Y Prif Ysgrifennydd: Yn dilyn cyfarfod grwp llywio polisi adeilad newydd y Cynulliad y bore yma, rhoddaf ddatganiad, gyda’ch caniatâd, Lywydd, i rannu gyda’r Cynulliad fy mhenderfyniad i ohirio prosiect yr adeilad newydd ar hyn o bryd. Yr oedd y grwp llywio polisi i fod i dderbyn dyluniad amlinellol yr adeilad newydd yng nghyfarfod y bore yma ac eitem arall ar yr agenda oedd cytuno y dylai gwaith ar y cam nesaf, sef dylunio’r cynllun, fynd rhagddo’n syth. Byddai hyn yn cynnwys ymrwymiad i wario’r £1 miliwn nesaf o gyfanswm y gost amcangyfrifedig o oddeutu £22.8 miliwn, sef y ffigur heb y 15 y cant wrth gefn.
Dim ond ers ychydig dros fis yr wyf wedi bod yn swydd y Prif Ysgrifennydd ac yr wyf newydd gael y ffigurau ynghylch prosiect yr adeilad newydd, er imi ofyn amdanynt yn fy wythnos gyntaf fel Prif Ysgrifennydd. Yr oeddwn yn awyddus y bore yma i osgoi unrhyw ymrwymiad a fyddai o bosibl wedi gallu datblygu’n wariant ofer yn nes ymlaen. Byddai hwn wedi bod yn benderfyniad mawr, a fyddai’n ymrwymo’r Cynulliad i wario £1 miliwn na fyddai modd ei gael yn ôl. Ar ôl trafodaeth gyda’m cyd-aelodau ar y grwp polisi, teimlwm mai doeth fyddai oedi am gyfnod i roi mwy o amser imi ddod i ddeall y costau a’r goblygiadau eraill yn well.
Efallai bod Aelodau’n ymwybodol bod y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn cynnal astudiaeth i drefniadau adeilad y Cynulliad, ar hyn o bryd, gan gynnwys asesu’r gwaith arfarnu economaidd a wnaethpwyd ar gyfer y prif ddewisiadau. Caiff manylion ei chylch gorchwyl eu cynnwys ar y rhyngrwyd. Mae Pwyllgor Archwilio’r Cynulliad i fod i ystyried ei adroddiad ar 15 Mehefin eleni a chredaf y byddai’n ddoeth disgwyl am ganlyniadau’r ystyriaethau hynny cyn ymrwymo i wario ychwaneg. Bydd Edwina a’i staff hefyd yn gweithio ar yr un cymariaethau cost ag y mae’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn eu hystyried.
Yr wyf yn ymwybodol y bydd yr oedi hwn yn siomi nifer o Aelodau’r Cynulliad sydd am inni symud i Siambr fwy a pharhaol cyn gynted â phosibl. Nid wyf wedi penderfynu oedi’r prosiect hwn heb ddwys ystyried. Yr ydym i gyd yn ymwybodol o annigonolrwydd y Siambr hon ac, i ryw raddau, yr adeilad hwn drwyddo draw. Yr wyf yn ymwybodol o’r annigonolrwydd fy hun, gan mai prin y gallwn glywed cwestiwn Cynog yn gynharach heddiw. Yr wyf hefyd yn ymwybodol o broblemau un neu ddau o Aelodau sydd yn eistedd y tu ôl i bileri. Nid yw hyn yn dderbyniol. Yn amlwg, mae hwn yn fater sydd o gryn ddiddordeb i’r cyhoedd ac mae’n hanfodol ein bod yn ei gael yn iawn. Fodd bynnag, nid yw cyhoeddiad heddiw’n effeithio o gwbl ar y cynnig i sefydlu’r ganolfan addysg ac ymwelwyr yn adeilad Pierhead.
Alun Michael: Croesawaf eiriau Rhodri ynghylch mynediad i’r cyhoedd i hen adeilad Pierhead, oherwydd bydd troi hwnnw’n adeilad a fydd yn dod â phobl ifanc i gysylltiad â’r Cynulliad a rhoi cyfle iddynt ddod i ddeall y Cynulliad ac agweddau ehangach democratiaeth yn gam pwysig ymlaen. Yr wyf hefyd yn gwerthfawrogi’r angen i asesu maes polisi mawr o’r math hwn. Yn wir, dyma oedd un o’r pethau cyntaf yr oedd yn rhaid imi ei wneud pan oeddwn yn Ysgrifennydd Gwladol cyn cadarnhau’r caniatâd ar gyfer yr adeilad newydd, a sefydlwyd yn wreiddiol gan Ron Davies yn dilyn y gystadleuaeth dylunio. Anogaf Rhodri i wneud ei benderfyniad mor fuan ag sydd yn bosibl gyda golwg ar bwysigrwydd yr adeilad newydd fel prosiect blaengar sydd yn gosod delwedd i Gymru ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Dyma sut y’i gwelir yma yng Nghymru a thu hwnt ac o ran hyder economaidd Caerdydd a Chymru. Bydd Rhodri’n ymwybodol bod pobl yn ceisio tanseilio’r hyder hwnnw ac yr wyf wedi ymdrechu’n galed i ddiogelu’r ffordd yr ydych chi a minnau wedi ceisio hyrwyddo datblygiad economaidd de Caerdydd. Gellid camddehongli oedi yn y prosiect hwn fel y cam cyntaf tuag at roi diwedd arno, gan danseilio’r hyder yn agwedd y Cynulliad tuag at y dyfodol ac ailddatblygiad economaidd yr ardal hon, sydd mor bwysig i ail ddatblygiad economaidd a llwyddiant Cymru gyfan.
Y Prif Ysgrifennydd: Rhaid i’r cyhoedd dderbyn adeilad newydd fel mater o anghenraid yn hytrach na mater o hyder. Ni allwn ddarbwyllo’r cyhoedd fod rhaid i’r adeilad fynd rhagddo oherwydd y bydd yn ychwanegu hyder un ai yn ailddatblygiad de Caerdydd, Caerdydd neu Gymru gyfan. Rhaid ei dderbyn ar y sail ei fod yn gwbl angenrheidiol i sicrhau ein bod yn gallu cynnal ein materion democrataidd yn briodol. Mae pobl yn derbyn yr angen am adeilad newydd os, er enghraifft, caiff unigolion eu cuddio y tu ôl i bileri fel y mae Helen Mary Jones a Huw Lewis yn aml iawn, os yw’r acwsteg yn wallus ac os yw’r cyfleusterau ar gyfer mynediad i’r anabl yn annigonol. Mae’n llawer anoddach darbwyllo’r cyhoedd i groesawu’r adeilad newydd am y bydd yn rhywbeth blaengar.
Yr wyf yn gwerthfawrogi pwyntiau eraill Alun Michael a derbyniaf fod manteision ac anfanteision i’r hyn yr wyf wedi ei ddweud heddiw, ac yr wyf hefyd yn gwerthfawrogi y bydd nifer o bobl yn siomedig. Nid yw hyn yn golygu gadael na dileu’r prosiect ac nid yw’n gam cyntaf tuag at roi’r gorau i’r prosiect ychwaith. Yr wyf yn gohirio’r prosiect nes byddaf wedi cael cyfle pellach i astudio’r ffigurau a dderbyniais ar y penwythnos ar ôl imi ofyn amdanynt yn ystod fy wythnos gyntaf fel Prif Ysgrifennydd.
Ron Davies: Ategaf rai o sylwadau Alun Michael. Gobeithiaf y bydd Rhodri yn ein sicrhau na fydd yn tynnu’n ôl o gwbl o’r egwyddor bod rhaid inni gael adeilad sydd yn briodol i’w ddiben ac sydd yn bodloni anghenion y cyhoedd a’r bobl sydd yn gweithio yn y Cynulliad. Dylem lynu wrth yr egwyddor bwysig honno. Deallaf ei angen i fodloni ei hun o ran cost-effeithiolrwydd y cynigion presennol, ond yr wyf yn siomedig â’i benderfyniad i ddiwallu’r angen hwnnw drwy foratoriwm. Yr wyf yn pryderu y ceir oedi am nifer o fisoedd ac yn y pen draw y byddwn yn cael prosiect a fydd, mwy na thebyg, yn costio mwy nag y byddai wedi ei wneud yn flaenorol, ac y daw i’r casgliad mai’r cynigion presennol yw’r rhai gorau sydd ar gael yn y safle gorau posibl. Byddwn wedi colli nifer o fisoedd, a thrwy wneud hynny byddwn wedi ailgynnau’r hyn a allai fod yn bwnc llosg gwleidyddol niweidiol. Mae hwnnw’n fater sydd yn achosi pryder.
O ran cynnwys y datganiad, dywedodd Rhodri mai dim ond ailystyried cost-effeithiolrwydd y cynigion presennol ydoedd, ond ar newyddion un o’r gloch--a gresynaf bod y rhan fwyaf ohonom a wrandawodd ar y newyddion wedi clywed y cynigion hyn drwy swyddfa’r wasg ac nid yn ei ddatganiad y prynhawn yma--yr oedd y datganiad a roddwyd yn awgrymu y byddai’r dewisiadau a ystyriwyd yn flaenorol, ond a wrthodwyd, yn cael eu hystyried eto. A wnaiff Rhodri egluro a yw’n ailarchwilio cost-effeithiolrwydd y cynigion a ddewiswyd neu’n ailystyried y cynlluniau hynny a arfarnwyd yn y gorffennol ac y barnwyd eu bod yn ddiffygiol neu a yw’n mynd i chwilio am safleoedd newydd? A ydym yn trafod archwilio’r cynigion presennol neu a gaiff y gêm ei hailagor?
Y Prif Ysgrifennydd: Mae un yn dilyn y llall. Bydd Ron Davies yn ymwybodol mai cylch gorchwyl adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yw edrych ar gymariaethau cost y cynnig hwn ac eraill yn ardal Caerdydd. Dyna yw cylch gorchwyl adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol. Dyma fydd y cylch gorchwyl ar gyfer y gwaith pellach y bydd Edwina a’i swyddogion yn ei gyflawni. Yr hyn sydd yn fwyaf tebyg o ddigwydd yw ailddechrau’r prosiect ond ni allaf ymrwymo i hynny nac i unrhyw weithredu arall heddiw. Mae’n anffodus bod amseru’r grwp llywio polisi wedi golygu y gofynnwyd imi ymrwymo i roi £1 miliwn pellach y bore yma, ar ôl derbyn y ffigurau y gofynnais amdanynt yn fuan ar ôl cael fy mhenodi yn Brif Ysgrifennydd. Nid oeddwn yn teimlo fy mod mewn sefyllfa i ymrwymo i roi £1 miliwn pellach. Pe byddwn wedi gwneud hynny a phe byddai unrhyw ffigurau a dderbyniais dros y penwythnos wedi dangos bod y cymariaethau cost yn golygu bod gofyn ailarfarnu prosiect yr adeilad newydd, byddai’r gwariant ofer wedi dyblu o £1 miliwn i £2 miliwn oherwydd nad oeddwn wedi gwneud y cyhoeddiad yr wyf wedi ei wneud yn awr.
Dafydd Wigley: Yr wyf yn sylweddoli ac yn derbyn bod angen i Brif Ysgrifennydd sydd yn dod i’w swydd am y tro cyntaf edrych yn ofalus ar brosiect fel hwn. Deallaf pam fod angen i Rhodri ailystyried y mater hwn. Pwysaf arno i sicrhau na fydd hon yn saga a fydd yn llusgo ymlaen fis ar ôl mis, yn ailadrodd yr hyn a welsom gyda’r ty opera flwyddyn neu ddwy yn ôl. Byddai hynny’n annerbyniol. Awgrymaf mai’r hyn sydd ei angen yw edrychiad sydyn i gymharu costau’r dewisiadau ymarferol sydd ar y bwrdd, a dim mwy na hynny. Awgrymaf ei fod yn cael gair gyda Syr John Bourn i weld a all ei dîm wneud hynny’n sydyn er mwyn darganfod pa gynllun sydd yn cynnig y gwerth gorau am arian, gan dderbyn nad yw’r neuadd hon fel y mae yn dderbyniol. Mae angen sicrhau mewn unrhyw astudiaeth o’r fath fod anghenion y staff yn cael eu hystyried yn ogystal ag anghenion yr Aelodau a’r cyhoedd.
Y Prif Ysgrifennydd: Derbyniaf bob gair y mae Dafydd wedi ei ddweud. Derbyniaf fod cyfleusterau staff yr un mor bwysig â’n cyfleusterau ni fel Ysgrifenyddion y Cabinet neu Aelodau o’r Cynulliad. Y peth pwysig yw ein bod yn cymryd mantais o’r bwlch sydd gennym tra byddwn yn aros am yr astudiaeth gan swyddfa Syr John Bourn. Yr wyf yn hapus i ofyn i Edwina a’i swyddogion gysylltu â swyddogion Syr John Bourn yn y Swyddfa Archwilio Genedlaethol er mwyn gofyn iddynt gyflymu eu gwaith, tra bo Edwina a’i staff yn cyflymu eu gwaith hwy yn adran ariannol y Cynulliad. Os daw cyfle i ddweud rhagor cyn bo hir, fe wnaf i hynny er mwyn rhannu’r datblygiadau diweddaraf gyda’r Cynulliad.
Nick Bourne: Croesawaf y penderfyniad hwn cyn belled ag y mae’n mynd. Gofynnaf gyfres o gwestiynau i’r Prif Ysgrifennydd. Mae’r cyntaf yn ymwneud â phenderfyniad pwy yn union yw hwn gan ei bod yn amlwg nad oedd Rhodri wedi ymgynghori â’i gydweithwyr yn y Cabinet, ag aelodau ei grwp ei hun nac Aelodau’r Cynulliad. Croesawn y penderfyniad ond mae’n bwysig gwybod pwy y mae’n rhaid inni ddylanwadu arnynt i fynd â’r penderfyniad hwn gam ymhellach. Mae’r datganiad polisi yn dweud wrthym y gwnaethpwyd y penderfyniad i roi mwy o amser i’r Prif Ysgrifennydd ddod i ddeall yr holl gostau a goblygiadau yn well. A yw hyn yn golygu y bydd yn gwneud penderfyniad pan fydd wedi eu deall? I adleisio’r hyn a ddywedodd Ron Davies, gresynaf at y ffaith bod y newyddion hyn wedi cyrraedd y wasg cyn i Aelodau’r Cynulliad gael gwybod. Mae’n debyg mai aelod o’r grwp llywio a ddatgelodd y wybodaeth ac nid oes Ceidwadwr Cymreig yn aelod o’r grwp. Croesawaf ei ymrwymiad i ryddid gwybodaeth ond dylai hynny ymestyn i ddweud wrth Aelodau’r Siambr hon am wybodaeth o’r fath yn gyntaf.
Teimlwn fod y penderfyniad hwn heddiw yn cyfiawnhau ein safiad ni. Yr ydym wedi haeru ers y cychwyn cyntaf y byddai’r arian hwn yn cael ei wario’n well petai’n cael ei wario ar ysbytai, i ddelio â’r broblem asbestos yn Ysbyty’r Tywysog Siarl efallai. Byddai’n cael ei wario’n well ar ysgolion. Dim ond £8 miliwn sydd wedi ei rwymo i broblem lle mae angen £80 miliwn. Mae angen rhagor, felly peidiwch â diystyru hyn drwy ysgwyd eich pen fel pe na bai’r £30 miliwn yn bwysig. Mae’n bwysig, neu mae’n debyg na fyddech wedi gwneud y penderfyniad hwn heddiw. Oni fyddech chi’n dweud bod rhaid i’r penderfyniad hwn ddod yn ôl i’r Siambr? Ni ddylai’r penderfyniad hwn gael ei wneud gennych chi. Rhaid iddo ddod yn ôl yma. A wnewch chi ddweud wrthym a ydych yn edrych ar yr holl ddewisiadau, gan gynnwys y dewis o aros yma? Yr oedd y Blaid Lafur neu swyddfa’r wasg yn y Cynulliad wedi rhoi gwybod i bobl cyn y cyhoeddiad i’r Aelodau mai un o’r dewisiadau yr oeddech yn ei ystyried oedd aros yma gyda rhai gwelliannau i’r adeilad hwn yn sgîl hynny. Nid ydym eisiau talu £30 miliwn i symud ychydig o bileri; gellid gwneud hynny’n llawer rhatach. A yw Rhodri Morgan hefyd yn edrych ar y posibilrwydd o ddewis Neuadd y Ddinas? A wnaiff ef ddweud wrthym pa ddewisiadau sydd yn cael eu hystyried yn awr? Nid yw hynny mor glir. A all ef hefyd fod yn fanylach ynghylch pryd y bydd yn dychwelyd atom i’r Cynulliad gyda’i benderfyniad, neu ei argymhelliad os dyna fydd? Dywedodd y gallai gymryd hyd at chwe mis. Byddwn yn ddiolchgar petai’n gallu delio â rhai o’r materion hynny.
3:30 p.m.
Yn y cyfamser, clywsom Alun Michael yn dweud y bydd pobl Cymru’n croesawu’r cynllun blaengar hwn. Alun, nid wyf yn gwybod ar bwy yr ydych wedi bod yn gwrando, ond nid yr un rhai ydynt â’r bobl yr wyf fi wedi bod yn gwrando arnynt mohonynt. Po fwyaf yr ewch o Gaerdydd--ac efallai nad ydych wedi bod yn bell o Dde Caerdydd a Phenarth, lle gallai fod yn fwy poblogaidd--y mwyaf gelyniaethus y mae pobl tuag at y gwastraff arian hwn. Byddai’n well ei wario ar ysbytai, ysgolion, busnesau, ffermio ac nid yn unig yn Ne Caerdydd a Phenarth. Gallaf ddeall teimladau’r Aelod ynghylch De Caerdydd a Phenarth ond mae rhannau eraill o Gymru i’w hystyried.
Y Prif Ysgrifennydd: Yn ôl a ddeallaf mae Nick yn cael ei wahodd i gyfarfodydd grwp llywio’r prosiect ond nid yw byth yn bresennol. Nid oedd ef yno y bore yma. Petai ef wedi bod yn bresennol--
Nick Bourne: a gododd--
Y Llywydd: Ni allaf dderbyn ymyriad. Yr ydych wedi cael eich cyfle i siarad.
Y Prif Ysgrifennydd: Mae ef wedi dewis peidio â bod yn bresennol yng nghyfarfodydd y grwp llywio polisi. Petai’n bresennol, byddai’n cael cyfle i ddylanwadu ar y penderfyniadau hynny. Deallaf ei fod yn honni mewn datganiad i’r wasg, a gyhoeddodd am 10.55 a.m. y bore yma, fod y penderfyniad hwn wedi’i wneud o ganlyniad i’w ddylanwad ef. Gan nad yw’n bresennol yn y cyfarfodydd, mae hynny’n ein harwain i feddwl, cyn belled ag y mae Nick Bourne yn bod, fod ei absenoldeb o’r cyfarfodydd yn fwy dylanwadol na’i bresenoldeb. Mae’r ffaith iddo honni y gwnaethpwyd y penderfyniad hwn yn sgîl pwysau Ceidwadol yn goron ar y cwbl. Gwnaethpwyd y penderfyniad hwn oherwydd mai newydd dderbyn y ffigurau yr wyf fi, er imi ofyn amdanynt cyn imi ddod yn Brif Ysgrifennydd.
I egluro pa ddewisiadau sydd ar gael inni, mae adeiladau eraill yng Nghaerdydd, megis Neuadd y Ddinas, yn bosibiliadau ynghyd â rhoi’r gorau i’r prosiect a gwella’r adeilad hwn, ac ailddechrau’r gwaith ar yr adeilad newydd. Dyna yw’r tri dewis amlycaf. Nid wyf yn dymuno archwilio dewisiadau eraill y tu hwnt i hynny neu byddem yn dechrau ar flynyddoedd o ddadlau. Yr wyf yn bwriadu neilltuo ychydig o fisoedd ar gyfer y seibiant hwn ac ailystyried y dewisiadau hynny. Gobeithiaf fy mod wedi egluro’r sefyllfa. Yr wyf yn ymbil ar Nick, os yw am gael unrhyw ddylanwad, i ailystyried ei benderfyniad i beidio â bod yn aelod o’r grwp llywio polisi.
Michael German: Fel y gwyddoch, yr oeddwn yn bresennol yn y cyfarfod y gwahoddwyd Nick Bourne iddo a chefais gyfle i leisio fy sylwadau ger eich bron. Fodd bynnag, teimlaf ein bod yn troi’r mater hwn yn stori druenus. Deallaf fod arnoch eisiau cadarnhau’r ffigurau a gwirio’u cywirdeb. Ni fyddai un Aelod o’r Cynulliad yn eich annog i beidio â gwneud hynny. Fodd bynnag, byddai oedi annisgwyl o chwe mis yn gwneud y penderfyniad terfynol yn anoddach fyth inni. Croesawaf y ffaith y byddwch yn gofyn i Edwina gyflwyno’r adroddiad cyn hynny, nid yn unig oherwydd bod amser yn golygu arian. Mae’r cloc miliwn o bunnoedd yn tician heddiw. Wrth i amser fynd yn ei flaen, mae’r arian y gallem fod yn ei daflu i lawr draen y Cynulliad yn cynyddu. Gobeithiaf na fyddwn yn dilyn y trywydd hwnnw.
Bu hon yn stori druenus. Cawsom y sioe rhwng Ron Davies a Russell Goodway dros Neuadd y Ddinas. Os byddwch yn edrych ar y dewis hwnnw eto--ac efallai y byddai’n rhatach yn awr na’r ffigurau a welsom yn wreiddiol, a ddangosodd nad oedd--yna bydd yn rhaid ichi geisio cael bargen dda gan Goodway. Nid wyf yn gwybod a yw hyn yn bosibilrwydd. Efallai y bydd arnoch eisiau ystyried hynny. Fodd bynnag, fy mhryder pennaf yw cyflymder a symud ymlaen ar frys i archwilio’r ffigurau mewn modd trwyadl a phriodol fel nad ydym, yn y pen draw, yn cael dadleuon di-fudd a diddiwedd ar y mater. Mae pobl yn pryderu llawer mwy ar hyn o bryd am yr hyn y mae’r Cynulliad yn ei wneud dros bobl Cymru nag am y cadeiriau yr ydym yn eistedd arnynt a’r desgiau y rhown ein coesau oddi tanynt
Y Prif Ysgrifennydd: Derbyniaf hynny i gyd Mike. Gyda golwg ar Neuadd y Ddinas, dyma’r dewis mwyaf annhebygol, oherwydd y byddai’n golygu ailddechrau saga sydd eisoes â hanes hir. Fodd bynnag, byddai’n ffôl peidio â’i ystyried yn ystod y misoedd nesaf. Cytunaf â phob dim arall a ddywedodd Mike German. Yr oeddwn yn falch o gael ei gyfraniad i gyfarfod y grwp llywio polisi y bore yma. Yr oedd yn adeiladol, fel yr oedd cyfraniad Dafydd Wigley. Pe gallai Nick Bourne berswadio’i hun i fod yn bresennol, a bod arweinwyr y pedair plaid yn bresennol, yr wyf yn siwr y byddai hynny’n arwain at Gynulliad mwy cynhwysol ac at well penderfyniad. Y mae arnaf eisiau rhannu’r penderfyniad hwnnw gyda’r Cynulliad a’r Llywydd, sydd yn bresennol yn y cyfarfodydd. Ymatebais i’r cais am gael datganiad ar fyrder i rannu’r datblygiad hwn gyda’r Cynulliad ar y diwrnod y’i gwnaethpwyd.
Rod Richards: Yr wyf yn fwy na pharod i gynnig fy ngwasanaeth i’r grwp llywio fel arweinydd y Ceidwadwyr annibynnol. Pan glywais gyntaf am ddatganiad arfaethedig y Prif Ysgrifennydd, fy ymateb cyntaf oedd diolch byth fod morglawdd Bae Caerdydd wedi ei gwblhau er fy mod yn siwr y byddai llawer o’r Aelodau am gael sicrwydd na fydd y Prif Ysgrifennydd yn ei ddatgymalu. Mae cyflymdra yn holl bwysig, fel y dywedodd sawl Aelod. Pam na wnaiff benderfyniad cyflym a rhoi i bobl Cymru yr hyn y maent am ei gael? Nid ydynt am gael adeilad newydd yn y bae nac am gael Neuadd y Ddinas, Caerdydd, sef yr opsiwn gorau o’r ddau. Maent am inni aros lle’r ydym a neilltuo’r arian i ysbyty plant newydd.
Yn olaf, a all y Prif Ysgrifennydd--sydd yn ôl pob tebyg yn anghyfarwydd â’r ffeithiau, gan iddo fod yn y Cabinet am ymron i flwyddyn ac nad yw’n gwybod y ffigurau--ddweud wrthym pa un o’i ddau ragflaenydd, Alun Michael ynteu Ron Davies, sydd ar fai?
Y Prif Ysgrifennydd: Nes imi ddod yn Brif Ysgrifennydd, nid oeddwn yn aelod o’r grwp llywio polisi. Mae Rod Richards yn anghofio hynny. Mae hwn yn un o’r penderfyniadau anghyffredin hynny sydd yn cynnwys y ddeddfwrfa i gyd, nid dim ond y weinyddiaeth. Mae’n fater y deliwyd ag ef gan arweinwyr y pedair plaid a’r Llywydd, neu yn hytrach gan arweinwyr tair plaid ar ôl i Nick ddewis ymadael â’r grwp llywio polisi. Nid yw’r Cabinet wedi ymdrin â’r mater hwn yn y ffordd arferol. Deliwyd ag ef gan arweinwyr y pleidiau a’r Llywydd oherwydd nid mater i’r weinyddiaeth yn unig mohono. Rhaid ei rannu gyda phob un o 60 Aelod y Cynulliad ac yr wyf yn ceisio gwneud hynny heddiw. Nid oes unrhyw fai ar fy nau ragflaenydd. Mae’n benderfyniad o fath arbennig. Nid yw’r math o adeilad ar gyfer Cynulliad cyfan yn benderfyniad gweinyddol arferol. Dyna pam yr wyf wedi ei ystyried o’r newydd er 17 Chwefror.
Jocelyn Davies: Gall y rhan fwyaf ohonom gofio’r ddadl am fwrw ymlaen â’r adeilad newydd neu beidio. Penderfynodd mwyafrif yr Aelodau yn y Siambr hon ei gefnogi. Yr ydych yn awr wedi atal y penderfyniad hwnnw. A allaf gymryd yn ganiataol, felly, y byddwch yn dod yn ôl i’r Cynulliad hwn i wneud y penderfyniad terfynol?
Y Prif Ysgrifennydd: Rhoddaf fy addewid bersonol ichi.
Lorraine Barrett: Yr wyf yn bryderus am y penderfyniad a wnaethoch heddiw. Mae’r Cynulliad wedi cadarnhau’r penderfyniad i fwrw ymlaen ddwywaith. Credaf fod y Swyddfa Archwilio Genedlaethol wedi edrych ar hyn o’r blaen. Cefais alwadau ffôn oddi wrth Fforwm Busnes Bae Caerdydd y bore yma yn gofyn imi fynegi eu pryderon am y newyddion yma. Maent yn poeni y bydd yr oedi yn niweidio’r hyder mewn cwmnïau sydd yn buddsoddi yng Nghaerdydd yn barod ac yn anfon y neges anghywir i’r cwmnïau sydd yn ystyried gwneud hynny. Bydd gohirio contractau adeiladu yn costio arian. A ydych wedi asesu faint? Os awn i Neuadd y Ddinas--gwn ichi ddweud y byddai’n rhaid edrych ar hynny--byddai’n rhaid codi bloc swyddfeydd newydd. Yr ydym wedi arfer â 60 o swyddfeydd modern, gyda chyfleusterau da. Er cymaint o feddwl sydd gan bawb ohonom o Neuadd y Ddinas, ni allai fod yn adeilad newydd i’r Cynulliad yn y ffordd yr ydym wedi ymgyfarwyddo â hi. Mae’n gamgymeriad ac yr wyf yn siomedig. Gofynnaf ichi symud cyn gyflymed ag y gallwch oherwydd mae hyn yn niweidiol a bydd yn troi’n ffars.
Y Prif Ysgrifennydd: Deallaf bryderon Lorraine fel yr Aelod dros Dde Caerdydd a Phenarth. Pe bawn wedi cyhoeddi fod y prosiect wedi’i ganslo, gallwn ddeall rhai o’i phryderon eraill. Nid wyf wedi cyhoeddi ei fod i’w ganslo. Cyhoeddais fy mod yn atal y cynllun am gynifer o fisoedd ag sydd yn ofynnol i benderfynu a ddylid bwrw ymlaen. Tybiaf fod Lorraine yn cytuno bod yn rhaid inni gael hyn yn iawn. Pan ddeuthum yn Brif Ysgrifennydd, gofynnais am weld rhai ffigurau. Fe’u derbyniais y penwythnos diwethaf. Yr oedd y cyfarfod lle byddai’n rhaid rhwymo £1 miliwn arall ar gyfer dylunio rhan nesaf y cynllun y bore yma. Ni theimlwn yn barod i wneud y penderfyniad hwnnw a gwario £1 miliwn ar ddylunio’r cynllun. Byddai hynny wedi arwain at ddylunio manwl ym mis Awst eleni, gyda’r contract i’w osod yn derfynol ym mis Hydref eleni. Bob tro yr ydych yn rhwymo £1 miliwn arall, ac yna’n newid eich meddwl am y cynllun, yr ydych yn dyblu swm y gwariant ofer y rhwymir y Cynulliad iddo. Nid oedd yr amseru’n iawn. Derbyniais y ffigurau dros y penwythnos a byddwn wedi gorfod rhwymo £1 miliwn arall o wariant yng ngrwp llywio’r prosiect heddiw. Mae’n anodd.
3:40 p.m.
Derbyniaf yr hyn y mae Lorraine yn ei ddweud am y gymhariaeth rhwng Neuadd y Ddinas a’r fan hon. Anfantais yr adeilad hwn yw’r Siambr. Mae pawb ohonom yn derbyn fod y Siambr yn annigonol. Mae’r acwsteg yn wael a’r pileri’n rhwystr mawr rhag i bob Aelod gymryd rhan yn llawn. Yn aml, ni allaf glywed cyfraniadau o’r pen pellaf gan bobl fel Gareth Jones, Cynog, Janet ac eraill. Pan ofynnant gwestiynau, caf anhawster i glywed yr hyn a ddywedant. Hefyd, mae Helen Mary y tu ôl i biler. Nid yw’n iawn nac yn deg i’r Aelodau. Efallai fod rhai Aelodau am fod y tu ôl i bileri ond yr wyf yn sicr nad yw hynny’n wir am Helen Mary. Mae problemau yma.
Mantais yr adeilad hwn yw’r swyddfeydd modern ar gyfer y staff, nad ydynt ar gael yn Neuadd y Ddinas. Efallai fod y Siambr yn Neuadd y Ddinas yn well, ac mae’n hanesyddol. Fodd bynnag, efallai y byddai Siambr newydd yn well. Dyna pam y crybwyllais ynghynt mai hwn yw’r opsiwn lleiaf tebygol.
Glyn Davies: Yn gyntaf, croesawaf y penderfyniad a wnaethpwyd heddiw, ar amodau. Yr wyf wedi dadlau’n gyson a thros amser yn y Siambr hon na ddylem fwrw ymlaen ag adeilad newydd y Cynulliad, wedi ei gynllunio gan Bartneriaeth Richard Rogers. Cam cyntaf tuag at hynny yw’r atal hwn. Cefais fy sarhau gan Aelodau o’r Cynulliad o bleidiau eraill ond mae’r penderfyniad heddiw yn cyfiawnhau fy safiad i ar y mater hwn ar hyd yr amser. Nid oes dim i’w ennill o fynd dros yr un hen dir heddiw. Fodd bynnag, bydd y petruster sydd wedi ei ddangos gan y Llywodraeth hon a’r Prif Ysgrifennydd ynglyn â’r prosiect hwn yn creu darlun negyddol o’r Cynulliad yng ngolwg pobl Cymru. Mae gennym lawer iawn o waith i’w wneud i wneud iawn am y difrod a achosir gan y penderfyniad hwn.
Ar y dechrau, barn y Ceidwadwyr Cymreig oedd mai Neuadd y Ddinas, Caerdydd, oedd yr opsiwn gorau i’r Cynulliad newydd, gan fod iddi’r statws a’r hanes a fyddai wedi helpu i sefydlu’r Cynulliad. Yr ydym wedi poeni ar hyd yr adeg fod y ffigurau a gyflwynwyd yn gyhoeddus ar ôl y penderfyniad yn dangos y duedd arferol i’w hôl-ffitio er mwyn cyfiawnhau’r penderfyniad gwreiddiol. Nid yw’r sefyllfa heddiw’n glir oherwydd yr ydym eisoes wedi ymrwymo i swm o rhwng £8 miliwn a £10 miliwn am yr adeilad yr ydym ynddo ar hyn o bryd.
Fy ngreddf yw parhau yn ein hadeilad presennol, gan dderbyn annigonolrwydd y Siambr hon, nes bydd y Cynulliad wedi llwyddo yng ngolwg pobl Cymru a nes byddwn yn haeddu gwell cyfleusterau. Etholwyd ni i wasanaethu pobl Cymru. Nid yw’r penderfyniad i godi adeilad newydd i’r Cynulliad yn gwneud hynny. Ym marn y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad hwn, yr oedd y penderfyniad yn gwasanaethu’r Cynulliad yn hytrach na phobl Cymru. Mae’r penderfyniad heddiw yn un synhwyrol.
Yr wyf wedi hen dderbyn bod hwn yn fater anodd a dadleuol. Yr wyf wedi dweud yn y Siambr hon fy mod yn parchu barn y rheini sydd yn credu’n ddiffuant bod angen inni godi adeilad newydd o fri. Fodd bynnag, ni chytunasom erioed â’r farn honno ac nid ydym yn cytuno â hi yn awr. Croesawaf y penderfyniad hwn fel cam cyntaf tuag at roi’r gorau i’r prosiect.
Y Prif Ysgrifennydd: Yr wyf am ateb ymdriniaeth faith Glyn. Nid wyf yn siwr a yw’n dweud ei fod yn benderfyniad da neu ddrwg. Dywedodd ei fod yn benderfyniad da ond dywedodd hefyd y byddai’n arwain at gyhuddiadau o anwadalu. Mae’n rhewi’r mater am gynifer o fisoedd ag sydd yn ofynnol i ddod i benderfyniad terfynol, pan fydd pawb, gan fy nghynnwys i, yn deall yr holl ffeithiau a’r ffigurau yn glir. Byddaf yn eu rhannu wedyn gyda’r Cynulliad, fel yr addewais i Jocelyn yn gynharach. Mae Glyn Davies yn meddwl y bydd y mater yn symud i un cyfeiriad o’r fan honno. Fodd bynnag, amser yn unig a ddengys. Gobeithiaf na fydd yn hir cyn inni wneud penderfyniad terfynol. Wedyn, gobeithiaf y gallaf ei dywys ef gyda mi pa benderfyniad bynnag a gyhoeddaf a hynny, gobeithio, gyda chydweithrediad arweinwyr y tair plaid arall hefyd.
Mae’r pwynt am anwadalu yn ddiddorol. Cododd Dafydd saga’r ty opera. Cafwyd ffrae anferthol ac ergyd i hyder pobl mewn prosiectau adeiladu mawr yn y sector cyhoeddus yng Nghaerdydd. Fodd bynnag, hyd y gwn, mae’r arian ar gyfer y ty opera ar ei newydd wedd wedi ei gadarnhau bellach a bydd y gwaith o’i godi yn dechrau’n fuan. Weithiau, mae rhoi’r gorau i brosiect cychwynnol a’i ddisodli ag ail gynnig yn gweithio. Efallai y ceir blwyddyn neu ddwy o oedi--efallai y bydd yn cychwyn yn 2000 yn lle agor yn 2000--ond nid yw hynny o reidrwydd yn ddrwg os ceir y penderfyniad iawn yn y diwedd, gyda’r prosiect neu’r adeilad iawn yn y lle iawn. Dyna’r cyfan yr wyf fi’n ei obeithio a ddaw o’r cyhoeddiad heddiw.
Jane Davidson: Yr wyf am sôn am agwedd nas crybwyllwyd gan yr Aelodau eraill. Croesawaf y cyhoeddiad ar ddiwedd eich araith am barhau â’r prosiect ar gyfer mynediad i’r cyhoedd, canolfan ymwelwyr a chanolfan adnoddau dysgu--nad oes enw iddi eto--yn Adeilad Pierhead. Nid wyf fel arfer yn siarad ar sail fy rôl yn Swyddfa’r Llywydd, ond un o agweddau pwysicaf y rôl honno yw gwybodaeth gyhoeddus. Hynny yw, ein perthynas â’r cyhoedd a’r ffordd yr ydym yn derbyn sylwadau ganddynt am y math o wasanaethau a gynigir gan y Cynulliad. Mae mwyafrif yr Aelodau, os nad pob un, yn ymwybodol ein bod yn methu’n druenus o ran rhai materion gwasanaethu’r cyhoedd gan mai bloc swyddfeydd wedi ei addasu yw adeilad y Cynulliad.
A wnewch chi gadarnhau, wrth ichi ystyried dewisiadau a ffigurau, dros y misoedd nesaf gobeithio, y bydd mynediad i’r cyhoedd i drafodion y Cynulliad o’r pwys pennaf? Yn ystod dadleuon sydd wedi denu diddordeb mawr ymysg y cyhoedd, bu ein Horiel Gyhoeddus yn orlawn. Mae’r un peth yn wir am y Pwyllgorau. Euthum i’r Alban ddydd Llun i edrych ar ei darpariaeth, a sefyllfa debyg a geir yno. Rhaid inni sicrhau mynediad i’r cyhoedd. Rhaid iddynt fod yn yr un ystafell â’r gwleidyddion, lle gallant weld beth sydd yn digwydd. Gobeithiaf y bydd hynny yn aros ar frig yr agenda. Apeliaf hefyd am inni, wrth ystyried materion yn ymwneud â’r adeilad newydd, ystyried gofal plant.
Y Prif Ysgrifennydd: Derbyniaf y pwynt am ofal plant a mynediad i’r cyhoedd. Rhaid inni hefyd geisio annog pobl ifanc i chwarae eu rhan fel dinasyddion Cymru yn y ddemocratiaeth Gymreig newydd yr ydym yn ceisio’i chreu. Os oes rhwystr rhyngom ni a’r dinasyddion hynny am fod yr oriel gyhoeddus yn orlawn ac na allant gael mynediad i ddadl ddiddorol, efallai na fyddant am ddod yn ôl byth. Byddant yn teimlo’n wrthodedig a gall hynny fod yn llestair am oes. Fodd bynnag, os teimlant fod y drws yn agored, efallai y byddant am gyfrannu drwy fod yn bresennol yn yr oriel gyhoeddus. Mae hwnnw’n gyfle pwysig na ddylid ei byth ei wrthod i bobl. Mae’n ystyriaeth bwysig mewn unrhyw benderfyniad y gobeithiaf ei rannu gyda’r Cynulliad cyn gynted â phosibl.
Elin Jones: Yr wyf yn siomedig yn y penderfyniad hwn. Mae’n ddiddorol mai dim ond Aelodau o’r Blaid Dorïaidd Gymreig sydd wedi croesawu’r penderfyniad hyd yn hyn. Mae Ceredigion yn bell o Dde Caerdydd a Phenarth. Un o’r pethau y mae pobl Ceredigion yn fwyaf balch ohoni yw Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Abersytwyth, sydd mewn adeilad o statws cenedlaethol a rhyngwladol. Mae ein Cynulliad yn haeddu’r un math o adeilad.
Ni ddylai’r drafodaeth hon fod ar system sain neu bileri, ond ar gartref priodol i Gynulliad Cenedlaethol etholedig cyntaf Cymru. Mae’r Cynulliad wedi penderfynu mai adeilad Richard Rogers ddylai hwnnw fod.
3:50 p.m.
Y Prif Ysgrifennydd: Mae Elin yn iawn fod y Cynulliad wedi penderfynu ar 26 Ionawr i fwrw ymlaen â’r prosiect. Nid wyf wedi dileu’r prosiect heddiw, felly efallai ei bod hi’n camddehongli neu yn derbyn dehongliad Aelodau’r Blaid Geidwadol, er ei bod hi’n bychanu eu cyfraniadau i’r ddadl.
Yr hyn sydd yn bwysig yw ein bod yn derbyn ein bod eisiau cartref teilwng a pharhaol sydd yn weddus o’n democratiaeth newydd. Er mwyn gwneud hynny, yr wyf eisiau sicrhau bod yr holl ffigurau yn gywir a bod y cymariaethau a wnaethpwyd rhwng gwahanol ddewisiadau yn gymwys, ac y gallwn felly fod yn sicr y gwneir y dewis iawn.
Ynghylch y Llyfrgell Genedlaethol, bwriadaf fod yno ar 8 Ebrill i dderbyn Llythyr Pennal, a ysgrifennwyd gan Owain Glyndwr at frenin Ffrainc ac sydd yn dychwelyd ar fenthyciad o chwe mis i Gymru. Bydd Elin yn siwr o fod yno hefyd ac yn dathlu gyda mi ein bod wedi gallu benthyg y llythyr hwn o archif genedlaethol Ffrainc--dros dro o leiaf--dros yr haf.
Jenny Randerson: Teimladau cymysg sydd gennyf am y cyhoeddiad heddiw. Hoffwn ei gwneud yn glir fod fy ngwybodaeth am y broses hon yn mynd yn ôl ymhellach na’ch gwybodaeth chi, Brif Ysgrifennydd ac ymhellach nag un Alun Michael, i’r adeg pan oedd Ron Davies yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac yn negodi gyda Chyngor Dinas a Sir Caerdydd. Fel arweinydd yr wrthblaid, cytunais--am unwaith ac yn anarferol--gydag arweinydd y cyngor ar ein dull gweithredu wrth hybu’r defnydd o Neuadd y Ddinas yn gryf. Dechreuaf o’r safiad i mi fod yn awyddus iawn i’r Cynulliad fod yn Neuadd y Ddinas. Nid ydym, fodd bynnag, yn dechrau o’r fan honno, ac mae hynny’n fy mhoeni.
Croesawaf ran o’ch cyhoeddiad yn gryf iawn. Dylai dadansoddiad diduedd, niwtral a diymwad o’r ffigurau dawelu llawer o hen ofnau. Ni all pobl ddadlau wedyn nad yw’r costau’n deg ac nad ydynt wedi eu seilio ar dir gwastad ac yn y blaen. Fy mhryder yw y bydd hyn yn siwr o ailgynnau hen ddadleuon a thrafodaethau--mewn llawer ffordd, dyna yw ei ddiben. Byddwn yn ddiolchgar pe baech yn egluro union baramedrau’r ymchwiliad hwn--sonioch am hynny’n fyr, ond hoffwn ichi fanylu.
Yn gyntaf, a fydd yn cynnwys yr hen ddadl pa un ai yng Nghaerdydd y dylid lleoli’r Cynulliad, neu a yw’n cymryd yn ganiataol y bydd yng Nghaerdydd ac nid yn unrhyw le arall yng Nghymru?
Yn ail, a fydd yn ystyried--mae hyn yn hanfodol--fod yr adeilad hwn yn llawn eisoes? Clustfeiniais i glywed mewn Pwyllgor a gynhaliwyd mewn ystafell gynadledda y bore yma oherwydd nad oedd ystafelloedd eraill ar gael. Nid siarad am annigonolrwydd y Siambr hon yn unig yr ydym, ond am broblem maint a nifer yr ystafelloedd Pwyllgor. Fel pob sefydliad, yr ydym yn siwr o dyfu. Clywaf fod lle’r Cabinet yn orlawn--gwelaf Peter Law yn nodio. Rhaid inni felly ystyried datblygiadau i’r dyfodol.
Yn olaf, pwysleisiaf bwysigrwydd cynnal yr ymchwiliad hwn yn gyflym oherwydd bydd yn benderfyniad anodd. Cewch eich damnio y naill ffordd a’r llall, ac ni allwch blesio pawb, ond mae’n bwysig ein bod yn dod i benderfyniad buan.
Y Prif Ysgrifennydd: Mae Jenny Randerson wedi codi nifer o bwyntiau pwysig ynglyn â’r rhagamcanion gofod angenrheidiol a roddwyd wrth lunio’r cymariaethau gwreiddiol. Credaf mai’r hyn a ddywedwyd oedd y byddai ar y Cynulliad angen 72,000 troedfedd sgwâr o ofod. Mae 125,000 troedfedd sgwâr o ofod yng Nhy Crucywel. Efallai ei bod yn iawn fod hynny’n annigonol. Os felly, sut yn y byd y cyrhaeddwyd y ffigur gwreiddiol o 72,000 troedfedd sgwâr? Dyna rai o’r pwyntiau i’w hystyried. Mae’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol wedi ymdrin â phum pwynt a gall Edwina Hart a’i swyddogion ymdrin â rhai o’r pwyntiau a godwyd heddiw, yng ngoleuni sylwadau o bob tu o’r Siambr, cyn imi ddod yn ôl at y Cynulliad i symud ymlaen i’r cam nesaf. Gwerthfawrogaf bwynt Jenny fod angen symud yn gyflym, oherwydd mae pawb ohonom yn sylweddoli bod y Siambr hon yn annigonol ac nad yw’n ymarferol at ddibenion democrataidd a mynediad i’r cyhoedd.
Alun Pugh: Nid wyf yn poeni am bileri. Mae’n fonws na allaf weld y Torïaid pan ddechreuant siarad am yr ysbyty plant i goffáu John Redwood. Nid wyf yn poeni’n ormodol am dymheru’r aer a’r tymereddau. Mae llawer o ffatrïoedd a swyddfeydd poeth ledled Cymru yn ystod ei hafau byr. Yr wyf yn poeni am y mynediad anfoddhaol i’r cyhoedd i Bwyllgorau, nid dim ond i’r Cyfarfodydd Llawn, fel y nododd Jane. Ni allai lawer o bobl a oedd â diddordeb yn natblygiadau polisi’r Grwp Gweithredu Addysg a Hyfforddiant fynd i’r gwrandawiadau. Hoffwn gael sicrwydd mai mynediad i’r cyhoedd i’r Cyfarfodydd Llawn a’r Pwyllgorau fydd yr ystyriaeth bennaf.
Y Prif Ysgrifennydd: Nid wyf yn dweud mai hynny fydd yr ystyriaeth bennaf, ond bydd yn ystyriaeth o bwys, ynghyd â’r cymariaethau cost, digonolrwydd y Siambr drafod a sawl ffactor arall.
Rhodri Glyn Thomas: Yr wyf wedi fy siomi a’m synnu gan y datganiad hwn. Ategaf yr hyn a ddywedodd sawl Aelod. Yr oeddwn yn tybio ein bod wedi trafod y mater hwn a’n bod wedi cyrraedd penderfyniad. Mae cwestiynau sylfaenol i’w holi ynglyn â threfniadaeth y Cynulliad os oes rhaid inni gael oediad swyddogol bob tro y mae’r Prif Ysgrifennydd yn cael traed oer ynglyn â gwario arian cyhoeddus. Rhaid inni hefyd ailystyried y mater o ailagor y math hwn o drafodaeth negyddol a di-fudd. Cynhaliwyd y drafodaeth a gwnaethpwyd y penderfyniad yn y gorffennol. Mae gan y Cynulliad waith sydd angen ei wneud. Clywsom ynghynt yn yr wythnos ein bod yn methu delio â deddfwriaeth yn ddigon cyflym, ac eto yr ydym yn treulio awr yn aildrafod y mater hwn heddiw.
Rhoddwyd yr argraff gan Rhodri fod yr oedi yn mynd i arbed arian. Onid gwir yw dweud mai costio rhagor o arian a wnaiff hynny? A all Rhodri ddweud wrthym beth fydd cost yr oedi, neu a wnaeth y penderfyniad heb ystyried hynny? A oes ganddo unrhyw opsiwn arall? Byddai penderfynu peidio â pharhau â’r cynllun hwn yn creu cost sylweddol wrth dorri cytundeb â’r cynllunwyr a’r adeiladwyr. Yr hyn y mae’n ei wneud mewn gwirionedd yw peidio â phenderfynu. Gofynasoch yn gynharach, Rhodri, ai penderfyniad da neu ddrwg yw hwn. Mae’n enghraifft glasurol o fethu â phenderfynu.
Y Prif Ysgrifennydd: Nid wyf innau ychwaith yn awyddus i ailddechrau cyfnod o gecru mewnol yn y Cynulliad, yng Nghymru, rhwng y pleidiau na rhwng pobl sydd â barn wahanol ar leoliad y Cynulliad. Nid dyna’r bwriad. Dim ond dros y penwythnos y derbyniais ffigurau’r adeilad newydd. Gofynnais amdanynt yn ystod fy niwrnodau cyntaf fel Prif Ysgrifennydd. Wedi imi ystyried y ffigurau hynny, bu’n rhaid imi wneud penderfyniad i wario neu roi awdurdod i wario £1 miliwn ar y cyfnod a elwir yn ddylunio cynllun. Nid oeddwn yn barod i wneud hynny, gan nad oeddwn wedi ystyried y ffigurau’n ddigonol. Dyna yw pwrpas yr oedi.
Os yw Rhodri Glyn Thomas yn ceisio dweud fy mod wedi cael traed oer yn wythnosol wrth wneud penderfyniadau eraill ac wedi methu â gwneud unrhyw benderfyniad o fewn yr amser angenrheidiol, dylai roi enghreifftiau o hynny. Nid wyf yn sicr beth y mae’n sôn amdano. Byddai gennyf ddiddordeb clywed am unrhyw engrheifftiau eraill sydd ganddo. Efallai y daw i ddeall erbyn yr haf fy mod yn hoff o wneud penderfyniadau yn hytrach nag oedi. Mae’n anghywir a dylai dderbyn fy rhesymau dros oedi am ychydig fisoedd, cyn imi ddychwelyd a rhannu gyda’r Cynulliad yr hyn a ystyriaf fel y ffordd orau ymlaen.
4:00 p.m.
Alison Halford: Canmolaf y Prif Ysgrifennydd am wrthod rhuthro i wneud penderfyniad pwysig a chostus. Nid methu â phenderfynu yw disgwyl er mwyn penderfynu ar y ffordd orau ymlaen. Yn Delyn, byddwn yn talu llawer o arian i gadw ansawdd y dwr ym Mae Caerdydd yn bur, sydd yn ased arall i Dde Caerdydd a Phenarth. Bydd y bobl a gynrychiolaf am longyfarch y Prif Ysgrifennydd am ystyried anghenion y Cynulliad eto a pheidio â gwastraffu arian prin trethdalwyr yn ddianghenraid. Cytunaf fod angen adeilad arnom a’i bod yn iawn a phriodol y dylai fod i’r Llywodraeth ganolfan addas. Nid yw disgwyl i sicrhau bod anghenion y Cynulliad yn hysbys cyn inni wario llawer o arian yn broblem. Nid petrusgar mohonoch, Rhodri. Yr ydych yn Brif Ysgrifennydd dewr, doeth a phwyllog. Llongyfarchiadau.
Y Prif Ysgrifennydd: Nid wyf yn siwr a ddylwn alw pleidlais ar hynny. Cytunaf nad disgwyl er mwyn disgwyl mo hyn, ond disgwyl er mwyn ailystyried y ffigurau na dderbyniais i mohonynt ond dros y penwythnos. Yr wyf yn ddiolchgar i Alison am ei geiriau caredig.
Y Llywydd: Mae gennyf enwau 10 Aelod arall sydd am ymateb i’r datganiad hwn, sydd yn dangos y cryfder teimlad yn eu mysg. Rhaid imi dalfyrru’r ddadl hon oherwydd rhaid inni symud ymlaen at ddadleuon pwysig ar Orchmynion a rhaid imi ddiogelu’r amser ar gyfer y ddadl fer. Oherwydd y pryder ymysg yr Aelodau, pe bai Aelod yn cysylltu â mi gyda chais am ddadl frys ar y mater hwn, efallai y byddwn yn ei ystyried.