Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Hanes y Prosiect

1998 - 2001

Hanes y Prosiect 1998-2001
Cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru leoliad siambr drafod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a daeth cynllun Richard Rogers i’r brig yn y gystadleuaeth ryngwladol i ddylunio’r adeilad.
Mwy>>

2001

Hanes y Prosiect 2001
Cafodd cynllun diwygiedig ei gymeradwyo ddechrau’r flwyddyn. Cychwynnwyd ar y gwaith ar seiliau’r adeilad cyn i’r holl waith ar y safle gael ei atal.
Mwy>>

2002

Hanes y Prosiect 2002
Cynhaliwyd adolygiad sylfaenol o’r prosiect cyn rhyddhau’r cytundeb dylunio ac adeiladu i dendr.
Mwy>>

2003

Hanes y Prosiect 2003
Enillodd consortiwm Taylor Woodrow’r cytundeb i ddylunio ac adeiladu’r Senedd, ac ailddechreuodd y gwaith ar seiliau’r adeilad.
Mwy>>

2004

Hanes y Prosiect 2004
Roedd y gwaith ar y waliau cynnal a'r slab concrid sy'n eistedd ar y seiliau'n mynd rhagddo ddechrau’r flwyddyn. Erbyn diwedd y flwyddyn roedd y to trawiadol yn ei le, a’r adeilad yn dechrau edrych fel Senedd.
Mwy>>

2005

Hanes y Prosiect 2005
Gosodwyd ffenestri mawr y Senedd yn eu lle ac roedd y gwaith tirlunio’n parhau. Cychwynnwyd ar y gwaith o osod yr offer technoleg gwybodaeth a darlledu, gan greu un o adeiladau seneddol mwyaf blaengar y byd.
Mwy>>

2006

Daeth y gwaith adeiladu i ben, croesawyd yr ymwelwyr cyntaf i'r Senedd, a chynhaliwyd y trafodion cyntaf yng nghartref newydd y Cynulliad.

Agor y Senedd

Agor y Senedd
Agorwyd y Senedd yn swyddogol ar Ddydd Gwyl Ddewi 2006, sef diwrnod nawddsant Cymru. Cewch hyd i ragor o wybodaeth am y diwrnod yn y rhan hon.
Mwy>>