Cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru leoliad siambr drafod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a daeth cynllun Richard Rogers i’r brig yn y gystadleuaeth ryngwladol i ddylunio’r adeilad.
Cafodd cynllun diwygiedig ei gymeradwyo ddechrau’r flwyddyn. Cychwynnwyd ar y gwaith ar seiliau’r adeilad cyn i’r holl waith ar y safle gael ei atal. 2001 >>
2002
Cynhaliwyd adolygiad sylfaenol o’r prosiect cyn rhyddhau’r cytundeb dylunio ac adeiladu i dendr. 2002 >>
2003
Enillodd consortiwm Taylor Woodrow’r cytundeb i ddylunio ac adeiladu’r Senedd, ac ailddechreuodd y gwaith ar seiliau’r adeilad. 2003 >>
2004
Roedd y gwaith ar y waliau cynnal a'r slab concrid sy'n eistedd ar y seiliau'n mynd rhagddo ddechrau’r flwyddyn. Erbyn diwedd y flwyddyn roedd y to trawiadol yn ei le, a’r adeilad yn dechrau edrych fel Senedd. 2004 >>
2005
Gosodwyd ffenestri mawr y Senedd yn eu lle ac roedd y gwaith tirlunio’n parhau. Cychwynnwyd ar y gwaith o osod yr offer technoleg gwybodaeth a darlledu, gan greu un o adeiladau seneddol mwyaf blaengar y byd. 2005 >>
2006
Daeth y gwaith adeiladu i ben, croesawyd yr ymwelwyr cyntaf i'r Senedd, a chynhaliwyd y trafodion cyntaf yng nghartref newydd y Cynulliad.
Agor y Senedd
Agorwyd y Senedd yn swyddogol ar Ddydd Gwyl Ddewi 2006, sef diwrnod nawddsant Cymru. Cewch hyd i ragor o wybodaeth am y diwrnod yn y rhan hon. Agor y Senedd >>