2001

Rhagfyr 2001

  • Cyhoeddwyd hysbyseb yng Nghyfnodolyn Swyddogol y Cymunedau Ewropeaidd yn gwahodd cwmnïau i fynegi diddordeb yn y gwaith o reoli'r prosiect. Bydd y cwmni'n gyfrifol am ddarparu'r holl wasanaethau proffesiynol y bydd eu hangen ar y Cynulliad er mwyn sicrhau'r telerau mwyaf manteisiol ag y bo modd ar gyfer penodi'r contractiwr, ac i warchod buddiannau'r Cynulliad yn ystod y cyfnod adeiladu.

Medi 2001

  • Cyhoeddwyd hysbyseb yng Nghyfnodolyn Swyddogol y Cymunedau Ewropeaidd yn gwahodd contractwyr i fynegi diddordeb yn y gwaith o gwblhau'r dylunio a'r adeiladu. Mynegwyd diddordeb gan nifer sylweddol o gwmnïau ac iddynt enw da.

Awst 2001

  • Caewyd y safle a'i wneud yn ddiogel hyd nes y penodir y contractiwr.
  • Codwyd ffens er mwyn cau'r safle, a chafodd y mannau cyhoeddus o amgylch y safle ac Adeilad y Pierhead eu gwneud yn ddiogel ac yn hygyrch i bawb.

Gorffennaf 2001

  • Cwblhawyd y gwaith o guro pyst i'r ddaear. Agorwyd ffordd dros dro o amgylch safle Adeilad y Cynulliad.
  • Terfynodd y Cynulliad ei gytundeb â'r penseiri, Partneriaeth Richard Rogers. Ataliwyd y gwaith ar y safle ar ddiwedd y mis yn dilyn penderfyniad y Cynulliad i wahodd cynigion gan ddatblygwyr i gwblhau'r gwaith dylunio ac adeiladu.
Safle adeiladu 09/07/01

Mehefin 2001

Safle adeiladu 01/06/01 Safle adeiladu: golygfa awyrol 08/06/01 Safle adeiladu 22/06/01 Safle adeiladu 29/06/01

Mai 2001

  • Dechreuwyd ar y gwaith o guro pyst i'r ddaear.
Safle adeiladu 03/05/01 Safle adeiladu 11/05/01 Safle adeiladu 21/05/01

Ebrill 2001

  • Y ffyrdd a'r gwasanaethau yn parhau i gael ei hailgyfeirio.
  • Dechreuwyd ar waith cloddio sylweddol er mwyn sefydlu platfform fel bod modd cychwyn ar y gwaith o guro pyst i'r ddaear ym mis Mai 2001.
Safle adeiladu 06/04/01 Safle adeiladu 27/04/01

Mawrth 2001

  • Ar Ddydd Gwyl Dewi, cynhaliwyd seremoni arbennig i dorri'r dywarchen gyntaf. Gweler y Datganiad i'r Wasg am ragor o wybodaeth.
  • Cwblhaodd y Contractiwr y gwaith o baratoi'r safle ac o sefydlu swyddfeydd ar gyfer y prosiect.
Seremoni Torrir Ddaer 01/03/01 Seremoni Torrir Ddaer 01/03/01 Safle adeiladu 20/03/01

Chwefror 2001

  • Dechreuwyd paratoi'r safle, gan gynnwys ailgyfeirio'r ffyrdd a'r gwasanaethau.
Safle adeiladu golygfa awyrol 14/02/01 Safle adeiladu golygfa o'r bae 14/02/01 Y contractiwr yn dechrau gweithio ar y safle 14/02/01

Ionawr 2001

  • Cafodd dyluniad y cynllun ei gymeradwyo yn Ionawr 2001 a dechreuwyd ar y gwaith dylunio manwl.

Partneriaid a Help