Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Datganiad ar Adeilad Newydd y Cynulliad

Y Gweinidog Cyllid (Edwina Hart): Yr wythnos diwethaf gwelsom y llechen yn cael ei gosod o flaen Canolfan Mileniwm Cymru, i nodi cam olaf codi’r adeilad hwnnw. Heddiw, yr wyf yn falch o allu cyhoeddi cam mawr ymlaen o ran cyflwyno siambr ddadlau newydd y Cynulliad. Ar 21 Hydref 2002 cyhoeddais fod gwahoddiadau ffurfiol i gynnig yn cael eu rhoi i gynigwyr a oedd â diddordeb, a ofynnai am eu cynigion amlinellol a’u hamcangyfrifon o’r gost am becynnau gwaith adeiladu dewisedig. Dros y Nadolig a’r flwyddyn newydd, gwerthuswyd y cynigion tendro hyn yn ofalus gan y tîm rheoli prosiect ac ymgynghorwyr proffesiynol y Cynulliad. Cynhaliwyd cyfweliadau tendro gyda’r cynigwyr ar 9 Ionawr 2003. Yn dilyn y broses gwerthuso tendrau argymhellodd bwrdd prosiect adeiladu’r Cynulliad ffordd ymlaen a rhennais yr argymhelliad hwn gydag aelodau o’r grwp llywio prosiect. Ar sail y cyngor proffesiynol a roddwyd imi a’r cyngor hwnnw a dderbyniwyd gan yr ymgynghorwyr proffesiynol annibynnol ar y bwrdd prosiect, penderfynais y bydd Taylor Woodrow yn cael ei benodi fel y cynigydd a ffafrir ar gyfer y prosiect. Dros yr ychydig fisoedd nesaf bydd y cwmni yn parhau i ddatblygu’r dyluniad hyd nes y gallaf fod yn dawel fy meddwl bod ei gynigion yn bodloni disgwyliadau’r Cynulliad o ran ansawdd, addasrwydd ac amserlen.

Bydd Taylor Woodrow yn mynd yn gyfrifol am ddatblygu a chydlynu dyluniad ei bartneriaid consortiwm: Partneriaeth Richard Rogers, peirianwyr sifil Arup a BDSP, y peirianwyr mecanyddol a thrydanol. Ar yr adeg honno bydd mewn sefyllfa i gynnig contract pris penodol i’r Cynulliad. Wrth ddatblygu’r cynlluniau cost terfynol, bydd ymgynghorwyr costau’r Cynulliad yn gweithio ar y cyd gyda Taylor Woodrow, gan ddefnyddio dull codi tâl fesul awr, i bennu ffigur sy’n cynnig y gwerth gorau am arian. Bydd yn ofynnol i’r cwmni ddangos ei fod wedi cael prisiau cystadleuol fesul pecyn. Bydd hefyd yn gweithio ar ei fenter ei hun hyd nes y bydd y Cynulliad yn llunio contract ffurfiol.

O ddewis yr opsiwn hwn gellid llofnodi contract dylunio ac adeiladu pris penodol yn gynt na’r bwriad—o bosibl ar ddechrau Mehefin, yn lle Awst neu Fedi. Wrth benderfynu dilyn y llwybr hwn, nid wyf wedi cyfyngu ar fy opsiynau. Pe bai’r negodiadau gyda Taylor Woodrow yn methu, bwriadaf ailagor trafodaethau gyda David McLean, cwmni adeiladu sydd â’i bencadlys yn y Gogledd i ddatblygu dyluniad a chyflwyno cynigion ar gyfer contract dylunio ac adeiladu pris penodol. Mae David McLean, ei benseiri Stride Treglown Davies a’i beirianwyr Buro Happold wedi cytuno i’r cynnig hwn. Bu ymagwedd gyson tuag at y prosiect hwn o’r dechrau ac mae cefnogaeth i godi adeilad newydd ar gyfer y Cynulliad. Fodd bynnag mae pobl Cymru am gael eu sicrhau bod sicrwydd o ran costau a gwerth am arian. Mae pob cam a gymerais, ac y bwriadaf ei gymryd wedi ei anelu at roi’r sicrwydd hwnnw.

Ron Davies: Fel y gwyr y Gweinidog, nid oeddwn erioed yn gefnogwr brwd i’r penderfyniad, a wnaed rhyw dair blynedd yn ôl i ohirio’r prosiect hwn. Nid oes esgus dros y gwastraff o amser ac adnoddau a olygodd hynny dros y tair blynedd diwethaf, ond rhaid inni anghofio hynny yn awr. Yr wyf am i’r Gweinidog wybod pa mor falch wyf iddi gael y dewrder i wneud y penderfyniad angenrheidiol hwn ac yn wir, y dewrder i ddychwelyd at Bartneriaeth Richard Rogers, o gofio anawsterau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. A yw’r Gweinidog yn derbyn bod llawer o’r Aelodau yn falch o’r cyhoeddiad a wnaeth ac yn gobeithio y bydd yn dwyn y prosiect hwn i’w derfyn? Edrychwn ymlaen at y dydd pan fydd gennym adeilad newydd a fydd yn addas i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Edwina Hart: Diolchaf i Ron Davies am ei sylwadau caredig. Mae’n bwysig ein bod yn anghofio’r gorffennol. Yr ydym mewn sefyllfa newydd—mae gennym ddyluniad a chontract adeiladu, yn hytrach na chontract rheoli. Dyma’r ffordd orau ymlaen ac yr wyf yn siwr y cawn y contract a’r dyluniad a ddymunwn, ar y gost a ddymunwn.

Dafydd Wigley: Croesawaf ein bod, o’r diwedd, yn symud ymlaen gydag adeilad y mae pawb call sy’n gweithio yma yn gwybod sydd ei angen arnom. O edrych ar Ganolfan y Mileniwm, a’r ffordd y mae’n cael ei adeiladu, fe’m hatgoffir o’r angen i symud ymlaen yn gyflym. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau bod contract pris penodol yn rhoi mwy o sicrwydd o ran rheoli pris ac y bydd hynny’n well na’r profiad a gawsom gyda’r prosiect yn y gorffennol, ac yn well na’r gyfundrefn sy’n bodoli ar gyfer adeiladu adeilad newydd Senedd yr Alban? A wnaiff hefyd gadarnhau y bydd y pris terfynol, o’r rhagolygon, yn sylweddol is na amcangyfrifon gwyllt a wyntyllwyd y tro diwethaf y trafodwyd y mater? A wnaiff roi sicrwydd na fydd unrhyw gyfaddawdu ar ansawdd yr adeilad pwysig hwn ac a wnaiff ddatgan bod pob Gweinidog wedi ymrwymo’n llawn i symud ymlaen â’r prosiect pwysig hwn?

Edwina Hart: Gallaf roi’r ymrwymiad hwnnw ar ran fy nghyd-Aelodau o’r Cabinet sydd wrth eu bodd fod y sefyllfa hon wedi ei datrys bellach. Cefnogwn yr adeilad ac yr ydym am iddo gael ei adeiladu cyn gynted â phosibl. Byddaf wrth fy modd os gallwn lofnodi contractau ym mis Mehefin a chael y contractwyr ar y safle ym mis Gorffennaf

Golyga’r adeilad lawer i Gymru ac i Fae Caerdydd, a golyga lawer i ni o ran ein democratiaeth. Gallaf sicrhau Dafydd Wigley na fydd cyfaddawdu ar ansawdd na dyluniad nac o ran materion sylfaenol cynaliadwyedd, sy’n arbennig o bwysig. Ni allaf wneud sylw ar faterion cost hyd nes bod negodiadau gyda Taylor Woodrow wedi eu cwblhau, ond cafwyd rhai amcangyfrifon llawer rhy uchel yn y gorffennol. Rhoddaf sicrwydd ichi na fydd yn dod yn agos at y swm sydd yn cael ei wario ar adeilad Senedd yr Alban. Yr ydym ar y trywydd cywir. Diolchaf ichi Dafydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio am waith y Pwyllgor hwnnw. Bûm yn ddiolchgar am hynny ac am y gwaith a wnaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru ar yr adeilad. Yr ydym i gyd yn cytuno mai’r opsiwn yr ydym yn ei ddilyn erbyn hyn—contract dylunio ac adeiladu yn hytrach na chontract rheoli—yw’r un gorau. Bydd yn golygu sicrwydd o ran costau, a dyna beth yr ydym ni fel Cynulliad am ei gael cyn gwneud penderfyniad ym mis Mehefin.

Nick Bourne: Mae’r stori ddiflas yn parhau. Pa mor aml yr ydym wedi eich gweld yn cerdded llwybr cywilydd i’r llwyfan i gyhoeddi yr hyn a haerwch ei fod yn newyddion da, ond y gwyddom ni ei fod yn newyddion drwg, yr ydych chi yn ceisio ei gyflwyno fel datblygiad arwyddocaol? Pan ddywedwch fod hyn yn hwb mawr i ddemocratiaeth ar gyfer pobl Cymru, fe wyddoch mai breuddwyd gwrach ydyw, oherwydd nid oes unrhyw un yng Nghymru, heblaw am rai gwleidyddion, yn dymuno cael yr adeilad hwn.

Rhyfeddaf ichi fod yn annoeth a thynnu sylw at y cynnydd a wnaed ar Ganolfan Mileniwm Cymru ar ddechrau eich datganiad. Mae hynny’n newyddion da, ac yr ydym wedi bod yn hollol gefnogol i’r prosiect hwnnw. Fodd bynnag, ni fydd ond un Ganolfan Mileniwm i Gymru, lle bydd gennym ddau adeilad Cynulliad. Nid oes angen dau arnom. Mae’r defnydd o lechen o’r Gogledd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn deyrnged fawr i’r Gogledd. Croesawem fwy o ymrwymiad gan y Cabinet i’r Gogledd, ynghyd â rhai aelodau Cabinet o’r Gogledd—yr oedd gennym Weinidog da o’r Gogledd ers talwm—ac efallai ambell gyfarfod yno. Cefnogwn brosiectau a olyga lawer i Gymru, megis y prosiect archif cenedlaethol yn Aberystwyth a Chanolfan Mileniwm Cymru. Nid oes unrhyw un am gael y prosiect hwn.

Fe’m synnwyd o glywed y bydd Richard Rogers yn ymwneud â hyn eto. Nid oeddwn yn synnu i chi gloffi yn y rhan honno o’ch datganiad ac yno mynd heibio iddi braidd yn gyflym, oherwydd gwyddom yr hanes, a faint fydd yn ei gostio inni. Bu’n rhaid i drethdalwyr Cymru ariannu’r anghydfod a gawsoch gyda Richard Rogers ar gost o gannoedd o filoedd o bunnoedd. Nodwn nad ydych yn cyfyngu ar eich opsiynau. Fe’u gelwir gennych yn 'eich’ opsiynau, ond maent yn ddewisiadau y bydd yn rhaid i drethdalwyr Cymru eu hariannu. Os yw hwn yn ddatganiad o gynnydd sylweddol, pam nad ydym yn gwybod pwy fydd yn rhedeg y prosiect? Dywedasoch nad oes sicrwydd ac y gallai negodiadau gyda Taylor Woodrow fethu. Ymddengys fod hwn yn ddatganiad nad yw’n ddatganiad, oherwydd nid oes cynnydd gwirioneddol. A wnewch chi egluro’r sefyllfa?

Buoch yn ddoeth i nodi y bydd contract pris penodol o bosibl. Beth yw’r pris penodol sydd gennych mewn golwg? Byddai diddordeb gan bobl Cymru i glywed beth yw’r swm hwnnw cyn yr etholiad, yn hytrach nag ar ôl hynny, a dyna yn ddiddadl sydd yn eich meddwl. Byddai’n ddefnyddiol cael gwybod y pris hwnnw. Hyd yn hyn gwariwyd £8 miliwn ar ddim byd. Gwariwyd tua £2 filiwn oherwydd chwyddiant yn sgîl gohirio’r prosiect. Nid wyf yn dymuno cael yr adeilad hwn ac nid yw fy mhlaid ychwaith na’r rhan fwyaf o bobl Cymru. Fodd bynnag os ydych yn mynd i’w godi, codwch yr adeilad. Nid yw’n ddoeth mynd i gostau o £2 filiwn drwy ohiriadau yn unig.

Dywedasoch, yn hynod o onest, fod ymagwedd gyson tuag at y prosiect hwn o’r dechrau. Mae’n gyson yn yr ystyr eich bod wedi bod yn ei drafod fel sbort—neu o leiaf byddai’n ddoniol oni bai am y gwastraff o arian trethdalwyr Cymru. Dyna’r cysondeb, y cywilydd a’r gwarth, ac nid ydym am ran ynddo o gwbl.

Edwina Hart: Nid yw pobl Cymru am ymwneud â chi o gwbl, oherwydd eich bod yn gwneud yn fach o’r broses ddemocrataidd i’r fath raddau. Mae’r mwyafrif yn y Siambr hon am gael adeilad newydd, ac mae mwyafrif yn y Siambr hon yn cynrychioli’r mwyafrif o bobl Cymru a bleidleisiodd inni. Dyna beth yw democratiaeth. Yr unig 'stori ddiflas’ yw pan fo’n rhaid imi wrando ar eich sylwadau ar fy natganiadau ar adeilad y Cynulliad. I rywun sy’n perthyn i blaid honedig busnes, mae eich diffyg dealltwriaeth o sefyllfaoedd cytundebol, contractau dylunio ac adeiladu a chontractau rheoli yn druenus.

Eglurais yr hyn sy’n digwydd gyda’r adeilad, ac ni welaf unrhyw beth o’i le mewn cyfeirio at Ganolfan Mileniwm Cymru. Bu ganddo hanes cythryblus, ond erbyn hyn mae ganddo ddyfodol llewyrchus. Efallai fod adeilad newydd y Cynulliad wedi cael gorffennol cythryblus, ond cawn ddyfodol a dadl lwyddiannus yn y Siambr newydd. Y ffaith bwysig yw ein bod wedi gwneud hyn yn iawn. Byddai’n dda bod wedi gallu gwneud cyhoeddiad am y costau cyn etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol, ond ni allaf wneud hynny. Rhaid imi negodi’r contract hwn gyda Taylor Woodrow am bris penodol. Rhaid imi wedyn ei gyflwyno i’r Cynulliad iddo gytuno arno cyn y gallaf weithredu ymhellach. Yr wyf wedi ystyried yr hyn a ddigwyddodd yn flaenorol, a sylweddolaf y bydd angen imi fynd at rywun arall os na chawn y pris a ddymunwn. Mae gennyf yr opsiwn hwnnw gyda David McLean, adeiladwr arall sydd ag enw da gyda chonsortiwm cymeradwy arall. Y gwahaniaeth rhyngof innau a chithau yw fy mod i’n deall y broses hon ond nad ydych chi yn ei deall.

3.30 p.m.

Arweinydd Grwp y Democratiaid Rhyddfrydol (Michael German): Fe’ch llongyfarchaf ar eich datganiad. Bydd yn rhoi cryn sicrwydd y caiff y prosiect pwysig hwn ei gwblhau. Bydd yn darparu i Aelodau’r Cynulliad a phobl Cymru le cyhoeddus, agored, Siambr gyhoeddus ac ystafelloedd Pwyllgora cyhoeddus y bu mawr angen amdanynt. Plagiwyd y prosiect hwn gan y problemau a drosglwyddwyd i’r Cynulliad hwn cyn iddo hyd yn oed gael ei sefydlu, o ran natur y contract a natur yr adeilad. A wnewch gadarnhau a yw eich cyhoeddiad yn golygu y gallwn erbyn hyn fod yn hyderus y caiff pobl Cymru eu hadeilad cyhoeddus am gost y cytunwyd arni, i safon y cytunwyd arni ac erbyn dyddiad cwblhau y cytunwyd arno? A wnewch chi hefyd gadarnhau y bydd troi o’r contract rheoli a etifeddwyd gennym, gyda’r holl ansicrwydd cysylltiedig o ran costau, at gontract dylunio ac adeiladu yn rhoi pris penodol, cadarn inni? A gytunwch y byddwn yn gwybod i sicrwydd gost yr adeilad newydd ac y byddwn, am y tro cyntaf, yn llywio’r prosiect hwn? A gytunwch y bydd yr adeilad hwn yn eicon i ddemocratiaeth, yn eicon i Gymru, ac y bydd yn denu ymwelwyr, yn adfywio’r economi ac yn ad-dalu buddsoddiad pobl Cymru ynddo? Tybed a fydd unrhyw Geidwadwyr a fydd yn weddill ymhen pedair blynedd yn galw arnom i roi’r gorau i’r adeilad hwn, neu a fentrant eistedd ynddo.

Edwina Hart: Cytunaf y bydd yn eicon i ddemocratiaeth. Gobeithiaf y bydd hefyd yn eicon o ran safonau adeiladu da. Mae’n sicr y bydd yn eicon o ran gwerth am arian ac o ran adeiladau cyhoeddus a gwblheir o fewn y gost ac o fewn yr amserlen a ddymunwn. Yn bwysig ddigon, bydd hefyd yn eicon o ran materion cynaliadwyedd, oherwydd ein bod yn anelu at gael y safonau uchaf yn yr adeilad hwn. Mae hynny’n hollbwysig o gofio ymrwymiad y Cynulliad i ddatblygu cynaliadwy. Credwn hefyd yn y defnydd priodol o ddefnyddiau brodorol a chrefftau lleol, a bydd lle amlwg i’r rhain. Mae’r holl faterion hynny’n bwysig. Fodd bynnag y ffaith bwysicaf yw ein bod yn gwybod bellach beth sy’n digwydd gyda’r adeilad hwn. Bu’n frwydr hir a chaled. Mae’n llawer haws cyhoeddi newyddion da na wynebu beirniadaeth, ond rhaid inni fod yn gyfrifol. Mae’r rhan fwyaf ohonom yma yn barod i wneud hynny. Bydd gan yr Aelodau ddiddordeb i wybod efallai—ac yr oedd Mike German gyda mi—fy mod wedi ateb cwestiwn yn Hwlffordd ar yr adeilad newydd. Yr oedd pob un o’m cyd-Aelodau yn y Cabinet yn gwaredu, 'O, na, nid cwestiwn ar yr adeilad newydd’. Fodd bynnag pan atebais y cwestiwn a rhoi esboniad, cefais gymeradwyaeth. Efallai nad yw’r Ceidwadwyr mewn cysylltiad â dymuniadau poblogaeth Cymru.

Cynog Dafis: Cydymdeimlaf â’r grwp Ceidwadol am orfod eistedd y tu ôl i’w harweinydd yn gwrando ar y fath glindarddach gwag, a ddangosodd y fath anwybodaeth ynglyn â sut mae rhedeg busnes. Dangosodd ei sylwadau y gwir am y Ceidwadwyr, sef nad ydynt o blaid Cymru, nac o ddifrif am y prosiect Cymreig. Dyna’r neges a fydd yn mynd allan i’r cyhoedd, a dyna’r rheswm dros y perygl y bydd ganddynt lai o Aelodau yn y Cynulliad nesaf i gymryd eu lle yn yr adeilad newydd.

Pwysaf arnoch ar fater datblygu cynaliadwy a’r ffordd y bydd yr adeilad newydd yn enghraifft o hynny. A wnewch eich gorau i sicrhau y bydd ynni’r adeilad hwn yn dod o ffynonellau cynaliadwy, y bydd lefelau uchel o effeithlonrwydd ynni yn yr adeilad, ac y bydd y dulliau o ddelio gyda gwastraff yn gynaliadwy? Yn olaf, a wnewch sicrhau bod defnyddiau Cymreig—a croesawaf y ffaith i chi grybwyll hynny—yn benodol, coed Cymreig, yn cael eu defnyddio yn y tô ac yn yr adeilad yn gyffredinol?

Edwina Hart: Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu yn unol â’r rheolau caffael Ewropeaidd. Os gallaf fynd ymhellach i sicrhau bod gennym ddefnyddiau o safon o’n gwlad ein hunain yn yr adeilad hwn, gwnaf hynny.

Mae ynni yn fater allweddol, ac yr ydym yn parhau i’w drafod. Croesawaf farn yr Aelodau ar hynny. Efallai y byddai o gymorth pe bai’r materion ehangach hyn, maes o law, yn cael eu trafod ymhlith yr Aelodau yn fwy cyffredinol, ac nid yn unig ym Mhwyllgor y Ty. Os oes angen cyflwyniad pellach, gwnaf drefnu hynny.

Lorraine Barrett: Croesawaf eich datganiad. Os yw’r Ceidwadwyr mor wrthwynebus i’r prosiect, a wnewch chi eu gwahodd i gefnu ar yr adeilad newydd, ac i beidio â derbyn eu seddau—os enillant unrhyw rai—yn yr etholiad nesaf? A gytunwch fod cyfeillion y Torïaid yn y diwydiant adeiladu fwy na thebyg yn siomedig eu bod wedi siarad yn erbyn prosiect o’r radd flaenaf, a fydd yn creu cannoedd o swyddi yn yr ardal hon? Yn fwy penodol, a wnewch sicrhau bod y contractwyr yn ymwybodol o’r materion sensitif sy’n ymwneud â chofeb y mordwywyr a fydd wrth ymyl y fynedfa i’r adeilad newydd? A wnewch sicrhau bod y contractwyr yn cysylltu â Chymdeithas y Mordwywyr yn gynnar i drafod unrhyw darfu posibl ar y gwasanaethau a gynhelir wrth y gofeb? Mae pobl yn hoff iawn o’r gofeb. Yr ydym eisoes wedi cadarnhau na chaiff ei symud, ond yr wyf am fod yn siwr fod y contractwyr yn ymwybodol o’r materion sensitif sy’n gysylltiedig â hi.

Y Llywydd: Trefn. Edrychaf ymlaen at yr hyn sydd gan y Gweinidog i’w ddweud am gofeb y mordwywyr. Fodd bynnag, hyd y gwn i, nid oes ganddi unrhyw gyfrifoldeb dros grwp Ceidwadwyr Cymru.

Edwina Hart: Rhaid cadw’r materion sy’n ymwneud â chofeb y mordwywyr mewn cof a bydd fy swyddogion yn ymdrin â’r mater hwnnw. Bydd swyddi adeiladu yn cael eu creu. Mae pencadlys Arup yma a bydd economi Cymru yn elwa ar y prosiect. Codasoch fater hyder a Cheidwadwyr Cymru. Yr ydym yn hyderus y gallwn gyflwyno’r adeilad newydd, felly efallai y byddai’n well pe na bai’r Ceidwadwyr hyd yn oed drafferthu sefyll yn yr etholiad nesaf.

David Ian Jones: Mae’n chwith gennyf i ddweud hyn, ond rhaid imi anghytuno â’m cyd-Aelod Nick Bourne. Yr wyf yn barod i fod yn fwy meddwl agored am yr adeilad newydd. Wedi’r cwbl, mae record Llafur ar faterion o’r fath yn un i ymfalchïo ynddi. Mae gennym adeilad Awdurdod Llundain Fwyaf, sydd yn gymaint o addurn i lannau afon Tafwys, ac sy’n cydweddu yn hardd gydag Eglwys Gadeiriol Sant Pawl ar lan arall yr afon. Mae gennym adeilad Senedd yr Alban sy’n rhyw fath o Dwr Babel. Mae’n parhau i gael ei godi, ac yr oedd fod i gostio £40 miliwn ac erbyn hyn mae’r gost yn £340 miliwn ac yn codi. Yr wyf yn siwr y gallwn efelychu hyn yng Nghaerdydd. Yr wyf hefyd yn falch eich bod wedi penodi Richard Rogers y pensaer a’r ymgyfreithiwr o fri i’r prosiect. Gobeithiaf y dychwela at ei ddyluniad gwreiddiol, a alwyd yn 'crystal balls’ fe gredaf, oherwydd mae 'crystal balls’ yn ffordd arall o ddweud 'transparent nonsense’. Byddai ymwelydd ar dro â’r adeilad presennol yn cael ei daro gan y ffaith ei fod yn gwbl addas, ei fod yn gwasanaethu ei Aelodau yn dda, a bod hynny’n gwneud y tro. Wrth gwrs, byddai’r ymwelydd hwnnw yn anghywir. Beth sydd ei angen arnom yng Nghaerdydd yw ein dôm bleser ni ein hunain, ein palas ein hunain i’r bobl. Os costia £40, £50, neu £60 miliwn, pa ots am hynny? Yr wyf mor falch o weld partneriaeth Rogers a Hart yn ôl gyda’i gilydd eto.

Edwina Hart: Nid wyf yn siwr ym mha ffordd y dylwn dderbyn y sylwadau hynny. Fodd bynnag, ymatebaf yn y modd y tybiaf sy’n briodol. Mae’n amlwg nad ydych wedi cael llawer o ymwelwyr yn yr adeilad hwn, neu ni fyddech yn dweud bod pobl yn credu bod y cyfleusterau yn addas. Pan ddaw ymwelwyr yma nid oes unman lle gallant gael cwpanaid o de, i roi eu cotiau gwlyb, nac i gysylltu gyda’u cynrychiolwyr etholedig. Fel yr wyf wedi dweud bob amser, mae’r Arglwydd Rogers yn bensaer amlwg o fri byd-eang, sydd wedi creu adeiladau ardderchog ar draws y byd. Mae’r Arglwydd Rogers yn rhan o gonsortiwm a luniwyd gan Taylor Woodrow. Fodd bynnag Taylor Woodrow sy’n gyfrifol am gyflwyno’r contract.

Alison Halford: Weinidog, mae’n gofyn am ddynes cystal â chi i gyflwyno prosiect anodd. Cefnogaf yr hyn a arbedwyd gennych o hyn. Mae hefyd o ddiddordeb imi fod y Gogledd yn ymddangos mor boblogaidd y prynhawn yma. A allwch roi crynodeb inni o’r hyn a drafodwyd yn y cyfarfod tendro a gynhaliwyd ar 9 Ionawr? Yn arbennig, a drafodwyd yr angen am fynediad pobl anabl—o gofio nad oedd wedi’i gynnwys yn nyluniad Partneriaeth Richard Rogers? A ydych wedi nodi’r sylwadau angharedig am Bartneriaeth Richard Rogers a wnaed yn y Pwyllgor Archwilio pan y’i hanerchwyd gan yr Ysgrifennydd Parhaol yn ddiweddar?

3.40 p.m.

Edwina Hart: Yr wyf yn ymwybodol o’r sylwadau a wnaed yn y Pwyllgor Archwilio, ond gadawaf hynny yn nwylo Cadeirydd y Pwyllgor ac Archwilydd Cyffredinol Cymru iddynt hwy ymdrin â hynny maes o law. Cynhaliodd fy swyddogion drafodaethau hir ar fynediad i’r anabl gyda’r rhai sy’n dymuno tendro, a chredaf ein bod wedi ymdrin â’r materion anabledd er boddhad y Comisiwn Hawliau Anabledd ac eraill. Fodd bynnag, ni allaf fanylu ar y tendrau.

Glyn Davies: Dros y tair blynedd diwethaf, yr wyf wedi ceisio darbwyllo’r Cynulliad i beidio â pharhau â’r prosiect hwn. Ymddangosai fel pe bai’r Prif Weinidog yn cytuno â mi ar adegau, ond bellach ymddengys ei fod wedi ymuno â chi, Weinidog. Yr ydych yn edrych ymlaen heddiw, a derbyniaf hynny. Fodd bynnag, i godi’r pwynt a grybwyllwyd gan Alison Halford, nid yw’n ddigon da ichi ddiystyru’r mater drwy ddweud mai mater i Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio ydyw. Yng nghyfarfod diweddar y Pwyllgor Archwilio dywedodd y prif was sifil yng Nghymru fod,

'yr amcangyfrif gwreiddiol a gyflwynwyd gan Bartneriaeth Richard Rogers yn y gystadleuaeth gynllunio yn rhy isel a, phe bai’r costau gwirioneddol yn hysbys ar y pryd, ni fyddai ei gais wedi’i dderbyn yn y gystadleuaeth am nad oedd yn cydymffurfio.’

Yr wyf yn siwr y bydd Partneriaeth Richard Rogers yn herio hynny, oherwydd pan fydd yn mynd i’r llys, mae’n ennill yn erbyn y Cynulliad bob tro, ac mae wedi costio symiau anferth o arian i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac i bobl Cymru. Sut y cysonwch y penderfyniad i fynd ymlaen â’r prosiect hwn gyda Phartneriaeth Richard Rogers â’r ffaith bod y Comisiwn Archwilio wedi clywed tystiolaeth gan brif was sifil Cymru a oedd yn awgrymu na ddylai fod wedi bod yn rhan o’r prosiect hwn yn y lle cyntaf?

Edwina Hart: Nid oedd fy sylwadau am Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio yn rhai diystyriol; dangosant fy ymddiriedaeth lwyr ym mhrosesau’r Cynulliad, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio, y broses archwilio, yr Ysgrifennydd Parhaol fel swyddog cyfrifo, a rôl Archwilydd Cyffredinol Cymru. Yr wyf yn fodlon i’r materion hynny gael eu datrys yn y fforwm honno gan fy mod yn siwr yr ymdrinnir â hwy yn gywir. Nid oeddwn yn diystyru’r mater. Ymddangosai imi fod eich cyfraniad yn gofyn a allwn ymddiried ym Mhartneriaeth Richard Rogers. Fodd bynnag, mae ei benodiad erbyn hyn ar sail gytundebol wahanol nag yr oedd yn wreiddiol. Taylor Woodrow sy’n gyfrifol am gyflwyno’r prosiect ar amser ac yn ôl cyllideb y cytunwyd arni. Nid oes amheuaeth gennyf y bydd Partneriaeth Richard Rogers yn mynychu cyfarfodydd gyda swyddogion y Cynulliad pan fo angen, fel y bydd aelodau eraill y tîm dylunio. Fodd bynnag yr ydym erbyn hyn mewn cyfnod hollol newydd gyda’r trefniadau newydd hyn. Gwyddoch beth oedd y rhesymau pam y diswyddwyd Partneriaeth Richard Rogers, ond nid yw ei allu pensaernïol na rhinweddau pensaernïol yr adeilad erioed wedi cael eu hamau. Yr wyf bob amser wedi cefnogi’r adeilad yn frwd. Yr wyf hefyd yn diflasu ar glywed sylwadau am y Prif Weinidog a’m cyd-Aelodau yn y Cabinet. Buont yn eithriadol gefnogol imi yn y gwaith o roi’r adeilad newydd ar waith.

Y Llywydd: Er gwaethaf yr anawsterau ymarferol i weld yr Aelodau yn iawn yn y Siambr hon, gallaf weld bod dau Aelod arall yn dymuno siarad—neu a oes tri? Mae’n ddrwg gennyf, mae pedwar. Galwaf ar Delyth Evans.

Delyth Evans: Croesawaf y cynnydd a glywsom amdano heddiw, Weinidog, sydd i raddau helaeth iawn o ganlyniad i’r ymagwedd benderfynol a fu’n nodwedd o’ch arweinyddiaeth o’r prosiect hwn. Yn wahanol i Geidwadwyr Cymru, canmolaf ymwneud y pensaer gwreiddiol yn nyfodol yr adeilad. Rhaid bod Nick Bourne yn rhy philistaidd i ddeall pwysigrwydd adeiladau eiconig a phenseiri byd enwog o ran hybu delwedd Cymru gartref ac oddi cartref, ac o ran llwyddiant y prosiect adfywio yn ein prifddinas. Cyfeiriwyd yn gynharach at ddefnyddiau brodorol. Pa drafodaethau a gawsoch gyda Taylor Woodrow ar y mater hwn? A yw’n derbyn dymuniad y Cynulliad i ddefnyddiau o Gymru gael eu defnyddio yn yr adeilad cyn belled â bod hynny’n ymarferol?

Edwina Hart: Ni chredaf y bydd unrhyw anhawster o ran hynny. Mae Taylor Woodrow a phawb arall yn ymwybodol o’n hanghenion o ran cynaliadwyedd a’r defnydd o gynhyrchion brodorol o Gymru, sy’n bwysig. Diolchaf ichi am eich sylwadau am adeiladau eiconig, oherwydd maent yn bwysig. Pan ymwelwn â dinasoedd, byddwn i gyd yn sefyll i edmygu y cyfryw adeiladau, a phan fyddwn yn ymadael byddwn yn eu cofio. Pe bai ein cyndeidiau a’n cynfamau wedi meddwl fel Ceidwadwyr Cymru byddem yn eistedd mewn diffeithwch.

Alun Cairns: Os yw contract dylunio ac adeiladu pris penodol yn briodol bellach, pam y gwnaeth y Gweinidog wrthod gwelliant Ceidwadwyr Cymru a gynigiodd gontract o’r fath ar ddechrau’r prosiect? Pe bai’r Llywodraeth wedi derbyn ein cyngor ar y pryd, ni fyddai’r cawl hwn gennym yn awr.

Edwina Hart: Yr oedd y prosiect eisoes ar waith erbyn i’r Cynulliad Cenedlaethol gael ei sefydlu. Gwnaed rhai trefniadau cyn imi fod yn gyfrifol am y prosiect. Yr ydym bellach yn y lle iawn ar yr adeg iawn ar gyfer y contract hwn.

Brian Hancock: Croesawaf y newyddion pwysig hyn. Fel y dywedodd eraill, gresynaf at yr oedi. Fodd bynnag efallai y bydd gennych ddiddordeb i wybod bod perchennog gwesty gerllaw sy’n gefnogwr adnabyddus i’r Ceidwadwyr, wedi gofyn i sawl Aelod Cynulliad, mewn cyfarfod i hyrwyddo Prifddinas Cymru, pryd byddai’r Siambr newydd yn barod. Dylai ein cyfeillion Ceidwadol gofio y bydd yr adeilad yn denu pobl i Gymru ac yn gwneud Caerdydd yn brifddinas wirioneddol. Efallai y byddent wedyn yn ei gefnogi.

Edwina Hart: Mae’n bwysig ein bod yn rhoi hyder i’r genedl drwy gael yr adeilad hwn. Os yw hefyd yn rhoi hyder i wyr busnes, yna mae hynny hefyd yn bwysig. Mae’r adeilad yn bwysig i ddelwedd Cymru ar draws y byd, a diolchaf ichi am eich sylwadau.

David Melding: Os wyf wedi deall eich datganiad yn iawn, rywbryd ym mis Mehefin, byddwch yn dweud wrth bobl Cymru faint y bydd yr adeilad newydd yn debyg o’i gostio. Buoch yn brolio bod modd ichi wneud hynny yn gynt bellach. Onid yw’n sinigaidd y bydd pobl Cymru, un mis ar ôl etholiadau’r Cynulliad, yn cael gwybod faint fydd yr adeilad eiconig—i ddefnyddio disgrifiad hollol hurt y Dirprwy Brif Weinidog—yn ei gostio? Ai dyma eich syniad am fod yn dryloyw ac yn deg â’r etholwyr? Hefyd, gan ichi wawdio ein ceisiadau am ryw syniad o ystod pris tebygol y contract, pam y rhagwelwyd ffigurau mor fanwl gywir ym Mhapur Gwyn y Blaid Lafur ar ddatganoli ac yn ei faniffesto yn 1999? Os oeddech yn gallu rhoi ffigur dynodol neu ystod pris bryd hynny, pam na allwch wneud hynny yn awr? Cymeraf eich bod wedi rhoi’r gorau i esgus y bydd yn costio rhwng £12 miliwn i £24 miliwn a’n bod eisoes yn sôn am yr ystod uchaf. Oni fyddai’n fwy gonest dweud yn awr beth fydd cost debygol yr adeilad ac yna adael i bobl Cymru farnu drwy’r blwch pleidleisio?

Edwina Hart: Gallech dyngu ei bod yn wybodaeth newydd nad ydym yn gwybod y ffigur ar hyn o bryd. Dywedais wrthych ar 21 Hydref 2002 beth fyddai’r broses ac y byddai’n cael ei drafod yn yr haf. Yr wyf yn falch y bydd hynny bellach yn digwydd ar ddechrau’r haf. Nid oedd yn fwriad gennyf i beryglu sefyllfa negodi’r Cynulliad ar y contract hwn gyda Taylor Woodrow. Byddwn yn gwneud hynny pe bawn yn dechrau siarad yn ddi-hid am yr ystodau pris uchaf yr oeddwn yn eu rhagweld. Nid dyna realiti busnes, a gwyddoch hynny cystal â minnau. Mae’n ddrwg gennyf na allaf gytuno â chi ar hyn; fel arfer byddaf yn cytuno â llawer o’ch pwyntiau, David. Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu ar y mater hwn ym mis Mehefin. Penderfyniad Aelodau’r Cynulliad bryd hynny yw a ddylid bwrw ymlaen a bydd y mater yn cael ei drafod bryd hynny. Fy ngwaith i fel Gweinidog yn syml yw cael y sefyllfa gytundebol yn iawn, cael pris da a sicrhau amserlen dda. Dyna’r ddyletswydd yr wyf yn ymgymryd â hi ar eich rhan chi i gyd. Gwn fod gennyf gefnogaeth y mwyafrif ohonoch yn hynny o beth.