Adeilad Newydd y Cynulliad
Y Llywydd: Yr eitem nesaf o fusnes yw’r ddadl ar adeilad newydd y Cynulliad. Oherwydd fy niddordeb yn y mater hwn, mae’r Dirprwy Lywydd, Jane Davidson, wedi cytuno i gadeirio gweddill y sesiwn
Y Dirprwy Lywydd: Oherwydd y nifer fawr o geisiadau am gael siarad yn y ddadl hon, ac i warchod amser y ddadl fer, sydd i fod i ddechrau am 5 p.m., byddaf yn pennu cyfyngiad amser, o dan Reol Sefydlog Rhif 7.3. Y cyfyngiad fydd pum munud i’r areithiau agoriadol a chau a’r gwelliannau, a thair munud i gyfraniadau eraill. Yr wyf am geisio sicrhau bod cynifer â phosibl o’r rheini sydd wedi gofyn am gael siarad yn cael eu galw i wneud hynny.
Yr wyf wedi dewis gwelliannau 1 a 4 yn enw Glyn Davies, gwelliannau 2 a 3 yn enw Andrew Davies a gwelliant 5 yn enw Owen John Thomas.
Y Prif Ysgrifennydd: Cynigiaf fod
y Cynulliad, ar ôl ystyried y gwaith a wnaed gan swyddogion ac a ddisgrifir yn y ddogfen 'Gwybodaeth am Broject Adeilad Newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mehefin, yn penderfynu mynd am Ddewis E fel y’i disgrifir yn y ddogfen honno.
Cynigiaf hefyd welliant 2 yn enw Andrew Davies. Dileu popeth ar ôl 'penderfynu
’ a rhoi yn ei le:
mabwysiadu Dewis A fel y’i disgrifir yn y ddogfen honno.
Cynigiaf hefyd welliant 3 yn enw Andrew Davies. Dileu popeth ar ôl 'penderfynu
’ a rhoi yn ei le:
parhau i symud ymlaen â Dewis B fel y’i disgrifir yn y ddogfen honno.
Pan wneuthum fy natganiad diwethaf ar y mater hwn ar 22 Mawrth, addewais y byddwn, o fewn rhyw dri mis yn fras, wedi paratoi cyfres o opsiynau wedi’u costio ac argymhelliad gan y Cabinet ac mai mater i’r Cynulliad fyddai hwn wedyn. Dyna’r hyn yr ydym wedi’i wneud. Gobeithiaf y gallwn drafod y mater hwn yn yr un modd hynaws â’r ddadl flaenorol, er bod honno’n ymdebygu braidd i sesiwn garu ar adegau. Rhaid imi holi Tom beth yw’r gyfrinach. Hon fydd y bleidlais gyntaf ar egwyddor yr adeilad newydd neu atebion eraill i’n problemau o ran adeilad. Bydd yn bleidlais rydd a hyderaf mai hon fydd y bleidlais derfynol.
Bydd y ddadl hon yn golygu cyfres o benderfyniadau i weld a ellir cefnogi’r Siambr hon fel Siambr drafod barhaol; os na ellir, a ddylem ddatrys ein hangen am Siambr drafod o safbwynt ymarferol, am gost gymedrol, drwy godi estyniad at yr adeilad hwn ar lefel y llawr cyntaf a’r ail lawr, am gost o £13.5 miliwn, ynteu wario dwbl y swm hwnnw--£27 miliwn--ar gynllun yr adeilad newydd, a etifeddwyd gennym oddi wrth yr hen Swyddfa Gymreig. Mae’r ddau adeilad arfaethedig yn estyniadau at Dy Crucywel. Mae’n hawdd gweld bod y cyntaf yn estyniad oherwydd dyna ydyw, ar y llawr cyntaf a’r ail lawr. Mae’r ail yn honni bod yn adeilad newydd, er y byddai ynghlwm wrth yr adeilad hwn ar lefel coridorau’r llawr isaf.
Mae amgylchiadau pleidlais y prynhawn yma, neu’r gyfres o bleidleisiau, yn anarferol, arbennig a bron iawn yn anomalaidd. Yn gyntaf, mater seneddol yw hwn, nid mater o bolisi llywodraeth. Mae a wnelo ag adeilad ar ein cyfer. Felly, mae gan aelodau’r meinciau-cefn fwy o hawliau nag sydd ganddynt fel arfer, o safbwynt chwipio a threfniadau eraill. Nid mater polisi mohono, ond un y mae gan bawb ohonom fuddiant ynddo, a dyna pam y mae Llafur wedi penderfynu cael pleidlais rydd. Heblaw hynny, cymerasom bleidlais gadarnhau ar agweddau o gynllun adeilad Partneriaeth Richard Rogers ar safle 1E y tu cefn i’r adeilad hwn ar 26 Ionawr. Nid pleidlais ar yr egwyddor oedd honno, ond ar ddiwygiadau, ar yr amserlen a’r gost dybiedig. Byddai gwyro oddi wrth hynny, bum mis yn ddiweddarach, yn golygu gofyn i’r Cynulliad newid oddi ar y llwybr gwreiddiol a ddewisodd yn Ionawr. Yr oedd y bleidlais honno yn anomalaidd am na roddodd brawf ar yr egwyddor pa un yr oedd y Cynulliad, fel cleient i Bartneriaeth Richard Rogers, am gael yr adeilad newydd. Gadawyd iddo lithro ar ein traws bron heb ei astudio a heb ei gefnogi neu beidio.
3:52 p.m.
Mae heddiw, sef dydd y farn, yn rhan o broses aeddfedu’r Cynulliad. I aralleirio’r datganiad enwog hwnnw a fu’n diasbedain ar ôl i Lafur ennill ei mwyafrif enfawr yn 1945, 'ni yw’r meistri yn awr’, heddiw rhaid i ninnau ddweud mai 'ni yw’r cleientiaid yn awr’, ni waeth ai etifeddu’r cynllun a wnaethom ai peidio. Felly, ni ddylai’r Cynulliad ei dderbyn dim ond am iddo ei etifeddu oddi wrth y Swyddfa Gymreig; dylai bleidleisio un ai ar Bartneriaeth Richard Rogers, ar opsiwn y cwrt neu ar wneud dim. Dyna ein dewis ni heddiw ac yr ydym wedi llwyddo i gyrraedd y fan hon o fewn tri mis o’r adeg i mi gyhoeddi fy adolygiad.
Mae gorfod barnu fel hyn yn anodd. Mae’r dadleuon i gyd wedi’u hymgorffori yn y gwelliannau gerbron y Cynulliad heddiw. Mae mwyafrif enfawr yn y Cynulliad hwn sydd o’r farn bod y Siambr hon yn annigonol. Mae’n annigonol am mai fel ateb dros dro y’i bwriadwyd erioed. Os nad ydych yn cytuno â hynny, gallwch bleidleisio dros welliannau 1 a 2. I gael Siambr newydd, ystafelloedd pwyllgora eraill, gwella mynediad i’r cyhoedd am y gost isaf, y Siambr ar byst uwchlaw’r maes parcio yw’r dewis iawn. Yn olaf, os ydych am wario dwbl yr arian hwnnw gallwch bleidleisio o blaid cynllun Partneriaeth Richard Rogers ar safle 1E. Gwyddoch y gost, ond nid yw talu’r arian ychwanegol hynny yn gwarantu cael adeilad a fydd yn troi pennau. Dyna sydd yn rhaid ei farnu, yr hyn y mae’n rhaid i gefnogwyr opsiwn Richard Rogers ei gyfiawnhau heddiw. Rhaid iddynt gredu bod cynllun Partneriaeth Richard Rogers yn rhoi i Gymru adeilad neilltuol, o fri sydd yn cyfiawnhau £13 i £14 miliwn ychwanegol.
Caiff adeilad Richard Rogers ei gefnogi gan y rheini sydd yn credu ei bod yn werth talu’r arian ychwanegol i gael y bri. A yw bri yn werth £13 i £14 miliwn ar ben yr opsiwn ymarferol? Nid yw’r Cabinet yn credu hynny. Ymysg y ffactorau a berodd imi geisio adolygiad yr oedd yr amheuon a’r dyfalu parhaus ynglyn â’r penderfyniad gwreiddiol i leoli cartref y Cynulliad yn y Bae yn hytrach nag yn Neuadd y Ddinas neu leoliadau eraill posibl. Clywais amheuon, gan weision sifil yn bennaf, ynglyn â’r problemau gweithredol a gâi eu hachosi o gael dau safle wedi eu rhannu rhwng y 2,000 o weision sifil ym Mharc Cathays ac elfen ddemocrataidd newydd y Cynulliad yn y bae.
Estyniadau yw’r ddau opsiwn ger ein bron heddiw i bob diben. Dylem godi’r estyniad sydd yn derbyn mai estyniad yw ac nid yr un sydd yn cymryd arno fod yn adeilad newydd yn sefyll ar ei ben ei hun. Er bod yna yn anochel gafaliriaid, pengrynwyr a chrysau rhawn ymysg 60 o bobl, opsiwn y pengrynwyr, sef ateb ein hangen am adeilad am gost o £13 i £14 miliwn, yw’r ffordd iawn ymlaen ac argymhellaf y cynnig i’r Siambr.
Glyn Davies: Cynigiaf welliant 1. Dileu popeth ar ôl y gair 'Cynigiaf
’ a rhoi yn ei le:
nad yw’r Cynulliad, o ystyried materion yn ymwneud â gofynion caffael, diffyg manylion yngln â chostau, anawsterau ymarferol a rhwymedigaethau cytundebol mewn perthynas â safle 1E, yn rhoi unrhyw ystyriaeth i gynnig anghyfrifol a sinigaidd y Cabinet i adeiladu dros faes parcio’r cwrt.
Cynigiaf hefyd welliant 4. Dileu popeth ar ôl y gair 'penderfynu
’ a rhoi yn ei le:
peidio â symud ymlaen ag unrhyw adeilad newydd.
Y tro cyntaf y gwelais fraslun o’r ystafell wydr bach, a argymhellir i’r Cynulliad gan y Prif Ysgrifennydd a’i Gabinet heddiw, fe’m hatgoffwyd o’m diwrnod cyntaf yn yr ysgol gynradd. Gwelais yr hyn a edrychai fel adeilad brics coch enfawr yn wynebu’r bachgen bach yma o’r bryniau, adeilad oedd ag estyniad bach rhyfedd rownd y cefn drws nesaf i faes parcio’r staff. Dywedodd un o’r bechgyn dipyn-llai-newydd wrthyf, braidd yn ddi-chwaeth, mai ty bacn yr ysgol ydoedd. Yn wir, dyna oedd. Felly, dyna chi, syniad y Prif Ysgrifennydd o adeilad newydd o fri--Siambr drafod newydd i ddemocratiaeth newydd sydd yn ymdebygu i floc toiledau, ar wahân i’r ffaith y byddai’n costio unrhyw beth hyd at £20 miliwn ac y câi ei godi ar byst uwchlaw’r maes parcio--ty bach £20 miliwn ar byst.
Wrth gwrs, ni chaiff ei godi. Nid yw’n ddim ond rhyw st?nt wael, druenus a fwriadwyd at un pwrpas yn unig, sef achub croen Rhodri Morgan. Y ddadl go-iawn yw a ddylid bwrw ymlaen ag estyniad gwreiddiol Richard Rogers neu beidio â bwrw ymlaen â’r adeilad newydd, sef yr opsiwn a ffafriwn ni. Nid yw barn Ceidwadwyr Cymru ar y mater hwn wedi newid o’r dechrau, ac yr wyf fi wedi ceisio cyfleu dwy neges yn gyson ers hynny. Y neges pennaf bryd hynny ac o hyd yw na ddylai’r Cynulliad wario £30 miliwn o adnoddau prin ar Siambr drafod newydd. Yn sicr, nid cyn fod gan y Cynulliad rai llwyddiannau pendant i’w enw. Yr ydym yn dal i gredu y dylid gwario’r arian hwn ar wasanaethau sydd o fudd uniongyrchol i bobl Cymru. Rhaid inni argyhoeddi Cymru, drwy gyflawni a chyflwyno, bod cyfiawnhad i wario ar ein hadeilad ein hunain. Mae pensaernïaeth yn anfarwoli ac yn mawrygu rhywbeth, felly ni ellir cael pensaernïaeth lle nad oes dim i’w fawrygu.
Fy ail neges yw fy mod yn parchu barn y rheini sydd wedi anghytuno’n ddiffuant â ni ar hyn, ond nid oes gennyf ddim ond dirmyg--dirmyg pur, digymysg--i’r safbwynt a fabwysiadwyd gan y Prif Ysgrifennydd a’r Cabinet heddiw. Brif Ysgrifennydd, drwy eich st?nt fach chi, yr ydych wedi iselhau eich hun ac yr ydych yn parhau i wneud hynny yn awr. Mae’r Cabinet wedi dwyn anfri arno ei hun a’i blaid. Yr ydych oll yn ceisio dwyn anfri gwaradwyddus ar y Cynulliad hwn am un rheswm, sef, mewn ymgais ofer i achub wyneb Rhodri Morgan--
Y Prif Ysgrifennydd: Beth am yr adeilad?
Y Dirprwy Lywydd: Trefn. Un siaradwr yn unig ar y tro. Glyn, a wnewch chi ailystyried eich datganiad yng ngoleuni’r protocol ar ymddygiad Aelodau yn y Siambr?
Glyn Davies: Yr wyf wedi ailystyried fy natganiad ac yr wyf yn berffaith fodlon â phopeth a ddywedais.
Y Dirprwy Lywydd: Cariwch ymlaen gan ganolbwyntio ar y mater o dan drafodaeth o fewn eich terfyn amser o bum munud.
Glyn Davies: Mae’r Prif Ysgrifennydd yn cyflwyno cynnig y gwyr yn iawn na fydd yn mynd rhagddo. Efallai hyd yn oed nad yw am iddo fynd rhagddo. Gwyr na fydd neb y tu allan i ddylanwad cyflogres y Llywodraeth yn pleidleisio ar y cynnig hwn. Mae o fwriad yn cyflwyno cynnig a fyddai’n cynnig gwerth echrydus am arian, nad yw wedi’i gostio ac nad ymchwiliwyd iddo mewn unrhyw ffordd ddilys. Mae’n gynnig sydd wedi ei ddilorni’n llwyr gan yr Arglwydd Rogers ei hun. Yr hyn y mae pobl Cymru yn ffieiddio fwyaf ato yw bod y Prif Ysgrifennydd yn gwybod, hyd yn oed os aiff ymlaen â’i dy bach £20 miliwn ar byst, y byddai’r Cynulliad yn dal o dan rwymedigaeth gytundebol i godi adeilad Rogers. Cynnig gwneud yw hwn ac mae’n stýnt echrydus.
Pan fydd Aelodau’r Cabinet yn pwyso eu botymau 'o blaid’ heddiw, byddant yn cefnogi eu cynnig eu hunain a bydd pawb arall yn y Siambr hon yn edrych i lawr arnynt gan eu barnu’n warth ar ddemocratiaeth. Bydd y penderfyniad hwn yn hongian o amgylch eu gyddfau fel albatrosod marw yn drewi nes i amser maes o law grino’r ysgerbydau pydredig. Fodd bynnag, Brif Ysgrifennydd, ni fyddwch chi mor lwcus. Ni wnaiff eich ysgerbwd albatros chi fyth grino. Yr ydych wedi methu â dod i benderfyniad ar y mater hwn. Yr ydych yn eistedd yno yn sedd y Prif Ysgrifennydd yn gweiddi arnaf ac ni allwch wneud y penderfyniad hwn. Felly, yr ydych yn dyfeisio’r opsiwn carbynclog chwerthinllyd hwn yn unswydd er mwyn osgoi gwneud penderfyniad iawn tra bo’r gweddill ohonom yn gorfod penderfynu heboch. Ewch i guddio o dan y ddesg os mynnwch. Heddiw, rhaid inni setlo’r mater hwn. Gofynnaf i’m cyd-Aelodau ystyried eu pleidlais yn ofalus. Meddyliwch am farn ac anghenion pobl Cymru a gobeithiaf y byddwch yn fy nghefnogi. Er budd mynegi barn, yr wyf yn tynnu fy ngwelliant rhif 1 yn ôl yn ffurfiol--
Y Prif Ysgrifennydd: Pwy sydd yn tin-droi’n awr?
Glyn Davies: --ac yn cynnig gwelliant 4 sydd yn galw am roi’r gorau i’r estyniad newydd, sydd mewn gwirionedd--
Y Prif Ysgrifennydd: Pwy sydd yn tin-droi’n awr?
Glyn Davies: --yn bleidlais o ddiffyg hyder yn y Prif Ysgrifennydd a’i Gabinet.
Y Dirprwy Lywydd: Trefn. Dim ond un person a ddylai siarad ar y tro.
Jenny Randerson: Ddirprwy Lywydd, mae’r dymer ddrwg a’r gweiddi sydd yn cael eu gweld yma yn gwbl wrthgynhyrchiol i ddadl synhwyrol. Dylem drafod hyn mewn awyrgylch llawer tawelach na’r hyn a welir gan rai o Aelodau’r Cabinet.
Y Dirprwy Lywydd: Byddwn yn ddiolchgar pe bai’r Aelodau yn cyfyngu eu sylwadau i’r adeilad. Nodais ar y dechrau nad oes fawr o amser ar gyfer y ddadl hon. Mae llawer o Aelodau wedi nodi eu bod am siarad, ond mae’n annhebygol y gall pawb wneud hynny. Os bydd rhaid i mi ymyrryd eto bydd hynny’n cyfyngu ymhellach ar yr amser. Gofynnaf i’r Aelodau helpu drwy gadw o fewn y cyfyngiadau amser a chanolbwyntio ar y materion dan sylw, sef siarad ar y cynnig neu’r gwelliannau i’r cynnig.
Deallaf fod gwelliant 5 gan Owen John Thomas wedi ei dynnu’n ôl.
Dafydd Wigley: Gwyr Aelodau fy marn ar y pwnc hwn. Yn wreiddiol, cefnogais Neuadd y Ddinas fel cartref i’r Cynulliad. Fodd bynnag, nid yw’r dewis hwnnw ar gael heddiw, felly nid oes gennyf amheuaeth ynglyn â chymeradwyo cynllun Richard Rogers. Dylem gefnogi hwnnw.
Dylem ystyried tri pheth. A oes angen adeilad newydd? Os oes, pa gynlluniau sydd yn ateb y gofynion? Hefyd, a yw’r gost yn rhesymol?
O safbwynt yr angen, ar ôl eistedd yma dro ar ôl tro, a gadael ar ôl tair awr â’m pen yn hollti, yr wyf yn sicr nad yw’r adeilad hwn yn addas. Nid yw’r ystafelloedd pwyllgora’n addas ychwaith, gan nad oes fawr o le ar gyfer y cyhoedd. Mae’r adeilad yn ddiffygiol o safbwynt urddas. Mae angen inni gael adeilad y gallwn fod yn falch ohono. Nid yw’n deg bod Aelodau yn eistedd y tu ôl i bileri. Nid yw’n deg ar y cyhoedd nac ar y wasg.
O safbwynt y dewisiadau eraill, mae’n anodd gweld sut y bydd cynllun y Llywodraeth yn ateb y gofynion hyn. Nid yw’n rhoi sicrwydd o Siambr effeithiol. Nid yw’n ateb y gofynion ar gyfer ystafelloedd pwyllgora, ac o safbwynt gweledol, mae’n drychinebus.
Mae’n rhoi neges i’r byd sydd yn adlewyrchu Cynulliad heb weledigaeth a chenedl sydd yn ddiffygiol mewn hunanhyder. Os hyn yw maint ein hunan-barch, pa hawl sydd gennym, fel Cynulliad, i ddisgwyl cefnogaeth ac ymddiriedaeth gan bobl Cymru?
Mae cynllun Richard Rogers yn rhesymol. Mae’n dderbyniol yn gyllidol os cymharwch ef â’r £260 miliwn sydd yn cael ei wario ar swyddfeydd newydd yn Llundain neu’r £230 miliwn sydd yn cael ei wario ar Senedd newydd yr Alban. Cofiwch y byddai Neuadd Sir De Morgannwg wedi costio £40 miliwn yn nhermau prisiau heddiw. Nid yw’r gost yn afresymol.
Gofynnaf i’r Torïaid faint o ysbytai plant y gellid eu hadeiladu o sgrapio’r Trident neu o werthu Buckingham Palace i’r Siapaneaid fel a ddigwyddodd gydag adeilad y GLC.
Mawr obeithiaf y byddwn yn rhoi’r mater hwn i’w wely. Gobeithiaf fod gennym y weledigaeth i adeiladu ar gyfer y dyfodol, fel y gwnaeth ein cyndeidiau ganrif yn ôl, pan gawsant weledigaeth am Barc Cathays fel canolfan ddinesig ysblennydd. Mae i adeiladau dinesig ddiben sydd yn mynd y tu hwnt i’w swyddogaeth uniongyrchol. Maent yn adlewyrchu sut y mae cymuned yn ystyried ei sefydliadau. Mae hynny yr un mor wir am adeiladau cenedlaethol, rhanbarthol neu leol. Mae’n wir nid yn unig am adeiladau Llywodraeth, ond hefyd am adeiladau celfyddydol, chwaraeon a chrefyddol yn arbennig.
Mae Big Ben yn golygu rhywbeth mwy na chloc tal. Mae’r capitol yn Washington a chapitolau ysblennydd y taleithiau yn adlewyrchu pwysigrwydd rhyddid i America. Cafodd Cymru ei chyfran o adeiladau, i adlewyrchu ein gwerthoedd. Cadeirlannau ysblennydd Ty Ddewi a Llandaf, er enghraifft, a llu o gapeli syml a godwyd gan bob cymuned i ddangos eu bod yn credu mewn rhywbeth mwy. Yn bennaf oll, rhai o adeiladau ein prifysgol genedlaethol ym Mangor, Caerdydd a mannau eraill, a godwyd gyda cheiniogau’r chwarelwyr a’r glowyr i adlewyrchu eu brwdfrydedd dros addysg a’r waredigaeth a olygai i’n pobl.
Gallent fod wedi codi estyniad gwael, ymarferol, yn perthyn i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond yr oedd ganddynt y weledigaeth i godi rhywbeth a oedd yn deml deilwng i freuddwyd deilwng. Onid oes gennym ninnau, fel Cynulliad etholedig cyntaf ein cenedl mewn 600 mlynedd, weledigaeth hefyd i’n cenedl? Onid oes gennym ninnau freuddwyd? A symboleiddir hi gan ddim mwy nag estyniad ymarferol, am bris gostyngol at floc swyddfeydd cyffredin? Dewch o ’na, gyd-Aelodau, dewch o ’na. Am unwaith, gadewch inni anghofio rhaniadau pleidiol. Gadewch inni fod yn eofn. Gadewch inni ddangos bod gennym rywfaint o hunan-barch. Gadewch inni ddangos ein bod yn credu bod y Cynulliad hwn yma i aros ac i weithio dros Gymru. Gadewch inni ddangos bod gennym yr hyder yn nyfodol ein gwlad, yng nglan y dwr godidog Caerdydd, yn rôl y Cynulliad hwn, ac ynom ni ein hunain fel cynrychiolwyr pobl Cymru. Gadewch inni bleidleisio--a fentraf ddweud yn unfrydol?--i fwrw ymlaen heb oedi pellach ag adeilad Richard Rogers ac ymrwymo i wneud y Cynulliad yn ganolog o ran ei bwysigrwydd i genedl Cymru. Mae’n ffordd ymarferol o yrru ein hadfywiad cenedlaethol yn ei flaen, ac yn symbol o Gymru newydd, bositif, y gall ein plant fod yn falch ohoni.
Michael German: Ddoe ymwelodd person ifanc digartref a elwir yn 'CJ’ â mi yma yn y Cynulliad. Mae’n gwerthu The Big Issue
yng Nghaerdydd. Gofynnodd imi’n blaen pam yr ydym yn gwario sawl miliwn o bunnoedd ar adeilad newydd pan nad oes ganddo le i fwy. Mae’n gwestiwn anodd. Mae’n gwestiwn anghyfforddus i’r rheini ohonom, fel minnau, sydd yn credu y dylem heddiw gefnogi cynllun yr Arglwydd Rogers am Siambr newydd. Mae’n mynd at galon y ddadl. Adeilad pwy yw hwn?
Pe baem i wario miliynau o bunnoedd ar swyddfeydd newydd moethus neu gysuron corfforol er ein budd ein hunain--ac i fudd neb ond ni--cytunaf y byddai cwestiwn CJ yn dwyn gwarth ar bawb ohonom. Mae’n dwyn gwarth ar aelodau’r Blaid Geidwadol, a roddodd ganiatâd, tra’r oedd yn blaid y llywodraeth, i wario £300 miliwn ar swyddfeydd seneddol newydd a £3 biliwn i £4 biliwn ar Ddôm y Mileniwm. Fodd bynnag, y gwir yw mai nid adeiladu ar ein cyfer ein hunain yr ydym ond codi adeilad cyhoeddus, cenedlaethol, sydd yn gymaint eiddo i CJ ag i bawb ohonom yn y Siambr hon.
Bydd yn adeilad lle gall pobl Cymru gyrraedd y rheini a etholwyd i’w cynrychioli yn hawdd; lle gall pobl gwrdd â hwy, gwrando arnynt a’u dal i gyfrif. Fodd bynnag, pan ddaeth dyn digartref i’r Cynulliad ddoe i siarad â mi, nid oedd ystafell ar gael yma imi wrando ar ei bryderon. Nid oedd ystafelloedd pwyllgor sbâr, dim ystafelloedd cynadledda, na lle yn y neuadd; nid oedd dim lle o gwbl inni fynd iddo. Ai dyna’r ffordd i roi i’r rheini sydd wedi’u allgáu o’n cymdeithas ymdeimlad o berchnogaeth dros y broses ddemocrataidd? Ni chredaf felly.
Rhaid inni gyfaddef ein bod eisoes wedi methu â gwireddu’r un argymhelliad canolog hwnnw a wnaethpwyd gan Grwp Ymgynghorol y Cynulliad Cenedlaethol, sef y dylem roi Cynulliad i Gymru a fydd yn agored i bawb ac o fewn cyrraedd pawb. Ni châi hynny ei wireddu ychwaith pa câi cynlluniau’r Cabinet ar gyfer ystafell wydr yn y maes parcio eu derbyn heddiw. Gwyr pawb ohonom y byddai adeilad felly yn costio cymaint ag adeilad Rogers yn y tymor hir.
Ys gwn i, Rhodri, a oeddech chi’n meddwl ar eich ymweliad diweddar â Sydney, Awstralia, gymaint ffyliaid yr oeddynt i godi ty opera gwirion a phont hyll dros yr harbwr? Oni sylweddolent y byddai ty wendy a phont pontwn wedi bod yn ddigonol? Ys gwn i, Rhodri, a oedd tadau’r ddinas yma yng Nghaerdydd yn iawn i godi Neuadd y Ddinas? Y gwir yw na allwch trechu ar Blaid Geidwadol nad oedd am weld Cynulliad yn y lle cyntaf, nac ychwaith argyhoeddi’r rheini a bleidleisiodd 'na’ y bydd yn werth yr arian, er gwaethaf y ffaith, fel y gwyr pawb ohonom, fod y Ceidwadwyr yma am gael yr adeilad newydd ond nid oes ganddynt ddigon o asgwrn cefn i bleidleisio drosto. Ni fydd dileu’r adeilad yn ennill eu pleidleisiau hwy ichi, Rhodri. Yr unig ffordd o wneud hynny yw dileu’r cyfan a bodloni ar Ysgrifennydd Gwladol. Rhaid inni bleidleisio dros adeilad Rogers, fel y gallwn ddweud wrth bobl Cymru ein bod am gael y gorau i Gymru ac yr ydym am gael y gorau i Gymru am genedlaethau i ddod. Yr ydym am wneud datganiad grymus ein bod yn wlad hyderus, y gallwn herio gweddill y byd, ac nad oes ofn y byd tu allan arnom.
Cyn iddo adael, cafodd CJ gip ar y Siambr hon. Meddyliai ei bod yn fach a di-nod, ddim yn addas i gyngor, heb sôn am senedd. Byddai’n dal yn well ganddo gael cartref nag adeilad i’r cynulliad, ond, os bydd gennym ychydig o ddewrder heddiw, gallwn wneud yn siwr ei fod yn cael y ddau.
Lorraine Barrett: Gwyr pawb fy mod yn siomedig pan gafodd cynllun Richard Rogers ei atal ar ôl inni bleidleisio i fwrw ymlaen ag ef yn Ionawr. Yr oeddwn yn siomedig hefyd pan welais y cynlluniau i godi’r hyn sydd yn edrych fel sied ar byst yn y maes parcio yn y cefn. Mae’n edrych fel rhywbeth i ferwi bresych ynddo. Fodd bynnag, mae’n un o’r opsiynau a rhaid inni ei ystyried. Dywedir wrthym y bydd opsiwn y sied--fel y byddaf yn ei alw--yn costio £13 miliwn. Fodd bynnag, sut y gellir rhoi cost ar rywbeth nad yw wedi ei ddylunio eto? Dywedir wrthyf mai cysyniad yn unig yw ond mae hyd yn oed y cynlluniau cysyniadol yn dangos bod yn rhaid rhoi sylw i bryderon difrifol ynglyn â mynediad. Peidiwch hyd yn oed â meddwl am fygythiad bom pan fo’r unig01 allanfa drwy lifft. Bydd gan Anabledd Cymru farn ar hynny. Ni chredaf ei fod yn opsiwn oherwydd byddai’n rhaid inni gael caniatâd ein landlordiaid, Grosvenor Waterside, ac mae ganddynt hwy gynlluniau eraill ar gyfer y darn o dir gerllaw’r maes parcio.
Dywedir wrthym nad yw pobl am gael y Siambr hon. Mae llawer o bobl yr wyf fi yn eu hadnabod, rhai ohonynt sydd yma heddiw, yn teimlo bod hynny yn sarhaus. Wrth gwrs mae yna bobl sydd yn erbyn y cynnig hwn. Fodd bynnag, yr wyf wedi derbyn llythyron a negeseuon e-bost sydd yn dangos bod llawer o’i blaid. Yn y pen draw, rhaid i wleidyddion go-iawn gydag asgwrn cefn lunio penderfyniadau. Gwrthwynebwyd pob un o’n hadeiladau amlycaf cyn iddynt gael eu codi: Neuadd y Ddinas, Neuadd Dewi Sant a Stadiwm y Mileniwm. Gwnaethpwyd penderfyniad dewr ar yr adeiladau hynny a gofynnaf ichi gymryd penderfyniad dewr heddiw.
Ar y radio y bore yma, dywedodd rhywun o Lanelli fod ei drethi yn mynd tuag at dalu am Senedd yr Alban, adeilad newydd Cynulliad Llundain Fawr a’r adeiladau moethus i ASau yn San Steffan. Mae am gael gwerth am arian o’i drethi. Pam na ddylent fynd tuag at Siambr newydd i’r Cynulliad Cenedlaethol? Nid mater o ddarparu cyfleuster lle gall pawb ohonom weld a chlywed ein gilydd yn iawn mewn amgylchedd dibiler yw hwn yn unig. Mae’n fater o gynnig lle agored, cyffrous a chroesawgar i’r cyhoedd ddod iddo, lle gallant deimlo’n rhan o’n democratiaeth newydd. Nid yw’n ddigon da nad yw’r rheini yn yr oriel gyhoeddus ond yn gallu gweld top neu gefnau ein pennau.
Os na chefnogwn ni adeilad Rogers heddiw a mynd am y sied yn ei le, bydd yn rhaid inni fynd allan i gystadleuaeth agored. Gwnaethom hynny unwaith. Os gwnawn ni hynny eto byddwn yn dweud wrth holl benseiri adnabyddus ar draws y byd i beidio â gwastraffu amser, egni ac arian ar gyflwyno cynlluniau, oherwydd yng Nghymru nid ydym am gael adeilad trawiadol sydd yn addas i’w phobl fwynhau a chyfranogi yn ein hegin ddemocratiaeth. Os ydynt yn ddigon lwcus i gael eu dewis byddem yn gwastraffu o leiaf flwyddyn o’u hamser ac arian y trethdalwyr wrth inni din-droi ac mae’n bur debyg y niweidiwn eu henw da proffesiynol. Wedyn byddem yn newid ein meddyliau ac yn mynd at rywun arall am rywbeth cwbl wahanol. Pe bai gennych wir syniad o’r hyn y byddai’n ei gostio, byddai’n rhaid i synnwyr cyffredin drechu heddiw. Gwrthodwch y sied ar byst a chefnogwch adeilad Richard Rogers.
Nick Bourne: Bydd pobl a fu’n gwylio perfformiad y Prif Ysgrifennydd ar y teledu neu o’r oriel gyhoeddus yn meddwl, 'byth mwy, byth eto y ceir bore llawen, llawn hyder’. Yr oedd yn berfformiad rhyfedd iawn ar fater mor bwysig. Agorodd y Prif Ysgrifennydd drwy awgrymu na fu hyn yn destun dadl erioed o’r blaen: mae’n destun dadl bob mis bron.
Dylai’r bobl sydd yn awgrymu nad oedd y Ceidwadwyr Cymreig am gael cartref gwahanol i’r Cynulliad hwn gofio ein bod ni, fel y rhan fwyaf o bobl yma, am gael Neuadd y Ddinas. Ymddangosai fod y Prif Ysgrifennydd am gael Neuadd y Ddinas pan roddodd seminar ar 22 Mawrth. Cafwyd araith hir ar sut y gallai Neuadd y Ddinas hefyd fod yn opsiwn dichonadwy ar sail costau oedd i gael eu dadlennu inni. Gofynnais gwestiwn i’r Ysgrifennydd Cyllid ar y pwnc hwnnw. Dywedwyd wrthyf fod y ffigurau yn eiddo cyhoeddus. Yr wyf wedi chwilio’n ofer amdanynt oherwydd nid ydynt yn eiddo cyhoeddus. Addawyd ffigurau inni ar y gost o drosglwyddo i Neuadd y Ddinas. Ymddangosai fod Neuadd y Ddinas yn ôl yn y ffrâm, yna cafodd ei gollwng. Dadl am arbed wyneb yw hon. Brif Ysgrifennydd, yn y pen draw gwyddoch y bydd cynllun Richard Rogers yn mynd rhagddo a dyna sydd wrth wraidd hyn.
Y Dirprwy Lywydd: Trefn. A gawn ni ganolbwyntio ar yr adeilad a’r gwelliannau arfaethedig os gwelwch yn dda?
Nick Bourne: Dyna yr ydwyf yn ei wneud. Brif Ysgrifennydd, gwyddoch y byddai’r £13 miliwn am yr adeilad newydd hwn yn cael ei wastraffu ar sied groes. Dywedasoch yn eich sylwadau cychwynnol bod yn rhaid inni farnu a yw hi’n werth talu £13 miliwn ychwanegol er mwyn bri. Yr hyn sydd yn bwysig yw nid yr adeilad yr ydym ynddo ond yr hyn a wnawn yn yr adeilad. Gadewch imi wrthgyferbynnu dwy gyfundrefn. Mae gan Singapôr weinyddiaeth sydd wedi’i leoli ac sydd yn gweithio o adeilad dros dro. Mae gan Faleisia gyfundrefn na fyddem am ei hefelychu, a leolir yn y math o adeilad y credech chi ynddo unwaith, ond bellach yr ydych am gael opsiwn rhatach. Yr hyn a gyflawnwn yn yr adeilad hwn sydd o bwys i bobl Cymru, nid yr adeilad yr ydym wedi ein lleoli ynddo. Yr wyf yn falch eich bod yn nodio eich cytundeb.
Felly, gobeithiaf y byddwch yn cefnogi’r cynnig ei bod yn bwysicach gwario’r arian hwn ar rywbeth sydd o arwyddocâd cyhoeddus, megis ysbyty cenedlaethol, yn hytrach nag ar Siambr drafod newydd. Byddai hynny yn destament effeithiol i’r hyn y mae pobl Cymru yn ei ddymuno. Cytunaf â Lorraine Barrett fod rhai pobl o blaid yr adeilad newydd hwn, ond lleiafrif ydynt yn sicr. Mae pobl o bob cwr o Gymru wedi llofnodi deisebau, sydd gennyf yma, yn dweud eu bod yn erbyn yr adeilad newydd hwn, Lorraine. Derbyniaf nad yw pawb, ond ni waeth sut y bu iddynt bleidleisio yn y refferendwm, sydd yn hanes yn fy marn i, nid yw’r rhan fwyaf o bobl am gael yr adeilad newydd hwn. Gobeithiaf y bydd yr Aelodau yn pleidleisio yn unol â hynny heddiw.
Ron Davies: Yr oeddwn i yn un o’r rheini a groesawodd benderfyniad Rhodri i gynnal adolygiad, am fod cymaint o drafod a phryder wedi bod ynglyn â’r prosiect. Yr oedd yn gwbl ddealladwy bod Rhodri, pan ddaeth yn Brif Ysgrifennydd, am sicrhau ei hun ynglyn â’r sylfaen ariannol yr oeddem yn gwneud penderfyniad arni.
Mae dau gasgliad allweddol yn yr adolygiad, a groesawaf. Yr oedd y cyntaf yn adolygiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol sydd yn datgan:
'Y penderfyniad i ymleoli yn y bae oedd y penderfyniad cywir.’
Yr oedd yr ail gasgliad yn adolygiad Grwp Turner a Townsend, ac yn datgan:
'Mae’r cynllun arfaethedig...’--opsiwn Richard Rogers--
'...yn cynrychioli gwerth mewn termau ymarferol a thermau cost fesul uned.’
Croesawaf y casgliadau hyn. Fodd bynnag, anghytunaf ag argymhelliad y Cabinet. Methaf ddeall pam ei fod yn teimlo nad oes gennym bolisi yn barod. Yr oedd y penderfyniad a wnaethom ar 26 Ionawr yn glir. Dywedai’r cynnig hwnnw ein bod yn cytuno y dylai’r datblygiad fynd rhagddo yn awr. Mae hynny’n ymddangos yn glir a diamwys ac nid oes unrhyw beth yn yr adroddiad hwn sydd yn awgrymu pam na ddylai weithredu’r cynnig hwnnw.
Anghytunaf hefyd â’r ddadl bod argymhellion y Cabinet yn cynrychioli cyfaddawd rhatach neu ryw opsiwn amgen a fydd yn arbed arian inni. Mae’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn mynnu bod cymariaethau o’r math hwn yn cael eu gwneud ar sail y gost net ar y pryd. Dyna ofyniad y Trysorlys. A defnyddio’r costau net ar hyn o bryd fel sylfaen cymharu, mae’r adroddiad yn nodi bod opsiwn Richard Rogers yn rhoi ffigur o £76 miliwn ac opsiwn y maes parcio £72 miliwn dros 15 mlynedd. Os oes unrhyw un yn meddwl, drwy bleidleisio am opsiwn y cyfaddawd heddiw, y bydd miliynau o bunnoedd ar gael i’w lledaenu o amgylch Cymru ar eu hoff opsiynau, dylent ailfeddwl, yn enwedig gan nad yw opsiwn y maes parcio yn ddim mwy na chysyniad dylunio. Nid oes unrhyw debygrwydd rhwng y ffigur o £72 miliwn a’r ffigur yr ydym yn debygol o’i dalu yn y diwedd.
Ar ôl rhyw dair blynedd o drafod, y bûm i’n nes ato na’r rhan fwyaf o bobl yn y Siambr hon, rhaid inni ddod i benderfyniad pendant a fydd yn caniatáu inni fwrw ymlaen. Bydd yn dadrithio pobl ynglyn â phrosesau’r Cynulliad os cawn ddadleuon diddiwedd am ble i gynnal ein dadleuon ac nad ydym yn bwrw ati gyda’r dasg o wella amodau economaidd a chymdeithasol ar gyfer pobl Cymru. Buan iawn y collwn ni eu cefnogaeth. Nid oes ond un penderfyniad y gallwn ei wneud a fydd yn dod â’r ddadl hon i ben. Mae opsiwn Richard Rogers yn opsiwn sydd wedi ei gostio, y mae gennym gymeradwyaeth iddo ac yn un y gallwn fwrw ymlaen ag ef ar unwaith. Nid yw’r opsiwn amgen yn ddim mwy na chysyniad dylunio. Nid oes gennym bensaer, briff dylunio na chaniatâd cynllunio. Mae’r costau yn ansicr, nid ydym wedi cael cydsyniad y landlord ac yr ydym yn debygol o wynebu achos cyfreithiol am dor-contract. Ni fydd y landlord yn cydsynio o dan yr amgylchiadau hynny. Mae cwestiynau mawr ynglyn â mynediad a chynaliadwyedd. Os credwn y gallwn ddatrys y rheini mewn dwy flynedd heb ddadlau ac oedi pellach diddiwedd, yr ydym yn gwadu hanes y ddwy flynedd diwethaf. Mae gennym opsiwn clir; mae opsiwn Richard Rogers yn bodoli, mae ganddo’r fantais o gefnogaeth eang o’r tu mewn a’r tu allan i’r Siambr hon ac mae’n cynrychioli’r unig ddewis amgen sydd ar gael inni i roi terfyn ar y ddadl a bwrw ymlaen â’r adeilad.
Val Feld: Siaradaf o blaid yr hyn a alwaf yn rondel Rhodri, sef cynnig y Cabinet. Gwnaf hyn, Dafydd, hefyd fel rhywun a chanddi freuddwyd gydol ei hoes y deuai amser pan fyddai pobl ar draws Cymru yn cefnogi eu sefydliad gwleidyddol eu hunain. Yr wyf wedi meddwl llawer am yr adeilad hwn, y swm o arian y bydd yn ei gostio a’r negeseuon y bydd yn eu cyfleu. Nid oes amheuaeth gennyf fod adeiladau yn cyfleu negeseuon pwysig. Fodd bynnag, mae llawer gormod o enghreifftiau ar draws y byd o adeiladau dinesig, crand a godwyd gan lywodraethau fel cofadeiliau i ideolegau gwleidyddol ond heb sylfeini cadarn, o sylwedd yn eu gwledydd i’r ideolegau a’r dyheadau hynny. Nid oes rhaid ichi ond edrych tua dwyrain Ewrop i’r cyn wledydd comiwnyddol i weld y negeseuon a gafodd eu cyfleu gan y math o adeiladau a godwyd yn ystod y blynyddoedd hynny o gomiwnyddiaeth.
Bydd pobl yn barnu’r ddemocratiaeth newydd hon ar sut y mae’n effeithio ar eu bywydau beunyddiol. Yr ydym yn dweud hynny drosodd a throsodd yn y Siambr hon. Dim ond cyfran fechan o bobl Cymru a ddaw i’r adeilad hwn byth. Fodd bynnag, bydd holl bobl Cymru yn defnyddio ein gwasanaethau iechyd ac addysg. Y broblem sydd gennym ar hyn o bryd yw nad yw pobl, mewn llawer gormod o leoedd yng Nghymru, yn gwybod beth a wnawn. Nid ydynt yn deall beth y mae’r Cynulliad yma i’w gyflawni. Yr wyf am i’r £15 miliwn--efallai llai os yw Ron yn dweud hynny, ond beth bynnag yw, mae yna swm sylweddol o arian i’w arbed--gael ei ddefnyddio i fynd â’r Cynulliad hwn a’i Bwyllgorau a’i waith allan i weddill Cymru. Gofynnaf i Rhodri ac Edwina ymateb ar sut y gallem ddefnyddio’r adnoddau i fynd â’n gwaith i orllewin a gogledd Cymru, lle nad yw pobl yn deall digon am yr hyn a wnawn. Un llwyddiant mawr yn ein gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf yw cyfarfodydd y pwyllgorau rhanbarth, lle mae pobl yn dod ac yn cydweithio â ni. Hoffwn ein gweld yn mynd â’r Cyfarfod Llawn i Gaernarfon neu Fangor ac yn gadael i bobl weld beth a wnawn. Mae llawer o waith i’w wneud i ennyn hyder pobl Cymru yn ein gweithgareddau. Bydd hynny’n digwydd ar sail yr hyn a wnawn, nid ar sail yr adeilad yr ydym ynddo.
Owen John Thomas: Ar 22 Mawrth, pan gyhoeddodd y Prif Ysgrifennydd ei fod yn rhewi’r cynigion ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol newydd, cafwyd mwy na siffrwd o gefnogaeth ymysg y cyhoedd. Codwyd y gobeithion hyn eto yn y ddadl ar 4 Ebrill, pan ddisgrifiodd Rhodri senario dau opsiwn a ragwelai’r Cynulliad Cenedlaethol yn ymgartrefu yn Neuadd y Ddinas a Thy Crucywel yn cael ei drosglwyddo i ddwylo’r awdurdod lleol. Fodd bynnag, mae’n ymddangos o adroddiad Syr John Bourn ar y mater hwn i Neuadd y Ddinas gael ei diystyru fel opsiwn yn gynnar iawn yn y bwlch hwn o dri mis. Mae’n ymddangos y gallai’r oedi anffodus, maith hwn fod wedi ei gwtogi’n sylweddol.
Unwaith y chwalwyd y posibilrwydd o ddefnyddio Neuadd y Ddinas, yr oedd yn amlwg fod y rhan fwyaf o Aelodau’r Cynulliad Cenedlaethol yn barod i roi rhwydd hynt i gynllun gwreiddiol, blaengar Richard Rogers ar wahân i grwp y Ceidwadwyr Cymreig a gredai y gwnâi unrhyw beth y tro i Gymru.
Byddai hyn wedi bod yn benderfyniad rhesymol ac anrhydeddus ac yn glod i’r Prif Ysgrifennydd, ond nid felly y bu. Dyfeisiwyd dewis arall--un sydd yn agos at safbwynt y Ceidwadwyr--yn cynnig cynllun rhad i geisio twyllo 51 o Aelodau i gyfaddawdu ag wyth Aelod nad ydynt hyd yn oed yn credu yn egwyddor datganoli.
Ys gwn i a ddarllenodd Rhodri’n ddiweddar ddamcaniaeth Graham Henry fod y Cymry’n dioddef o gymhleth israddoldeb cenedlaethol? Mae’n sicr y byddai adeilad sydd â chost gyfalaf o ddim ond un rhan o ddeuddeg o gost adeilad yr Alban yn apelio at Gymry israddol, fel y’u personolir gan yr wyth AC Ceidwadol. Un o nodweddion mwyaf trawiadol Opsiwn E fyddai ei anallu i gael ei weld. Er iddo gael ei godi gan nifer o byst wedi eu lleoli’n bwrpasol, wedi’i amgylchynu ar dair o’i bedair ochr gan adeiniau bloc swyddfeydd, byddai 75 y cant ohono wedi ei guddio o’r golwg yn barhaol, yn wahanol i Opsiwn B sydd yn adeilad o fri ac yn hoelio sylw. Ni fyddai Opsiwn E yn rhannu lleoliad ar lan y dwr gydag adeilad Pierhead. Câi’r cyfle i bortreadu Cymru fel democratiaeth ifanc, fodern, yn edrych tuag allan ei golli pe baem yn dewis madarchen swil ar bedair coes yn gwingo yng nghysgod bloc swyddfeydd pum llawr.
Gallem ei alw’n fadarch Morgan, efallai. Nid yw cynnig Opsiwn E yn deilwng o’r Prif Ysgrifennydd ac nid yw’n ddigon da i gynrychioli pobl Cymru. Ymgais yw Dewis E i glosio at ddymuniadau’r grwp Ceidwadol, y grwp a gyrhaeddodd uchafbwynt ei ddyheadau dros Gymru drwy wrthwynebu sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol, y corff y maent yn dal i geisio ei danseilio heddiw.
Cawn ein temtio i ddyfalu sut a pham y mae’r Ceidwadwyr wedi colli cysylltiad â’u cefnogwyr traddodiadol ym myd busnes a chyllid. Dim ond ddoe, dywedodd cynrychiolwyr Fforwm Busnes Bae Caerdydd y byddai swyddfeydd yn y bae yn fwy anodd i’w gosod pe byddem yn rhoi’r gorau i Opsiwn B. Mewn geiriau eraill, byddai’r bae yn opsiwn busnes llai deniadol heb adeilad o arwyddocâd cenedlaethol yn ffocws iddo. Ein pleidlais ni ar y mater hwn a fydd yn pennu pa ddelwedd a welir ar sgriniau teledu ac mewn papurau newydd ledled y byd pa bryd ac ym mhle bynnag y sonnir am Gymru. Buddsoddiad bach yn ein hamgylchedd adeiledig yw’r swm o £27 miliwn ond mae’n fuddsoddiad doeth i farchnata ein proffil cenedlaethol ac yn ddatganiad cadarn o hawliau cenhedloedd bach ym mhob cwr o’r byd. Nid oes i Opsiwn E yr un o’r rhinweddau hyn.
Richard Edwards: Croesawaf y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon a mynegi fy marn heb ofn na ffafriaeth, a heb fy nghyffroi gan erthyglau yn y wasg a fwriadwyd i godi ofn. Os na allwch wneud yr hyn a dybiwch sydd yn iawn mewn bywyd cyhoeddus, yn enwedig ar faterion pwysig, pa ddiben sydd yna mewn bod mewn bywyd cyhoeddus o gwbl? Efallai fy mod yn bod yn naïf, ond wedyn credaf fod llawer gormod o sinigiaeth mewn gwleidyddiaeth a mwy fyth yn ein cyfryngau enbydus. Beth bynnag, onid gwleidyddiaeth newydd sydd i fod gennym yma?
Nid wyf am fynd dros y rhesymau pam fod y Siambr hon yn annerbyniol; maent yn amlwg i bawb ond y rheini sydd yn gwrthwynebu datganoli beth bynnag. O ran yr estyniad yn y maes parcio, nid yw’n ddewis amgen dichonadwy. Cyfaddawd ydyw nad yw’n bodloni neb. Bydd y rheini sydd am gael symbol priodol i ddemocratiaeth Cymru yn siomedig a’r rheini sydd yn dadlau yn erbyn unrhyw wariant ychwanegol yn parhau’n anfodlon. Er ei fod yn ddealladwy, mae’n flin gennyf fel y mae ailagor y ddadl wedi chwyddo ein gwahaniaethau wrth lunio’r penderfyniad pwysig hwn ac wedi chwarae i ddwylo gelynion datganoli a’r Cynulliad.
Mae’r modd y digwyddodd hyn yn nodweddiadol o’r hyn sydd, yn ôl pob golwg, yn gyfeiriad meddwl amddiffynnol ar ddatganoli--wastad ar y droed ôl ac yn gadael i’r gwrthwynebwyr arwain y ddadl. Mae’r agwedd amddiffynnol, ymddiheurol hon yn peryglu perfformiad ein hegin Gynulliad ac mae mewn perygl o ganiatáu i broffwydoliaethau jeremeias Ceidwadol ddod yn jeremeias hunangyflawnol a dreuliodd 18 mlynedd hir yn dileu’n systematig holl olion democratiaeth o’r wlad hon. Wrth gwrs, ni chredant hwy fod democratiaeth yn werth talu amdani. Credaf fi ei bod ac y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn ein barnu’n hallt os osgown yr angen am Siambr briodol, hygyrch newydd yn awr er mwyn hwylustod tymor byr a fynnir gan elynion datganoli. Mae perygl inni danseilio potensial y Cynulliad a democratiaeth yng Nghymru. Buddsoddiad tymor hir yn nemocratiaeth Cymru yw hwn. Mae’r penderfyniad yn disgyn arnom ni gan mai ni yw Aelodau etholedig cyntaf y Cynulliad, ond nid oes a wnelo â ni. Trigain o wleidyddion dros dro ydym ni, yma heddiw, wedi mynd yfory. Ceidwaid dros dro ein swyddi yn y corff hwn ydym ni, a gobeithiaf a hyderaf y bydd y swyddi hynny yn goroesi pawb ohonom.
Gwn fod gan y cyhoedd amheuon a bod angen i’r Cynulliad brofi ei hun. Gwneir y pwynt yn fynych gan y rheini sydd am ddryllio’r Cynulliad. Mae’n sefydliad newydd sbon a bydd yn cymryd blynyddoedd lawer iddo wreiddio’n iawn. Mae pawb ohonom wedi dechrau ar fenter dymor hir lle mae angen gweledigaeth tymor hir. Rhaid wrth ddewrder, arweinyddiaeth a gweledigaeth. Gadewch inni beidio â chowtowio i rymoedd Ceidwadaeth a gaethiwodd y wlad hon am 18 mlynedd hir a rhoi i’r Cynulliad etifeddiaeth mor sâl. Gadewch inni ymestyn ein gweledigaeth y tu hwnt i flaenau ein trwynau.
Jenny Randerson: Ni fydd neb yn synnu clywed fy mod yn cefnogi cynllun Richard Rogers yn gryf. Wedi’r cyfan, yr wyf yn Aelod o’r Cynulliad sydd yn cynrychioli etholaeth yng Nghaerdydd. Yr oeddwn yn cefnogi opsiwn Neuadd y Ddinas ond peidiodd hynny â bod yn realistig pan benderfynwyd defnyddio ac adnewyddu’r adeilad hwn, a fu gynt yn ffynhonnell embaras mawr i’r Llywodraeth gan ei fod yn sefyll yn hanner gwag ac yn ddrud i’w gynnal. Yr oedd yn faich beunyddiol ar gyllideb yr NHS oherwydd y cytundeb a sefydlwyd gan y Ceidwadwr oedd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Rhyfeddais pan gyhoeddodd Rhodri ei fod yn rhewi cynllun yr adeilad newydd. Seiliwyd ei araith hir a nodai fanteision symud i Neuadd y Ddinas ar ffeithiau a oedd wedi eu hystyried i gyd o’r blaen. Yr oedd y papurau a’r ffigurau ar gael a dylid bod wedi edrych arnynt cyn gwneud unrhyw benderfyniad i oedi. Nick Bourne, os ydych am weld y ffigurau ar Neuadd y Ddinas, dewiwch yr opsiwn 'Papurau Cefnogi’ ar We’r Siambr. Fe welwch lythyr yr archwiliwr.
Beth a gyflawnodd yr oedi hwn o dri mis--cadarnhau’r ffigurau unwaith yn rhagor? Gobeithiaf ei fod wedi arwain at gadarnhau’r adeilad unwaith yn rhagor. Mae pris y prosiect wedi cynyddu am fod yr estyniad ar gyfer y maes parcio wedi’i ddylunio.
Trof at y rhesymau cadarnhaol pam fod arnom angen yr adeilad hwn. Mae rhesymau ymarferol ac esthetig. Dywedwyd dro ar ôl tro fod angen symbol newydd ar Gymru. Gobeithio mai’r adeilad newydd fydd y symbol hwnnw yn yr un ffordd ag y mae Ty Opera Sydney yn symbol a Thy’r Cyffredin a Thy’r Arglwyddi yn symbol nid yn unig o Lundain ond o’r Deyrnas Unedig. Ni fydd y Cynulliad yn sefydlu ei hun yn ymwybyddiaeth y genedl hyd nes y bydd yn edrych fel gwir senedd.
Yr ystyriaeth allweddol yw bod y symbolau hyn o bwys mawr yn economaidd. Mae Ty’r Cyffredin a Thyr Arglwyddi yn symbolau democratiaeth drwy’r byd. Dônt a miliynau o bunnoedd i mewn drwy gyfrwng y diwydiant twristiaeth. Mae angen i’r adeilad newydd fod yn symbol nid yn unig o Gymru ond o ailddatblygiad Cymru. Yn anffodus, ac mewn sawl modd ym Mae Caerdydd, cafodd hyn ei atal pan wnaeth Rhodri ei gyhoeddiad. Ni fynnai buddsoddwyr lofnodi hyd nes y gwyddent y cynllun mawr terfynol. Mae hwn yn benderfyniad terfynol. Nid yw’r estyniad yn opsiwn. Ni fydd yn datrys problem mynediad i’r cyhoedd ac ni fydd yn creu symbol cenedlaethol ac eithrio i’r meysydd parcio cenedlaethol.
Bydd yn rhoi gwerth gwael am arian. Nid yw adeiladau newydd yn boblogaidd yn gyffredinol ond dengys arolwg yn y South Wales Echo
heddiw fod mwyafrif enfawr o blaid yr adeilad newydd. Erfyniaf arnoch i gefnogi cynllun Richard Rogers.
Brian Gibbons: Yn fy etholaeth i, mae un rhan o dair o’r ward yn y 10 y cant isaf o ran amddifadedd cymdeithasol. Mae’r ward y bûm yn byw ynddi am yr 20 mlynedd diwethaf yn un o’r gwaethaf yng Nghymru. Deuthum i’r Cynulliad Cenedlaethol i helpu i gyflawni newid cwantwm yng Nghymru. Mae arnom angen hyder, ffydd ynom ein hunain a gweledigaeth i wneud hyn. Gallai’r ffordd yr ydym yn ymgymryd â’n gwaith wireddu hynny.
Clywsom safbwynt y Ceidwadwyr, y mae eu gweledigaeth cyn uched â’r borfa mewn tom gwartheg. Ni fyddwn yn disgwyl mwy ganddynt oherwydd dyna uchder eu gweledigaeth i Gymru a’i phobl. Mae’r cyfaddawd o sied yn y cefn yn nodweddiadol o lawer o broblemau Cymru sydd yn deillio o’r syniad bod digon da o’r braidd yn ddigon da. Nid yw digon da o’r braidd yn ddigon da mwyach os ydym i gyflawni’r newid cwantwm i wneud Cymru yn well lle o ran ansawdd. Byddai’r sied yn y cefn yn gofeb i gyffredinedd. Bu cyffredinedd yn bla arnom am y 75 mlynedd diwethaf yng Nghymru. Ni honnaf fod yn lleibiwr diwylliant, ond mae adeilad Richard Rogers yn cynnig delwedd o’r gorau i Gymru. Mae iddo greadigedd, dychymyg ac mae’n cynnig ateb i’n problemau ymarferol. Mae’n cynnig cyfle i’n pobl ymwneud â’r ddemocratiaeth newydd yr ydym yn ei llunio yng Nghymru. Mae’n lle y gallwn fod yn falch ohono. Nid wyf wedi dod ag etholwyr i’r adeilad hwn eto am ei fod yn embaras. Gobeithiaf y bydd adeilad newydd Richard Rogers yn rhywbeth y gallwn fod yn falch ohono, i ddangos beth y gall Cymru ei gyflawni. Gadewch inni gael y weledigaeth a’r hyder i symud ymlaen. Gadewch inni symud ymlaen a cheisio cael y gorau i Gymru a’n dyfodol.
Alun Cairns: Teimlaf fel pe baem yn actio golygfa o Groundhog Day
. Buom yma gynifer o weithiau yn y gorffennol. Ond, dyma ni unwaith eto yn trafod y palas pwrpasol erchyll hwn ym Mae Caerdydd. Ar ôl i Rhodri Morgan gael ei ethol yn Brif Ysgrifennydd gan Aelodau’r Cynulliad, ysgogodd ewyllys da aruthrol. Ymatebodd y cyhoedd drwy ddweud iddo achub y dydd. Yr oedd eu dyn hwy wedi atal y palas pwrpasol hwn rhag cael ei godi. Hawliodd y tir uchel a safodd ar y ffens wleidyddol. Ystyriodd opsiynau Neuadd y Ddinas a Bae Caerdydd. Fodd bynnag, heddiw mae opsiwn newydd yr estyniad o’n blaenau--adeilad y cyfaddawd fel y’i gelwir. Wedi eistedd ar y ffens wleidyddol honno, rhaid oedd i’r Prif Ysgrifennydd ddod i lawr un ffordd neu’r llall. Felly, dyfeisiodd brosiect amgen adeilad y cyfaddawd i gloddio’i ffordd allan o’r twll y cafodd ei hun ynddo. Yn lle cloddio’i hun allan, mae wedi tynnu’r Cabinet i lawr gydag ef. Maent yn cloddio’n ddyfnach wrth y funud, gyda phob cyfraniad a wneir.
Nid yw’r estyniad wedi ei gostio hyd yn oed. Nid yw wedi ei gynllunio’n fanwl. Nid oes iddo bensaer hyd yn oed. Enillodd Richard Rogers y gystadleuaeth am adeilad i’r Cynulliad ar safle 1E. Felly, nid oes gennym ond diagramau cysyniad yr estyniad a gyflwynwyd yr wythnos diwethaf. Fe’i disgrifiwyd fel rhywbeth i ferwi bresych ynddo. Galwodd Glyn Davies ef yn gachdy. Dywedodd hyd yn oed Alun Pugh, a fydd yn ei gefnogi heddiw, yn y cyflwyniad yr wythnos diwethaf na ddeuai unrhyw beth ohono o’r dechrau am fod rhwymedigaeth gytundebol arnom i godi rhywbeth ar safle 1E. Mae hynny’n dangos ffars adeilad y cyfaddawd, yr estyniad hwn, y ty bach, rhywbeth i ferwi bresych ynddo a roddwyd gerbron gan y Cabinet.
David Davies: Oni alwyd ef yn hynny gan y bydd yn llawn gan mwyaf o fresych?
Alun Cairns: Nid wyf yn siwr a fyddai’n well gennyf ferwi bresychen ynteu Gabinet yn yr adeilad. Bydd y cyhoedd yn ymateb ac yn galw arnom i ferwi bresychen ynddo.
Galwyd yr adeilad yn symbol newydd: symbol o ddemocratiaeth a symbol i’r Gymru newydd. Pa well symbolau na gwasanaeth iechyd da neu safonau addysg uchel? Dyna’r hyn yr ydym i fod i’w gyflawni yn y Cynulliad hwn, nid palas pwrpasol oherwydd Aelodau o’r Cynulliad sydd yn llawn hunanbwysigrwydd. [Aelodau o’r Cynulliad: 'O.’] Dylech fod yn ostyngedig fel y Ceidwadwyr.
Mae’n amlwg bod Rhodri Morgan yn sylweddoli y bydd cynllun Richard Rogers yn mynd ymlaen. Mae’n amlwg fod digon o gefnogaeth yn y Cynulliad i gynllun Richard Rogers. Fodd bynnag, yr unig gynllun a wnaiff gyffwrdd yn wirioneddol â’r bobl a’n hetholodd i’r fan hon yw cynllun y Blaid Geidwadol i aros lle yr ydym.
Delyth Evans: Byddaf yn pleidleisio o blaid cynllun Richard Rogers. Cefnogaf ef am ddau reswm. Yn gyntaf, oherwydd ei arwyddocâd i ddemocratiaeth yng Nghymru ac, yn ail, oherwydd yr hyn y bydd yn ei gyflawni dros Gymru dramor. Nodwedd bwysicaf cynllun Rogers--elfen ganolog o’r cynllun--yw’r mynediad i’r cyhoedd. Mae cynllun y neuadd, yr orielau cyhoeddus a holl gysyniad yr adeilad yn canolbwyntio ar fod yn agored ac yn atebol. Mae hynny’n gwbl briodol ar gyfer y ddemocratiaeth newydd sydd gennym yng Nghymru. Nid oes gennyf amheuaeth y bydd pobl o bob rhan o Gymru am ddod i weld y Siambr newydd. Bydd yn achos balchder mawr inni a rhydd symbyliad, perthnasedd ac egni newydd i’n trafodaethau.
O ran ein statws rhyngwladol, gadewch inni ystyried prosiectau adeiladu diweddar mewn mannau eraill yn Ewrop. Mae Oriel y Tate yn St Ives, amgueddfa Guggenheim yn Bilbao ac amgueddfa newydd yr Holocost yn Berlin wedi cyfrannu’n sylweddol at ddelwedd a statws eu rhanbarthau a’u gwledydd. Yn yr un modd, os dewiswn ni adeilad Rogers, byddwn, ar amrantiad, yn ail-leoli Cymru ar y llwyfan rhyngwladol. Mae cymhariaeth Val Feld gydag adeiladau mawr yn nwyrain Ewrop yn amhriodol. Adeilad cymedrol yw cynllun Rogers, ond mae’n briodol i’w ddiben, fel y mae pob adeilad mawr. Nid wyf yn gor-ddweud yr achos wrth ddweud y bydd yr adeilad yn ailddiffinio Cymru fel democratiaeth greadigol, hyderus, fodern ac agored. Dyna’r hyn y gall prosiectau adeiladu llwyddiannus ei gyflawni, a dyna’r hyn y byddem ni’n ei gyflawni gyda chynllun Richard Rogers.
4:42 p.m.
Helen Mary Jones: Ymwelodd grwp o bobl ag anableddau dysgu â mi yn y Cynulliad heddiw. Eu prif ffocws oedd gofyn cwestiynau anodd imi am ein cynlluniau ar ailsefydlu ac eiriolaeth. Yr oeddwn yn falch o allu eu hateb. Fodd bynnag, fel rhan o’r ymweliad hwnnw, yr oedd yn rhaid imi eu tywys o amgylch yr adeilad hwn. Yr oedd eu hymatebion yn ddiddorol. Eu hymateb i’r ystafell hon oedd, 'mae braidd yn flêr’. Dyna’r gwir yn gryno. Eu hymateb i’r ystafelloedd pwyllgora oedd eu bod braidd yn gyfyng.
Tra yr oeddem yn disgwyl i gael cwpanaid o goffi, sylwodd rhai ohonynt ar y llun o’r adeilad newydd. Fesul un, codasant a cherdded draw i edrych arno. 'Mae’n hardd’, dywedasant. Mae yn hardd ac yr ydym yn ei haeddu. Mae pobl Cymru yn ei haeddu, nid ni yn y Siambr hon. Nid yw’n ymwneud â ni. Mae’n werth dweud wrth y cyhoedd y bydd ystafelloedd Aelodau’r Cynulliad yn aros yr un fath. Bydd ein swyddfeydd yn aros yn lle y maent. Mae’r adeilad newydd ar gyfer y rhai a ymwelodd â mi heddiw a’n holl etholwyr eraill sydd am ddod yma. Mae ein cenedl yn haeddu hynny.
Fel y gwyr pawb ohonom, nid oedd y Ceidwadwyr am gael datganoli, nid ydynt am i Gymru fod yn falch ohoni ei hun ac nid ydynt am i’r Cynulliad Cenedlaethol weithio. Felly, nid yw’n syndod nad ydynt yn mynd i--
Alun Cairns a gododd--
Helen Mary Jones: Na, mae’n ddrwg gennyf. Nid ildiodd eich cyd-Aelodau chi i mi, Alun. Yr ydych wedi siarad digon y prynhawn yma. Yn nhermau hunanbwysigrwydd, tybiaf fod gwobr y crochan yn galw’r tegell yn ddu wedi ei dyfarnu y prynhawn yma.
Nid yw’r Ceidwadwyr am i’r Cynulliad weithio ac nid ydynt am i’r genedl fod yn falch ohoni ei hun. O’r fan honno y maent hwy’n dod. Fodd bynnag, o leiaf mae eu safiad yn glir. Nid wyf yn bwriadu dweud unrhyw beth am gynigion y Cabinet. Nid oes dim gwerth ei ddweud am hynny.
John Griffiths: Mae un peth da ynglyn â cynllun y Siambr hon: diolch byth, am fy mod yn eistedd y tu ôl i golofn, ni allaf weld yr Aelodau Ceidwadol yn aml. Mae gwrando ar eu perfformiad truenus heddiw, a nodweddwyd gan refru Glyn Davies, yn fy ngwneud yn siwr mai dyna’r peth gorau am y Siambr hon. Mae gennyf sgrîn rhag gorfod edrych arnynt ac yn aml ni allaf eu clywed. Mae hynny’n nodwedd ragorol o’r Siambr hon.
Fodd bynnag, cytunaf â’r holl bwyntiau a wnaethpwyd ynglyn ag annigonolrwydd y Siambr hon. Nid dyma’r hyn sydd ei angen ar Gymru fel symbol o’r hyn y mae’r Cynulliad yn ei olygu i bobl Cymru a’r wleidyddiaeth newydd yng Nghymru. Yr wyf yn deall y rheini sydd yn dadlau bod yr hyn a gyflawnwn yn golygu llawer mwy na’r hyn y gall adeilad ei gyfleu. Fodd bynnag, mae symbolaeth yn bwysig. Yn draddodiadol, bu gan Gymru ddiffyg hyder am lu o resymau hanesyddol. Hyrwyddo Cymru newydd yw hanfod yr adeilad newydd. Mae’n bwysig o ran symboliaeth. Mae’n datgan i’r byd fod yna Gymru newydd, cyfundrefn wleidyddol newydd yng Nghymru a hunanhyder newydd yng Nghymru. Sylwaf ar hynny’n barhaus wrth deithio ar draws Cymru a siarad â phobl yn fy etholaeth. Mae teimlad newydd o optimistiaeth, wedi’i symboleiddio gan y gyfundrefn wleidyddol newydd yng Nghymru. Mae mawr angen adeilad newydd arnom yn symbol o hynny ac i symud pethau ymlaen i ddangos i’r byd bod Cymru o ddifrif am ei democratiaeth newydd. Nid ymddiheuraf am feddwl bod symbolaeth yn bwysig.
Aethpwyd dros lawer o’r dadleuon hyn ar y cynnig cyntaf, a gwneuthum i, a llawer o Aelodau eraill, lawer o’r pwyntiau hyn. Nid oes unrhyw beth wedi newid. Yr oedd yn briodol edrych o’r newydd ar bethau a bod Rhodri am fodloni ei hun ynglyn â’r ffigurau. Parchaf hynny yn llwyr. Yr oedd yn angenrheidiol. Yr ydym oll wedi achub ar y cyfle i edrych o’r newydd ar yr ystyriaethau. Yr wyf yn falch bod popeth a ddywedais y tro cyntaf yn dal yn wir. Mae’n dal yr un mor bwysig yn awr ag yr oedd bryd hynny. Byddaf yn pleidleisio yn unol â hynny.
Yr Ysgrifennydd Cyllid (Edwina Hart): Hoffwn achub ar y cyfle i gofnodi fy niolch i’r Dirprwy Lywydd am y ffordd y mae’r ddadl wedi ei chynnal. Ar y cyfan, bu’n ddadl resymegol ac urddasol. Trof at agweddau diurddas y ddadl. Nid oedd sylwedd i gyfraniad Glyn Davies a dyna oportiwnistiaeth wleidyddol bur ar ei gwaethaf. Nid oedd tôn ei sylwadau yn deilwng o’r Siambr hon. Nid yw’r Cabinet yn warth ar ddemocratiaeth. Mae democratiaeth yn golygu cymryd cyfrifoldeb, rhywbeth nad yw Glyn a’i blaid erioed wedi ei wneud. Yr ydych yn diystyru a gwadu 18 mlynedd eich gweinyddiaeth yn hwylus pan fo hynny o fudd ichi. Yr oedd ymosodiad personol eich arweinydd, Nick Bourne, ar y Prif Ysgrifennydd yn neilltuol o annheilwng. Mae costau Neuadd y Ddinas, Caerdydd ar gael i’r cyhoedd. Nododd ateb yn Nhy’r Cyffredin gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, Ron Davies, ddydd Gwener 28 Tachwedd 1997, i gwestiwn gan Rhodri Morgan holl gostau Neuadd y Ddinas. Mae’r rheini wedi eu cofnodi yn Hansard.
Alun Cairns a gododd--
Edwina Hart: Nid wyf am ildio. Mae gennyf bum munud fel chithau ac yr wyf am eu defnyddio’n fwy buddiol nag a wnaethoch chi. Trof at rai o’r sylwadau eraill a godwyd yn y ddadl. Deallaf o ble y mae rhai o’r sylwadau’n dod a deallaf rai o’r ystyriaethau a godwyd. Yr wyf yn derbyn iddynt gael eu gwneud yn yr ysbryd gorau posibl. Fodd bynnag, dadleuaf, ar ran y weinyddiaeth, mai’r materion y mae angen i chi eu hystyried yw’r cyfiawnhad a’r angen am adeilad ychwanegol, pa un a yw pawb yn derbyn yr angen hwnnw a sicrhau ein bod yn diwallu’r angen yn y ffordd fwyaf cost effeithiol. Fel mwyafrif yr Aelodau, rhannaf y farn nad yw’r Siambr bresennol, yr ystafelloedd pwyllgora na’r cyfleusterau ar gyfer y cyhoedd yn ddigon da. Mae cyfyngiadau difrifol i’r cyfleusterau ar gyfer y cyhoedd ac nid ydym mewn sefyllfa dda i’w cynnwys yn llawn yn y broses ddemocrataidd, sydd yn hanfodol os ydym yn ymrwymo o ddifrif i ddelio â’r diffyg democrataidd y sefydlwyd y Cynulliad i fynd i’r afael ag ef. Gyda hynny mewn cof a chan dderbyn bod yn rhaid inni wneud rhywbeth, ceisiodd y Cabinet ddarparu opsiwn rhatach o godi Siambr yn y maes parcio yng nghefn yr adeilad. Mae hynny’n bodloni’r meini prawf o ran anghenion gweithredol ac mae’n dderbyniol yn nhermau’r gost mewn arian.
Dywedwyd llawer ynglyn â phriodoldeb ailagor y trafodaethau am y Siambr newydd. Credaf fod hynny’n briodol ac yr wyf yn falch i eraill nodi eu bod o’r farn bod Rhodri yn iawn i archwilio’r costau. Mae’n bwysig bod pob penderfyniad yn cael ei wneud ar sail gwybodaeth ariannol glir. Bellach mae gennym opsiynau cost y gallwn eu hadolygu. Person dewr bob amser sydd yn dweud, 'stopiwch, dylem edrych a chloriannu unrhyw gynllun yn briodol’. Mae’r Prif Ysgrifennydd i’w ganmol am sicrhau bod pob mater dichonadwy yn cael ei drafod. Beth bynnag fydd canlyniad y ddadl heddiw, bydd y Cabinet, a minnau fel Ysgrifennydd Cyllid, yn sicrhau bod unrhyw brosiect adeiladu yn cadw at y contract y cytunir arno yn nhermau gofynion adeiladu a chostau. Nid yw’n hawdd gwneud penderfyniadau anodd. Mae hyd yn oed yn anos rai diwrnodau i’w hamddiffyn. Fodd bynnag, mae’r Cabinet yn iawn i gyflwyno opsiwn y maes parcio ger eich bron. Byddem yn methu fel Gweithrediaeth pe baem wedi canfod opsiwn mwy cost-effeithiol ac nad oeddem yn barod i gael trafodaeth ar yr wybodaeth honno yn y Siambr. Anogaf yr Aelodau i ystyried yr opsiynau’n ofalus. Mae argymhelliad y Cabinet o’ch blaenau. Cytunasom i wneud yr argymhelliad ar ôl trafodaeth a dadl faith ymysg ein gilydd a gofynnaf ichi ei gefnogi. Hyderaf y bydd fy sylwadau yn fy hawl i ymateb yn cael eu derbyn yn yr ysbryd diffuant y gwneuthum hwy ynddo.
Gwelliant 2: O blaid 8, Ymatal 0, Yn erbyn 49.
| The following Members voted for: | The following Members voted against: |
|---|---|
| Bourne, Nick Cairns, Alun Davies, David Davies, Glyn Graham, William Melding, David Morgan, Jonathan Rogers, Peter |
Barrett, Lorraine Bates, Mick Black, Peter Butler, Rosemary Chapman, Christine Dafis, Cynog Davies, Andrew Davies, Geraint Davies, Janet Davies, Jocelyn Davies, Ron Edwards, Richard Elis-Thomas, Dafydd Essex, Sue Evans, Delyth Feld, Val German, Michael Gibbons, Brian Gregory, Janice Griffiths, John Gwyther, Christine Halford, Alison Hancock, Brian Hart, Edwina Humphreys, Christine Hutt, Jane Jarman, Pauline Jones, Ann Jones, Carwyn Jones, Elin Jones, Gareth Jones, Helen Mary Jones, Ieuan Wyn Law, Peter Lewis, Huw Lloyd, David Middlehurst, Tom Morgan, Rhodri Neagle, Lynne Pugh, Alun Randerson, Jenny Ryder, Janet Sinclair, Karen Thomas, Gwenda Thomas, Owen John Thomas, Rhodri Glyn Wigley, Dafydd Williams, Kirsty Williams, Phil |
Gwrthodwyd y gwelliant.4:52 p.m. Gwelliant 3: O blaid 35, Ymatal 0, Yn erbyn 22.
| The following Members voted for: | The following Members voted against: |
|---|---|
| Barrett, Lorraine Bates, Mick Black, Peter Dafis, Cynog Davies, Geraint Davies, Janet Davies, Jocelyn Davies, Ron Edwards, Richard Elis-Thomas, Dafydd Evans, Delyth Feld, Val German, Michael Gibbons, Brian Gregory, Janice Griffiths, John Halford, Alison Hancock, Brian Humphreys, Christine Jarman, Pauline Jones, Ann Jones, Elin Jones, Gareth Jones, Helen Mary Jones, Ieuan Wyn Lewis, Huw Lloyd, David Neagle, Lynne Randerson, Jenny Ryder, Janet Thomas, Owen John Thomas, Rhodri Glyn Wigley, Dafydd Williams, Kirsty Williams, Phil |
Bourne, Nick Butler, Rosemary Cairns, Alun Chapman, Christine Davies, Andrew Davies, David Davies, Glyn Essex, Sue Graham, William Gwyther, Christine Hart, Edwina Hutt, Jane Jones, Carwyn Law, Peter Melding, David Middlehurst, Tom Morgan, Jonathan Morgan, Rhodri Pugh, Alun Rogers, Peter Sinclair, Karen Thomas, Gwenda |
Derbyniwyd y gwelliant.Cynnig wedi’i ddiwygio:
fod y Cynulliad, ar ôl ystyried y gwaith a wnaed gan swyddogion ac a ddisgrifir yn y ddogfen 'Gwybodaeth am Broject Adeilad Newydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Mehefin, yn penderfynu parhau i symud ymlaen â Dewis B fel y’i disgrifir yn y ddogfen honno.
Cynnig: O blaid 48, Ymatal 0, Yn erbyn 9.
| The following Members voted for: | The following Members voted against: |
|---|---|
| Barrett, Lorraine Bates, Mick Black, Peter Butler, Rosemary Chapman, Christine Dafis, Cynog Davies, Andrew Davies, Geraint Davies, Janet Davies, Jocelyn Davies, Ron Edwards, Richard Elis-Thomas, Dafydd Essex, Sue Evans, Delyth Feld, Val German, Michael Gibbons, Brian Gregory, Janice Griffiths, John Gwyther, Christine Halford, Alison Hancock, Brian Hart, Edwina Humphreys, Christine Hutt, Jane Jarman, Pauline Jones, Ann Jones, Carwyn Jones, Elin Jones, Gareth Jones, Helen Mary Jones, Ieuan Wyn Lewis, Huw Lloyd, David Middlehurst, Tom Morgan, Rhodri Neagle, Lynne Pugh, Alun Randerson, Jenny Ryder, Janet Sinclair, Karen Thomas, Gwenda Thomas, Owen John Thomas, Rhodri Glyn Wigley, Dafydd Williams, Kirsty Williams, Phil |
Bourne, Nick Cairns, Alun Davies, David Davies, Glyn Graham, William Law, Peter Melding, David Morgan, Jonathan Rogers, Peter |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Y Dirprwy Lywydd: Gan i banel pleidleisio Kirsty Williams fethu ar y bleidlais olaf, gofynnaf iddi gadarnhau ei phleidlais ar lafar.
Kirsty Williams: Cadarnhaf imi bleidleisio o blaid.
Y Dirprwy Lywydd: Effaith y penderfyniad yw bod y Cynulliad wedi ailgadarnhau ei benderfyniad ar 26 Ionawr. Diolchaf i’r Aelodau am fod yn fyr yn y ddadl hon cyn i’r stopglociau gael eu cyflwyno yn y Siambr.
