Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Adeilad Newydd y Cynulliad

Y Llywydd: Yr wyf wedi dewis gwelliant 1 yn enw Glyn Davies, gwelliant 2 yn enw Michael German a gwelliant 3 yn enw Helen Mary Jones.

Y Prif Ysgrifennydd: Cynigiaf fod y Cynulliad yn:

croesawu’r cynigion diwygiedig ar gyfer Adeilad newydd y Cynulliad a ddisgrifir yn 'New Assembly Building Project--Assembly Progress Report No 1/2000’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Ionawr 2000;

nodi’r amcangyfrif diwygiedig o gostau’r cynllun;

cytuno y dylai’r datblygiad yn awr fynd rhagddo ar y sail ddiwygiedig hon gyda’r amcan o sicrhau bod adeilad llwyr weithredol ar gael erbyn Awst 2002;

mynnu bod yn rhaid i waith pellach ar y cynllun barhau i roi sylw llawn i ofynion hygyrchedd, yr angen am gyfleusterau cyhoeddus da a bod yn rhaid ymgynghori’n llawn â chynrychiolwyr buddiannau priodol yn ystod y broses o gynllunio’n fanwl; a

galw am ddefnyddio cymaint â phosibl o ddeunyddiau Cymreig wrth adeiladu’r adeilad, yn gyson â deddfwriaeth yr UE ac ystyriaethau caffael a gwerth am arian.

Bydd y cynnig hwn yn caniatáu dechrau gwaith ar adeilad a fydd yn garreg filltir fel cartref democratiaeth yng Nghymru. Yr wyf yn hapus i gefnogi gwelliannau 2 a 3, ond nid wyf yn cefnogi gwelliant 1.

Cytunaf y dylem fod yn agored ac yn dryloyw ynghylch pob agwedd ar yr adeilad, gan gynnwys y costau. Fe sicrhawn, hyd y gallwn, bod gwybodaeth am y costau ar gael yn rhwydd. Fodd bynnag, yr wyf yn siwr y bydd Aelodau’n sylweddoli y gallai ystyriaethau cyfrinachedd masnachol weithiau gyfyngu ar lefel y manylion y gellir eu datgelu’n gyhoeddus. Mae hynny bob amser yn wir. Caiff gwybodaeth sensitif ei rhannu gydag arweinyddion y pleidiau eraill a gyda chi, Mr Llywydd, drwy’r grwp a sefydlwyd gennym i’r diben hwnnw.

Mae arnom eisiau i’r adeilad newydd fod yn batrwm yn nhermau safonau ac arfer amgylcheddol. Mae brîff y pensaer yn unol â gwelliant 3, a gyflwynir gan Helen Mary. Yr wyf yn hapus i ddelio â’r materion yng ngwelliannau 2 a 3 yn benodol drwy eu corffori yn y cynnig.

Nid yw gwelliant 1 yn enw Glyn Davies er lles gorau’r Cynulliad, er efallai ei fod yn ymateb y gallesid ei ragweld ar ran yr Aelodau Ceidwadol. Mae’r Siambr hon wedi rhoi man cychwyn da inni, ond mae iddi ei chyfyngiadau annymunol yn y tymor hir, ac nid dim ond sôn yr ydwyf am y pileri sydd weithiau’n cuddio rhai Aelodau. Ar 20 Gorffennaf, cadarnhaodd y Cynulliad y bwriad i ddatblygu adeilad Cynulliad newydd, yn dilyn cyfle i fynegi barn ar y cysyniad dylunio cychwynnol. Mynegwyd safbwyntiau clir gan Aelodau’r Cynulliad. Tanlinellodd sawl Aelod, ar draws gwahanol bleidiau, y pwyntiau pwysicaf. Ers hynny rhoddwyd sylw manwl i’r sylwadau a fynegwyd gan Aelodau’r Cynulliad. Canlyniad hynny yw’r cynigion dylunio diwygiedig a grynhoir yn y papur sydd yn cyd-fynd â’r cynnig hwn ac a ddisgrifiwyd i Aelodau mewn cyflwyniad yr wythnos diwethaf gan y pensaer a thîm y prosiect. O ganlyniad i’r trafodaethau hynny, mae’r Cynulliad wedi gwella’n hadeilad ni ein hun yn y cyfnod dylunio.

Y prif bryderon lefel uchel a fynegwyd gan Aelodau ym mis Gorffennaf oedd, yn gyntaf, nad oedd y dyluniad yn cwrdd â’n disgwyliadau o ran hygyrchedd, yn enwedig o ran mynediad i bobl ag anableddau. Yn ail, yr oedd angen gwella lefel y ddarpariaeth i aelodau’r cyhoedd allu gweld â’u llygaid eu hunain y trafodaethau yn yr ystafelloedd Pwyllgor yn ogystal ag yn y Siambr. Yn drydydd, yr oedd angen dylunio’r ystafelloedd Pwyllgor gan roi sylw i’n profiadau yn yr ystafelloedd a ddefnyddiwyd fel cyfleuster dros-dro yn yr adeilad hwn. Rhoddwyd ystyriaeth ddifrifol i’r sylwadau hyn a chynhyrchodd y pensaer atebion cadarnhaol a dychmygus i ymateb iddynt.

Yn awr mae gennym gynllun adeilad a fydd yn caniatáu mynediad i bawb, tra’n cadw nodweddion gorau’r cynllun gwreiddiol, a’i gysyniad agored a thryloyw. Gwnaethpwyd y pwynt yn y drafodaeth yr wythnos diwethaf fod grisiau’n gyfle i bobl heb anabledd gael mynediad ond y gallant fod yn rhwystr i rai ag anabledd. Yr oedd yn bwysig cymodi’r ddau begwn felly. Yn allweddol, mae man gollwng wedi’i roi bellach wrth y brif fynedfa sydd yn caniatáu mynediad i bawb ar y lefel lle bydd y cyhoedd yn defnyddio adeilad y Cynulliad. Hefyd bellach ceir rampiau heb fod yn rhy serth o lefel y dwr i fyny at y brif fynedfa, y gellir eu defnyddio yn lle’r grisiau. At hynny, bydd mynedfa drwy lifft allanol o lefel y dwr yn darparu dewis arall i unrhyw un sydd yn dymuno mynd i mewn i’r adeilad o lefel y ffordd.

Unwaith y bydd ymwelwyr y tu mewn i’r adeilad gallant fynd i’r holl brif gyfleusterau i’r cyhoedd ar un llawr. Gynt, yr oedd y rhain ar wahanol lefelau drwy’r adeilad. At ei gilydd, mae’r newidiadau hyn yn ymateb rhagorol i’r pryderon ynghylch hygyrchedd a godwyd gan Aelodau ac eraill. Mae Anabledd Cymru a Chlymblaid Pobl Anabl Caerdydd a’r Fro, y corff lleol, ill dau wedi croesawu’r camau ymlaen a gynrychiolir gan y newidiadau hyn. Yn naturiol, maent yr un mor awyddus i sicrhau bod unrhyw ddylunio manwl pellach yn caniatáu mynediad i bawb. Byddwn yn sicrhau y cânt bob cyfle i ddylanwadu ar y dyluniad manwl, ac mae’r cynnig heddiw yn rhoi’r addewid hwnnw. Byddwn yn penodi ymgynghorydd hygyrchedd i bennu targedau hygyrchedd. Gwahoddir Anabledd Cymru i gael llais yn y penodiad hwnnw, a byddwn yn adolygu gwaith y tîm cynllunio yn gyson i weld eu bod yn cyflawni’r targedau hyn.

Mae cynlluniau diwygiedig ar gyfer y siambr ddadlau yn caniatáu mynediad i 100 o aelodau’r cyhoedd a 30 o aelodau’r cyfryngau, sy’n dyblu’r ddarpariaeth bresennol. Cyflwynwyd orielau i bob un o’r tair ystafell Bwyllgor. Gellir mynd i’r rhain, ac i’r Siambr, o’r man cyhoeddus ar lefel y llawr cyntaf. Dyma gam mawr i wella a symleiddio’r rhyngwyneb rhwng y cyhoedd, y cyfryngau ac Aelodau’r Cynulliad yn ystod gwaith y Cynulliad, ac yn enwedig yn ystod gwaith Pwyllgorau. Bydd y cyhoedd a’r wasg yn gallu mynd a dod fel y mynnont, heb effeithio ar waith y Pwyllgor. Mae’r newidiadau hefyd yn gwella arwynebedd gweithio’r ystafelloedd Pwyllgor i Aelodau a rhai sydd yn cyflwyno tystiolaeth, gan greu lle gweithio mwy agored ar gyfer y gwaith. Codwyd hyn mewn trafodaeth gydag Aelodau yr wythnos diwethaf: bydd yn tynnu’r llinell rhwng aelodau’r cyhoedd sydd yn dod i weld a chlywed beth sydd yn digwydd yn y Pwyllgor ac aelodau’r cyhoedd neu gyrff cynrychioliadol a ddaw i gymryd rhan, efallai drwy roi tystiolaeth. Bydd felly’n creu amgylchedd gweithio mwy ymarferol i bawb.

Mae’r newidiadau hyn, ynghyd ag ystyriaeth fanylach i rai elfennau o’r cynllun, wedi arwain at ryw gymaint o gynnydd yn yr amcangyfrifon cost ar gyfer y cynllun. Yr wyf yn hyderus fod gennym amcangyfrifon cost llawn a chadarn erbyn hyn. Mae’r Ysgrifennydd Cyllid a minnau wedi gofyn am sicrwydd y gellir adeiladu’r cynllun o fewn yr amcangyfrifon, os na cheir unrhyw ddigwyddiadau na ragwelwyd na newidiadau dyluniad. Wedi archwilio’r amcangyfrifon cost, credaf eu bod yn cynnig gwerth da am arian ac nad ydynt yn ormodol ar gyfer adeilad cyhoeddus mawr o’r safon hwn.

Dywedwyd yn glir o’r cychwyn cyntaf nad oedd yr amcangyfrif cost o £12.5 miliwn am waith adeiladu yn cynnwys nifer o eitemau--gwaith allanol a thirlunio, gosod cyfarpar, darpariaeth ar gyfer chwyddiant a chostau newidiadau diweddar. Gwnaethpwyd hynny’n glir pan roddwyd y cyflwyniad rai misoedd yn ôl. Dywedwyd yn glir y byddai’r eitemau hyn yn mynd â’r gost dros £20 miliwn. Byddai adolygiad llawn o’r amcangyfrifon i gyd--

Dafydd Wigley: A allwch chi gadarnhau mai elfen gymharol fechan o’r cynnydd yn y gost sydd oherwydd anghenion pobl anabl a bod newidiadau eraill yn gyfrifol am ran sylweddol o’r cynnydd? Gan gymryd mai dyna yw’r sefyllfa, pam yr ydym yn wynebu cymaint o gynnydd yn y gost oherwydd eitemau nad oeddent wedi eu prisio yn llawn yn wreiddiol?

Y Prif Ysgrifennydd: Nid oes llawer o gynnydd yn y gost. Cost yr adeilad yn unig oedd y ffigur cyntaf. Dyna sydd yn arferol mewn cystadleuaeth fel hon. Nid yw’r cynllun gwreiddiol yn cynnwys llawer o’r eitemau sydd yn ychwanegu’n sylweddol at y cyfanswm terfynol. Bu hynny’n amlwg yn ystod y gystadleuaeth nes i ni dderbyn y wybodaeth oddi wrth y pensaer ychydig fisoedd yn ôl, ac nes inni dderbyn y wybodaeth bresennol.

Yr wyf wedi ymwneud â chystadlaethau dylunio unwaith neu ddwy. Mae bron yn rhan o’u natur fod y cysyniad dylunio gwreiddiol yn dynn o ran 'ôl troed’ a chost yr adeilad hanfodol, ond bod popeth arall heb ei gynnwys. Bydd canllawiau’r gystadleuaeth yn pennu a ddylai’r gost gynnwys eitemau megis gosod cyfarpar a chostau amgylcheddol ac yn y blaen. Ni chaiff y rhain eu cynnwys fel arfer. Nodwyd hynny’n glir ar ddiwedd y gystadleuaeth ddylunio, yn y brîff dylunio ac yn ein briffio ni. Pan gafodd Aelodau eu briffio’r wythnos diwethaf, gwnaethpwyd cymhariaeth fel y gallwn gymharu tebyg wrth ei debyg o’r dechrau. Mae’r wybodaeth honno ar y fewnrwyd. Mae’r newidiadau’n cynnwys ychydig o gostau uwch ar gyfer anabledd. Maent hefyd yn cynnwys y niferoedd uwch i’r oriel gyhoeddus er mwyn sicrhau mwy o fynediad i’r cyhoedd, ac yn cynnwys gwella’r rhyngwyneb rhwng y man cyhoeddus, y brif Siambr a’r ystafelloedd Pwyllgor. Mae’r dyluniad yn fwy ymarferol a thraed-ar-y-ddaear.

Mae’r newid yn ganlyniad i’r adolygiad llawn o’r holl gostau amcangyfrifedig. Yn y wybodaeth honno, a amlinellwyd i Aelodau yr wythnos diwethaf, yr oedd yr amcangyfrif o gost lawn y prosiect--yn hytrach na chost yr adeiladu sylfaenol--o safbwynt y dyluniad a archwiliwyd ac a gwestiynwyd gennym rhwng yr hydref a’r gaeaf cynnar yn £20.45 miliwn. Wrth ddarparu ar gyfer y newidiadau diweddar, codir yr amcangyfrif cost i £22.8 miliwn. Felly, y gymhariaeth uniongyrchol ar gyfer holl agweddau’r datblygiad yw £20.45 i £22.8 miliwn. Mae’r ffigurau hynny ar gael ar y fewnrwyd ers y cyflwyniad ddydd Mercher diwethaf fel y gallai Aelodau weld y dadansoddiad ac eglurhad llawn.

David Davies: Yr wyf yn ddiolchgar i’r Prif Ysgrifennydd am egluro nad £12.4 miliwn oedd y gost mewn gwirionedd a’i fod yn £20 miliwn ers y dechrau. A all gadarnhau mai’r gost darged o £22.8 miliwn yw’r gost derfynol ac nad oes unrhyw gostau cudd eraill nad ydym yn gwybod amdanynt ac nad yw’r gost am godi’n uwch eto?

Y Prif Ysgrifennydd: Yr wyf yn gobeithio hynny. Mae pawb sydd ag unrhyw brofiad o adeiladu’n gwybod mai’r arfer gyda phrosiectau o’r math yma yw cronni swm wrth gefn. Yn gyffredinol bydd cyngor proffesiynol yn nodi ffigur wrth gefn o 15 y cant. Mae arnom eisiau sicrhau rheolaeth ariannol lem dros y prosiect hwn, felly byddwn yn cymryd y cyngor proffesiynol hwnnw i ystyriaeth wrth bennu lefel y ddarpariaeth ariannol. Dim ond gyda chaniatâd penodol yr Ysgrifennydd Cyllid y gelwir ar y swm wrth gefn. Bydd y pwyllgor Aelodau a grybwyllwyd yn gynharach, yn cynrychioli’r pedair plaid a’r Llywydd, yn monitro gwariant yn erbyn costau yn ofalus drwy gydol y broses. Yn fy mhrofiad i, mae’n rhaid bod yn ofalus ynghylch costau o’r cychwyn cyntaf. Ni thâl aros tan wedyn a gwneud pethau ar y diwedd. Mae tîm y prosiect yn deall hynny.

Mae llawer o fanylion yn dal i’w datrys wrth i’r dyluniad ddatblygu, fel gydag unrhyw brosiect adeiladu mawr. Fel y dywedais, mae rhywbeth anarferol a chyffrous mewn ymwneud â phrosiect lle gallwch weld y datblygiad a chymryd rhan ynddo. Yn aml, gydag adeilad cyhoeddus mawr, nid oes neb yn gwybod unrhywbeth amdano hyd nes caiff y cynllun terfynol ei ddadorchuddio gyda ffanffer o utgyrn. Mae gennym gyfle i ddylanwadu ar y cynllun hwn a sicrhau ei fod yn iawn.

Mae’r penseiri’n frwd ynghylch materion fel cynllun y Siambr. Mae arnynt eisiau dadl ymarferol gyda’r rheini ohonom sydd yn gorfod gweithio ynddi. Yr ydym eisoes wedi dysgu gwersi yn y Siambr hon. Am Siambr dros-dro, nid yw’n ddrwg. Mae’n cyflawni’i phwrpas. Fodd bynnag, nid yw’n creu’r amgylchedd cadarnhaol a braf ar gyfer dadl, sydd yn ddymuniad gennym oll. Mae llawer o fodelau o amgylch y byd; mae profiad ar gael mewn mannau eraill. Fodd bynnag, mae gennym ni’n profiad ein hunain i’w ystyried, fel gyda’n profiad ym Mhwyllgorau’r Cynulliad, i sicrhau ein bod yn ei wneud yn iawn.

Gan roi ystyriaeth i farn Aelodau, bydd cynigion yn ystyried amrediad eang o gwestiynau perfformiad amgylcheddol--mater arall a gododd yn aml yn y trafodaethau--a’r defnydd o ddefnyddiau cynhenid. Rhaid imi ychwanegu’r amod fod yn rhaid inni fod yn gyson â deddfwriaeth brynu. Fodd bynnag, y gobaith yw defnyddio defnyddiau cynhenid yn yr adeilad. Amlinellir hynny’n glir fel dyhead i dîm y prosiect ac mae wedi’i ddatgan yn eglur yn y penderfyniad.

Cymeradwyaf y dyluniad i’r Cynulliad gyda’r amcangyfrifon cost diwygiedig hyn. Yr wyf yn hyderus fod sawl mantais arall, ar wahân i’r manteision amlwg o gael adeilad modern pwrpasol i weithio ynddo a rhoi lle i’r bobl a wasanaethwn, a fydd uwchlaw’r costau cyfalaf cychwynnol. Mae’r manteision hynny yn cynnwys y bri y bydd Cymru fel cenedl yn ei ennill o gael yr adeilad arbennig hwn i’n cynrychioli ar lwyfan y byd--ffactor Ty Opera Sydney os mynnwch. Diddorol yw clywed pobl yn siarad am adeiladau. Mae pawb yn dathlu llwyddiant Neuadd Dewi Sant. Yr oedd gennyf ran yn y penderfyniad gwreiddiol ac yr oeddwn yn aelod o’r tîm caffael yr holl ffordd drwy’r broses ddylunio, a chofiaf y gwrthwynebiad a’r grwgnach ynglyn â’r prosiect hwnnw. Erbyn hyn, mae pawb yn edrych ar yr adeilad hwnnw a’r hyn y mae’n symbol ohono gyda balchder yn hytrach nag amheuaeth.

Mantais arall yw’r neges y bydd yr adeilad newydd yn ei hanfon i’r byd diwydiant a masnach, yng Nghymru a’r tu hwnt. Y neges honno yw fod Cymru’n wlad flaengar, a chanddi weledigaeth ac awydd i gofleidio heriau’r mileniwm newydd. Dylai’r amheuwyr ystyried yr effaith gadarnhaol ar fusnesau a masnach Cymru. Mae llawer o gefnogaeth i’r prosiect hwn gan fyd busnes yng Nghymru. Bydd hefyd yn helpu’r anogaeth barhaus i gynlluniau i adfywio Caerdydd a’r cylch.

Mae’n bryd meithrin agwedd gadarnhaol at y datblygiad cyffrous hwn a dylem osod hyn uwchlaw unrhyw ystyriaethau gwleidyddiaeth bleidiol. Mae’n fater y bydd y Cynulliad a’r Cymry’n cael rhan ynddo ac yn elwa ohono. Rhaid inni gynnwys y cyhoedd a mynnu eu sylw.

Alun Cairns: Yr wyf yn falch fod y Prif Ysgrifennydd yn gweld sylwadau cadarnhaol gan y gymuned fusnes a sectorau eraill yng Nghymru. Fodd bynnag, a ydych yn derbyn fod y cyhoedd yn gyffredinol yn cymryd agwedd negyddol a drwgdybus at wario £23 miliwn ar un adeilad tra bo’n gwasanaeth iechyd mewn angen mor ddybryd am adnoddau?

Y Prif Ysgrifennydd: Gwneuthum y pwynt ychydig funudau yn ôl fod angen sicrhau’r cydbwysedd iawn rhwng buddsoddiad yn ein gwasanaethau cyhoeddus a buddsoddiad mewn pethau sydd yn gyrru economi Cymru yn ei blaen. Ni fyddai gennym brifddinas fyw yng Nghymru oni bai am y penderfyniad i adeiladu Neuadd Dewi Sant er enghraifft. Yn gysylltiedig â hynny yr oedd yr ymgais i ddenu cynadleddau a thwristiaeth i Gaerdydd. Perswadiwyd cwmni Holiday Inn o Ganada i godi’r gwesty pedair seren cyntaf yn y ddinas. Pe na baem wedi gwthio’r materion hynny yn eu blaen, ni fyddem wedi cael yr holl ddatblygiadau eraill a’u dilynodd. Ni chawsid cyfle i hyrwyddo datblygiad Bae Caerdydd. Buasai’n anodd hyrwyddo twristiaeth i Gymru gyfan ar y raddfa sydd yn uchelgais gan bawb yn y Siambr hon, mi dybiaf. Rhaid i’r cydbwysedd fod yn iawn.

Soniais am ffactor harbwr Sydney ychydig funudau yn ôl. Gwlad fechan yw Cymru ac mae’n rhaid inni ddal ein pen i fyny ar lwyfan y byd. Rhaid inni gael y Siambr hon yn iawn fel mai dyma’r lle iawn i gynnal ein democratiaeth a chynnig arweiniad i Gymru. Rhaid inni ei defnyddio hefyd fel cyfle i arwain a helpu i yrru economi Cymru yn ei blaen. Mae perthynas agos rhwng y materion hyn. Yn fy nyddiau mewn llywodraeth leol yng Nghaerdydd, cydweithiodd y Blaid Geidwadol a’r Blaid Lafur ar y prosiectau hynny. Mae’n drist fod y Blaid Geidwadol fel petai wedi symud i ffwrdd yn raddol oddi wrth yr ymgyrch honno i hybu’r economi.

Cynigiaf y dylem gynnwys y cyhoedd a dal eu sylw mewn tair ffordd benodol. Yn gyntaf, mae gwybodaeth ar gael erbyn hyn ar y rhyngrwyd a gaiff ei diweddaru’n rheolaidd. Mae hynny’n gysylltiedig â materion eraill a drafodwyd gennym--rhoi rhan i bobl ifanc drwy Llais Ifanc/Young Voice, ymgynghori â’r cyhoedd yn fwy cyffredinol fel gyda 'Gwell Cymru’, a sicrhau ein bod yn fwy hygyrch drwy ddefnyddio technoleg gwybodaeth. Yn ail, penderfynodd y pwyllgor yr wythnos diwethaf y dylai sioe deithiol gael ei chyflwyno mewn chwe lleoliad ledled Cymru i roi gwybodaeth i’r cyhoedd, gyda’r penseiri yn bresennol ym mhob un. Yn drydydd, dylid darparu’r wybodaeth ddiweddaraf un ar y datblygiad drwy’r rhyngrwyd pan fydd y gwaith wedi dechrau ar y safle fel y gall pobl gael gwybod sut y mae’r adeilad yn dod yn ei flaen.

Bu’n bwysig treulio amser yn adolygu’r cynigion i sicrhau bod y dyluniad yn cyfateb yn agos i ofynion y Cynulliad. Cyfaddefaf y bûm braidd yn ddiamynedd ar un neu ddau achlysur ynghylch yr amser yr oedd yn ei gymryd i wneud hyn yn iawn. Fodd bynnag, gan fod y cynllun wedi datblygu mor gadarnhaol, yr wyf bellach yn berffaith hyderus ein bod yn iawn i gymryd yr amser hwnnw a delio’n iawn â materion fel mynediad i bobl anabl, yn hytrach na mynd am ateb cyflym, byrhoedlog.

Yn amodol ar eich cymeradwyaeth chi heddiw, bydd y gwaith dylunio manwl ac adeiladu yn dechrau’n fuan. Disgwyliwn i waith rhagarweiniol gychwyn ar y safle ym mis Awst eleni, gyda’r prif waith adeiladu’n dechrau ym mis Tachwedd 2000. Dylai gael ei gwblhau ym mis Mai 2002, fel bod yr adeilad yn weithredol o Awst 2002 ymlaen. Gobeithiaf y gwnaiff y Cynulliad cyfan gefnogi’r cynnig, fel y gallwn gamu ymlaen i gyflwyno’r adeilad newydd gwych hwn i bobl Cymru.

Glyn Davies: Cynigiaf welliant 1. Yn y cymal cyntaf, rhodder 'nodi’r’ yn lle 'croesawu’r’. Dileer cymalau 3, 4 a 5 a rhodder yn eu lle

cytuno y dylid bellach roi’r gorau i’r datblygiad’.

Ni fydd yn syndod i chi, Llywydd, nac i unrhyw Aelod arall o’r Cynulliad, nac i’r cyhoedd yn gyffredinol, nad yw Plaid Geidwadol Cymru’n cefnogi’r adeilad Cynulliad newydd arfaethedig. Credwn y gallai’r swm mawr o arian sydd ei angen i dalu am y prosiect adeiladu hwn, sef bron i £23 miliwn ac yn dal i godi, gael ei fuddsoddi mewn ffyrdd eraill a fyddai’n rhoi mwy o fudd i bobl Cymru. Yn ystod dadleuon blaenorol ar y mater hwn, galwodd y grwp Ceidwadol Cymreig am i’r buddsoddiad gael ei wneud mewn prosiect gofal iechyd penodol. Heddiw, gofynnaf i Aelodau’r Cynulliad holi eu hunain a fyddai’n well ganddynt fuddsoddi £23 miliwn mewn adeilad newydd i’r Cynulliad neu mewn darparu gofal iechyd i bobl Cymru, boed hynny mewn prosiect penodol neu’n syml drwy helpu’n hawdurdodau iechyd i ymdopi â’r galwadau cynyddol sydd arnynt. Yr wyf yn barod i gyfaddef pan ofynnodd Nick Bourne imi a fyddwn yn arwain ar ran y grwp Ceidwadol yn y ddadl hon a phan oeddwn yn ystyried a ddylwn gyflwyno gwelliant ai peidio, y cymerais beth amser i benderfynu sut i fynd o’i chwmpas hi. Ar y naill law, mae’r mater yn syml yn yr ystyr ein bod yn gwrthwynebu, ac wastad wedi gwrthwynebu’r prosiect. Fodd bynnag, os yw’r prosiect am fynd ymlaen er gwaethaf ein gwrthwynebiad, y mae gennym syniadau am y math o adeilad y dylai fod, a chyfeiriaf at y syniadau hynny yn y man. Derbyniwn hefyd y daw amser, wrth i’r gwaith datblygu fynd rhagddo, pan fydd cost rhoi’r gorau i’r prosiect yn golygu ein bod wedi colli’r ddadl yn ddi-droi’n-ôl. Eisoes gwariwyd symiau sylweddol ac ni ellir eu hadennill. Yn realistig, y ddadl hon yw cyfle olaf y Cynulliad i roi’r gorau i’r prosiect hwn. Penderfynais ar fy ngwelliant ar ôl ystyried cryfder y gwrthwynebiad sydd yn treiddio drwy’r Blaid Geidwadol Gymreig a maint y gwrthwynebiad sydd yn bodoli ymhlith pobl Cymru.

Ni ddylid dehongli gwrthwynebiad y Blaid Geidwadol i barhau gydag adeilad newydd y Cynulliad fel agwedd negyddol tuag at y Cynulliad ei hun. Mae hynny’n bwynt pwysig. Dehongliad cywirach yw ein bod yn benderfynol o sicrhau bod y Cynulliad hwn yn llwyddo. Wrth wraidd ein safbwynt mae pryder ynghylch ei ddelwedd yn llygaid pobl Cymru. Clywais ddweud mai un o eironïau mawr datganoli i Gymru yw’r modd y mae’r Blaid Geidwadol Gymreig wedi ymrwymo i sicrhau llwyddiant y Cynulliad hwn. Weithiau, daw’r geiriau hynny o ffynhonnell annisgwyl.

Eironi arall yw pe buasai’r weinyddiaeth Lafur wedi bod yn barod i weithredu’n fwy annibynnol ar Millbank, a heb drin y Cynulliad hwn fel cangen Caerdydd o bencadlys Llafur yn Llundain, a phetai wedi canolbwyntio ar fodloni pobl Cymru fod y Cynulliad o fudd iddynt hwy, buasai llawer llai o ddrwgdeimlad tuag at brosiect adeilad newydd.

Croesawn y newidiadau yn y cynllun i ganiatáu i’r anabl fynd i mewn i’r adeilad drwy’r drws ffrynt fel pawb arall. Croesawn newidiadau yn y cynllun sydd yn hwyluso’r ffordd i’r cyfryngau a’r cyhoedd gyfranogi’n rhwydd o’n gweithgareddau, a chroesawn ymrwymiad i ganfod defnyddiau Cymreig lle bynnag y bo modd. Fodd bynnag, fel eraill, yr ydym yn bryderus iawn am y gost.

Cyfeiriodd y Papur Gwyn 'Llais dros Gymru’ at gost o £12 miliwn i £17 miliwn. Rywbryd yr haf diwethaf, tyfodd y ffigur o £17 miliwn i £20 miliwn. Mae’r amcangyfrif diweddaraf bron yn £23 miliwn. Nid wyf yn siwr beth a olygai’r Prif Ysgrifennydd pan soniodd yn ei ddatganiad am '15 y cant wrth gefn’. Rhaid inni ystyried hynny’n ddiweddarach. Ni allwn ond dyfalu beth fydd y ffigur terfynol.

Nid yw’n syndod darllen sylwadau gan Aelod o’r Cynulliad nad yw’n Geidwadwr ein bod bellach yn gorfod derbyn adeilad newydd sydd a’i gostau’n chwyddo y tu hwnt i reolaeth. Ni allwn ond dyfalu beth fyddai canlyniad pleidlais rydd. Gofynnaf un cwestiwn bach i’r Prif Ysgrifennydd ar y gost. Dywedir wrthym y bu angen ychydig o lathenni ychwanegol at safle 1E i wneud lle i’r prosiect newydd. Cafodd y safle hwnnw ei brydlesu i’r Cynulliad yn swn utgyrn mawr, am bris rhad o £1. Dywedwyd wrthym fod y llathenni ychwanegol hefyd wedi’u prydlesu am bris rhad. Felly, beth yw cost rad y llathenni ychwanegol, a pha bryd y’i cytunwyd? Ai dim ond £1 ydoedd, neu a oedd yn fwy? Byddwn yn falch petai ddim ond yn £1.

I fynd at galon fy ngwelliant. Ystyriwn rai o’r pryderon a fynegwyd gan Aelodau Cynulliad yn yr wythnosau diweddar. Yr ydym i gyd wedi pryderu am yr anawsterau sydd yn wynebu’r gwasanaeth iechyd gwladol: canslo llawdriniaethau, rhestrau aros yn codi. Yr ydym i gyd wedi pryderu am ffermwyr yn wynebu difodiant ac yn troi at hunanladdiad, ffermwyr ifanc yn enwedig. Mae miloedd o bobl oedrannus a bregus ledled Cymru yn methu gwybod sut y maent am dalu’r codiadau enfawr yn y dreth gyngor eleni. Beth mae’r Cynulliad yn ei wneud? Mae’n penderfynu gwario bron £23 miliwn ar brosiect adeilad newydd nad oes ar bron neb yng Nghymru ei eisiau. Beth dybiwch chi y bydd pobl Cymru yn ei feddwl ohonom? Beth dybiwch chi a wnaiff hyn dros sefyllfa pobl Cymru?

Nid wyf yn condemnio’r Aelodau hynny sydd yn anghytuno â mi ac sydd o blaid prosiect sydd, yn eu barn hwy, yn garreg filltir. Yr wyf yn fodlon derbyn eu bod yn gwirioneddol gredu fod ein democratiaeth newydd yn teilyngu adeilad newydd crand a bod bron £23 miliwn yn swm derbyniol o arian i’w wario ar gyfoethogi ein proses ddemocrataidd. Nid wyf yn eu condemnio hwy na’u barn, ond mae’r Blaid Geidwadol Gymreig yn anghytuno â hwy.

Michael German: Cynigiaf welliant 2. Ychwaneger ar ddiwedd y cynnig:

yn ailddatgan yr angen am fod yn agored ac yn dryloyw ynghylch cost yr adeilad newydd.

Teimlaf reidrwydd i ymateb i Glyn Davies mewn rhyw fodd, oherwydd, mewn un ystyr, pe baem yn cychwyn ar y daith hon yn awr, ni fyddem wedi dewis cychwyn o’r fan hon. Byddai llawer ohonom wedi dewis cychwyn o rywle arall a buasem wedi’n lleoli yn rhywle arall. Fodd bynnag, yma yr ydym ni a rhaid inni wynebu’r realiti mai yma y bydd yn rhaid inni aros. Mae’r costau o symud i rywle arall yn rhy uchel. Efallai yr hoffai’r Blaid Geidwadol Gymreig ddeffro i’r ffaith ein bod ym Mae Caerdydd ac na allwn symud.

Nid yw adeiladau newydd yn boblogaidd. Ni fyddai neb yn disgwyl iddynt fod. Pan fydd adeiladau newydd yn y cyfnod cynllunio maent hyd yn oed yn llai poblogaidd na thra byddant yn cael eu hadeiladu. Gofynnaf ichi i gyd feddwl yn ôl am deimlad y cyhoedd at stadiwm genedlaethol y mileniwm yng Nghaerdydd. Daeth dan feirniadaeth lem gan y cyhoedd drwy gydol y broses--peth ohoni â chyfiawnhad, mae’n siwr--ond ni welwch lawer o bobl yng Nghymru yn ei beirniadu erbyn hyn, yn enwedig gan mai dyma lle y bydd tîm Cymru’n ennill pencampwriaeth y chwe gwlad. Os oes arnom eisiau symbol i’n gwlad ac adeilad arloesol a fydd yn dweud rhywbeth am Gymru, rhaid inni ddweud rhywbeth sydd yn well na’r hyn a ddywed yr adeilad hwn. Bydd llawer o bobl yn gyrru heibio i’r adeilad heb wybod hyd yn oed ym mhle y mae. Yr wythnos hon bu raid imi roi cyfarwyddiadau i rywun a oedd eisiau gwybod a ydoedd yn agos at swyddfa cyfreithwyr Eversheds.

Rhaid imi grybwyll hefyd y pwysau ar le yn yr adeilad hwn, sydd wedi mynd yn angof gan y Blaid Geidwadol a Glyn Davies, mae’n amlwg. Ceisiodd Glyn Davies fynd i mewn i gyfarfod grwp y Democratiaid Rhyddfrydol y diwrnod o’r blaen, am y rheswm syml eu bod yn brin o le ar gyfer cyfarfod o’r grwp Ceidwadol. Mae pwysau aruthrol ar le yn yr adeilad hwn. Ni ellir cael lle i gynnal cyfarfodydd.

Gwyddom i gyd am Helen Mary a’i philer. Os oes arnoch eisiau Siambr urddasol, rhaid iddi fod yn well na hen ystafell gyfrifiaduron. Y broblem gyda’r Siambr hon yw os na sefwch yn y tu blaen, nid ydych yn annerch neb heblaw’r Llywydd. Gwn fod ganddo ef ddiddordeb mewn gwrando ar bob un gair, ond mae’r gynulleidfa yr ydych yn ei chyfarch y tu ôl i chi. Os trowch i wynebu’r gynulleidfa, ni all y system gofnodi sain godi’ch llais a chewch eich colli i’r byd ac i’r cofnod swyddogol.

Fodd bynnag, y mae problemau yng nghynllun yr adeilad newydd y mae angen eu datrys. Cyfeiriaf at ddwy ohonynt. Yr wyf yn rhannu’r pryder, a fynegwyd gan lawer, am adeiladau a waliau gwydr. Os gwelsoch gynllun Chep Lap Kok yn Hong Kong, y cynllun maes awyr mwyaf yn y byd, gwyddoch fod y waliau gwydr yn y fan honno’n dioddef. Mae Maes Awyr Luton yn dioddef yr un broblem. Mae arnaf eisiau sicrwydd absoliwt y bydd y trefniadau gwydr y bwriadwn eu gosod yn yr adeilad newydd hwn yn sylweddol ac yn gwrthsefyll perygl difrod.

Hoffwn sôn hefyd am doeau gwastad. Yr oedd gan yr hen Roegiaid ddamcaniaeth fod toeau gwastad yn gollwng ac nid ydym hyd heddiw wedi dysgu’r wers honno. Hoffwn gael sicrwydd na fydd unrhyw ddwr yn gollwng i mewn drwy’r to.

David Davies: Ynglyn â’r to gwydr, yr wyf yn dal heb gael atebion i’m cwestiynau ynghylch poblogaeth wylanod Bae Caerdydd a’r tri glanhawr ffenestri a gyflogir ddydd a nos i lanhau adeilad gwydr Gwesty a Sba Dewi Sant. Tybed a wnaiff roi sylw i’r pwnc hwnnw hefyd?

Michael German: Efallai nad ydych wedi sylwi, ond nid gwydr fydd defnydd y to. Bydd wedi’i wneud o sylwedd arall, gyda phren Cymreig yn ei gynnal, gobeithiwn. Fy mhwynt i yw ei fod yn wastad. Wrth gwrs, mae glanhau’r adeilad yn fater trafod. Yr wyf yn siwr y treulia David oriau lawer yn delio â hynny a gobeithiaf y gallwn ddod o hyd i blanhigyn mewn pot iddo i goffau’r prosiect. Dysgodd y Groegwyr y wers am doeau gwastad, ond nid ydym ni wedi’i dysgu.

Fodd bynnag, y mae a wnelo fy ngwelliant heddiw â thryloywder ariannu. Mae’n rhaid inni ddweud yr hyn yr ydym yn ei feddwl. Os yw hwn yn brosiect yr ydym yn credu ynddo, ac yr ydym yn disgwyl i bobl Cymru gredu ynddo, rhaid inni sicrhau bod ein ffigurau’n gywir. Mae arnaf ofn fod elfennau yn yr hyn sydd dan sylw gennym nad ydynt yn cyflawni hyn. Gellid maddau i lawer ohonoch am feddwl mai £12.5 miliwn oedd y ffigur ar gyfer yr adeilad newydd. Nid yw’n talu cuddio’ch ymrwymiadau gwario terfynol gan eu bod yn tueddu i’ch goddiweddyd yn y pen draw.

3:50 p.m.

Yr oedd y ffigurau a gawsom ar 19 Ionawr yn awgrymu nad £12.5 miliwn oedd y ffigur gwreiddiol mewn gwirionedd, ond ychydig dan £14 miliwn. Mae hynny ar ôl i chi gynnwys y cywiriadau i’r amcangyfrif a hepgorwyd ac a adroddwyd, mae’n debyg, ym mis Mawrth 1999. Ni fyddai hynny’n poeni dim arnaf petai’r ffigurau hynny wedi’u rhoi inni, ond tan y Nadolig diwethaf yr oeddem yn dal i ledaenu gwybodaeth yn dweud mai £12.5 miliwn oedd amcangyfrif cost yr adeilad a ninnau’n gwybod fod eitemau megis llusernau, cyflau, esgyll adeileddol a generaduron yr oedd eu cost wedi’i than-amcangyfrif neu heb ei chynnwys yn amcangyfrif gwreiddiol Partneriaeth Richard Rogers. Yr oedd y costau hynny’n hysbys ym mis Mawrth ac yn amlwg yr oeddent yn ychwanegol at y £12.5 miliwn. Dylem fod wedi cynnwys y ffigurau hynny ar hyd y ffordd yn hytrach na dal i ddyfynnu £12.5 miliwn. Dywedir wrthym yn awr y dylsai’r amcangyfrif fod yn £20.45 miliwn, o gymryd popeth i ystyriaeth. Dylsem fod wedi cael y ffigur hwnnw o’r dechrau.

Yr oedd cwestiwn Dafydd Wigley yn gynharach yn un dilys. Dywedir wrthym y bydd ychwanegiad o £1.6 miliwn at y gost. Y prif ychwanegiadau a welaf yw’r rhai i ddarparu mynediad i’r anabl. A yw’r £1.6 miliwn hwnnw o gost ychwanegol yn wir i’w briodoli i ddarparu mynediad i’r anabl? Os na, i beth arall y mae i’w briodoli? Os ydyw i’w briodoli i newidiadau yn y cynllun, a’n bod yn fodlon eu bod yn rhoi gwerth am arian, yr wyf yn siwr y byddai’r Cynulliad yn croesawu hynny.

I gloi, dywedwyd wrthym fod y ddarpariaeth ariannol yn sefyll ar ei thraed oherwydd y gellir symud y ffigurau o gwmpas. Fodd bynnag, nid yw’r ffigurau hynny yr un peth â’r ffigur pennawd yr ydym wedi’i roi i bobl Cymru, ac yr wyf yn gresynu at hynny. Rhaid inni fod yn glir ac yn onest. Yn fwy na hynny, rhaid inni fod yn onest gyda ni’n hunain. Os ydym eisiau prosiect blaengar i Gymru, rhaid inni sefyll a siarad amdano yn hytrach na chwyno am yr adeilad ac wedyn symud i mewn iddo i eistedd yn gysurus y tu ôl i blanhigion mewn potiau.

Helen Mary Jones: Cynigiaf welliant 3. Ychwaneger at ddiwedd y cynnig:

sefydlu mesurau i sicrhau bod y gwaith a gyflawnir o’r safon amgylcheddol uchaf, gan gymryd amgylchiadau lleol i ystyriaeth.

Croesawaf y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl er nad wyf yn arbenigwr pensaernïol. Dychmygaf fod fy ngrwp wedi gofyn i mi siarad am mai fi, mae’n debyg, yw’r person sydd wedi achwyn fwyaf am y Siambr bresennol. Yn sicr, mae’n dda bod yma wrth y ddarllenfa ac allan o’r tu ôl i’r piler acw. Efallai fod rhai o’m cyd-Aelodau’n teimlo imi gael bendith o fod y tu ôl iddo, gan na allaf weld neb o Aelodau’r Democratiaid Rhyddfrydol na’r Ceidwadwyr, ond y mae’n ei gwneud yn anodd cymryd rhan mewn dadl.

Aelodau Cynulliad yn codi--

Cymeraf ymyriad, ond un ar y tro. Nid fi yw’r unig un sydd yn wynebu problem â philer. Mae Huw Lewis yn cael yr un anhawster, ond nid yw wedi cwyno cymaint amdano. Efallai fod hynny am fod Huw’n unigolyn mwy goddefgar ac amyneddgar na mi neu, ar y llaw arall, efallai ei fod yn cael llai o drafferth gan ei etholwyr nag a gaf i am beidio â bod yn y Siambr, yn ôl pob tebyg, pan oeddwn yno.

Fel yr amlinellodd Mike German, mae’r Siambr hon yn achosi anawsterau difrifol yn nhermau cynnal dadl, ac yn enwedig dadl gynhwysol. Llawer mwy difrifol yw problem mynediad i’r cyhoedd i’n dadleuon yn y Siambr ac, yn arbennig, yn yr ystafelloedd Pwyllgor. Croesawn yr agweddau ar y cynllun a fydd yn delio â hynny.

Croesawn hefyd y newidiadau a wnaethpwyd i gynllun yr adeilad o safbwynt mynediad i’r anabl, er fod yn rhaid gresynu inni wneud cymaint o gawl i ddechrau. Dywedodd grwpiau’r anabl wrthym ni ac wrth y Llywodraeth eu bod yn hapus gyda’r newidiadau i’r fynedfa allanol, yn enwedig fod y grisiau monolithig hynny wedi mynd. Dylid pwysleisio pwysigrwydd symbolaidd hynny, yn ogystal â’i bwysigrwydd ymarferol, ynghyd â phwysigrwydd gosod yr holl fannau cyhoeddus ar un lefel i sicrhau mynediad rhwydd. Fodd bynnag, ar y cwestiwn hwn, yn y manylder y mae’r diafol. Gofynnaf am sicrwydd heddiw y bydd mynediad llawn i gadeiriau olwyn ar gael, er enghraifft, i fannau ar wahân i’r mannau cyhoeddus. Rhaid inni gymryd i ystyriaeth anghenion staff ac Aelodau’r dyfodol a allai fod yn anabl. Rhaid inni ystyried pobl ag anableddau ar wahân i anabledd symud. Rhaid inni ystyried pobl fyddar, pobl â nam ar y golwg ac ati.

Mae’n hanfodol ein bod yn dysgu oddi wrth y camgymeriadau a wnaethom yn barod, yn enwedig y camgymeriadau a wnaethpwyd yn y stadiwm genedlaethol. Gwnaeth grwpiau anabl argymhellion yn gynnar yn y dydd. Anwybyddwyd yr argymhellion hynny a gwnaethpwyd camgymeriadau a oedd yn gostus i’w cywiro yn ddiweddarach. Yn y cyd-destun hwnnw, croesawaf sicrwydd diamwys y Prif Ysgrifennydd yr ymgynghorir â grwpiau anabl drwy gydol y broses. Gofynnaf iddo ef a’r Cabinet ychwanegu at y sicrwydd hwnnw yr ymgynghorir nid yn unig â phobl anabl ond y gweithredir ar eu sylwadau.

A throi at welliant 3, mae’r adeilad newydd hwn yn rhoi cyfle inni osod esiampl, drwy fynnu’r safonau amgylcheddol uchaf yn nhermau defnyddiau a defnydd ynni i’r dyfodol. Mae gennyf bryderon personol yn y cyd-destun hwn ynghylch yr holl wydr a ddefnyddir. Bydd hyn yn ddisgwyliadwy i’m cyd-Aelodau, o gofio fy marn am nenfydau gwydr mewn cyd-destunau eraill. Yr wyf yn arbennig o bryderus, fodd bynnag, am y problemau hirhoedledd. Nid oes arnaf eisiau agor trafodaeth dechnegol yn y Siambr hon. Byddai hynny’n peri braw ac ofn mawr imi. Fodd bynnag, gofynnaf am sicrwydd y Llywodraeth y bydd cefnogi’n gwelliant ni yn golygu y bydd ystyriaethau amgylcheddol yn ganolog i ddatblygiad yr adeilad yn y dyfodol ac y bydd contractau’n adlewyrchu’r angen i sicrhau bod y gwydr a ddefnyddiwn yn ddiogel ac yn barhaol. Dylai contractwyr wynebu cymalau cosb os wynebwn broblemau’n ddiweddarach.

Dyma gyfle inni gydymffurfio â’n cyfrifoldebau--a nodwyd yn Neddf Llywodraeth Cymru 1998--tuag at ddatblygiad cynaliadwy. Hyderaf hefyd y cadwn yr amodau amgylcheddol lleol mewn golwg, yn enwedig mewn perthynas â chynllun allanol yr adeilad. Yr wyf yn meddwl yn arbennig am ba mor agored a gwyntog yw’r safle. Gallai hyn beri problemau i ymwelwyr oedrannus, rhai anabl a theuluoedd gyda phlant.

Mae’r cynnydd yn y gost ddisgwyliedig yn wir bryder. Fodd bynnag, mae gan y Ceidwadwyr yng Nghymru dipyn o wyneb i wrthwynebu cartref teilwng i’n Cynulliad pan fo’u cyd-Aelodau yn San Steffan wedi rhoi cefnogaeth wresog i wario £380 miliwn dros y pum mlynedd diwethaf ar uwchraddio Ty’r Cyffredin. Mae hynny’n cynnwys £25,000 ar uwchraddio’r ystafell ysmygu. Nid oes arnaf eisiau eich pardduo gyda’r hyn y mae eich cyd-Aelodau’n ei wneud y tu hwnt i Glawdd Offa, ond dylid ei ystyried yng nghyd-destun eich sylwadau--

Glyn Davies: Ni chaniateir hyn, Llywydd. Nid San Steffan yw hwn.

Helen Mary Jones: Ai ymyriad yw hyn, Glyn, ynteu ai dim ond sgwrsio yr ydych chi?

Glyn Davies: Sgwrsio ydw i.

Y Llywydd: Trefn. Er gwaethaf y ffaith fod Helen Mary Jones wedi gwahodd ymyriadau ac anerchiadau, byddwn yn ddiolchgar pe caent eu gwneud drwy’r Llywydd.

Helen Mary Jones: Diolch. Yn sicr byddai hynny’n gwneud fy mywyd i’n haws. Ceisiwn sicrwydd gan y Llywodraeth heddiw--tra’n rhoi ystyriaeth lawn i’r pwyntiau a wnaethpwyd ynglyn â chyfrinachedd masnachol--y bydd y costau a’r amserlenni disgwyliedig, pan roddir y contractau, wedi’u pennu’n fanwl. Dylai’r contractau gynnwys cymalau cosbi cryf os eir dros y costau hynny neu os caniateir i’r amserlenni lithro.

Ceisiwn sicrwydd y bydd y Cynulliad, wrth osod y contract, yn defnyddio dim ond cwmnïau sydd â pholisïau cyflogi teg ac y bydd yn ceisio, hyd y bo modd, ddefnyddio cwmnïau a fydd yn darparu cyfleoedd gwaith i bobl leol. Codaf hyn er mwyn sicrhau ein bod ni fel Cynulliad yn cwrdd â’n cyfrifoldebau cydraddoldeb statudol ac, yn fwy difrifol, am fy mod yn deall fod un cwmni y gallem fod yn trafod ag ef yn wynebu achos difrifol o wahaniaethu hiliol ar hyn o bryd. Ni fyddem eisiau bod yn gysylltiedig â chwmni o’r natur hwnnw pe ceid hwy’n euog ac ni fyddem eisiau bod yn gyfrifol am y math hwnnw o ymddygiad tuag at weithwyr cyflogedig.

Yng nghyd-destun yr uchod, gwahoddwn y Cabinet i roi sicrwydd inni--a chroesawaf yr hyn a ddywedodd Alun Michael eisoes--y bydd y Cynulliad cyfan yn cael adroddiadau rheolaidd am hynt y gwaith ar yr adeilad.

Mae Plaid Cymru yn croesawu’r adeilad newydd. Rhaid inni gael cartref ymarferol, addas ac urddasol i’n Cynulliad. Rhaid i’r cyhoedd gael mynediad llawn er mwyn gweld a chlywed y trafodaethau. Nid yw hynny ar gael ar hyn o bryd. Nid wyf innau, rhaid imi gyfaddef, eisiau treulio’r pedair blynedd nesaf yn cuddio y tu ôl i’r piler. Fodd bynnag, mae materion pwysicach na hynny. Yn bennaf oll, rhaid inni gael adeilad a all fod yn symbol o’n cenedlaetholdeb, adeilad y gall pobl Cymru ymfalchïo ynddo, yn 2002, ymhen 20 mlynedd ac ymhen 100 mlynedd.

4:00 p.m.

Nick Bourne: It was interesting to hear Mike German speak with a passion on this subject for which the Liberal Democrats are not renowned.

Rhaid inni wynebu pobl ledled Cymru. Nid y Ceidwadwyr Cymreig yn unig sydd am ystyried cost yr adeilad newydd hwn. Os dywedwn fod £20 miliwn yn iawn, bod £23 miliwn yn iawn, ym mhle y tynnwn y llinell? Ydi £30 miliwn yn iawn? Clywir sôn am y ffigur hwnnw. Pryd y dywedwn mai arian yw hwn y byddai’n well ei wario ar y gwasanaeth iechyd, ar ffermwyr, ar leihau’r codiadau treth gyngor sydd yn pwyso mor drwm ar bobl drwy Gymru benbaladr?

Nid y sefydliad sydd dan sylw yma. Peidiwn â thanbrisio’n hunain. Beirniadodd rhywun ansawdd y dadlau yma. Yr ydym wedi cael dadleuon da, a phan fu pwnc da gennym, cawsom ddadleuon eithriadol o ddifyr--mae a wnelo hynny fwy â’r testunau nag â natur y Siambr hon. Mae Pwyllgorau’n gweithio’n dda yma. Y Siambr yw’r unig ystafell yn yr adeilad hwn a gaiff ei beirniadu--a hynny gyda chryn gyfiawnhad. Fel Aelodau Cynulliad, oni ddylem fod yn trafod teilyngu Siambr newydd inni’n hunain? Gadewch inni gael ambell lwyddiant yma er mwyn pobl Cymru a dychwelyd at y penderfyniad hwn. Dim ond hyn a hyn o arian sydd gennym--bloc Barnett--i’w wario ar Gymru. Rhaid talu am yr adeilad hwn o rywle arall ac erbyn hyn mae’r gost yn uwch na’r swm a ddisgrifiwyd fel nenfwd yn 'Llais dros Gymru’.

Mae’r ffigur yn cropian tuag i fyny. Mae’n anhygoel y dywedir mai er mwyn sicrhau mynediad priodol i’r anabl y mae hyn. A yw hynny’n golygu y cynigiwyd y ffigur gwreiddiol ar y sail na fyddai mynediad priodol i’r anabl? Rhaid i bawb gael mynediad priodol ar sail gyfartal. Teimlaf yn gryf fod yn rhaid inni edrych i fyw llygaid pobl Cymru a dweud wrthynt ein bod wedi haeddu’r adeilad newydd hwn, y symbol newydd hwn i Gymru. Yn y cyfamser, gallwn weithio yma’n effeithiol ac yn effeithlon.

Yr wyf wedi ysgrifennu at Alun Michael fel Prif Ysgrifennydd am fy mod yn teimlo’n gryf ar y pwnc hwn. Nid oes a wnelo hyn unrhyw beth â’r sefydliad--yr wyf yn siwr fod pawb yma wedi ymroi i sicrhau bod hwnnw’n gweithio. Ni fyddem yn mynychu Pwyllgorau a Chyfarfodydd Llawn a gweithio fel y gwnawn pe na bai hynny’n wir. Peidiwn â chroesi cleddyfau a gwneud cyhuddiadau i’r perwyl hwnnw. Cwestiwn yw hyn ynghylch a ddylid gwario’r arian yma allan o’n hadnoddau gwerthfawr. Ni ddylem wneud hyn wrth i’r ffigur godi’n anochel uwch o hyd. Anogaf gefnogaeth i welliant 1 a bod o leiaf ohiriad o’r penderfyniad tan y gallwn fforddio’r adeilad hwn, oherwydd ni allwn ar hyn o bryd.

Tan hynny, gresynaf na fyddwn yn gallu cymryd rhan mewn trafodaethau am yr adeilad oherwydd ein bod yn teimlo’n gryf ynghylch a ddylid cael adeilad newydd ar hyn o bryd ai peidio. Nid oes a wnelo hynny ddim â’r sefydliad, sydd yma, ac wrth reswm gwnawn bopeth a allwn i sicrhau ei fod yn llwyddo. Rhan o’r broses honno yw’r ddadl hon, cwestiwn gwirioneddol ynghylch sut y dylid gwario adnoddau yn briodol.

Cynog Dafis: I am tempted to speak in English to see whether great laughter would echo through the room. I will withstand the temptation.

Mae gennyf ddau bwynt--crybwyllodd Helen Mary un ohonynt eisoes. Yn gyntaf, safonau dwbl y Torïaid ar y mater hwn. Pa gwestiynau y maent hwy wedi eu gofyn ar wariant ar Balas Westminster? Os ydynt am brotestio ynglyn â’r gwariant ar adeilad y Cynulliad, a ydynt yn fodlon protestio ynglyn â’r gwariant ar San Steffan? Er enghraifft, mae’r gwariant ar Portcullis House, dros bum mlynedd, yn £191.4 miliwn. Cost gwaith newydd ac adnewyddu, ar wahân i’r ffigur hwnnw dros yr un cyfnod, yw £153.6 miliwn. Cyfanswm o £345 miliwn.

Cymharaf hyn â’r £85 miliwn y gofynnwn amdano oddi wrth y Trysorlys y flwyddyn nesaf ar gyfer Amcan 1--mae dros deirgwaith cymaint. Dyna’r math o gymhariaeth y mae angen ei gwneud.

Mae cost cynnal a chadw ar ben hyn, sef £58 miliwn. Cost moderneiddio ceginau Ty’r Cyffredin yw £8.7 miliwn dros dair blynedd. Y flwyddyn nesaf byddai’r adnewyddu yn cynnwys:

'Refurbishment of Norman Shaw South: £2 million
Furniture and Soft Furnishings Replacement: £174,000
Redecoration of the Smoking Room: £25,000
Refurbishment of the Chess Room: £45,000
Restoration of Internal Stone Reveals, Oak and Brass: £80,00
Stone Cleaning of a Picture Corridor at Central Lobby: £85,000’.

Ni ddywedaf lawer am bethau megis:

'Replacement of Encaustic tiles, Restoration of the Medals Corridor’.

Mae’r holl bethau hyn werth miloedd o bunnoedd. Nid oes unrhyw un yn cyfrif y ceiniogau na’r punnoedd yn San Steffan. Nid yw’r gymhariaeth rhwng y costau hyn a chost adeilad y Cynulliad yn ddim byd llai na grotésg. Gwerir cannoedd o filiynau o bunnoedd ar yr adeilad hwn yn Llundain, ac ni chlywais smic gan y Torïaid na Glyn Davies am hyn. Gallwn wneud cymariaethau eraill--beth am Ganolfan y Mileniwm a’r stadiwm cenedlaethol? Mae symiau mawr o arian cyhoeddus ynghlwm wrth y rhain.

Yn ail, gofynnaf i Glyn Davies a yw’n credu bod Cymru’n haeddu senedd-dy? Dywedodd Nick Bourne fod angen inni weithio i ddangos ein bod yn haeddu gwell ystafell na hon. Beth am y genedl? A yw hi’n haeddu senedd-dy urddasol a phrydferth? Os nag yw Glyn Davies yn credu hynny, mae ei honiad ei fod yn Gymro gwlatgar a balch yn hollol wag. Nid yw cenedl nad yw’n chwenychu senedd-dy go iawn yn haeddu bod yn genedl. Nid yw’n haeddu cael ei disgrifio fel gwlad.

Os yw Glyn Davies yn honni bod Ty Crucywel yn gwneud y tro fel senedd-dy cenedlaethol, mae rhywbeth o’i le gyda’i chwaeth bensaernïol. Byddai bodloni ar y pentwr brics coch hyn yn ein gwneud yn destun sbort i ymwelwyr tramor, gwleidyddion, diplomyddion, pobl fusnes, diwydianwyr, ac yn y blaen. Yr wyf wedi fy siomi yn Glyn yn y mater hwn. Yr wyf yn meddwl tipyn ohono--mae’n cynrychioli’r teip gorau o Dori. Mae’n debyg i lawer o’m teulu i yn siroedd Brycheiniog a Maesyfed.

Mae Glyn a’i blaid yn chwarae gêm bopiwlistaidd, siêp. Bydd yn ennill rhywfaint o boblogrwydd yn y cyfnod byr, ond pan fydd yr adeilad newydd ar ei draed a’r miloedd yn tyrru i’w weld ac yn ymfalchïo ynddo--o Gymru ac o bob cwr o’r byd--bydd y Torïaid yn talu’r pris am eu diffyg gweledigaeth a bychander eu meddyliau.

Glyn Davies: Pwynt o drefn. Yr wyf yn falch fod Cynog o dras mor dda. A ydyw’n briodol i Aelod siarad gyhyd am bwnc nad oes a wnelo ddim oll â’r Siambr hon, sef yr hyn a wnaeth Cynog Dafis yn rhan gyntaf yr araith honno?

Y Llywydd: Yr wyf yn ddiolchgar am y pwynt hwnnw o drefn, gan fod y cwestiwn o drafod materion yn y Siambr hon nad ydynt yn berthnasol i’n gweithgareddau yn fy mlino. Yr ydym yma i drafod, yng ngeiriau Deddf Llywodraeth Cymru, 'materion sydd yn effeithio ar Gymru’. Nid oes gennym ran mewn is-etholiadau i senedd y Deyrnas Unedig nac etholiadau cyffredinol i senedd y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, cymerais y farn fod Cynog Dafis yn datblygu cymhariaeth o wariant cyhoeddus cymharol ar sefydliadau canolog, yn hytrach na datganoledig, yn y Deyrnas Unedig, a’i fod felly yn fater a effeithiai ar Gymru. Fodd bynnag, meddyliaf eto ynglyn â hyn.

4:10 p.m.

Glyn Davies: Da chi, peidiwch, fe hoffwn ei ddefnyddio yn y dyfodol.

Mick Bates: Y mae rhai penderfyniadau sydd bob amser yn gofyn am ddewrder. Cefnogaf sylwadau Cynog am y safiad popiwlistaidd a wneir gan rai Aelodau. Deuaf at y materion y dylid eu trafod mewn munud. Fodd bynnag, pwysleisiaf bwysigrwydd plaid yn gwneud penderfyniad ac yn cymryd ei seddau yn y Siambr newydd honno ac, fel y dywed Cynog, yn hebrwng ymwelwyr o gwmpas y lle. Dylech ystyried eich sylwadau heddiw a gwneud yn siwr eich bod yn gwneud penderfyniad gyda’ch gilydd.

David Davies: A yw Mick Bates yn meddwl y dylai grwpiau fel Plaid Cymru, nad ydynt yn credu yn sofraniaeth San Steffan, gael hawl i eistedd yno? Credaf fod ganddynt hawl i fod yno os cawsant eu hethol.

Mick Bates: Dylech ofyn hynny i aelod o Blaid Cymru.

David Davies: Yr wyf yn gofyn i chi.

Mick Bates: Oes gennych chi ddim mo’r dewrder i ofyn iddynt hwy?

Y Llywydd: Trefn. Gwn fod diddordeb mawr yn ein materion mewnol ond nid yw sofraniaeth San Steffan, nac unman arall, yn berthnasol i’r ddadl hon.

Mick Bates: Mae’r adeilad yn cynnig cyfle mawr inni, yn enwedig i ddefnyddio defnyddiau Cymreig. Ategaf gymal olaf y cynnig. Rhaid gwneud pob ymdrech i sicrhau y deellir yn llawn werth cymdeithasol ac economaidd sicrhau defnyddiau o Gymru. Bydd yr effaith ar ein cymuned fusnes yn fawr. Beth allai fod yn well na defnyddio derw o Faldwyn, llechi o Wynedd a dur o Lanwern? Dylai’r adeilad hefyd fod yn ddatganiad ar ddiwydiant ynni adnewyddol i’r dyfodol yng Nghymru. Gadewch inni weld tyrbin gwynt yn y bae, yn cyflenwi trydan, celloedd solar ac, efallai, hyd yn oed ddraig goch wedi’i gwneud o gelloedd ffotofoltäig. Mae gennym gyfle i sicrhau bod yr adeilad hwn yn batrwm i’r ganrif hon. Mae pwer yr haul yn ffynhonnell ynni glân a dihysbydd. Dyma’r hyn sydd yn cyfateb i’r meicrosglodyn yn y ganrif hon a hoffwn inni fod yn ddigon mentrus i wneud yr adeilad hwn yn esiampl i’r diwydiant ynni adnewyddol yng Nghymru.

Alun Cairns: I egluro’r sefyllfa, Mick, yr oedd y ffigur gwreiddiol yn nes at £10 miliwn; tyfodd i oddeutu £15 miliwn. Wedyn cynyddodd i £20 miliwn ac erbyn hyn mae’n £23 miliwn. Yr ydych yn cynnig syniadau hurt, anymarferol a thwp na fyddai’n cael unrhyw effaith ar yr adeilad ac a fyddai’n chwyddo’r gost ymhellach fyth. Yr wyf yn amau na fyddai llawer o newid gennym o £100 miliwn petaech chi’n mynd yn eich blaen.

Mick Bates: Fel un sydd yn ystyried ei hun yn dipyn o economegydd, gallaf ddweud wrthych fod ynni adnewyddol yn talu amdano’i hun. Dyna egwyddor yr adeilad hwn. Ceir y buddsoddiad angenrheidiol yn ôl fel hynny. Rhan o’n cyfrifoldeb ni yw ysbrydoli gwell dyfodol a gallai’r adeilad hwn wneud hynny i ddiwydiant ynni adnewyddadwy yng Nghymru, pe bai wedi’i adeiladu o ddefnyddiau lleol, yn effeithlon o ran defnydd ynni ac yn defnyddio pwer o ffynonellau adnewyddol.

Y mae problem gyda’r argraff a gaiff pobl Cymru o’r adeilad, ac felly rhaid inni ganfod ffordd greadigol o gynnwys pobl o bob rhan o Gymru. Mae’n gwestiwn o hunaniaeth. Dylid ystyried cynnwys darn mawr o waith celfyddydol yn yr adeilad, wedi’i adeiladu gan bobl o bob cwr o’r wlad.

Alun Cairns: A ydym am ddechrau ocsiwn? [Chwerthin.]

Jenny Randerson: A ydych yn rhannu’r farn Geidwadol mai jôc yw’r celfyddydau yng Nghymru?

Mick Bates: Mae’n amlwg o’u hadwaith i’r sector gwirfoddol, ynni adnewyddadwy a chelf yng Nghymru fod y rhan fwyaf o bethau’n jôc iddynt ac mai dim ond cymryd y safbwynt popiwlistaidd a wnânt.

I gloi, ysgrifennais at Tom Middlehurst ynghylch prosiect o’r fath ac edrychaf ymlaen at ymateb cadarnhaol. Mae fy mhlaid a minnau’n ddigon dewr i gefnogi prosiect yr adeilad newydd a gobeithio y gwnaiff y genedl yr un modd.

Christine Chapman: Yn wahanol i Glyn Davies, yr wyf i’n croesawu’r cynlluniau diwygiedig ar gyfer adeilad newydd y Cynulliad. Edrychaf ymlaen at gwblhad y prosiect hwn yn yr amser byrraf posibl. Cytunaf gyda Mick Bates y bu angen penderfyniad dewr, ond hwn yw’r un iawn. Ers mis Mai, cawsom lawer o drafodaethau, cwestiynau a ffug atodiadau i gwestiynau llafar am yr adeilad newydd a’i gost ddisgwyliedig. Heddiw mae’r wybodaeth gennym o’n blaenau a rhaid inni sylweddoli fod y penderfyniad i adeiladu adeilad newydd y Cynulliad, symbol o’r wleidyddiaeth newydd a’r dechreuad newydd yng Nghymru, yn un a gymerwyd gyda rheswm da.

Mewn dadl plaid leiafrifol ym Mehefin 1999, os cofiaf yn iawn, siaradodd Nick Bourne am symbolaeth adeilad newydd a chyfeiriodd at nifer o adeiladau cyngor crand yng nghanol trefi. Cyfeiriodd hefyd at Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, a oedd yn rhyfedd i mi ar y pryd. Mae lleoliad adeilad y cyngor hwn wedi’i feirniadu am fod yn anhygyrch gan lawer o f’etholwyr. Yn ogystal, nid yw bob amser yn hawdd gwneud lle i lawer o’r cyhoedd sydd eisiau gwylio’r cyfarfodydd. Nid democratiaeth ar waith yw adeilad anhygyrch. Nid dyna’r hyn y dylem fod yn anelu ato.

Nick Bourne: Nid oedd y cyfeiriad at Rondda Cynon Taf ac awdurdodau lleol eraill yn ganmoliaeth i’r modd y mae eu hadeiladau’n caniatáu mynediad i bobl anabl neu eraill. Y bwriad oedd ymosod ar gost yr adeilad arbennig hwnnw. Dyna’r pwynt y down yn ôl ato yn y ddadl hon. Allai Christine Chapman--gan hepgor ychydig o’r angerdd dealladwy a deimlir gan Aelodau--roi rhyw syniad o ble y mae hi’n meddwl y dylai’r gwariant ychwanegol hwn ar y gyllideb ddod? A ddaw o doriadau yng ngwasanaethau ysbytai neu addysg? O ba gyllideb y bwriadwch dalu amdano? Rhaid iddo ddod allan o’r bloc Barnett presennol, felly rhaid iddo ddod o rywle.

Christine Chapman: Diolch i Nick Bourne am gytuno o leiaf fod mynediad i adeilad cyhoeddus yn gwestiwn pwysig. Cyfeiriaf at rai o’r pwyntiau eraill yn y man. Croesewais araith Nick Bourne y llynedd pan ddywedodd fod ei grwp Ceidwadol wedi ymrwymo i sicrhau bod y Cynulliad yn gweithio. Yr oeddwn yn falch am hynny. Ailadroddwyd yr awydd hwnnw yr wythnos hon mewn erthygl yn The House Magazine gan ei gyd-Aelod Glyn Davies. Dywedodd ef fod y Cynulliad yma i aros a bod gan bawb o’r 60 o Aelodau Cynulliad gyfrifoldeb i sicrhau ei fod yn gweithio er lles Cymru. Gobeithiaf ein bod i gyd yn ymroddedig i sicrhau bod y Cynulliad yn gweithio: dyna pam yr ydym yma. Y neges olaf y byddem am ei hanfon i’r cyhoedd yw ein bod yn canolbwyntio ar faterion pitw fel y gwnaethom yn ddiweddar pan gawsom gwestiynau am blanhigion a, heddiw, gwylanod.

Alun Cairns: Y mae’r pwynt a wnaethoch am faterion pitw yn fy mhoeni. A ydych o’r farn fod £23 miliwn yn swm pitw?

Christine Chapman: Yr oeddwn yn cyfeirio at y cwestiwn am blanhigion pot. Cefais lawer o alwadau ffôn gan etholwyr a deimlai fod hynny’n dwyn anfri ar y Cynulliad.

David Davies a gododd--

Y Llywydd: A wnewch chi ildio i David Davies?

Christine Chapman: Bwriaf ymlaen. Yr ydych wedi cael eich dydd, David. Dim ond gwneud y Cynulliad yn destun gwawd a wna cwestiynau am blanhigion pot.

David Davies: Y rheswm y gofynnais y cwestiwn hwnnw am y planhigyn oedd am fod yr ateb i gwestiwn tebyg wedi dangos fod rhywun wedi gwario £32,000 ar lenni nad ydynt hyd yn oed yn cau. A ydych o’r farn fod gwario £32,000 ar lenni na wnaiff gau, yn hytrach nag ar gyflogau athrawon, brechiadau ffliw, gwerslyfrau ysgol ac eitemau eraill yn ffordd fuddiol o wario arian?

Christine Chapman: Mae pob penderfyniad cyllideb yn bwysig. Rhaid inni symud ymlaen ac edrych ar wir flaenoriaethau’r Cynulliad. O ran yr adeilad hwn, yr ydym wedi gosod ein stondin. Mae gennym y canllawiau a gyhoeddwyd gan Grwp Ymgynghorol y Cynulliad Cenedlaethol. Yr ydym eisiau i’r Cynulliad hwn fod mor agored, atebol ac--yn arbennig--hygyrch i’r cyhoedd â phosibl. Nid wyf yn credu fod ein hadeilad presennol yn bodloni’r gofynion hyn, ac yr wyf yn gwybod fod llawer ohonoch yn cytuno â mi.

4:20 p.m.

Mae gennym oriel gyhoeddus gyda seddau i lai o bobl na nifer yr Aelodau. Nid yw hynny’n caniatáu inni fod mor agored ag y gellid. Nac anghofiwn ein bod yn buddsoddi i’r dyfodol yng Nghymru, ac mae’r adeilad newydd yn rhan o’r buddsoddiad hwnnw. Bydd y grwp Ceidwadol yn dod allan â’r hen linell y dylid defnyddio’r arian ar gyfer ysbytai ac addysg. Ailadroddaf yr hyn a ddywedodd fy nghyd-Aelodau Huw Lewis a Ron Davies y llynedd. Mae’n anodd derbyn darlith ar wario arian ar ysbytai ac ysgolion gan blaid a fu mewn grym yng Nghymru am y rhan orau o ddau ddegawd. Rhaid fy mod wedi colli taith Nick Bourne i Ddamascus. Pan oedd ei blaid ef mewn grym ddiwethaf fe wnaeth bopeth o fewn ei gallu i wanhau a than-ariannu’r holl sefydliadau y mae bellach yn honni cymeradwyo gwario arian arnynt. Y mae rhywfaint o ragrith yng ngwelliant Glyn Davies.

Jonathan Morgan: Yr wyf yn ystyried hynny’n anhygoel a bron yn gyfeiliornus. Pa baech yn archwilio cyllidebau’r awdurdodau addysg lleol a reolir gan eich plaid eich hun, er enghraifft yng Nghyngor Sir Caerdydd, fe welech ei fod yn gwario £500 am bob disgybl uwchradd ar weinyddu cyllideb yr AALl. Dyna 20 y cant o’r dyraniad. Dylech edrych ar eich plaid eich hun i weld ym mhle y mae’n gwario arian. Efallai y dylech ysgrifennu at yr awdurdodau lleol i ddweud wrthynt ffrwyno’u gwariant er mwyn i chi allu canfod rhywfaint o arian i dalu am adeiladu’r erchyllbeth hwn.

Christine Chapman: Trafodaf hyn gyda Jonathan yn ddiweddarach. Gwrthun o beth i mi yw clywed galw adeilad newydd y Cynulliad yn erchyllbeth. [Torri ar draws.]

Y Llywydd: Trefn. Mae gennyf bwynt o drefn gan Carwyn Jones.

Carwyn Jones: Lywydd, credaf ei fod yn eithriadol o amharchus i’r sefydliad hwn ac i chi fel Llywydd fod Aelodau o’r grwp Ceidwadol, pan godant i siarad, yn troi eu cefnau arnoch ac yn siarad yn uniongyrchol â’r Aelod y maent yn dymuno’i gyfarch. Nid yw hynny’n gywir. Dylent annerch y Gadair.

Y Llywydd: Pe bai gennym Siambr newydd ar ffurf cylch, efallai na fyddai’r broblem honno’n codi.

Jenny Randerson: Pwynt o drefn. Yr wyf wedi dioddef hyn drwy’r prynhawn. Yr ydym i gyd yn dueddol o wneud sylw neu ddau yn ystod areithiau. Fodd bynnag, mae lefel y swn gan y bonheddwyr Ceidwadol ar y dde imi wedi bod yn fawr yn ystod areithiau--nid dim ond yn ystod y ddadl hon ond drwy’r prynhawn. Yn amlwg, mae gan Aelodau hawl i wneud ymyriadau, ond nid ymyriadau yw’r rhain. Mae lefel y swn wedi golygu ei bod yn amhosibl i mi glywed llawer o’r hyn a ddywedwyd.

Y Llywydd: Yr wyf yn ddiolchgar ichi am ddwyn hynny i’m sylw. Mae’n destun pryder i mi fod mwy o gyffro i’w weld wrth drafod ein materion mewnol ein hunain nag wrth drafod polisi.

Christine Chapman: Diolch i Jenny am hynny a chytunaf yn llwyr â’i sylwadau. Ni chymeraf ragor o ymyriadau gan fy mod yn gwybod fod llawer mwy o Aelodau eisiau siarad ar hyn.

Mae’r holl sôn am y gwasanaeth iechyd ac addysg yn cymylu’r ddadl. Yr ydym wedi addo bod yn agored, yn atebol ac yn gwbl ddemocrataidd. Bydd yr adeilad newydd hwn yn cyfrannu’n fawr at hynny. Mae’r adeilad presennol yn gweithio’n dda hyd at ryw bwynt, ond nid yw’n ddigon da. Mae arnom eisiau i’n gweithredoedd fod mor dryloyw i gynifer o bobl ag sydd yn bosibl. Dyna sydd wrth galon datganoli, ac nid yw’r adeilad hwn yn gwasanaethu datganoli’n dda.

Nid dim ond er mwyn pluo’n nyth ein hunain yr ydym yn ceisio adeilad newydd. Nid mater bod Aelodau presennol y Cynulliad eisiau lle newydd crand yw hwn, oherwydd, yng nghynllun mawr pethau, dim ond pasio drwodd yr ydym ni. Mae arnom angen siambr sydd yn hyrwyddo’r dadlau gorau posibl. Nid yw’n ddigon da fod pobl fel Huw a Helen Mary wedi’u cuddio y tu ôl i bileri yn y Siambr hon oherwydd diffyg yn y cynllun.

Hefyd, nid oes gennym y cyfleusterau yma i ganiatáu defnyddio agwedd addysgol y Cynulliad yn llawn. Mae grwpiau o blant yn methu â dod i’r Siambr hon yn hawdd i weld democratiaeth ar waith. Maent yn edrych ar ein cefnau, wedi’u gwasgu i le yng nghefn y Siambr hon ac nid oes lle iddynt wneud unrhyw waith ysgrifenedig na gweld beth sydd yn mynd ymlaen. Mae arnom eisiau edrych allan o’r Cynulliad ac ysbrydoli pobl Cymru ac, yn bwysicach, plant Cymru a fydd yn cymryd ein seddau yn y dyfodol. Mae arnom eisiau eu cynnwys hwy ym mhroses y Cynulliad. Mae nifer o’m cyd-Aelodau, gan gynnwys Jonathan, wedi gwneud y pwynt hwn lawer gwaith.

Mae’r dyluniad newydd a’r gwelliannau i’r cynlluniau i gynnwys newidiadau y gofynnwyd amdanynt gan Aelodau’r Cynulliad yn dangos y bydd yr adeilad newydd yn gwbl hygyrch, yn agored i holl aelodau cymdeithas ac yn caniatáu mwy o gyfle i’r cyhoedd weld Pwyllgorau ar waith. Mae’r rheini’n bwyntiau cadarnhaol.

Carwyn Jones: Mae’r hyn a ddigwyddodd funud yn ôl yn y Siambr hon yn dangos ei diffygion. Pan godaf i siarad, y peth cyntaf a wêl y cyhoedd yw fy nghefn. Mae hynny’n wir am yr Aelodau i gyd. Nid yw’r cyhoedd yn gweld wynebau eu gwleidyddion, dim ond eu cefnau. Y peth cyntaf a wnewch i ymwelwyr yn y Siambr hon yw troi’ch cefn arnynt. Gallwch geisio gwneud iawn am hynny, fel y gwnaeth Jonathan, drwy droi a siarad gyda’r person y tu ôl ichi. Fodd bynnag, mae dwy anfantais i hynny. Yn gyntaf, mae’r camera’n gweld eich cefn ac, yn ail, ni all y meicroffon godi’ch llais. Daw pobl i’r oriel hon ac ni allant glywed beth sydd yn mynd ymlaen. Rhaid iddynt ddefnyddio’r clustffonau drwy’r amser er mwyn clywed yr hyn sydd yn cael ei ddweud. Yn aml, ni allant glywed beth y mae rhai siaradwyr Ceidwadol yn ei ddweud, diolch byth.

Bydd yr adeilad newydd yn costio £23 miliwn. Gwnaeth Cynog gymariaethau â San Steffan. Dywedir y bydd ein hadeilad newydd yn balas gwleidyddion, ond yn San Steffan gwariwyd £300 miliwn ar yr union beth hwnnw. Nid oedd yn adeilad y byddai’r cyhoedd yn cael mynd iddo nac y gallai pobl ymweld ag ef oddi ar y stryd. Er mai adeilad swyddfa yw hwn i ni yn nhermau lle gweithio, gall dderbyn ymwelwyr. Mae’n agored i holl bobl Cymru, yn wahanol i San Steffan.

Nid ydym yn sôn am adeilad crand lle’r ydym am roi marmor yn y toiledau, gwenithfaen yn y to ac yn y blaen. Nid oes arnom eisiau gwario arian heb angen. Mae arnom eisiau adeilad ymarferol sydd yn caniatáu mynediad i bawb, ac sydd yn edrych yn bensaernïol ddeniadol ar yr un pryd. Am unwaith, ni chawn floc sgwâr. Bydd yr adeilad newydd yn dod â phobl i mewn i’r ardal ac yn dangos nodweddion ein cenedl.

Petai pawb yn credu na ddylem edrych ar adeiladau newydd fel hwn ac ar bensaernïaeth ddiddorol, ni fuasem byth wedi cael Parc Cathays. Buasai’r bobl a’i hadeiladodd wedi gadael iddi fod. Mae’n debyg y buasai gennym ganolfan siopa yno erbyn hyn--ychwanegiad aruthrol at bensaernïaeth. Cyfeiriwyd at y ffaith mai dim ond pasio drwodd yr ydym ni. Atgoffodd Christine ni’n ddigon llym o’n meidroldeb yma. Yr oeddwn i’n meddwl y deuai anfeidroldeb gydag etholiad; ysywaeth, mae’n rhaid inni i gyd ymadael. Rhaid inni ofyn hyn i’n hunain: pan fyddwn wedi ymadael â’r lle hwn, pa etifeddiaeth fyddwn ni wedi’i gadael i bobl Cymru? A ydym am adael y Siambr hon, sydd yn debyg i faes parcio tanddaearol, hen ystafell gyfrifiaduron, ynteu adeilad sydd yn deilwng o’r Gymru newydd hunan-hyderus? Dylem ofyn y cwestiwn hwnnw a dyna pam y dylem i gyd bleidleisio dros yr adeilad newydd hwn fel darlun o’r hyn ydyw’r Gymru newydd.

Alison Halford: Yr wyf yn bod yn Rod Richards am y prynhawn, yn siarad o’i sedd gan fod fy offer i wedi methu. Mae arnom angen adeilad newydd. Dywedwyd hynny’n barod. Bydd yn ddatganiad godidog fod Cymru wedi dod i oed ac yn sefyll ar ei thraed ei hun. Fodd bynnag, bydd y cyhoedd yn barotach i’w dderbyn os ydym yn gwbl onest ac agored. Nid wyf yn awgrymu fod y Prif Ysgrifennydd heb fod felly. Fodd bynnag, pam y mae’n ymddangos y talwyd cyn lleied o sylw i’r angen am fynediad i’r anabl ar y cychwyn? Mae hynny’n peri dryswch imi. Flwyddyn yn ôl, codwyd y pwynt yma gan fforwm merched y Blaid Lafur ac ysgrifennwyd llythyr at rywun mewn grym yn awgrymu mai da a phriodol fyddai sicrhau mynediad i’r anabl a meithrinfeydd. Gan na chymerwyd llawer o ofal yn y cam cyntaf, hoffwn gael sicrwydd na fydd yn rhaid inni dalu mwy i gynnwys y cyfleusterau hyn yn ddiweddarach.

4:30 p.m.

Derbyniaf nad oes gennyf gof miniog fy nghyd-Aelodau ar y meinciau blaen. Fodd bynnag, os nad wyf yn camgymryd, yn ystod ein trafodaeth yn y cyfarfod ym mis Gorffennaf, cofiaf inni ddweud y dylem, wrth ddatganoli ac ymgymryd â mwy o gyfrifoldeb--fel y byddai’n rhaid ac fel yr ydym yn gwneud eisoes i ryw raddau--ystyried yr angen am fwy o seddau i Aelodau’r Cynulliad. Hoffwn sicrwydd y caiff y mater hwn ei ystyried, oherwydd nid oes arnom eisiau gofyn i’r trethdalwr--sydd, yn anffodus, yn cael modd i fyw wrth ddefnyddio’r cysyniad mawr hwn fel pêl-droed wleidyddol--dalu eto. Yn y dyfodol, efallai y bydd arnom angen mwy o Aelodau Cynulliad i wasanaethu’r cyhoedd yn y ffordd y maent yn ei haeddu: y ffordd orau, fwyaf effeithlon.

Richard Edwards: Byddaf yn gryno. Yr wyf yn croesawu’n gynnes y newidiadau yn nyluniad adeilad newydd y Cynulliad a’r ffaith eu bod yn ymateb i bryderon Aelodau’r Cynulliad ynghylch bod yn hygyrch ac yn agored. Mynegwyd y pryderon hyn mewn cyflwyniadau ac yn y Pwyllgor Cyfle Cyfartal. Maent yn cyfiawnhau’r broses ddemocrateiddio a gynrychiolir gan ddatganoli. Dan yr hen drefn, mae’n annhebygol y câi diffygion dyluniad adeilad o’r safon yma eu herio fel y gwneir yn awr. Croesawaf y newid i’r gofod allanol o flaen yr adeilad, fel y gellir mynd i bob man ar un lefel ac, felly, y caniateir mynediad cyfartal i bobl anabl.

Mae’r gost ychwanegol yn cynrychioli gwerth am arian pan olyga y bydd sedd Llywodraeth yng Nghymru wedi’i chartrefu mewn adeilad cyhoeddus cwbl hygyrch sydd yn ymgorfforiad ac yn symbol o’r cysyniad holl bwysig o gynhwysedd y mae’r rhan fwyaf ohonom yn ymdrechu i’w hybu a’i gynnwys yn ein diwylliant gwleidyddol. Dywedaf 'y rhan fwyaf ohonom’ oherwydd os yw’r Torïaid--mae’n ddrwg gennyf, y Ceidwadwyr Cymreig--yn poeni cymaint am y gost, ni ddylent ofyn cwestiynau gwirion ar y diawl am blanhigion pot.

Yn Sir Benfro, sydd yng Nghymru, felly y mae’n berthnasol--

David Davies: Pwynt o drefn. A ydyw’r Llywydd yn teimlo bod 'gwirion ar y diawl’ yn ffurf dderbyniol o eiriau i’w defnyddio wrth gyfeirio at yr hyn a wneir gan gyd-Aelod?

Y Llywydd: Fel yr wyf wedi nodi o’r blaen, fe’i gadawaf i ddoethineb a hunan-ddisgyblaeth Aelodau i benderfynu ar eu defnydd o eiriau mewn cyd-destun. Atgoffaf Aelodau am y Protocol ar Ymddygiad yn y Siambr a fabwysiadwyd genym. Mewn geiriau eraill, dylem bob amser fod yn gwrtais. Efallai yr hoffai Richard fyfyrio a ydyw 'gwirion ar y diawl’ yn anghwrtais.

Richard Edwards: Gobeithiaf fy mod yn berson cwrtais, ond, fel y dywedais, yr oedd hwnnw’n gwestiwn gwirion ar y diawl am blanhigion pot.

Yn Sir Benfro, mae neuadd sir newydd sbon na chostiodd lawer llai na chost adeilad newydd y Cynulliad. Dim ond un awdurdod unedol yw hwnnw. Mae’r Ceidwadwyr yn Sir Benfro--y rhai sydd yn galw’u hunain yn Geidwadwyr yn ogystal â’r rhai sydd yn dewis eu camgyfleu eu hunain fel annibynwyr--yn frwd o blaid y neuadd sir newydd.

Croesawaf y newidiadau a’r rhan y mae Anabledd Cymru yn dal i’w chwarae yn y prosiect, ac edrychaf ymlaen at weld yr adeilad newydd sbon gorffenedig yn Awst 2002.

Lorraine Barrett: Nid atgoffaf Glyn Davies o sylwadau Alun Cairns wrth Mick Bates yn gynharach, pan gyhuddodd ef o ddweud pethau dwl a gofyn cwestiynau twp. Mae pawb wedi gwylltio braidd heddiw, yn enwedig yr ochr acw i’r Siambr.

Gwnaeth sawl Aelod gyfraniadau ardderchog wrth groesawu’r adeilad newydd, felly ni wnaf afradu amser drwy ailadrodd y pwyntiau hynny. Hoffwn ganolbwyntio ar fater bach ond pwysig. Croesawaf y ffaith fod y Prif Ysgrifennydd wedi sicrhau, yn ei drafodaethau gyda thîm y prosiect, y gall Cofeb y Masnachlongwr aros yn ei safle gwreiddiol. Yr oedd llawer o bryder a siom ymhlith Cymdeithas y Masnachlongwr pan ddangosodd y dyluniad gwreiddiol y gallai fod angen symud y gofeb. Cyflwynodd Mr Bill Henke, yn arbennig, sylwadau i mi a’r Prif Ysgrifennydd, a gwn y byddai ef, aelodau Cymdeithas y Masnachlongwr a’u teuluoedd yn dymuno imi drosglwyddo’u diolch diffuant i Alun Michael am sicrhau y gall y gofeb, y gweithiwyd mor galed i’w chael yn y bae, yn edrych dros y môr lle gweithiodd cynifer ohonynt am yr holl flynyddoedd, bellach aros lle y mae.

John Griffiths: Ychwanegaf innau fy llais at y rheini a bwysleisiodd ragrith y Ceidwadwyr yn y materion hyn, ac atgyfnerthaf y neges honno gydag ychydig ffeithiau. Mae’r pwynt a wnaed dro ar ôl tro am Lywodraethau Thatcher, sef eu bod yn gwybod pris popeth ond heb wybod gwerth dim, yn sicr yn wir am Geidwadwyr y Cynulliad yn y ddadl hon. Y cwbl a glywsom yw ymhonni rhad a sgorio pwyntiau gwleidyddol, sydd yn olygfa ddigon annymunol. Mae’n bryd iddynt feddwl eto ynglyn â’u hagwedd.

Dywedwyd y bydd yr adeilad newydd yn symbol o’r Gymru newydd ac yn anfon negeseuon cryf i’r byd. Mae hynny’n berffaith gywir. Negeseuon fyddant am hunan-hyder newydd, am Gymru ifanc, newydd a chanddi statws rhyngwladol, a bydd iddynt fanteision economaidd, twristaidd, cymdeithasol a diwylliannol amlwg. Mae’n resyn mawr na all pawb yma dderbyn a gwerthfawrogi hynny. Dylai’r Ceidwadwyr godi uwchlaw’r cyfleoedd rhad i arfer y rhethreg bopiwlistaidd a arddelwyd ganddynt heddiw, a chyfrannu at drafodaeth ddifrifol ar faterion y dylid eu hystyried yn rhai difrifol.

Ychwanegaf ychydig bwyntiau at yr hyn a ddywedodd Cynog yn effeithiol iawn, o ran cymharu â San Steffan. Cychwynnodd y Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf adeilad newydd i Lysgenhadaeth Prydain ym Moscow, ar gost o £81 miliwn, ac mae pawb yn cofio fod John Redwood wedi ceisio anfon £100 miliwn yn ôl i’r Trysorlys. Hoffai’r Ceidwadwyr anghofio hynny, ond fe gymer amser hir iawn i bobl Cymru adael iddynt ei anghofio.

Glyn Davies: A yw John Griffiths wedi trafod mater John Redwood yn anfon arian yn ôl gyda’r Ysgrifennydd Cyllid? Mae angen iddo fod yn gywir pan wna ddatganiad fel yna yn y Siambr hon.

John Griffiths: Sylweddolaf yr angen am gywirdeb, a dyna pam y dywedais 'wedi ceisio anfon £100 miliwn yn ôl i’r Trysorlys’. Dyna fy nealltwriaeth i o’r sefyllfa. Bu adroddiadau helaeth amdano ar y pryd ac ni chlywais John Redwood yn ei herio. Yn y Cynulliad, mae’r Ceidwadwyr yn ceisio portreadu’u hunain fel ceidwaid y pwrs cyhoeddus tra’u bod yn parhau i wastraffu llawer iawn o arian cyhoeddus drwy ofyn cwestiynau chwerthinllyd. Ategaf y pwyntiau a wnaethpwyd gan sawl AC yn barod ar hyn. Mae’r Ceidwadwyr fel petaent wedi colli’r plot. Cyflwynwyd 88 o gwestiynau ysgrifenedig ganddynt mewn un diwrnod ar gost o ryw £10,000 i’r trethdalwr. Erbyn canol mis Rhagfyr, yr oedd y gost o ateb cwestiynau’r Ceidwadwyr wedi cyrraedd £150,000. Mae’n siwr ei fod wedi codi’n sylweddol ers hynny. Cawsom enghreifftiau o gwestiynau chwerthinllyd, fel y cwestiwn pitw gan David am y planhigion mewn pot.

David Davies: Gwnaf dri phwynt syml. Yn gyntaf, fel y cefais wybod pan siaradais ag Edwina Hart ynglyn â chost cwestiynau, nid yw’n bosibl pennu faint y mae cwestiynau unigol yn eu costio ac ni fyddai’r un penodol hwnnw wedi costio llawer o arian. Yn ail, yr ydym wedi gofyn llawer o gwestiynau am ein bod yn credu y dylem fel gwrthblaid gadw llygad barcud ar yr Adran Weithredol. Gwneud ein dyletswydd yr ydym ni. Yn drydydd, ni welwn nemor ddim cwestiynau gan yr Aelodau Llafur, am nad oes arnynt eisiau archwilio’u Gweithrediaeth; maent ormod dan reolaeth y chwipiaid. Byddai’n llawer iawn gwell gennyf ofyn cwestiynau am blanhigion mewn potiau na gofyn cwestiynau wedi’u plannu.

4:40 p.m

John Griffiths: Ansawdd, nid nifer, sydd yn bwysig, David. Dylech sylweddoli hynny. Mae hwn yn fater pwysig. Yr ydym i gyd yn cydnabod fod yn rhaid i Aelodau Cynulliad ofyn cwestiynau. Mae hynny’n rhan o’u gwaith wrth gyflawni eu rôl ddemocrataidd, ond rhaid iddynt wneud hynny’n gyfrifol, a dyna beth y mae’r Ceidwadwyr yn methu â’i wneud. Mae llawer o’r wybodaeth a gawsoch drwy ofyn cwestiynau ar gael i bawb drwy’r Llyfrgell, er enghraifft. Dywedodd Glyn Davies nad yw bod yn Aelod o’r Cynulliad yn swydd amser llawn; efallai y gallech roi rhyw fath o ddyletswydd ymchwil iddo? Gallai gael y wybodaeth honno ichi ac arbed arian i’r trethdalwyr.

Glyn Davies: Ni ddylai Aelodau’r Cynulliad ddweud anwiredd yn y Siambr hon. Yn sicr ddigon, ni ddywedais hynny, ac yn fwy na hynny, eglurais yr hyn a ddywedais yn y Siambr, felly mae’r siaradwr yn gwybod nad yw’n wir. Mae’n iselhau’r Siambr hon pan fydd pobl yn dweud pethau y gwyddant eu bod yn anwir.

John Griffiths: Ni ddywedais unrhyw beth y gwn ei fod yn anwir, Glyn. Fy nghof i yw eich bod o’r farn nad oedd rôl Aelod Cynulliad yn un lawn-amser. Dyna fy nealltwriaeth i o’r hyn a ddywedasoch. Pe na bawn wedi meddwl hynny, ni fyddwn wedi ei ddweud. Ategaf eto fy mod o’r farn mai rhagrith atgas noeth yw fod y Ceidwadwyr yn gyson yn ymhonni fel gwarcheidwaid y pwrs cyhoeddus ac eto eu bod yn dal i afradu arian cyhoeddus drwy ofyn cwestiynau diangen.

Alun Pugh: Dof â safbwynt gogledd Cymru i’r ddadl hon. Mae barn weddol gyffredin ymhlith llawer o ogleddwyr nad rhywbeth iddynt hwy yw’r Cynulliad. Ceir tybiaeth mai sefydliad Caerdydd yw hwn dan reolaeth Aelodau Cynulliad o’r de. Nid wyf yn gofyn am adeilad arbennig £20 miliwn yn y gogledd, nac yn gofyn am siambr ddadlau arall--er y byddai’n braf cael Cyfarfod Llawn yn y gogledd--ond mae arnom angen presenoldeb dirodres, cyhoeddus corfforol i’r Cynulliad yn rhywle yng ngogledd Cymru. Byddai’n fan gwybodaeth ac yn fan lle gallai aelodau’r cyhoedd ddefnyddio fideo-gynadledda i gysylltu â’u Haelodau Cynulliad. Gallai fod yn fan lle byddai Pwyllgorau yn hytrach na’r Cyfarfod llawn yn cyfarfod; mae’n bwysig i Bwyllgorau Pwnc beidio â chyfarfod yn yr adeilad hwn bob tro. Gallai fod yn fan lle gallai Aelodau wneud cyfraniadau o ogledd Cymru. Pe baem yn defnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu mewn modd dychmygus, gallai hyd yn oed fod yn fan lle gallai Aelodau fwrw pleidlais.

Yn olaf, gwnaf rai pwyntiau ynglyn ag adeilad newydd y Cynulliad. Bydd gan yr adeilad newydd oriel gyhoeddus fwy. Croesawaf hynny. Fodd bynnag, bydd y rhan fwyaf o bobl yn gweld y Cynulliad drwy gyfrwng y teledu. Mae’r onglau camera ar gyfer y teledu i gyd yn anghywir yn y Siambr hon. Maent hyd yn oed yn waeth mewn cyfarfodydd Pwyllgor. Awgrymaf y dylid rhoi cryn sylw yn gynnar yn y broses ddylunio manwl i gynllunio onglau camera, yn hytrach na dim ond bolltio camerâu ar y nenfwd.

Alun Cairns: Nid oeddwn wedi bwriadu siarad yn y ddadl hon. Fodd bynnag, oherwydd y ffordd y cynhaliwyd y ddadl, ac oherwydd yr ymosodiadau a wnaethpwyd yn erbyn y Blaid Geidwadol, teimlaf ei bod yn rheidrwydd arnaf geisio cywiro’r hyn a ddywedwyd er lles democratiaeth--ac fel y mae Glyn Davies newydd f’atgoffa--er mwyn y gwirionedd.

Fis Mai diwethaf, derbyniasom fod cyfrifoldeb mawr wedi’i osod arnom gan ddatganoli. Dyrannwyd grant bloc o £8 biliwn inni i’w wario er y budd gorau yng Nghymru. Etholwyd llawer ohonom ar faniffestos o leihau rhestrau aros, lleihau maint dosbarthiadau, creu gwasanaeth iechyd mwy effeithlon ac economi ffyniannus. Felly, gofynnaf i bob aelod yn y Siambr a ydyw gwario £23 miliwn ar balas pwrpasol yn y maes parcio drws nesaf yn ddefnydd effeithlon ar adnoddau. Pan dderbyniwch lythyrau oddi wrth etholwyr yn dweud fod y rhestr aros ar gyfer eu llawdriniaeth ar y galon wedi tyfu neu fod y llawdriniaeth wedi’i gohirio, pan ystyriwch y firws ffliw diweddar a roddodd bwysau anferthol ar y gwasanaeth iechyd a phan dderbyniwch lythyrau oddi wrth rieni ynglyn â thwf ym maint dosbarthiadau, holwch eich hun a ydyw’r gwariant o £23 miliwn yn ddefnydd effeithlon o’n hadnoddau.

Ar y naill law, cyhuddodd John Griffiths fy nghyd-Aelod o gredu nad yw bod yn Aelod o’r Cynulliad yn swydd amser llawn. Mae hynny’n gamliwio dybryd ar yr hyn a ddywedodd Glyn fel y’i hadroddwyd yn y wasg. Ar y llaw arall, tynnodd John Griffiths sylw at y ffaith fod un o’m cyd-Aelodau wedi cyflwyno 88 o gwestiynau mewn un diwrnod. Os nad yw hynny’n swydd amser llawn, ni wn i beth sydd. Nid oes cysondeb yn y ddadl. Cyhuddwyd ni heddiw o ragrith a phopiwlistiaeth. Onid rhagrith yw gwario £23 miliwn pan fo gennym restrau aros sydd yn tyfu? Onid rhagrith yw gwario £23 miliwn ar bowlen bysgod--fel y disgrifiwyd yr adeilad newydd gan lawer o newyddiadurwyr--tra bod meintiau dosbarthiadau ar gynnydd?

Helen Mary Jones: O sôn am ragrith a safonau dwbl, Alun, fe’ch gwahoddaf i gymryd y cyfle hwn i ddatgysylltu’ch hun oddi wrth eich cyd-aelodau yn San Steffan a’u cefnogaeth frwd i’r gwariant gwrthun o afradlon a amlinellodd Cynog inni y prynhawn yma. Nid oes neb ohonoch wedi gwneud hynny eto. Foneddigion, ni allwch ei chael hi bob ffordd.

Alun Cairns: Dywedais ar ddechrau’r araith hon ein bod yn derbyn ein cyfrifoldeb i’r broses ddatganoli fel Aelodau’r Cynulliad. Mae’r Blaid Geidwadol Gymreig yn ymboeni â phenderfyniadau y mae ganddi fandad ar eu cyfer yn y Siambr hon, nid â phethau mewn mannau eraill. Rhaid i’r ddadl hon fod ynglyn â’r £23 miliwn a wariwyd eisoes ar y maes parcio drws nesaf hyd yn oed cyn i fricsen na chwarel o wydr gael ei gosod. Mae’r ffigur yn £23 miliwn yn awr a byddaf yn synnu os cawn newid o £40 miliwn neu £50 miliwn erbyn diwedd y prosiect.

Gwnaeth John Griffiths bwynt ynglyn â sgorio pwyntiau gwleidyddol a’n bod yn bopiwlistaidd. Os yw hynny’n wir, mae’n dangos fod y farn gyhoeddus yn gadarn y tu cefn i’n dadl ni. Pe baem yn cymryd pleidlais y tu allan neu pe baem yn gofyn i aelodau’r cyhoedd sydd yn eistedd yn yr oriel gyhoeddus a ddylem wario £23 miliwn ar yr adeilad newydd yn y maes parcio ynteu ar y gwasanaeth iechyd, yr wyf yn hyderus y byddent yn cefnogi’n safbwynt ni. Yr ydym yn trafod lle i goesau a mwy o ofod. Fodd bynnag, dadl am wario £23 miliwn ar adeilad newydd yw hon, nid hysbyseb am Renault Espace.

Yr wyf yn falch fod Glyn Davies wedi codi’r cwestiwn am yr honiad ynglyn â’r cyn Ysgrifennydd Gwladol yn rhoi arian yn ôl i San Steffan. Cliriwyd y mater hwnnw. Mae’r cyhuddiadau hynny wedi’u taflu’n ôl a blaen dro ar ôl tro. Gadewch inni glirio’r mater. Yr wyf wedi dweud sawl gwaith yn yr araith hon yn unig ein bod yn derbyn ein cyfrifoldeb fel Aelodau’r Cynulliad. Os derbynia Aelodau’r Cynulliad y cyfrifoldeb hwnnw, ni ddylent daflu sylwadau gwyllt ac anghywir yn ôl a blaen ynglyn â’r agwedd wirioneddol bopiwlistaidd honno.

Huw Lewis: Mae’n debyg fod Alun yn iawn pe baem yn cynnal pôl gwelltyn o farn pobl ar stadiwm y mileniwm cyn ei hadeiladu a thra’i bod wrthi’n cael ei hadeiladu, y buasem wedi cael yr un canlyniad. Pe cymerid y pôl hwnnw yn awr, fe welech y gwahaniaeth rhwng arweiniad a chyfrifoldeb gwleidyddol a gwleidyddiaeth ty tafarn.

4:50 p.m

Y Prif Ysgrifennydd: Diolch yn fawr. Yr oedd hwnnw’n bwynt da. Rhaid inni edrych i’r dyfodol yn hytrach nag aros yn y presennol.

Mae’n anodd trafod y mater hwn yn adeiladol, ond yr ydym wedi gwneud hynny y prynhawn yma. Soniodd y rhan fwyaf o siaradwyr am y dyluniad a’n gobeithion a’n dyheadau yn union fel y gwnaethant mewn trafodaeth adeiladol gyda’r pensaer yr wythnos diwethaf. Yr oedd honno’n sesiwn gyffrous. Yr wyf yn gresynu bod y Ceidwadwyr wedi mynd am bennawd cyflym. Cânt eu collfarnu gan hanes am ddiffyg gweledigaeth. Nid ymosod ar Alun Cairns a wnaethpwyd y prynhawn yma; dywedwyd y drefn wrtho’n garedig gan bobl sydd yn tristáu oherwydd ei agwedd.

Am 3:02 p.m. heddiw, cefais e-bost oddi wrth Nick Bourne i ddweud na fyddai’r Ceidwadwyr yn chwarae rhan ym mhrosiect yr adeilad newydd. Bellach dyma ni’n gwybod ym mhle yr ydym yn sefyll. Gall y gweddill ohonom fynd ati gyda’r gwaith. Mae’n cyllideb ni’n caniatáu ar gyfer y prosiect hwn a rhagwelwyd yr adeilad fel rhan o’r prosiect mor bell yn ôl â’r ddeddfwriaeth. Ein gwaith ni yw sicrhau gwerth am arian, rheoli costau ac, ar yr un pryd, ei wneud yn adeilad o bwys.

Mewn ymateb i ddicter synthetig Alun Cairns ynghylch cwestiynau: mae gofyn cwestiynau gwirion neu rai lle mae’r wybodaeth eisoes ar gael nid yn unig yn rhagrithiol a phopiwlistaidd; mae’n wastraff ar amser y swyddogion sydd yma i wasanaethu’r Cynulliad cyfan, ac mae’n hollol ddiog. Bydd penderfyniad y Ceidwadwyr yn dweud wrth hanes, wrth ein plant a phlant ein plant nad oes gan y Blaid Geidwadol heddiw ddim mwy o hyder yn ein dyfodol a’n heconomi nag a oedd ganddynt mewn democratiaeth yng Nghymru yn ystod y ddadl ar ddatganoli.

David Melding: Gallech hefyd ddod i’r casgliad y gwadwyd i ni a phobl Cymru ein gweledigaeth o gael y Cynulliad yn Neuadd y Ddinas oherwydd methiant aelodau uchel yn y Blaid Lafur i gytuno, er gwaethaf y consensws llwyr yn y byd gwleidyddol mai yno y dylai’r Cynulliad fod os oeddem i gael un.

Y Prif Ysgrifennydd: Ymgais dda, David, ond anghywir. Buasai’r gost o fynd i Neuadd y Ddinas yn uwch. Pan ddeuthum yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru, un o’r pethau cyntaf a wneuthum oedd archwilio’r penderfyniad hwnnw ac yr wyf yn gwbl fodlon ynglyn â hynny.

Gofynnodd Alison Halford a oedd prinder sylw wedi’i roi i anabledd yng nghyfnod cynnar y broses. Nid felly y bu. Mewn cystadleuaeth, dechreuir gyda’r cysyniad dylunio, felly ar y pwynt hwnnw, nid yw’r dyluniad wedi’i weithio drwodd yn llawn. Dywedodd y penseiri eu bod yn hyderus y gellid goresgyn yr holl broblemau a ragwelid gydag anabledd a mynediad, ac y maent wedi cyfiawnhau hynny drwy gyflwyno’r dyluniad hwn. Yr wyf yn fodlon y gellir datrys y broblem. Cyfeiriodd Alison hefyd at nifer y seddi. Caiff y Siambr ei dylunio i ddal 60 ond gellid ei ymestyn i fod yn Siambr i 80 pe penderfynid hynny yn y dyfodol. Gall y nifer aros yn 60; nid oes penderfyniad wedi’i wneud ar gyfer y dyfodol.

Aeth David Davies yn ôl at un o’i hoff bynciau: gwylanod. Mae’n bwysig fod pobl yn deall y cynlluniau. Buont yn yr adeilad i bobl eu harchwilio a chynhaliwyd cyfarfod briffio llawn ar y prosiect. Bydd y to, sydd ddim yn wydr, yn ymestyn dros y waliau gwydr. Felly, byddant wedi’u gwarchod. Mae hynny’n elfen hanfodol yn y dyluniad. I ateb Mike German, deilliodd y cywiriadau i’r costau adeiladu o waith gofalus, ac mae gwaith y maintfesurwr a’r manylion costio bellach wedi’u cwblhau. Yr wyf yn cadarnhau y darparwyd ar gyfer y gost honno yn y gyllideb.

Cyfeiriodd Helen Mary a Mick Bates at faterion amgylcheddol ac yr wyf yn falch eu bod wedi tanlinellu eu pwysigrwydd. Y brîff i’r pensaer oedd gwneud hwn yn adeilad arloesol nid yn unig yn nhermau delwedd ond hefyd yn nhermau ystyriaethau amgylcheddol a chostau. Gyda threigl amser wrth i bobl ymateb i’r ffordd y mae’r penseiri’n datblygu’r dyluniad, ceir elfen briodol o gynnwrf. Trist yw clywed Alun Cairns yn wfftio celloedd ffotofoltäig fel pe baent yn sbwriel drud. Mewn gwirionedd, dyma enghraifft o ddefnyddio gwyddoniaeth fodern o fewn y diwydiannau sydd yn datblygu yng Nghymru. Mae parc ynni Baglan yn enghraifft dda o ddefnyddio’r dechnoleg honno, ac o ddweud, 'dyma’r dyfodol, dewch inni feddwl amdano, a’i wneud yn rhan o’n diwydiannau yng Nghymru’. Dylem anelu at gael y weledigaeth honno’n rhan o’r adeilad hwn, a chael ynni adnewyddadwy fel rhan o’r dyluniad.

Dywedodd Mick y dylem gynnwys pobl o bob cwr o Gymru, ac mae’n iawn. Gallwn wneud hyn nid yn unig drwy gyfrwng y chwe chyfarfod briffio lle y bydd y pensaer ar gael i’r cyhoedd, ond drwy gyfrwng y rhyngrwyd lle gall pobl gael y wybodaeth ddiweddaraf, a gweld hynt y dyluniad a’r gwaith adeiladu. Cododd Helen Mary Jones rai materion amgylcheddol, a atebaf rywbryd eto. Fodd bynnag, oherwydd amgylchedd Bae Caerdydd, cynhelir profion twneli gwynt i archwilio effeithiau’r gwynt a’r glaw a welais i dros y blynyddoedd fel un o drigolion yr ardal. Mae’r penseiri wedi bod yn edrych ar sicrhau bod yr adeilad yn briodol i’w amgylchedd, nid yn unig pan fo’r haul yn tywynnu, ond pan fo’r gwynt yn chwipio’r dyfroedd a’r cesair yn dod o amgylch pentir Penarth.

Cynhwyswyd elfen o 1 y cant ar gyfer gwaith celf. Dylai adeilad gael ei ddylunio nid yn unig i gynnwys defnyddiau o ansawdd da, ond hefyd waith celf a, lle bo modd, dylai ddod â chelf na fyddai’n cael ei arddangos fel arfer i mewn i amgylchedd cyhoeddus. Dyna beth yr ydym wedi’i wneud yn ein hadeilad presennol. Yr ydym wedi gofyn i’r penseiri ystyried arddangosiad celf yn eu dyluniad.

Fel y dywedodd Alun Pugh, rhaid i hwn fod yn adeilad sydd ym Mae Caerdydd ond sydd ar gyfer Cymru gyfan. Nid yw’n cael ei weld fel yna o reidrwydd yn awr, ond rhaid i ni sicrhau mai felly y bydd. Rhaid i’r Cynulliad, o’n rhan ni fel pobl, ac fel adeilad, fod yn bwerdy i Gymru. Nid wyf yn meddwl mai cwestiwn ydyw o gael gwahanol adeiladau mewn mannau eraill, ond o gael fideo-gynadledda, er enghraifft, ym mhob adeilad awdurdod lleol yng Nghymru ac yn ein hadeiladau ni, fel y gall pobl ym mhob rhan o Gymru gael mynediad atom drwy gyfrwng technoleg--efallai drwy ysgolion, colegau a llyfrgelloedd hefyd. Bydd daearyddiaeth Cymru bob amser yn broblem. Fel y gwyr y rheini ohonom sydd yn teithio’n aml rhwng gogledd a de, bydd yn siwrnai anodd o hyd, pa welliannau bynnag a wneir. Fodd bynnag, gellir goresgyn yr anawsterau hynny drwy ddefnyddio technoleg newydd a dychymyg.

Cytunaf y dylai cynllun y Siambr gymryd i ystyriaeth onglau camera ac elfennau o’r fath yn gynnar, fel eu bod yn cael eu dylunio i mewn, mewn ffordd anymwthiol sydd yn rhoi mynediad i’r byd oddi allan heb i’r Siambr deimlo fel stiwdio deledu. Mae hyn yn sicr ym meddyliau’r penseiri fel yr oedd ym meddyliau’n grwp ni pan gyfarfuom. Mae’r penseiri’n cwrdd â’r darlledwr ac arbenigwyr eraill er mwyn ceisio sicrhau y gwneir hyn yn iawn.

Mae angen yn awr inni fynd yn gadarn ar y cynllun amlinellol hwn, a chaniatáu i dîm y prosiect a’r pensaer gyrraedd y garreg filltir o symud y cynllun ymlaen at gam y cais cynllunio. Mae hynny’n unol â’r rhaglen, a bryd hynny byddwn yn gallu sefydlu’r holl elfennau yn y prosiect hwn. Mae’r strwythur rheoli priodol bellach yn ei le. Mae gennym y modd i wasgu i lawr yn effeithiol ar gostau--ac yr wyf yn cyfeirio at y systemau yn ogystal ag at yr Ysgrifennydd Cyllid--tra’n sicrhau na cheir effaith andwyol ar amser nac ansawdd. Mae angen inni geisio peidio â gorfodi na chaniatáu unrhyw newidiadau pellach i’r cynllun unwaith y byddwn wedi sefydlu pob elfen.

Buddsoddwyd llawer o amser ac ymdrech i symud y dyluniad ymlaen i’r pwynt lle gallaf i, y grwp llywio polisi a bwrdd y prosiect deimlo’n abl i argymell ein bod yn mynd ymlaen gyda hyder i’r cam nesaf, sef cymeradwyo’r dyluniad cynllun amlinellol. Gobeithiaf y gwnaiff y Cynulliad roi ei gefnogaeth galonogol i’r prosiect adeilad newydd, ac awdurdodi’r rhai sydd a wnelont ag ef i fynd ati gyda’r gwaith o ddatblygu’r dyluniad ac adeiladu’r adeilad newydd angenrheidiol i’r Cynulliad gyda’i well cyfleusterau i’r cyhoedd, siambr ddadlau ac ystafelloedd Pwyllgor. Rhaid inni dderbyn ein cyfrifoldeb yn y ddwy flynedd nesaf i adeiladu tîm safonau arloesol yn y Cynulliad. Rhaid i ni fod cystal ag y dymunwn i’n hadeilad fod: rhaid inni fod yn uchelgeisiol o safbwynt yr economi, yn ein pensaernïaeth, yn ein hymddygiad a’n gweithredoedd ein hunain a thros Gymru.

5:00 p.m.

Gwelliant 1: O blaid 8, Ymatal 0, Yn erbyn 42

Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol o blaid: Pleidleisiodd yr Aelodau canlynol yn erbyn:
Bourne, Nick
Cairns, Alun
Davies, David
Davies, Glyn
Graham, William
Melding, David
Morgan, Jonathan
Rogers, Peter
Barrett, Lorraine
Bates, Mick
Black, Peter
Butler, Rosemary
Chapman, Christine
Dafis, Cynog
Davies, Andrew
Davies, Geraint
Davies, Janet
Davies, Jocelyn
Edwards, Richard
Feld, Val
German, Michael
Gibbons, Brian
Gregory, Janice
Griffiths, John
Gwyther, Christine
Halford, Alison
Hancock, Brian
Hart, Edwina
Humphreys, Christine
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Jones, Gareth
Jones, Helen Mary
Jones, Ieuan Wyn
Law, Peter
Lewis, Huw
Lloyd, David
Marek, John
Michael, Alun
Middlehurst, Tom
Neagle, Lynne
Pugh, Alun
Randerson, Jenny
Ryder, Janet
Sinclair, Karen
Thomas, Gwenda
Thomas, Owen John
Thomas, Rhodri Glyn
Wigley, Dafydd
Williams, Phil

Gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 2: O blaid 51, Ymatal 0, Yn erbyn 0.

The following Members voted for:
Barrett, Lorraine
Bates, Mick
Black, Peter
Bourne, Nick
Butler, Rosemary
Cairns, Alun
Chapman, Christine
Dafis, Cynog
Davies, Andrew
Davies, David
Davies, Geraint
Davies, Glyn
Davies, Janet
Davies, Jocelyn
Edwards, Richard
Feld, Val
German, Michael
Gibbons, Brian
Graham, William
Gregory, Janice
Griffiths, John
Gwyther, Christine
Halford, Alison
Hancock, Brian
Hart, Edwina
Humphreys, Christine
Hutt, Jane
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Jones, Gareth
Jones, Helen Mary
Jones, Ieuan Wyn
Law, Peter
Lewis, Huw
Lloyd, David
Marek, John
Melding, David
Michael, Alun
Middlehurst, Tom
Morgan, Jonathan
Neagle, Lynne
Pugh, Alun
Randerson, Jenny
Rogers, Peter
Ryder, Janet
Sinclair, Karen
Thomas, Gwenda
Thomas, Owen John
Thomas, Rhodri Glyn
Wigley, Dafydd
Williams, Phil

Derbyniwyd y gwelliant.

Amendment 3: For 43, Abstain 0, Against 8.

The following Members voted for: The following Members voted against:
Barrett, Lorraine
Bates, Mick
Black, Peter
Butler, Rosemary
Chapman, Christine
Dafis, Cynog
Davies, Andrew
Davies, Geraint
Davies, Janet
Davies, Jocelyn
Edwards, Richard
Feld, Val
German, Michael
Gibbons, Brian
Gregory, Janice
Griffiths, John
Gwyther, Christine
Halford, Alison
Hancock, Brian
Hart, Edwina
Humphreys, Christine
Hutt, Jane
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Jones, Gareth
Jones, Helen Mary
Jones, Ieuan Wyn
Law, Peter
Lewis, Huw
Lloyd, David
Marek, John
Michael, Alun
Middlehurst, Tom
Neagle, Lynne
Pugh, Alun
Randerson, Jenny
Ryder, Janet
Sinclair, Karen
Thomas, Gwenda
Thomas, Owen John
Thomas, Rhodri Glyn
Wigley, Dafydd
Williams, Phil
Bourne, Nick
Cairns, Alun
Davies, David
Davies, Glyn
Graham, William
Melding, David
Morgan, Jonathan
Rogers, Peter

Derbyniwyd y gwelliant.

Cynnig wedi’i ddiwygio:

bod y Cynulliad yn

croesawu’r cynigion diwygiedig ar gyfer Adeilad newydd y Cynulliad a ddisgrifir yn 'New Assembly Building Project - Assembly Progress Report No 1/2000’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Ionawr 2000;

nodi’r amcangyfrif diwygiedig o gostau’r cynllun;

cytuno y dylai’r datblygiad yn awr fynd rhagddo ar y sail ddiwygiedig hon gyda’r amcan o sicrhau bod adeilad llwyr weithredol ar gael erbyn Awst 2002;

mynnu bod yn rhaid i waith pellach ar y cynllun barhau i roi sylw llawn i ofynion hygyrchedd, yr angen am gyfleusterau cyhoeddus da a bod yn rhaid ymgynghori’n llawn â chynrychiolwyr buddiannau priodol yn ystod y broses o gynllunio’n fanwl;

galw am ddefnyddio cymaint â phosibl o ddefnyddiau Cymreig wrth adeiladu’r adeilad, yn gyson â deddfwriaeth yr UE ac ystyriaethau caffael a gwerth am arian;

yn ailddatgan yr angen am fod yn agored ac yn dryloyw ynghylch cost yr adeilad newydd; ac yn

sefydlu mesurau i sicrhau bod y gwaith a gyflawnir o’r safon amgylcheddol uchaf, gan gymryd amgylchiadau lleol i ystyriaeth.

Cynnig wedi’i ddiwygio: O blaid 43, Ymatal 0, Yn erbyn 8.

The following Members voted for: The following Members voted against:
Barrett, Lorraine
Bates, Mick
Black, Peter
Butler, Rosemary
Chapman, Christine
Dafis, Cynog
Davies, Andrew
Davies, Geraint
Davies, Janet
Davies, Jocelyn
Edwards, Richard
Feld, Val
German, Michael
Gibbons, Brian
Gregory, Janice
Griffiths, John
Gwyther, Christine
Halford, Alison
Hancock, Brian
Hart, Edwina
Humphreys, Christine
Hutt, Jane
Jones, Ann
Jones, Carwyn
Jones, Gareth
Jones, Helen Mary
Jones, Ieuan Wyn
Law, Peter
Lewis, Huw
Lloyd, David
Marek, John
Michael, Alun
Middlehurst, Tom
Neagle, Lynne
Pugh, Alun
Randerson, Jenny
Ryder, Janet
Sinclair, Karen
Thomas, Gwenda
Thomas, Owen John
Thomas, Rhodri Glyn
Wigley, Dafydd
Williams, Phil
Bourne, Nick
Cairns, Alun
Davies, David
Davies, Glyn
Graham, William
Melding, David
Morgan, Jonathan
Rogers, Peter

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.