Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Datganiad ar Adeilad Newydd y Cynulliad

Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau (Edwina Hart): Fis Mehefin diwethaf pleidleisiodd y Cynulliad i fwrw ymlaen â’r gwaith o adeiladu’r siambr ddadlau a’r ystafelloedd pwyllgora newydd. Yr oedd yn benderfyniad a wnaethpwyd gan y Cynulliad cyfan--[Aelodau Cynulliad: Nac oedd.]

Y Llywydd: Trefn. Megis dechrau mae’r Gweinidog.

Edwina Hart: Bu’r weinyddiaeth yn awyddus i gyflawni dymuniadau’r Cynulliad mor gyflym ac effeithlon â phosibl. Yr wyf yn falch o adrodd ein bod, ers mis Mehefin diwethaf, wedi gwneud cynnydd rhagorol. Parhawn i fod ar y trywydd iawn i gyflwyno adeilad o ansawdd uchel, ar amser ac o fewn cyfanswm y gyllideb a ddarparwyd.

Janice Gregory a gododd--

Y Llywydd: Trefn. A ydych am godi pwynt o drefn?

Janice Gregory: Nac ydw, hoffwn ymyrryd pe bai’r Gweinidog yn caniatáu imi wneud hynny.

Y Llywydd: Mae’r Gweinidog yn gwneud datganiad. Ni chewch ymyrryd, ond gelwir arnoch yn ddiweddarach i ofyn cwestiwn.

Edwina Hart: Gwn y byddwch yn croesawu’r newyddion hwn. Gadewch imi fynd â chi yn awr drwy rai o’r datblygiadau sydd wedi digwydd ers Mehefin diwethaf. Ar 8 Tachwedd, rhoddodd Cyngor Dinas a Sir Caerdydd ganiatâd cynllunio. Mae’r cynllun wedi datblygu o’r cam cynllunio amlinellol, a bellach cwblhawyd y cynllun ffurfiol. Cwblhawyd y camau cyfreithiol ffurfiol ar gyfer y tir ychwanegol sydd yn ofynnol er mwyn i’r datblygiad ddigwydd. Penodasom gwmni arbenigol o ymgynghorwyr mynediad i sicrhau y caiff anghenion pobl ag anableddau eu hystyried ar bob cam o’r broses gynllunio fanwl. Sefydlasom grwˆp ymgynghorol ar fynediad hefyd. Mae hyn yn cynnwys enwebeion a gynigiwyd gan Anabledd Cymru, gan gynnwys cynrychiolwyr y Comisiwn Hawliau Anabledd.

Mae’r grwp llywio polisi wedi creu is-grwp arbenigol i gynghori ar leoliad y celfyddydau yn yr adeilad ac o’i amgylch. Penodasom ein syrfëwr meintiau annibynnol ein hunain fel yr argymhellwyd gan adroddiad diweddar y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar adeiladau’r Cynulliad. Adeiladwyd model o’r siambr ddadlau ac un ystafell bwyllgora. Mae trefniadau’n cael eu gwneud i’r Aelodau weld y model er mwyn rhoi eu sylwadau ar y cynllun. Yn olaf, ond nid lleiaf, gallaf gyhoeddi heddiw fod contractwyr rheoli wedi cael eu penodi a fydd yn gyfrifol am reoli’r gwaith adeiladu. Byddant yn dechrau gweithio ar y safle yn fuan.

Trof at y newidiadau i’r cynllun. Pan gymeradwyodd y Cynulliad y cynllun ym Mehefin yr oeddem ar y cam cynllunio amlinellol. Ers hynny, gwnaethpwyd gwaith pellach. Yn ddiweddar cwblhaodd y grwp llywio polisi y cynllun ffurfiol sydd yn penderfynu ar natur sylfaenol, maint a chynllun yr adeilad. Mae llawer o waith cynllunio manwl eto i’w wneud ond mae hynny hefyd ar y gweill.

Cyflwynodd y cynllun rai newidiadau i’r cynigion cynharach. Yr un mwyaf amlwg yw bod nifer y clychau neu’r cyrn mawr wedi cael eu gostwng o ddau i un. Mae’r gloch dros y siambr ddadlau yno o hyd ond ni fydd cloch dros yr ardal gyhoeddus bellach. Ym marn y penseiri mae hyn yn well yn weledol a bydd yn creu man cyhoeddus mwy hyblyg a defnyddiadwy.

Mae newidiadau sylweddol eraill yn cynnwys gwelliannau pellach o ran hygyrchedd a threfniadau diogelwch i’r rheini sydd ag anableddau. Bydd tri thoiled i’r anabl ar gael i’r cyhoedd yn awr o’u cymharu â dau yn y cynllun amlinellol a byddant yn fwy o faint. Bydd ardal loches fwy o lawer ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn yn achos argyfwng a darperir ffordd ddianc fecanyddol. Er nad yw hyn yn newid o ran y cynllun, mae’r grwp llywio polisi wedi penderfynu y dylem geisio neilltuo ystafell yn yr adeilad i’w defnyddio fel ystafell dawel i’r rheini sydd ag anghenion arbennig.

Cadarnhaodd y grwp llywio polisi y gwelliannau hyn i’r cyfleusterau ar gyfer y rheini sydd ag anableddau a chydnabuwyd eu bod yn golygu cost ychwanegol o tua £200,000. Yr ydym yn ymrwymedig i gyflawni safonau hygyrchedd rhagorol yn yr adeilad. Bydd y grwp llywio polisi yn parhau i ystyried yr holl gynigion ar gyfer gwella. Un cynnig a ystyriwyd gennym eisoes yw darparu lifft ychwanegol o’r ffordd o flaen yr adeilad i lefel y fynedfa. Cost hynny fyddai £160,000. Teimlai’r grwp llywio polisi nad oedd gan y cynnig hwn y dadleuon iechyd a diogelwch cryf a oedd ynghlwm wrth y cynigion eraill ac, o gofio’r costau dan sylw, ni ddylid bwrw ymlaen ag ef. Fodd bynnag, gofynasom i’r penseiri sicrhau y caiff yr adeilad ei gynllunio mewn modd sydd yn caniatáu i lifft ychwanegol gael ei osod pe teimlid byth bod angen hynny. Arddangosir y cynlluniau diweddaraf yn y neuadd y prynhawn yma. Mae trefniadau ar y gweill hefyd iddynt fod ar gael ar y rhyngrwyd.

10:45 a.m.

Mae penodi’r contractwr rheoli yn gam mawr ymlaen. Y cwmni a ddewiswyd ar ôl cystadleuaeth agored yw Skanska Limited. Enillodd enwebiad contractwr adeiladu y flwyddyn y DU yn 1999. Maent yn eithriadol o weithgar o fewn yr Egan a’r fenter Movement for Innovation (M4i) i wella sawl agwedd ar waith y diwydiant adeiladu. Mae ganddynt chwe safle arddangos lle y ceisiant wella’r modd y rheolir risg, arferion amgylcheddol, costio cylch bywyd cyfan, hyfforddi staff, safoni cydrannau ac adeiladu oddi ar y safle. Nhw yw enillwyr Gwobr Aur y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau ar gyfer diogelwch galwedigaethol hefyd, a fydd o ddiddordeb i’r Aelodau o gofio’r trafodaethau a gawsom o ran contractwyr a safleoedd adeiladu. Byddant yn gweithio’n agos gyda’r pensaer i sicrhau y gellir adeiladu’r cynllun yn y ffordd fwyaf effeithlon. Bydd ganddynt rôl allweddol wrth dendro pob pecyn is-gontractiwr, cydlynu amseriad y gwaith a rheoli perfformiad yr is-gontractwyr ar y safle.

Egluraf ein sefyllfa yn nhermau costau. Wrth i’r gwaith fynd rhagddo mae rhai pwysau o ran costau wedi codi. Awgrymodd adolygiad diogelwch fod yn rhaid gwario mwy ar rai agweddau ar y sylfeini i gryfhau diogelwch rhag ffrwydrad. Fodd bynnag, talwyd am y gost ychwanegol o tua £300,000 drwy arbedion a gododd o ganlyniad i newidiadau eraill i’r cynllun. Mae cost y comisiwn contractiwr rheoli tua £470,000 yn uwch na’r ddarpariaeth wreiddiol a amcangyfrifwyd. Fodd bynnag, caiff hyn hefyd ei ymgorffori yn y cynllun costio heb orfod troi at y ddarpariaeth ffurfiol wrth gefn o £3.5 miliwn a ddaliaf fel y Gweinidog dros Gyllid.

Felly ni fu angen defnyddio ein darpariaeth wrth gefn hyd yn hyn. Serch hynny, awgryma canlyniadau’r broses dendro ar gyfer contractiwr rheoli na allwn anwybyddu’r posibilrwydd hwnnw yn y dyfodol. Tasg gyntaf ein syrfëwr meintiau newydd a benodwyd fydd cynnal adolygiad pellach o’r cynllun costio, gan ystyried yr wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael ar gyflwr y farchnad. Ein hasesiad presennol yw ei fod yn debygol y bydd angen inni ddefnyddio peth o’r ddarpariaeth wrth gefn ond yr wyf yn falch o nodi ein bod yn parhau ar y trywydd iawn i gyflwyno’r adeilad o fewn cyfanswm y gyllideb a bennwyd.

Gadewch imi amlinellu’r amserlen ichi. Dylai gwaith dargyfeirio gwasanaeth, y mae angen ei wneud cyn adeiladu, ddechrau erbyn canol Chwefror. Bwriedir cynnal seremoni torri tir ffurfiol ar 1 Mawrth--dyddiad priodol iawn, fel y mae’n siwr y cytuna’r Aelodau. Disgwylir i’r gwaith adeiladu go iawn ddechrau ym mis Mai. Mae’n edrych yn debyg y gall y Cynulliad feddiannu’r adeilad, yn ôl y bwriad, erbyn Ionawr 2003.

Cynog Dafis: Diolchaf i’r Gweinidog dros Gyllid am ei datganiad. Yr wyf yn ei llongyfarch hi a’r tîm am y gwaith a gyflawnwyd ac am y ffordd y mae hi’n arwain y gwaith hwn. Bu’n fraint i mi fod yn rhan o’r grwp bach sydd wedi bod yn edrych ar yr holl broses.

Ynghylch cost yr adeilad, croesawaf ei datganiad o hyder y gellir cwblhau’r prosiect o fewn y swm a glustnodwyd. Mae’n dda bod rhai elfennau ychwanegol yn gallu cael eu cyllido trwy arbediadau. Er enghraifft, y syniad o dynnu allan un o’r ddwy gloch, sydd yn golygu llai o gost a gwelliant yn ansawdd yr adeilad.

Mae’n rhesymol os ydym am gael adeilad y gallem ymfalchïo ynddo--ac mae’n rhaid i hynny fod--y mae’n bosibl y bydd yn rhaid defnyddio peth o’r gronfa wrth gefn. Cawn weld wrth fynd ymlaen. Pwysaf ar y Gweinidog i sicrhau bod ymagwedd ddisgybledig ar hyd yr amser mewn perthynas â chost.

Cefnogaf yr angen i’r Cynulliad reoli rhan o’r tir o gwmpas yr adeilad, o ran mwynhad y cyhoedd. Mae hynny cyn bwysiced â’r adeilad ei hunan. Gofynnaf hefyd sut y bydd yr adeilad masnachol newydd, a gaiff ei godi yn ymyl y dadleudy, yn effeithio ar ansawdd y dadleudy hwnnw?

Yr wyf yn falch o’r camau sydd wedi eu cymryd i sichrau mynediad rhwydd i’r anabl. Er bod rhai elfennau wedi’u gwrthod ar sail cost, yr wyf hefyd yn falch bod modd gosod lifft allanol ychwanegol pe bai angen hynny yn y dyfodol.

Croesawaf yn arbennig y bwriad i sefydlu grwp i gynghori ar waith celf, o gofio’r argymhelliad yn yr adroddiad 'Diwylliant Cytûn’ y buom yn ei drafod echdoe y dylid gweld y dadleudy, yr adeilad cyfan ac amgylchiadau’r Cynulliad fel gofod pwysig i’r celfyddydau oll.

Yr wyf yn mawr obeithio y gellir datblygu cynllun ynni adnewyddadwy beiddgar. Bydd hynny’n arwydd cryf i’r diwydiant yng Nghymru bod y Cynulliad yn ei gefnogi, a bydd yn cadarnhau ein hymrwymiad i ddatblygu cynaliadwy.

Edrychaf ymlaen yn fawr at seremoni torri’r dywarchen ar 1 Mawrth ac at agor y dadleudy yn Ionawr 2003. Mae’n bwysig eithriadol cadw at yr amserlen arfaethedig.

Yr wyf yn gwbl hyderus y bydd adeilad Richard Rogers, ein hadeilad ninnau, yn destun balchder, yn denu ymwelwyr o bell ac agos, ac yn gyfraniad at uno’r genedl gyfan yn y balchder hwnnw. Bydd o fantais aruthrol i Gaerdydd fel porth i’r genedl a bydd y genedl gyfan yn elwa.

A wnaiff ymuno â mi wrth estyn croeso cynnes i Geidwadwyr Cymru ymuno â’r gweddill ohonom yn y gwaith hwn? Nid oes amheuaeth nad oes gan y Ceidwadwyr gyfraniad pwysig i’w wneud yma at fywyd gwleidyddol ein cenedl ac at fywyd y Cynulliad. Gallaf dalu teyrnged am nifer o bethau y mae’r Ceidwadwyr wedi eu gwneud yng ngwaith y Cynulliad ond mae’n drueni eu bod yn eu hallgáu eu hunain o’r gwaith pwysig hwn. Dyma enghraifft berffaith o allgáu cymdeithasol; mae’r Ceidwadwyr yn eu hallgáu eu hunain. Mae’n gamgymeriad strategol mawr ar eu rhan hwy, ac mae eisiau iddynt ymwrthod â’u pechod a dychwelyd i’r gorlan. Byddem i gyd yn llawenhau o’u derbyn. Bydd llawenydd ymhlith angylion Duw am bob pechadur a edifarhao. Nyni yw’r angylion, hwy yw’r pechaduriaid. Yr wyf am weld edifeirwch ar eu rhan hwy yn awr; bydd mwy o lawenydd am un pechadur a edifarhao, nag am namyn un pum ugain o rai cyfiawn. Dewch yn ôl i’r gorlan, bois.

Edwina Hart: Cytunaf yn llwyr fod yr adeilad newydd yn ffynhonnell balchder i’r Cynulliad Cenedlaethol ac i ni fel cenedl. Byddwn yn ei groesawu pe bai Ceidwadwyr Cymru yn ailystyried eu penderfyniad ac yn dod yn rhan o’r grwp llywio polisi. Byddai hynny’n golygu y byddai pob plaid yn y Siambr hon yn ymwneud â’r broses gwneud penderfyniadau.

Yr wyf yn falch o fod wedi gweithio gyda’r grwp llywio polisi, sydd yn eich cynnwys chi, Cynog, y Llywydd a Mike German. Ymdriniasom â’r materion ariannol mewn modd hunanddisgybledig. Yr oeddem yn arbennig o ymwybodol ein bod am i’n hadeilad yng Nghymru fod yn adeilad cyhoeddus sydd yn dod o fewn y gyllideb. Byddai hynny’n gryn gyflawniad. Mae rheoli’r tir yn bwysig hefyd: yr ydym yn fodlon ar y cydweithredu a gawsom gan benseiri mewn adeilad cyfagos lle y maent wedi ceisio cydweddu â’n hadeilad, gan ganiatáu i gryfderau pensaernïol llawn ein hadeilad gael eu gweld yn y bae.

Mae ansawdd yr adeilad yn arwain at fater y celfyddydau. Nid dim ond ychwanegiad yw celfyddyd; mae celfyddyd yn rhan hanfodol o fywyd Cymru. Yr oedd yn bwysig inni fod yn arloesol ac yn bwysig ein bod wedi gwahodd pobl o bob cefndir i’n cynghori.

Mae datblygu cynaliadwy yn bwysig. Mae’r adeilad ei hun o’r safon uchaf o ran effeithlonrwydd ynni, ond yr ydym yn ymchwilio hefyd i’r mater ehangach o’n safle yn y bae a’n darpariaeth o ran ynni. Gallem wneud trefniadau partneriaeth ag eraill yn y bae i ystyried materion ynni. Gobeithiaf wrth inni ddatblygu y bydd hynny’n digwydd.

10:55 a.m.

Gwn fod creu amserlen yn anodd, er nad wyf wedi gweithio i gwmni rheilffordd. Fodd bynnag, fe’ch sicrhaf y ceisiaf gadw trwyn pawb ar y maen. Bydd yn arwyddocaol os gallwn feddiannu’r adeilad newydd erbyn Ionawr 2003, mewn da bryd i ddechrau canfasio ar gyfer etholiadau’r Cynulliad.

Janice Gregory: Diolchaf i Edwina a’r grwp llywio am eu gwaith, yn arbennig wrth sicrhau bod yr adeilad yn aros o fewn y gyllideb. Yr wyf yn siwr, gyda dwylo Edwina ar linynnau’r pwrs, nad oes llawer o berygl yr aiff y prosiect y tu hwnt i’w gyllideb. Yn anffodus, mae arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, sef Jeffrey Jones, yn rhoi stori ar led yn fy etholaeth i, Ogwr, a’r etholaeth gyfagos. Mae’n feirniad uchel ei gloch o’r Cynulliad, sydd yn syndod o gofio ei fod wedi ymdrechu’n galed i ddod yn Aelod. Datganodd yn gyhoeddus yn y wasg leol y bydd yr adeilad newydd--neu 'glass menagerie’, fel y’i geilw--yn costio £41 miliwn i Gymru. A ddywedwch y gwirionedd wrthym?

Edwina Hart: Mae’r adeilad newydd ar y trywydd iawn i gael ei gyflwyno o fewn y gyllideb a ddarparwyd. Mae £23.2 miliwn, ynghyd â’r 15 y cant o lwfans wrth gefn, sydd yn dod â chyfanswm y gyllideb a ddarparwyd i £26.6 miliwn. Cytunaf â Janice nad yw rhai o’r ymosodiadau ar y Cynulliad yn seiliedig ar egwyddor ond eu bod bron o ganlyniad i genfigen wleidyddol. Braint inni gyd yw bod y 60 Aelod cyntaf o’r Cynulliad. Yr wyf yn siwr bod pob un ohonom yn falch o fod yn rhan hanfodol o’r Cynulliad Cenedlaethol. Braint imi fydd bod yn rhan o hanes pan symudwn i’n hadeilad newydd. Nid yw cenfigen wleidyddol yn sail dda i drafod y penderfyniadau egwyddorol y ceisiwn eu gwneud yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Alun Cairns: Diolchaf i’r Gweinidog am ei datganiad. Fodd bynnag, onid hwn yw’r cyntaf o lawer o ddatganiadau y gallwn ei ddisgwyl ar adeilad newydd y Cynulliad, gan adlewyrchu costau cynyddol dro ar ôl tro? Rhaid imi gywiro’r Gweinidog ar ei sylwadau agoriadol, pan nododd fod cael adeilad newydd i’r Cynulliad yn

'benderfyniad a wnaethpwyd gan y Cynulliad cyfan’.

Nid oedd gan Blaid Ceidwadol Cymru, ynghyd ag un neu dda o Aelodau Llafur, ddim i’w wneud ag adeilad newydd y Cynulliad. Sicrhaf Cynog Dafis na fyddwn yn gysylltiedig o gwbl â’r cynllun na’r adeilad ei hun. Fodd bynnag, ynglyn â’r pwynt a wnaeth y Gweinidog mewn ymateb i Janice Gregory, nid yw ymosodiad Ceidwadwyr Cymru ar yr adeilad yn ymosodiad ar y Cynulliad.

Datganiad o fwg a drychau yw hyn sydd yn adlewyrchu costau cynyddol adeilad newydd y Cynulliad. Dywedir wrthym ein bod ar y trywydd iawn i gyflwyno adeilad

'ar amser ac o fewn cyfanswm y gyllideb a ddarparwyd’

Ni ddylem anghofio fod cyfanswm y gyllideb a ddarparwyd wedi cynyddu llawer o’r hyn a addawyd yn wreiddiol. Yna nododd y Gweinidog:

'wrth i’r gwaith fynd rhagddo mae rhai pwysau o ran costau wedi codi’.

Yna yr oedd llen fwg newydd:

'talwyd am y gost ychwanegol o tua £300,000 drwy arbedion a gododd o ganlyniad i newidiadau eraill i’r cynllun’.

Yna nododd y Gweinidog

'mae cost y comisiwn contractiwr rheoli tua £470,000 yn uwch na’r ddarpariaeth wreiddiol a amcangyfrifwyd. Fodd bynnag, caiff hyn hefyd ei ymgorffori yn y cynllun costio.’

Oni ddylid trosglwyddo unrhyw arbedion sydd yn codi o newidiadau i’r cynllun i’r trethdalwr yng Nghymru? Dylid eu rhoi i bobl sydd yn defnyddio’r gwasanaeth iechyd a’r system addysg.

Gollyngwyd y gath o’r cwd yn ddiweddarach, pan ddywedodd y Gweinidog,

'awgryma canlyniadau’r broses dendro ar gyfer contractiwr rheoli na allwn anwybyddu’r posibilrwydd hwnnw yn y dyfodol.’

Ac, yn ddiweddarach, tanlinellodd y Gweinidog yn glir, o dan yr asesiad presennol,

'ei fod yn debygol y bydd angen inni ddefnyddio peth o’r ddarpariaeth wrth gefn’.

Onid yw’r gost yn codi dro ar ôl tro? Deallaf mai cyfrifoldeb cyntaf y syrfëwr meintiau annibynnol fydd adolygu costau a chynlluniau unwaith yn rhagor. Pryd y cawn wybod canlyniad y costau a’r newidiadau hyn i’r cynllun? Pryd bydd Edwina yn onest ac yn dweud, unwaith ac am byth, bod y gost hon yn mynd y tu hwnt i bob rheswm?

Edwina Hart: Caiff y mwg a’r drychau eu defnyddio ar eich ochr chi. A barnu o’ch dealltwriaeth o’m datganiad, yr wyf yn well am drin arian na chi. Eglurais, fel y gwnaeth y tîm, ein bod wedi ceisio cadw’n gaeth o fewn y gyllideb drwy gydol y broses hon. Os oedd hynny’n golygu lleihau rhai manylebau o ran y cynlluniau er mwyn cadw o fewn y gyllideb, gwneuthum hynny drwy gydol y broses. Mae hwn yn ddatganiad eithriadol o onest, sydd yn dangos yr anawsterau a’r pwysau sydd yn codi pan fyddwch yn delio ag adeilad ac yn ceisio ei gadw o fewn ffigur cyffredinol. Bûm yn onest ynglyn â threfniadau wrth gefn a’r ffaith fy mod wedi cynnwys lwfans wrth gefn. Mae hynny’n rheolaeth dda. Golyga rheolaeth dda--fel y gwyddoch--

David Melding: Bod pethau wedi mynd i’r pen.

Edwina Hart: Nid yw pethau wedi mynd i’r pen o gwbl yn hyn o beth oherwydd nid wyf yn anobeithio ynglyn â materion o’r fath. Yr ydych yn chwarae gêm galed, yn bargeinio’n galed ac yn ceisio sicrhau eich bod yn cadw o fewn y gyllideb a ddarparwyd. Ni ddywedaf fod hynny’n hawdd, ond gyda chefnogaeth fy ngrwp, ac o gofio bod mwyafrif y Cynulliad yn cefnogi’r prosiect adeiladu, yr wyf yn siwr y bydd gennym rywbeth y bydd pobl Cymru yn ei ddeall. Nid yw’r pwyntiau gwleidyddol rhad a diwerth hyn y dewiswch eu gwneud, Alun, yn helpu unrhyw un. Gwnaethom benderfyniad ar adeilad y Cynulliad. Yr oedd yn benderfyniad democrataidd a gymerwyd gan y mwyafrif o’r Cynulliad hwn. Y pris a dalwn am ddemocratiaeth yw ein bod yn derbyn penderfyniadau democrataidd. Mae hyn yn parhau. Gallwch wawdio ynglyn â gwario £200,000 ar fynediad i’r anabl a materion o’r fath. Cariwch ymlaen Alun. Ni fydd pobl yn eich parchu am wneud hynny. Mae hyn yn ymwneud â’n hadeilad, ein dyfodol, dyfodol ein cenedl a sut mae democratiaeth yn datblygu yng Nghymru. Dyna sut y gwelaf fi bethau a dyna sut y gwelir pethau gan bobl Cymru a mwyafrif yr Aelodau yn y Siambr hon.

Delyth Evans: Pa fesurau a gymerir i sicrhau, lle bo hynny’n bosibl, y caiff deunyddiau a wneir yng Nghymru eu defnyddio i adeiladu’r adeilad? Beth a wneir i sicrhau bod agwedd gynaliadwy yr adeilad, megis defnyddio paneli ynni’r haul yn parhau yn ganolog i ddatblygiad manwl y cynllun?

Edwina Hart: Mae’r agweddau datblygu cynaliadwy yn faterion allweddol inni a threuliwn gryn amser yn trafod hynny yn y grwp i weld sut y gallwn wneud y defnydd gorau ohonynt. Yn wir, trafodwn faterion megis beth fydd yn digwydd i ddwr glaw yn yr adeilad newydd, sut y caiff ei ddosbarthu a’i ddefnyddio yn ein toiledau ac yn y blaen, a defnyddio dwr oer i olchi ein dwylo gan fod hynny’n well i’r amgylchedd. Mae’r materion hynny yn rhan hanfodol o’r broses. Mynegais ein pryderon ynglyn â sut y cawn ynni yn yr adeilad. Edrychwn efallai ar brosiectau arloesol sydd yn ymwneud â’r bae, ffermydd gwynt ac yn y blaen.

O ran deunyddiau Cymreig, cyfyd materion caffael mewn perthynas â hynny. Yr ydym wrthi’n ystyried ffyrdd cadarnhaol o sicrhau y defnyddir deunyddiau Cymreig yn yr adeilad hwn. Mae angen trafod pa ddeunyddiau yr ydych am eu defnyddio. Trafodasom ddefnyddio pren yn yr adeilad gan ddefnyddio pren Cymru a chynnwys Coed Cymru mewn trafodaethau. Bu hynny i gyd yn gadarnhaol iawn. Dyna’r llwybr a gymerwn. O ran diweddaru hyn, gan mai proses barhaus ydyw ac mae’r grwp yn cyfarfod bob mis, bwriadaf roi adroddiadau rheolaidd ar y wefan--pan fydd yn weithredol--i roi’r newyddion diweddaraf i’r Aelodau ar faterion o’r fath. Os bydd yr Aelodau am ofyn cwestiynau ynglyn â chynnydd, yna gall yr Aelodau i gyd gael yr atebion. Gan fod gan yr Aelodau ddiddordeb yn yr agwedd hon, cyn gynted ag y bydd gennym ragor o wybodaeth, byddwn yn darparu diweddariad ar y fewnrwyd.

Janet Davies: Diolchaf ichi am eich cyhoeddiad heddiw ac am eich ymdrechion cryf i gadw rheolaeth ar y costau. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio, yr wyf yn falch eich bod yn dilyn yr argymhellion a wnaethpwyd gan y Pwyllgor Archwilio ar ôl ei wrandawiad fis Tachwedd diwethaf. Fel Aelod Gorllewin De Cymru, codaf fater sydd yn ymwneud â’m hetholaeth. Pan gymharwyd opsiynau Caerdydd ac Abertawe am y tro cyntaf yn 1998, ni chynhaliwyd unrhyw werthusiad economaidd o gostau amser teithio’r staff, dim ond cost y bws i Abertawe. Ym mis Ebrill y llynedd, yn dilyn galwadau gan Geidwadwyr Cymru, cynhaliwyd gwerthusiad o’r costau a dalwyd o ganlyniad i staff yn teithio rhwng Parc Cathays a’r bae. Dywedwyd y byddai’n costio £2.9 miliwn bob blwyddyn. Yn dilyn gwrandawiad y Pwyllgor Archwilio fis Tachwedd diwethaf, cynhaliwyd gwerthusiad economaidd tebyg ar gyfer Abertawe a oedd yn golygu £9 miliwn bob blwyddyn. Yng ngwrandawiad y Pwyllgor Archwilio, daeth yn amlwg bod Abertawe wedi cael ei chamarwain oherwydd, yn wleidyddol, yr oedd yn rhaid i’r adeilad hwn fod yng Nghaerdydd. Ni chynhaliwyd unrhyw werthusiad economaidd llawn o gostau amser teithio’r staff i Abertawe bryd hynny. Mae’n amlwg i mi yn awr ac i’r rhan fwyaf o bobl--os defnyddiant eu synnwyr--mai Bae Caerdydd yw’r lleoliad mwyaf effeithiol ar gyfer yr adeilad, yn economaidd ac yn wleidyddol. Fodd bynnag, a ddeallwch y gwnaethpwyd difrod sylweddol i enw da y Cynulliad Cenedlaethol yn ardal Abertawe--soniodd Janice Gregory am brofiad tebyg yn ardal Ogwr--o ganlyniad i’r modd yr ymdriniwyd â’r opsiynau hyn? A gytunwch fod cael democratiaeth yng Nghymru wedi gwneud gwahaniaeth mawr i ddod â mater fel hyn i’r amlwg a gwneud esboniadau yn eglur?

11:05 a.m.

Edwina Hart: Cytunaf â’ch sylwadau ar ddemocratiaeth yng Nghymru a’n bod yn cael trafodaethau agored ar y materion hyn. Yr ydym yn sôn am hanes yma. Yr oedd penderfyniad Prif Weinidog Cymru i aros ac ystyried yn gywir. Pan edrychwn yn ôl, nid oes amheuaeth gennyf, wrth ddarllen y South Wales Evening Post, fel y gwna’r Aelodau eraill, y bu cryn bryder yn Abertawe ynglyn â’r arian a oedd yn cael ei wario ar ystyried y cynigion. Mae hynny’n wir hefyd am rannau eraill o Gymru y gofynnwyd iddynt ystyried a allent gynnig opsiynau hyfyw ymarferol yn lle Caerdydd.

Gwnaethom y penderfyniad cywir ar leoliad y Cynulliad Cenedlaethol. Nid oeddwn yn wleidydd adeg y penderfyniad hwnnw. Pe bawn i wedi gwneud y penderfyniad, hyd yn oed fel gwleidydd o Abertawe, byddwn wedi dewis Caerdydd, fel prifddinas y wlad. Fodd bynnag, rhaid inni wneud ein hunain yn fwy hygyrch i weddill y wlad. Efallai bod ein hadeilad a Siambr y Cynulliad yng Nghaerdydd, ond mae’n ddyletswydd ar bob un ohonom i ystyried y ffordd y gweithreda’r Cynulliad y tu allan i Gaerdydd, pa sefydliadau y gallem ystyried eu lleoli mewn mannau eraill, a pha adeiladau eraill, swyddfeydd ac yn y blaen, y gallai’r Cynulliad eu defnyddio ledled Cymru maes o law. Yr adeilad hwn yw symbol y Cynulliad. Fodd bynnag, holl bwrpas yr adeilad hwn yw ei fod ar gyfer holl bobl Cymru, a rhaid iddynt deimlo’n rhan ohono. Bydd y broses honno o dyfu yn cynnwys ystyried ble yr ydym a ble mae’r opsiynau eraill.

Lorraine Barrett: Nid wyf am wneud sylwadau ar y rhagrith ar ochr Geidwadol y Siambr. Fodd bynnag, yn breifat, dywed sawl Aelod Ceidwadol wrthyf y byddant yn mwynhau’r adeilad unwaith y bydd yno, ond eu bod yn gorfod chwarae’r gêm hon. [Aelodau’r Cynulliad: 'Enwch enwau.’] Ni wnaf ddatgelu sgyrsiau preifat. Fodd bynnag, mae’n drueni na chymer y Ceidwadwyr ran yn y trafodaethau difrifol hyn. Caiff yr adeilad ei adeiladu. Mae’n mynd yn ei flaen. Nid oes pwynt ymarfer y ddadl o blaid neu yn erbyn yr adeilad. Mae peidio â chael arbenigedd cyfle cyfartal David Melding yn golygu ein bod ar ein colled. Mae grwpiau anabledd ar eu colled gan na chaiff ei gynnwys mewn trafodaethau. Yr wyf o ddifrif ynglyn â hyn, David, a gwn yr ewch i drafferth gyda gweddill eich grwp. Gwnewch gyfraniadau dilys a difrifol i’r Pwyllgor Cyfle Cyfartal. Hoffwn pe bai’r Ceidwadwyr yn ailystyried eu tactegau.

Cynog Dafis, fe ddywedasoch y cyfan. Disgrifiwyd yr adeilad newydd imi fel y Jerwsalem newydd. Bydd yn adeilad i bawb. Nid yw’n adeilad dim ond i’r Aelodau eistedd ynddo a doethinebu a thrafod. Mae ar gyfer pobl ledled y byd--o Gymru ac Ewrop, America ac Awstralia. Bu llawer o ymwelwyr yma eisoes, ond beth yw eu barn pan ddônt ar ymweliad? Dônt i’r bae a gofyn, un eiliad, ble mae adeilad newydd Llywodraeth Cymru; rhaid imi fynd drwy ddrws troi, beth fyddant yn ei ddweud os af i mewn yno, a allaf fynd i mewn yno? Cerddant i mewn yn betrus, ac yna fe’u croesewir gan y tywyswyr a’r staff, ond nid ydynt yn sicr o hyd a allant ddod i mewn--

David Davies: Ble y maent?

Y Llywydd: Trefn. Mae hwn yn gwestiwn ar ddatganiad. Ni allwch ymyrryd. Efallai y byddwn wedi galw arnoch i lefaru.

Lorraine Barrett: Nid ydym am gael adeilad yn null San Steffan gyda’i rwyg a’i rodres. Mae gennyf gwestiwn ynglyn â mynediad i bawb, Edwina, yn enwedig y rhai trwm eu clyw a’r rhai â nam ar y clyw. Cyfeiriodd Rosemary at hyn yn gynharach. Mae nam ar y fy nghlyw i a rhaid inni sicrhau bod yr acwsteg yn iawn yn yr adeilad newydd. Rhyw bryd wrth i’r prosiect ddatblygu, a allem gael ein briffio’n anffurfiol ar y materion anabledd er mwyn gweld sut yr eir i’r afael â hwy? Byddai pawb yn gwerthfawrogi hynny. Mae Anabledd Cymru yn ymwneud â’r prosiect wrth iddo ddatblygu, ond a allwn roi sylw i nam ar y clyw a sicrhau bod y grwpiau sydd yn cynrychioli pobl â nam ar eu clyw yn ymwneud â’r cam holl bwysig hwnnw? Ynglyn â thymheredd, ar hyn o bryd gellir tyfu tomatos mewn un rhan o’r adeilad hwn a rhewi iâ mewn rhan arall. Ni wn beth yw’r broblem, ond a allwn sicrhau yr eir i’r afael â hynny hefyd?

Edwina Hart: Mae gennym grwp mynediad sydd yn ein cynghori ynglyn â’r materion hyn. Mae acwsteg yr adeilad newydd yn holl bwysig. Canfuom drwy gydol ein trafodaethau fod dwr ac effaith y gwydr yn effeithio ar yr acwsteg. Yr ydym wedi gorfod ystyried y materion hyn yn fanwl, a byddwn yn falch o roi adroddiad i’r Aelodau ar y cynnydd. Mae ar ein hagenda. Fodd bynnag, mae hyn yn ymwneud â phawb, nid dim ond defnyddwyr cadeiriau olwynion. Mae hefyd yn ymwneud â charpedi, y llawr, lle y dylid rhoi llinellau er mwyn i bobl a chwn tywys wybod bod wal neu wydr. Mae nifer o ystyriaethau. Ceisiasom gyngor priodol ar hyn ac, o ganlyniad, gobeithiaf mai adeilad model fydd ein hadeilad ni. Pan fydd y materion hyn wedi’u datblygu o fewn y grwp, cyflenwaf bapur briffio ar gyfer yr Aelodau, gyda chymorth y penseiri. Pan fydd yr Aelodau yn ymweld â model Siambr, gwelant yr amser a’r ymdrech a fuddsoddwyd i’r gwaith o ystyried hygyrchedd. Er enghraifft, wrth fynd i mewn i’r Siambr neu wrth ei gadael, gall defnyddiwr cadair olwynion fynd heibio’r rhes o seddau’r Cabinet. Yr wyf yn siwr y bydd diddordeb gan Aelodau weld sut yr ymdriniasom â hygyrchedd.

Rod Richards: Ymatebaf yn gyntaf i alwad Cynog Dafis ar i ambell Aelod ar yr ochr hon i’r Siambr ddod draw i ymuno â’r angylion. Fe’i atgoffaf o eiriau’r Iesu,

'Aeth dau ddyn i fyny i’r deml i weddïo.’

Yr oedd un yn Pharisead--o Blaid Cymru--a’r llall yn bublican--Tori annibynnol. Fe gofiwch i’r Pharisead ddiolch i’r Arglwydd am nad oedd yn debyg i’r Tori annibynnol a oedd wedi’i allgáu ac a wrthwynebai’r deml. Fe gofiwch hefyd mai’r Tori annibynnol a gafodd ei gyfiawnhau gan Dduw, nid y Pharisead na’r angylion.

Rhodri Glyn Thomas: Ar ôl iddo ofyn am faddeuant.

Rod Richards: Mae pregethwr arall yma.

Y Llywydd: Trefn. Yr ydym wedi clywed digon o ddiwinyddiaeth am heddiw.

Rod Richards: Bydd yn rhaid i’r rhai ohonom sydd yn gallu gweld o’n swyddfeydd yr olygfa drychinebus lle y caiff y gwastraff arian gwarthus hwn ei leoli edrych arno yn cael ei adeiladu fricsen wrth fricsen. Yr unig ran o ddatganiad y Gweinidog a groesawaf--ac yr wyf yn gwbl ddiffuant yn hyn o beth--yw’r dyddiad cwblhau sef Ionawr 2003. Bydd hynny’n atgoffa pleidleiswyr yng Nghymru mewn da bryd dros bwy y dylent fwrw eu pleidlais yn etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai y flwyddyn honno.

Edwina Hart: Bydd gweld yr adeilad wedi ei godi yn atgoffa pleidleiswyr yng Ngwyr i bleidleisio drosof fi.

Peter Black: Yr wyf yn fwy na bodlon cyfnewid swyddfeydd â Rod os nad yw am edrych ar y safle adeiladu. Yr wyf yn siwr y byddai ei gyn gyd-Aelodau Ceidwadol yn croesawu hynny.

Croesawaf y datganiad hwn gan ei bod yn bwysig inni gael yr wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd. Croesawaf yn arbennig y sylwadau ar ddarparu ynni a defnyddio deunyddiau o Gymru. Mae’n bwysig inni ddefnyddio ffynonellau ynni cynaliadwy fel paneli haul, os yw’n bosibl, a phwer gwynt. Croesawaf hefyd y ffaith y bydd yr adeilad mor ynni effeithlon â phosibl, yn fwy effeithlon o bosibl nag unrhyw adeilad arall yng Nghymru. A fydd Edwina’n ystyried defnyddio trydan a mathau eraill o ynni a gyflenwir gan gwmnïau sydd yn llwyr ddibynnu ar ffynonellau ynni cynaliadwy ar gyfer yr adeilad newydd, yn ogystal â swyddfeydd eraill y Cynulliad?

Edwina Hart: Yr wyf yn fodlon ystyried yr holl bwyntiau a godwyd. Oherwydd y diddordeb yn yr agwedd ynni, cyflwynaf nodyn i’r Aelodau Cynulliad a fydd yn amlinellu’r sefyllfa bresennol. Mae pethau wedi newid, ac yr ydym yn ystyried yr hyn sydd yn ddigwyddiad symudol o hyd. Byddaf yn cadarnhau’r sefyllfa maes o law.

Glyn Davies: Brif Weinidog, nid oes unrhyw amheuaeth--mae’n ddrwg gennyf, yr wyf yn achub y blaen wrth eich disgrifio fel Prif Weinidog--y Gweinidog dros Gyllid, nid oes amheuaeth gan unrhyw un fod grwp Ceidwadwyr Cymru yn parhau i wrthwynebu’r adeilad newydd i’r carn fel y gwnaeth erioed. Mae’n gamgymeriad ac yr ydym wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i’w atal rhag cael ei adeiladu. Yr wyf wedi chwarae rôl yn hyn o beth drwy geisio annog pobl i gyd-fynd â ni. Mae hynny wedi bod yn llwyddiannus ledled Cymru ac mae’r mwyafrif llethol yn cytuno â’n safbwynt ni. Ar un adeg, yr oeddwn yn meddwl fy mod wedi darbwyllo’r Prif Weinidog i ymuno â ni. Pe na bai’n ddyn mor anwadal ei natur gallai fod wedi arwain ei blaid i’n carfan ni ar y mater hwn.

11:15 a.m.

Yr oedd ein gwrthwynebiad bob amser yn seiliedig ar y ffaith y gellid bod wedi gwario’r arian yn well i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus i bobl Cymru, ac y byddai’n well ganddynt pe byddem wedi gwneud hynny. Nid yn unig yr oedd ein gwrthwynebiad yn wrthwynebiad llwyr, yr oedd yn ymwneud yn benodol â’r ffaith bod yr hyn yr oeddem yn ei wneud yn gynamserol. Y peth cyntaf y dylem fod wedi’i wneud oedd ystyried y materion a gafodd effaith ar bobl Cymru. Pan oeddent yn fodlon ar y Cynulliad, wedyn gallent fod wedi bod yn fodlon ein bod yn adeiladu adeilad newydd.

O ran pwynt Cynog--

Y Llywydd: Trefn. Glyn, nid dadl yw hon. Treuliasom dros 30 munud ar y datganiad hwn. Bûm yn eithriadol o hael heddiw. Fel y gwyr yr Aelodau, rhaid imi fod mewn hwyliau da ar foreau Iau.

Glyn Davies: Ni fyddem byth yn dymuno rhoi eich hwyliau da ar brawf, Lywydd.

Mae arnom angen pob manylyn am unrhyw gynnydd mewn costau a byddwn yn parhau i ofyn am gwestiynau ysgrifenedig a llafar ar bob agwedd ar yr adeilad newydd hwn. Yr wyf am i Edwina sicrhau y gall pobl anabl gael mynediad i’r adeilad newydd drwy’r drws ffrynt heb orfod defnyddio unrhyw ddull mecanyddol. Mae unrhyw beth arall yn hollol annerbyniol. A gytunwch, ar ôl gwario tua £30 miliwn ar yr adeilad newydd, ac ar ôl iddo gael ei gwblhau, y bydd yn rhaid inni gyfiawnhau gwastraffu cymaint o arian cyhoeddus?

Edwina Hart: Yn gyntaf, ymdriniaf â’r cwestiynau go iawn. O ran mynediad i’r anabl, mae grwp ymgynghorol ar fynediad sydd yn ymgynghori â ni ar bob mater sydd yn ymwneud â mynediad. Nid achubaf y blaen ar y trafodaethau hynny ymhlith defnyddwyr na’u cyngor ar fynediad. Fodd bynnag, bydd cyngor y grwp yn foddhaol. Mae’r Comisiwn Hawliau Anabledd ac Anabledd Cymru yn gysylltiedig â hyn hefyd a chanolbwyntiaf ar y mater hwnnw.

Gallwch ofyn cymaint o gwestiynau ag y dymunwch, oherwydd nid oes arnaf ofn rhoi atebion manwl i chi. Gogoniant datganoli a system ddemocrataidd yng Nghymru yw y gallwch ofyn y cwestiynau hyn a chael atebion ac adroddiadau llawn a rheolaidd ar yr hyn sydd yn digwydd. Ni chytunaf â’ch sylwadau ar yr adeilad newydd pan ddywedwch ei fod yn wastraff mawr o arian ac yn gamgymeriad. O ran eich sylwadau haerllug am natur anwadal y Prif Weinidog, ni fu unrhyw betrustod. Ceisiasom wneud penderfyniad aeddfed drwy edrych ar y cyllidebau a’r anghenion a’r gofynion. Mae gwleidyddiaeth yn ymwneud ag egwyddorion. Efallai nad yw grwp Ceidwadwyr Cymru yn deall y gair hwnnw. Mae’n eironig y dylai’r geiriau 'gwasanaethau cyhoeddus’ ddod o’ch genau chi o gofio bod eich grwp ond yn ymwneud â phoblyddiaeth.

Mae gwleidyddiaeth yn golygu gwneud penderfyniad egwyddorol, datblygu democratiaeth yng Nghymru a chael yr adeilad i wneud hynny ynddo; sylweddoli ein bod yn genedl sydd wedi tyfu yn y ganrif newydd hon, sydd yn siarad gydag Ewrop ac yn ymdrin â llawer o faterion. Rhaid i’r cwyno ddod i ben. Os yw’r Ceidwadwyr o ddifrif ynglyn ag archwilio costau’r prosiect a chymryd rhan yn y broses, dylent ymuno â’n pwyllgor ac ymddwyn fel oedolion.