2004
Rhagfyr 2004 - Llun o'r safle adeiladu

Tachwedd
2004 - Llun o'r safle adeiladu

Beth sy'n digwydd ym mis Hydref?
- Bydd y Pontydd Cysylltu yn cyrraedd ac yn cael eu codi.
Y Wybodaeth Ddiweddaraf - Medi 2004
- Mae'r gwaith o godi'r Pontydd Cysylltu wedi dechrau.
- Mae'r gwaith daear i Harbour Drive yn parhau a'r gwaith ar y sylfaen concrid yn mynd rhagddo.
- Mae Whelan a Grant yn parhau i weithio ar eu gorffeniad concrid.
- Mae'r gwaith dur bron â'i orffen a'r gwaith ar y deciau pren yn mynd rhagddo'n dda.
- Mae'r gwaith dur ategol yn parhau, i gyd-fynd â gweddill y gwaith. Y peth nesaf i gael
sylw fydd y gwaith ar ôl i'w wneud i'r pant o dan yr Ystafelloedd Pwyllgorau a'r Siambr Drafod.
- Mae MJN Colston yn parhau i wneud cynnydd da â'r gwaith ar y gwagle o dan y llawr. Maent
hefyd yn parhau i wneud gwaith lefel uchel ar y llawr daear a'r llawr cyntaf. Mae gwaith bellach wedi
dechrau ar ochr isaf y to ac yn ystafelloedd y peiriannau.
- Mae'r holl furiau llechi tu allan yr adeilad bron â'u gorffen. Mae'r seiri maen yn parhau
i weithio mewn amryw rannau eraill ac yn gwneud y gwaith tefynol iddynt.
- Mae'r gwaith bloc mewnol bron â'i gwblhau, gan gynnwys insiwleiddio a diogelu yn erbyn
tân.
- Mae'r gwaith islaw slabiau'r llawr daear bron â'i orffen cyn gosod y deciau. Mae'r gwaith
dur ar y ffasâd wedi'i godi, ac mae S H Structures sy'n gweithio i Haran yn cwblhau'r leinin, y lefelu
a'r sodro. Bydd sgaffaldiau yn awr yn cael eu codi ar gyfer y gwydr, y bondo pren plethedig a'r ffasgia.
Beth sy'n Digwydd ym mis Medi?
- Bydd y gwaith o dorri drwodd er mwyn codi'r Pontydd Cysylltu yn digwydd
y mis hwn.
- Dylai'r muriau llechi gael eu gorffen.
Y Wybodaeth Ddiweddaraf - Awst 2004
- Mae'r gwaith ar y safle'n mynd yn ei flaen yn dda. Ailgychwynnodd y gwaith
allanol ar y ddaear ar ôl cael mynediad i Harbour Drive a Pierhead Street. Mae'r llenwad ysgafn ym mlaen
yr adeilad yn barod ac mae gwaith helaeth wedi'i wneud i nodi'r gwasanaethau presennol a chael gwared
ar unrhyw gyflenwadau diangen.
- Mae Whelan a Grant yn parhau i weithio ar eu gorffeniad concrid.
- Mae'r gwaith dur ategol yn parhau, i gyd-fynd â gweddill y gwaith. Y prif ddatblygiad
y mis hwn oedd codi Grwp Lifftiau 3 a Grisiau B.
- Mae MJN Colston yn parhau â'r gwaith ar y gwagle o dan y llawr. Maent hefyd yn parhau
i wneud gwaith lefel uchel ar y llawr daear a'r llawr cyntaf. Gosodwyd y tanc dwr.
- Mae'r muriau llechi ar y pen gogleddol a'r pen dwyreiniol bron â'u gorffen ac mae'r gwaith
ar y pen deheuol ac amryw rannau eraill yn mynd rhagddo'n dda.
- Mae'r muriau gwaith bloc bron â'u cwblhau ym mhob rhan o'r adeilad.
- Mae'r gwaith dur ar y to wedi'i gwblhau a'i densiynu. Yn ystod y mis, mae Lakesmere wedi
cyflawni llawer - mae'r dec isaf bron â'i gwblhau ac mae'r gwaith ar y gwteri a'r gwaith dur ategol
yn mynd rhagddo'n dda. Dros yr wythnosau nesaf, bydd y gorchudd uchaf yn cael ei osod ar y rhannau cyntaf
o'r to, fel ei fod yn gwrthsefyll pob tywydd. Mae system ddraenio dros dro wrthi'n cael ei gosod ar
y to, oherwydd ni fyddai'r system symffonig yn gweithio ar ffurf dros dro. Codwyd y lantern i ben uchaf
y cwfl yn y to.
- Bydd y gwaith paratoi ar gyfer torri drwodd i Dy Crughywel a chodi'r Pontydd Cysylltu
yn cychwyn diwedd y mis.
Beth sy'n digwydd ym mis Awst?
- Dechrau paratoi ar gyfer cysylltu â Thy Crughywel ar gyfer y Pontydd.

Newyddion mis Gorffennaf
- Ffrâm a Slabiau Concrid:
- Mae Whelan and Grant wedi cwblhau'r gwaith ar y ffrâm concrid cyfnerth a bellach mae criw
bach yn gweithio i gorffeniad concrid i'r rhannau sydd yn y golwg er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd
y safon ofynnol.
- Gwaith daear:
- Dychwelodd Churngold i'r safle ym mis Mehefin i gwblhau'r gwaith tanddaear i'r cyrtiau,
ac yna dechreuodd y gwaith y tu allan ym mis Gorffennaf. Ar yr un pryd, estynnwyd y safle i gynnwys
Harbour Drive a Pierhead Street.
- Gwaith ar y Rhodfa:
- Cwblhawyd y Rhodfa gan Dean and Dyball ar gyfer yr agoriad swyddogol gan y Gweinidog Cyllid,
Sue Essex a'r Llywydd, yr Arglwydd Elis-Thomas. Cafwyd tywydd braf ac roedd pedair ysgol yno ynghyd
â thorf fawr, a dyma'r bobl gyntaf i ddefnyddio'r rhodfa orffenedig. Cwblhawyd y gwaith hwn cyn cau'r
ffordd i gerddwyr uwchlaw'r rhodfa ac fe'i trosglwyddwyd union flwyddyn ar ôl llofnodi'r contract rhwng
Taylor Woodrow a'r Cynulliad.
- Cwblhau'r gwaith dur ar y to:
- Mae gwaith dur y to bellach wedi'i gwblhau. Mae'r profion ar lwytho'r ffrâm wedi'u cwblhau.
Mae'r llun yn dangos y rig codi a ddefnyddir i dynhau'r rhodenni cyswllt 76mm. Caiff y jaciau eu tynhau
at lefel benodedig ac yna caiff y nyten edau ar y bar ei thynhau a'r jaciau eu tynnu ymaith. Mae rhagor
o luniau o'r gwaith dur ar waelod y ddogfen. Bydd y criw codi dur nawr yn cychwyn ar y ffrâm ddur ar
gyfer y gwydr. Mae Lakesmere, sy'n gweithio uwchlaw'r gwaith dur wedi ei ddal â rhwyd, yn bwrw ymlaen
â'r gwaith dur eilaidd a'r dalennau metel ar y to wedi'i inswleiddio.
- Gwasanaethau:
- Mae MJN ar fin cwblhau'r gwasanaethau i'r gwagleoedd gwasanaeth dan y llawr, ac mae'r
gwaith profi wedi cychwyn cyn gosod slab y llawr daear. Mae gwaith lefel uchel wedi cychwyn hefyd ar
y llawr daear a'r llawr cyntaf.
- Gwaith llechi:
- Mae'r waliau llechi'n cael eu codi ar bob llawr ac mae'r cerrig copa 95kg yn cael eu gosod.
Bu'n rhaid gosod y rhain yn fecanyddol gan ddefnyddio dyfais sugno i godi a gosod y cerrig. Mae blocwaith
yn mynd rhagddo ar y prif ystafell beiriannau a hefyd ar y gwahanfuriau.
- Amrywiol:
- Cymaint oedd y diddordeb yn Agoriad y Rhodfa fel bod Newyddion wedi ffilmio darn i'w ddarlledu
gyda'r Llywydd.
Beth sy'n digwydd ym mis Gorffennaf
- Bydd y Rhodfa'n cael ei hagor i'r cyhoedd yn swyddogol gan Brif Weinidog
Cymru ar 1 Gorffennaf.

Yr Wybodaeth Ddiweddaraf ar gyfer Mehefin
- Mae'r gwaith dur ar gyfer y 5 bae cyntaf wedi'i godi. Mae'r gwaith o godi
Bae 6 yn mynd rhagddo a bydd wedi'i godi y mis hwn. Bydd gwaith yn cael ei wneud ar do Baeau 1 - 4.
- Mae gwaith dur ategol yn mynd yn ei flaen gyda phontydd, grisiau a gwaith dur slabiau
plenwm.
- Mae'r gwaith o godi waliau llechi yn mynd yn ei flaen ar bob ochr o'r adeilad.
- Mae llawr pren a chanllawiau'r Rhodfa bron â'u cwblhau. Bydd y Rhodfa'n cael ei hagor
i'r cyhoedd yn swyddogol ar 1 Gorffennaf.
Ffordd ar Gau
- Bydd Pierhead Street a Harbour Drive ar gau i gerbydau a cherddwyr o 19
Gorffennaf 2004. Bydd Pierhead Street ar agor i gerddwyr o ddechrau Hydref 2004, a bydd y ffordd ar
agor i gerbydau o fis Mai 2005. Byddant ar gau er mwyn cwblhau'r gwaith tirweddu, y to bargodol a newid
trefn y ffordd ar gyfer Adeilad Newydd y Cynulliad.
- Bydd cerddwyr yn gallu defnyddio'r rhodfa newydd o Mermaid Quay a Glanfa'r Cynulliad i
Britannia Quay tra bod Harbour Drive ar gau.
Digwyddiadau
ym mis Mehefin
- Mae'r gwaith dur ar y to i fod i gael ei orffen ddiwedd Mehefin.
- Bydd y Llwybr Pren yn cael ei gwblhau ac mae i fod i gael ei agor yn swyddogol ar 1 Gorffennaf.

Y wybodaeth ddiweddaraf Mai 2004
- Mae'r wybodaeth ddiweddaraf yma'n ymwneud â'r cyfnod hyd ddiwedd Mai 2004
ac yn rhoi crynodeb byr o'r gweithgareddau yn ystod y cyfnod blaenorol.
- Mae'r gweithiwr daear wedi dychwelyd i'r safle i gwblhau gwaith o dan y ddaear yn y cyrtiau,
a bydd ar y safle o ddechrau Gorffennaf er mwyn dechrau ar y gwaith allanol yn yr haf.
- Mae'r adeiladwaith slabiau plenwm a choncrid, gan gynnwys ystafell y peiriannau, wedi
ei gwblhau.
- Mae'r holl adeiladwaith dur yr yn ei le bellach ar gyfer y Llwybr Pren a bydd y pren yn
cael ei gyflenwi a'i osod yn ei le yn ystod wythnosau cyntaf Mehefin.
- Codwyd y gwaith dur ar gyfer y ddau fae cyntaf. Mae'r gwaith o godi'r trydydd bae yn dod
yn ei flaen yn dda a bydd yn cael ei orffen cyn bo hir.
- Mae gwaith dur ategol yn mynd yn ei flaen gyda phontydd, grisiau a gwaith dur slabiau
plenwm.
- Mae'r gwaith o godi waliau llechi yn mynd yn ei flaen ar bob ochr o'r adeilad.

Cynnydd ar y Gwaith ym Mis Ebrill:
Adeilad Newydd y Cynulliad - Y Diweddaraf am y Gwaith
- Mae'r adroddiad diweddaraf hwn yn cyfeirio at y cyfnod hyd at ddiwedd Ebrill
2004 ac yn rhoi crynodeb byr o weithgareddau'r cyfnod cyn hynny. Y prif waith newydd y mis hwn yw dechrau
gorchuddio'r waliau allanol â llechi ynghyd â gosod ffrâm dur y to.
Slabiau
a Ffrâm Goncrid
- Mae'r gwaith o fwrw'r slab sy'n cynnal y llawr daear yn parhau ar ôl cael
gwared â slab y llawr cyntaf. Mae'r colofnau a'r waliau i'r ail lawr bron wedi'u cwblhau. Mae waliau
a cholofnau ystafell y peiriannau wedi'u cwblhau. Mae llawer o'r slabiau to wedi'u gosod yn ystod y
mis.
- Mae rhan gyntaf slab yr ail lawr i'r ardal ganolog wedi'i bwrw ac mae'r gwaith o baratoi'r
gweddill bron wedi'i gwblhau. Mae'r craen tyrog wedi'i symud erbyn hyn gan adael yr ardal yn rhydd ar
gyfer y gwaith dur.
Gwaith daear.
- Mae'r cysylltiadau gwasanaeth a'r mynedfeydd i Dy Crucywel wedi'u cwblhau
a'r ffordd wasanaeth ar agor eto. Bydd y ffordd hon yn ffordd halio amgen dros dro ar gyfer y cam nesaf
yn y gwaith. Mae gwaith wedi'i wneud ar y cwrtiau gan gynnwys sylfeini a gwasanaethau. Mae'r rhain yn
cael eu hôl-lenwi erbyn hyn. Mae'r byncer ar gyfer storio'r sglodion pren yng nghefn y safle yn mynd
yn ei flaen, a dim ond y clawr sydd ar ôl i'w fwrw.
- Mae waliau allanol y perimedr wedi'u hôl-lenwi'n barod i orchuddio'r waliau allanol â
llechi uwchben y ddaear. Mae hyn yn cael ei wneud gan CB Watson, y seiri maen o'r Barri.
Dechrau
Gosod Ffrâm Dur y To
- Mae'r 421t o ddur i ffurfio'r to wedi dechrau cyrraedd a'i ffurfio ar y
ddaear cyn ei osod. Mae union 21,090 o folltiau mewn 2088 o gysylltiadau o fewn y to, fel y gwelwch
isod.
Gwaith y Llwybr Bordiau
- Mae Dean and Dyball wedi gosod y poliau dur i gynnal y llwybr bordiau. Mae'r
poliau hyn wedi'u tocio neu eu hymestyn yn y cyfamser i'r lefel iawn ac maent wedi'u harolygu'n barod
i'r dur strwythurol gynnal y prif ddec sy'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd. Mae'r gwaith yn parhau gyda'r
sylfeini concrid i ben draw'r llwybr bordio ac mae wal y doc yn cael ei glanhau. Mae Taylor Woodrow
mewn cysylltiad parhaus â CADW a'r Awdurdod Harbwr i sicrhau bod y gwaith sy'n cael ei wneud yn dderbyniol
i bawb.
Amserlen Digwyddiadau
| Digwyddiadau Penodol i'r Safle |
Digwyddiadau Eraill |
Nodiadau |
Dyddiadau a Gynigiwyd |
| Ffrâm dur i'r to |
135t o graeniau araf ar y safle |
Dechrau gosod ffrâm dur y to |
Ebrill-04 |
| Cael gwared â'r llwybr bordio |
|
|
Mehefin-04 |
| Gwaith Allanol i Pierhead Street |
Tynnu'r palis i lawr o gwmpas Canolfan Mileniwm Cymru |
Yn ddibynnol ar Syr Robert McAlpine |
Gorffennaf-04 |
| Gosod Cwfl |
Seremoni gosod y cwfl |
Gwneud prototeip o gwfl traean ei faint |
Medi 2004 - I'w gadarnhau |
| Gorchudd ar y to |
|
System Dur Kalzip |
Mai - Medi 2004 |
- Mae'r tabl uchod yn dangos y prif faterion dros y mis nesaf.
Y
Cyngor Stiwardiaeth Coedwigaeth
- Sefydlwyd y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigaeth ym 1993 i ardystio coedwigoedd
sy'n cael eu rheoli'n gynaliadwy. Ar hyn o bryd mae 40 miliwn hectar o gwmpas y byd yn darparu coed
a ardystiwyd gan y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigaeth. Dywedodd Mr Gavin Franklin, Rheolwr Dylunio'r contract
a 'Phencampwr Coed' TW, "Rydyn ni wedi ymrwymo i gaffael ein holl goed o ffynonellau cynaliadwy,
sy'n cael eu rheoli'n dda, lle bynnag y bo'n ymarferol. Coed a ardystir gan y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigaeth
yw ein dewis cyntaf."
Y ffeithiau
- Mae'r diwydiant adeiladu yn defnyddio 70 y cant o'r holl bren a ddefnyddir
yn y DU.
- Mae'r byd yn colli'r hyn sy'n cyfateb i 32 cae pêl-droed o goedwigoedd naturiol bob munud.
- Mae colli coedwigoedd yn effeithio'n uniongyrchol ar fywoliaeth dros biliwn o bobl yn
y byd sy'n datblygu, sy'n byw mewn tlodi eithafol.
- Mae Banc y Byd yn amcangyfrif bod torri a thrin coed yn anghyfreithlon yn costio rhwng
£6 a £10 biliwn bob blwyddyn i lywodraethau gwledydd sy'n darparu coed.
- Ym Mrasil, Bolifia a Pheriw yn Ne America ac yn Gabon a Liberia yn Affrica, mae 80 y cant
o'r gwaith torri a thrin coed yn anghyfreithlon.
- Mae dros £8 biliwn yn cael ei wario ar fewnforio pren i'r DU bob blwyddyn. Mae 10 y cant
o hwn o ffynonellau anghyfreithlon.

Cynnydd ar y Gwaith ym Mis Mawrth:
- Mae'r muriau allanol ar y perimedr wedi'u hôl-lenwi hyd at lefel y ddaear,
yn barod ar gyfer y gwaith bloc a'r gwaith cerrig uwchben y lefel honno.
- Mae'r mannau croesi a'r mynedfeydd i Dy Crughywel wedi'u cwblhau ac mae'r ffordd wasanaethu
wedi'i hôl-lenwi. Caiff y ffordd hon ei hagor fel ffordd lusgo amgen dros dro ar gyfer cam nesaf y gwaith.
- Mae'r gwaith ar y byncer sglodion pren yn parhau a dim ond y caead sydd angen ei gastio
erbyn hyn.
- Mae'r gwaith ar y cyrtiau wedi parhau, gan gynnwys gosod y sylfaeni a'r mannau gwasanaethu.
Mae'r rhain yn cael eu hôl-lenwi ar hyn o bryd. Mae'r colofnau a'r muriau ar yr ail lawr bron â bod
wedi'u cwblhau. Mae'r gwaith o gastio slab y siambr yn parhau yn sgil bwrw slab y llawr cyntaf. Mae'r
gwaith ar furiau a cholofnau ystafell y peiriannau wedi mynd rhagddo'n dda yn ystod y mis. Bydd slab
y to yn dilyn yn y mis nesaf.
- Caiff craen y twr ei symud oddi ar y safle yn gynnar ym mis Ebrill gan wneud lle ar gyfer
y gwaith dur. Caiff elfennau terfynol y concrid eu cwblhau drwy ddefnyddio craen symudol. Disgwylir
y bydd y craeniau a fydd yn codi'r gwaith dur yn cyrraedd y safle ym mis Ebrill.
- Ar hyn o bryd, mae'r Llwybr Bordiau o gwmpas yr Harbwr Mewnol yn cael ei ymestyn o Gei'r
Fôr-forwyn ar hyd Mur y Doc at bwynt yn ymyl Adeilad Atradius (yr NCM gynt). Mae'r sylfaeni wedi'u tyllu
a bydd y gwaith adeiladu yn parhau dros y gwanwyn a'r bwriad yw y bydd yn barod i'w agor ym mis Gorffennaf
2004.
- Ers hynny, mae'r poliau wedi'u lleihau neu'u hymestyn hyd at lefel y ddaear ac wedi'u
tirfesur yn barod ar gyfer y dur strwythurol sy'n cael ei gynhyrchu ar hyn o bryd. Mae'r gwaith yn parhau
ar y safleoedd concrid ar y ddau ben ac ar lanhau mur y doc.
- Mae'r dur strwythurol ar gyfer yr ail fae wrthi yn cael ei gynhyrchu. Disgwylir y bydd
y gwaith dur yn cyrraedd y safle erbyn diwedd y mis hwn.
- I weld y darluniau diweddaraf cliciwch yma.

Cynnydd ar y Gwaith ym Mis Chwefror
- Mae gwaith bwrw slab sy'n dal tir y siambr yn parhau
yn sgil bwrw slab y llawr cyntaf. Mae prif slab y llawr cyntaf bellach wedi'i gwblhau, gyda'r rhan flaen
yn barod i'w arllwys.
- Cafwyd cynnydd da yn ystod y mis o ran gwaith i ffurfio seddau'r Ystafelloedd
Pwyllgora ar fffurf teras. Mae'r slab i'r swyddfeydd wedi'i fwrw bellach. Mae gwaith gosod colofnau
a muriau'r ail lawr wedi symud ymlaen yn dda.
- Mae gwaith maen i'r perimedr wedi'i osod i lefel bresennol y ddaear.
- Mae draeniau'r perimedrau wedi'u gosod, gan ganiatáu i'r 'twll' gael ei ôl-lenwi. Mae
hyn yn rhyddhau'r gorchudd llechi i'r muriau allanol. Mae'r cysylltiadau gwasanaeth a'r mynedfeydd i
Dy Crucywel yn parhau. Mae'r sylfaen i'r byncer sglodion pren bellach yn cael ei ffurfio.
- Mae dyluniad y Llwybr Bordiau bellach wedi'i gwblhau ac mae Dean and Dyball (Is gontractiwr
Arbenigol TW) wedi paratoi eu hadnoddau a dechrau ar y gwaith. I ddechrau mae hyn wedi golygu cloddio
er mwyn clirio'r rhwystrau yn y fynedfa i'r doc. Mae gwaith codi Poliau wedi dechrau
ar gyfer adeiledd y Llwybr Bordiau.
- Mae SH Structures wedi mynd at i weithgynhyrchu ffrâm dur to, i'w ddosbarthu ym mis Mawrth
2004. Maent wedi datblygu eu datganiad am y dull adeiladu ar gyfer y strwythur cymhleth hwn, sef codi
dau fae ar y tro i sicrhau sefydlogrwydd y strwythur yn ei gyflwr dros dro.
- Mae ymweliadau â'r gwaith ar gyfer eitemau allweddol yn digwydd. Yn ystod ymweliad diweddar
gwelwyd y dur a wnaed gan gynnwys y darnau sydd wedi'u bwrw.
Eitemau
Eraill:
- Dathlu Dydd Gwyl Dewi:
- Ymweld â Chwarel Lechi - Gogledd Cymru:
Swmp cyntaf o flociau
mur ar ffurf piler sydd wedi'u storio a'u gorwedd yn wastad i roi argraff o'r mur gorffenedig.


Rhagfyr 2003/Ionawr 2004
Hynt y Gwaith
Taylor Woodrow Construction Newsletter - Jan 2004 (English only) (pdf 158kb)
- Mae'r stanciau wedi'u torri i lawr, ac mae'r profion integriti olaf bellach
wedi'u cwblhau.
- Mae'r contractiwr sy'n gyfrifol am y ffrâm concrid wedi gwneud llawer o waith, gyda nifer
sylweddol o golofnau wedi'u codi i lefel y llawr cyntaf. Mae'r waliau yn dod ymlaen yn dda, ac mae'r
gwaith i adeiladu slab y llawr cyntaf uwchben y Siambr Drafod wedi cychwyn.
- Mae'r sail concrid dur ar gyfer yr Ystafelleodd Pwyllgora bellach wedi'i osod. Mae'r pileri
sy'n gwahanu pob ystafell wedi'u codi ac ar hyn o bryd maent yn cael eu llenwi â choncrid dur.
- Mae'r estyllod ar gyfer y trawstiau a fydd yn rhychwantu'r colofnau, a thrawst crwn y
Siambr Drafod, bellach i'w gweld.
- Mae'r gwaith ar y tir o flaen yr adeilad yn dal yn mynd yn ei flaen. Mae hynt y gwaith
ar y ffrâm hefyd i'w weld, gyda chaeadau wedi'u paratoi yn barod ar gyfer arllwys rhagor o waliau a
cholofnau.
- Mae'r dec ar gyfer y llawr cyntaf yn dod yn ei flaen yn dda ers dechrau mis Ionawr. Mae'r
fframwaith atgyfnerthu ar gyfer y slabiau a'r trawstiau yn cael ei saernïo o flaen llaw yn barod i'w
roi yn ei le yn sydyn, unwaith y bydd y dec yn barod.
