eu lle a--mentraf ddweud--tryloywder ar ffurf cyflwyniad cydlynol a chryno o’r ffeithiau. Dymunaf weld ateb a fydd yn rhoi i’r bobl adeilad Cynulliad y gallwn ymfalchïo ynddo ac un a fydd yn ddigon urddasol yn y dyfodol i wasanaethu hefyd fel ein senedd genedlaethol. Dylai ein hamgylchedd adeiledig adlewyrchu nid yn unig ein hanes ond hefyd ein dyheadau ar gyfer y dyfodol.
Y Prif Ysgrifennydd: Yr wyf yn ddiolchgar i Owen John Thomas am y geiriau hynny o glod i’r penderfyniad--a gymerais rai wythnosau’n ôl--i barcio’r prosiect am nifer o wythnosau er mwyn ymchwilio ac ailarchwilio’r ffigurau a’r cymariaethau. Rhoddaf sicrwydd iddo mai am y cyfnod byrraf posibl y bydd hynny. Hyderaf y byddaf yn dychwelyd â set lawn o ffigurau ychydig ar ôl toriad y Pasg.
Ceisiaf ymdrin â rhai o’r pwyntiau a wnaethpwyd yn ystod y ddadl. Dywed Glyn Davies nad yw’r ffigurau newydd a gyflenwyd y bore yma yn rhai newydd. Fodd bynnag, y cyngor a gefais yw eu bod yn rhai newydd. Os dymuna ysgrifennu ataf i nodi pa bryd y’u derbyniodd gyntaf--os oedd hynny cyn heddiw--bydd o ddiddordeb imi gael gwybod. Fe’m sicrhawyd eu bod yn ddeunydd newydd ac ni wnaeth neb arall yr un pwynt. Ymddangosai fod Lorraine Barrett yn cadarnhau eu bod yn newydd. Ymddiddora gymaint â neb yn y prosiect hwn.
Cynog mentioned the distance of two miles. He thought that I was making too much fuss about the distance of two miles between this building and Cathays Park, the permanent site of the civil service, and the distance considered normal in London between Parliament, the Palace of Westminster and buildings such as the Treasury. There is an important principle about the difference between half a mile and two miles, which is the difference between walking distance or waco-- as they say in his native county--and the distance that you could not walk.
Cynog Dafis: Cerdded yw’r gair a ddefnyddir gennym. Mae 'waco’ yn golygu rhywbeth arall. Yr ydym yn mynd am 'wac’ yn y car.
Y Prif Ysgrifennydd: Mae’n ddrwg gennyf. Nid wyf yn arbenigwr ar dafodiaith Ceredigion. Credaf fod Cynog yn derbyn yr egwyddor fod gwahaniaeth rhwng y pellter a ystyrir yn naturiol i gerdded, a dwy filltir, a ystyrir yn rhy bell i’w cherdded. Ni fyddai neb yn cerdded rhwng Ty Crycywel â Pharc Cathays. Yr wyf wedi camddehongli’r hyn a ddywedodd Cynog ar ddiwedd ei araith. Credais ei fod yn sôn am y posibilrwydd o’r gwasanaeth sifil i gyd yn symud i’r bae. Fodd bynnag, yr hyn sydd yn bwysig ynglyn â’r ddadl hon yw beth yr ydym yn mynd i’w wneud ynglyn â’r pellter hwn â’r aneffeithlonrwydd bod y gwasanaeth sifil ddwy filltir i ffwrdd o’r bae lle mae democratiaeth â’i chanolfan.
Brian Hancock: Yr ydym yn sôn am ddwy filltir. Mae’n iawn i blant ysgol gerdded dwy filltir pan ydynt yn wyth oed.
Y Prif Ysgrifennydd: Ni wadaf hynny. Fodd bynnag, y mater yw pa faint o amser a gollir pan yw gweision sifil yn mynd pellter o’r fath os yw rhywun yn credu o ddifrif y bydd gweision sifil yn cerdded yn ôl ac ymlaen rhwng y lle hwn a Pharc Cathays. Derbyniaf ei bwynt am blant ysgol. Fodd bynnag, mae’n bwynt sydd yn ymwneud â phlant ysgol yn hytrach na gweision sifil. Nid yw’n newid natur y broblem pellter, y byddem yn ei gosod mewn carreg cyn gynted ag yr ymrwymwn i’r adeilad newydd. Nid oes neb yn awgrymu o ddifrif y dylem symud y gwasanaeth sifil i’r bae. Bydd y gwasanaeth sifil yn aros bob amser ym Mharc Cathays.
Rhaid inni ofyn i ni’n hunain sut y daeth y prosiect hwn i fod wrth ofyn am adeilad newydd. Ar y pryd gosodwyd y paramedrau ar gyfer 280 o bobl a 72,000 troedfedd sgwâr. Cynyddodd hynny bellach i 517 o bobl, gyda rhagolygon y bydd 746 o bobl yn gweithio yn yr adeilad hwn. Felly, mae angen pâr o adeiladau o 160,000 troedfedd sgwâr yn lle’r 72,000 troedfedd sgwâr a bennwyd yn wreiddiol. Mae’r ateb yn un syml hyd y gwn i. Mae o ganlyniad i’r galw a bennir gan y pellter o ddwy filltir. Trosglwyddir mwy a mwy o weision sifil i weithio yn Nhy Crycywel i gynnal gweithgareddau’r Cynulliad. Gofynnaf imi fy hun ar ba adeg y byddwn yn gwybod ein bod wedi cyrraedd sefydlogrwydd fel y gwyddom faint yr adeilad y mae ei angen. Ni fyddai hynny o ganlyniad i gynnydd yn nifer Aelodau’r Cynulliad neu staff ategol, ond am na allwn byth ddweud ein bod wedi cyrraedd cyfnod pan ydym yn rhoi’r gorau i symud gweision sifil o Barc Cathays i’r bae. Fe’u symudir i’r bae i fod yn agos i leoliad y rhan ddemocrataidd o’n system. Yr ydym yn parhau i ailasesu’r ffigur hwnnw a hyd yn hyn nid ydym wedi cyrraedd sefydlogrwydd, a dyna’r rheswm pam y mae’r ffigur am nifer y deiliaid yn yr adeilad wedi codi o 280 i 746. Yr wyf am edrych yn fanylach ar hynny dros yr wythnosau nesaf.
William Graham: Ni ddymunaf eich cyhuddo o grwydro oddi ar y pwynt, ond mae gwefan Partneriaeth Richard Rogers y cyfeiriais ati’n gynharach, yn cyfeirio at arwynebedd o 3,000 medr sgwâr i’r adeilad newydd.
Y Prif Ysgrifennydd: Mae’n ddrwg gennyf?
William Graham: Ymddengys eich bod yn dweud llawer iawn wrthym am faint yr adeiladau hyn a’r hyn a wariwyd eisoes. Derbyniwn hynny. Gofynnwn ichi beidio â chlustnodi mwy o arian ar gyfer yr adeilad newydd.
Y Prif Ysgrifennydd: Mae’r ffigurau’n adio’n berffaith. Y rhain yw’r union ffigurau y cyfeiriais atynt. Pan wnaethpwyd y penderfyniad i ymleoli yn yr adeilad hwn dros dro ac wedyn yn barhaol ar safle 1C gan ddefnyddio’r adeilad hwn fel un wrth gefn, yr oedd hynny ar y sail y byddai cyfanswm y lle a ddefnyddir--fel y deallaf hynny--yn 72,000 troedfedd sgwâr, y byddai 30,000 troedfedd sgwâr ohono--sydd yn 3,000 medr sgwâr--yn yr adeilad newydd. Cynyddodd hynny i gynnwys defnyddio’r cwbl o Dy Crycywel, sydd yn 125,000 troedfedd sgwâr, ynghyd â 30,000 troedfedd sgwâr yn yr adeilad newydd. Mae hynny’n gyfanswm o 155,000 troedfedd sgwâr, sydd dros ddwywaith y fanyleb wreiddiol. Dylem ystyried sut y mae’r fanyleb wedi dyblu a sut y mae niferoedd tybiedig y staff ategol, ynghyd â ni’n hunain, wedi codi o 280 i 517 i 746. Ai dyna ei diwedd hi? A allwn roi diwedd ar yr ansefydlogrwydd hwn rhwng niferoedd y gweision sifil y tybir bod eu hangen ym Mharc Cathays a’r rhai y tybir bod eu hangen i fod yn agos i’r lle y mae ein gweithgareddau democrataidd yn digwydd yma yn y bae?
Mae Anabledd Cymru, fel y deallaf oddi wrth Edwina, yn ymgynghori er mwyn rhoi barn bendant a therfynol i ni ar agweddau sydd yn ymwneud â mynediad i rai ag anableddau yn yr adeilad newydd. Mae Alun Cairns wedi rhoi ei arbenigedd arferol inni ar bwnc hunanbwysigrwydd y prynhawn yma. Mae wedi methu’r pwynt yn llwyr. Nid wyf yn sicr beth y mae’n ceisio ei ddweud. Credaf ei fod yn ceisio dweud y byddaf, gan fy mod wedi mynd hanner y ffordd drwy ei dro pedol tybiedig, yn gorfod mynd weddill y ffordd drwyddo’n awtomatig. Dyna’r broblem ag agwedd y Ceidwadwyr at y mater hwn. Dywedais nad wyf yn barod i wario neu awdurdodi £1 miliwn pellach i symud ymlaen. Dymunaf archwilio rhai o’r ffigurau ynghylch y gost amcangyfrifedig a’r agweddau ar aneffeithlonrwydd sydd heb eu costio, rhwng cartrefu’r gwasanaeth sifil ym Mharc Cathays a’i gartrefu gennym ni yn y bae. Soniais am yr agweddau ar ymgripiad prosiect o ran niferoedd nad oeddwn yn ymwybodol ohono hyd bythefnos yn ôl. Rhoesoch ar ddeall eich bod yn ymwybodol ohonynt, ond nid oeddwn i. Y rheini yw’r agweddau y bydd angen imi eu hailarchwilio yn ystod toriad y Pasg. Yng ngoleuni hynny i gyd, argymhellwn y dylid gwrthwynebu gwelliant 1 Glyn Davies, am ei fod yn gyfan gwbl y tu allan i ysbryd fy nghyhoeddiad bythefnos yn ôl. Byddwn yn cefnogi’r gwelliannau eraill. Credaf fod Cynog yn derbyn bod ei welliant ef yn ddiffygiol, ond byddwn yn ceisio cyd-fynd â’r ysbryd o ddod yn ôl i ystyried y ffigurau llawn ar ôl toriad y Pasg. Gobeithiaf y gallwn bleidleisio’n unol â hynny.
5:28 p.m.
Gwelliant 1: O blaid 7, Ymatal 2, Yn erbyn 39.
| Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid: | Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn: |
|---|---|
Bourne, Nick The following members abstained: Davies, Jocelyn |
Barrett, Lorraine Bates, Mick Black, Peter Chapman, Christine Dafis, Cynog Davies, Andrew Davies, Janet Davies, Ron Edwards, Richard Essex, Sue German, Michael Gibbons, Brian Griffiths, John Gwyther, Christine Halford, Alison Hancock, Brian Hart, Edwina Humphreys, Christine Jones, Ann Jones, Carwyn Jones, Elin Jones, Gareth Jones, Helen Mary Law, Peter Lewis, Huw Lloyd, David Marek, John Middlehurst, Tom Morgan, Rhodri Neagle, Lynne Pugh, Alun Randerson, Jenny Ryder, Janet Sinclair, Karen Thomas, Gwenda Thomas, Owen John Wigley, Dafydd Williams, Kirsty Williams, Phil |
Gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 2: O blaid 42, Ymatal 7, Yn erbyn 0
| The following Members voted for: | The following Members abstained: |
|---|---|
| Barrett, Lorraine Bates, Mick Black, Peter Chapman, Christine Dafis, Cynog Davies, Andrew Davies, Geraint Davies, Janet Davies, Jocelyn Davies, Ron Edwards, Richard Essex, Sue German, Michael Gibbons, Brian Griffiths, John Gwyther, Christine Halford, Alison Hancock, Brian Hart, Edwina Humphreys, Christine Jones, Ann Jones, Carwyn Jones, Elin Jones, Gareth Jones, Helen Mary Law, Peter Lewis, Huw Lloyd, David Marek, John Middlehurst, Tom Morgan, Rhodri Neagle, Lynne Pugh, Alun Randerson, Jenny Ryder, Janet Sinclair, Karen Thomas, Gwenda Thomas, Owen John Thomas, Rhodri Glyn Wigley, Dafydd Williams, Kirsty Williams, Phil |
Bourne, Nick Cairns, Alun Davies, Glyn Graham, William Melding, David Morgan, Jonathan Rogers, Peter |
Derbyniwyd y gwelliant.
Gwelliant 3: O blaid 39, Ymatal 7, Yn erbyn 0.
| The following Members voted for: | The following Members abstained: |
|---|---|
| Barrett, Lorraine Bates, Mick Black, Peter Chapman, Christine Dafis, Cynog Davies, Andrew Davies, Geraint Davies, Janet Davies, Jocelyn Davies, Ron Edwards, Richard German, Michael Gibbons, Brian Griffiths, John Gwyther, Christine Halford, Alison Hancock, Brian Hart, Edwina Humphreys, Christine Jones, Ann Jones, Carwyn Jones, Elin Jones, Gareth Jones, Helen Mary Law, Peter Lewis, Huw Lloyd, David Marek, John Neagle, Lynne Pugh, Alun Randerson, Jenny Ryder, Janet Sinclair, Karen Thomas, Gwenda Thomas, Owen John Thomas, Rhodri Glyn Wigley, Dafydd Williams, Kirsty Williams, Phil |
Bourne, Nick Cairns, Alun Davies, Glyn Graham, William Melding, David Morgan, Jonathan Rogers, Peter |
Derbyniwyd y gwelliant.
Amendment 4: For 42, Abstain 7, Against 0.
| The following Members voted for: | The following Members abstained: |
|---|---|
| Barrett, Lorraine Bates, Mick Black, Peter Chapman, Christine Dafis, Cynog Davies, Andrew Davies, Geraint Davies, Janet Davies, Jocelyn Davies, Ron Edwards, Richard Essex, Sue German, Michael Gibbons, Brian Griffiths, John Gwyther, Christine Halford, Alison Hancock, Brian Hart, Edwina Humphreys, Christine Jones, Ann Jones, Carwyn Jones, Elin Jones, Gareth Jones, Helen Mary Law, Peter Lewis, Huw Lloyd, David Marek, John Middlehurst, Tom Morgan, Rhodri Neagle, Lynne Pugh, Alun Randerson, Jenny Ryder, Janet Sinclair, Karen Thomas, Gwenda Thomas, Owen John Thomas, Rhodri Glyn Wigley, Dafydd Williams, Kirsty Williams, Phil |
Bourne, Nick Cairns, Alun Davies, Glyn Graham, William Melding, David Morgan, Jonathan Rogers, Peter |
Derbyniwyd y gwelliant.
Tynnwyd gwelliant 5 yn ôl.
Gwelliant 6: O blaid 42, Ymatal 7, Yn erbyn 0.
| The following Members voted for: | The following Members abstained: |
|---|---|
| Barrett, Lorraine Bates, Mick Black, Peter Chapman, Christine Dafis, Cynog Davies, Andrew Davies, Geraint Davies, Janet Davies, Jocelyn Davies, Ron Edwards, Richard Essex, Sue German, Michael Gibbons, Brian Griffiths, John Gwyther, Christine Halford, Alison Hancock, Brian Hart, Edwina Humphreys, Christine Jones, Ann Jones, Carwyn Jones, Elin Jones, Gareth Jones, Helen Mary Law, Peter Lewis, Huw Lloyd, David Marek, John Middlehurst, Tom Morgan, Rhodri Neagle, Lynne Pugh, Alun Randerson, Jenny Ryder, Janet Sinclair, Karen Thomas, Gwenda Thomas, Owen John Thomas, Rhodri Glyn Wigley, Dafydd Williams, Kirsty Williams, Phil |
Bourne, Nick Cairns, Alun Davies, Glyn Graham, William Melding, David Morgan, Jonathan Rogers, Peter |
Derbyniwyd y gwelliant.
Amendment 7: For 42, Abstain 6, Against 0.
| The following Members voted for: | The following Members abstained: |
|---|---|
| Barrett, Lorraine Bates, Mick Black, Peter Chapman, Christine Dafis, Cynog Davies, Andrew Davies, Geraint Davies, Janet Davies, Jocelyn Davies, Ron Edwards, Richard Essex, Sue German, Michael Gibbons, Brian Griffiths, John Gwyther, Christine Halford, Alison Hancock, Brian Hart, Edwina Humphreys, Christine Jones, Ann Jones, Carwyn Jones, Elin Jones, Gareth Jones, Helen Mary Law, Peter Lewis, Huw Lloyd, David Marek, John Middlehurst, Tom Morgan, Rhodri Neagle, Lynne Pugh, Alun Randerson, Jenny Ryder, Janet Sinclair, Karen Thomas, Gwenda Thomas, Owen John Thomas, Rhodri Glyn Wigley, Dafydd Williams, Kirsty Williams, Phil |
Bourne, Nick Davies, Glyn Graham, William Melding, David Morgan, Jonathan Rogers, Peter |
Derbyniwyd y gwelliant.
Y cynnig wedi’i ddiwygio:
bod y Cynulliad
1. yn nodi menter y Prif Ysgrifennydd i adolygu’r costau a’r opsiynau ar gyfer adeilad newydd y Cynulliad;
2. yn nodi bod yr adolygiad yn debygol o beri i’r amserlen y cytunwyd arni newid;
3. yn penderfynu cwblhau’r adolygiad o fewn tri mis;
4. yn mynnu bod darganfyddiadau’r adolygiad, a chynigion ar gyfer gweithredu yn y dyfodol, yn dod yn ôl at y Cynulliad er mwyn iddo wneud penderfyniad, ac y dylai’r wybodaeth allweddol sydd yn sail iddynt fod ar gael yn gyhoeddus; a
5. yn penderfynu bod y broses adolygu ei hun yn cael ei chynnal yn y dull mwyaf agored a thryloyw posibl.
Cynnig wedi’i ddiwygio: O blaid 40, Ymatal 0, Yn erbyn 7.
| The following Members voted for: | The following Members voted against: |
|---|---|
| Barrett, Lorraine Bates, Mick Black, Peter Chapman, Christine Dafis, Cynog Davies, Andrew Davies, Geraint Davies, Janet Davies, Jocelyn Davies, Ron Edwards, Richard Essex, Sue German, Michael Gibbons, Brian Griffiths, John Gwyther, Christine Halford, Alison Hancock, Brian Hart, Edwina Humphreys, Christine Jones, Ann Jones, Carwyn Jones, Elin Jones, Gareth Jones, Helen Mary Law, Peter Lewis, Huw Lloyd, David Marek, John Middlehurst, Tom Morgan, Rhodri Neagle, Lynne Pugh, Alun Randerson, Jenny Sinclair, Karen Thomas, Gwenda Thomas, Rhodri Glyn Wigley, Dafydd Williams, Kirsty Williams, Phil |
Bourne, Nick Cairns, Alun Davies, Glyn Graham, William Melding, David Morgan, Jonathan Rogers, Peter |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Y Llywydd: Diolch i’r Aelodau am eu hamynedd yn ystod y drafodaeth. Dyna ddiwedd trafodaethau heddiw.
Daeth y cyfarfod i ben am 5.31 p.m.