2005
Tachwedd 2005
- Mae'r gwaith o osod gwydr y pontydd a'r cysylltiadau i gyd yn orffenedig
ar wahân i'r soffit.
- Mae drysau llithro'r fynedfa ddiogelwch wedi'u gosod a dim ond mân waith sydd ar ôl i'w
wneud yn y rhan hon, mewn perthynas â chomisiynu'n bennaf.
- Caiff y cwrt ei gwblhau mewn cydweithrediad â'r grisiau a'r cysylltiadau.
- Mae'r gwaith diogelu rhag tân wedi'i gwblhau ar ôl gosod y ceblau ar gyfer microffonau'r
terfyn.
- Gosodwyd socedi ychwanegol ar gyfer rheiliau camerâu'r Siambr, maent wedi'u profi ac maent
yn weithredol.
- Mae'r gwaith o osod y dodrefn wedi dechrau ym mhob rhan o'r adeilad ac mae cynnydd da
wedi'i wneud.
- Newyddion mis Hydref
- Mae’r gwaith o osod y gwydr ar y pontydd cysylltu ar fin cael eu cwblhau.
- Mae ystafell de’r Aelodau wedi ei chwblhau yn dilyn gosod gweddill y paneli celf.
- Mae’r gwaith yn y fynedfa ddiogelwch wedi datblygu’n dda.
- Bydd y gwaith o gwblhau’r cwrt cefn allanol yn parhau ar yr un pryd â’r grisiau a’r cysylltiadau.
- Mae’r gwaith o osod eitemau gwydr amrywiol, atodol, wedi ei gwblhau fwy neu lai yn ystod
y mis diwethaf. Y prif eitemau sy’n weddill yw’r addurn ar y ffenestri to.
- Mae’r gwaith o gwblhau’r gwaith pren yn y to wedi parhau, ond nid yw wedi ei gwblhau.
Y prif weithgaredd yw’r manion mecanyddol a pheirianyddol. Mae’r glanhau terfynol o dan y to wedi ei
gwblhau.
Hydref 2005

Medi 2005
- Mae'r gwaith o archwilio a throsglwyddo gwaith allanol yn mynd yn ei flaen
o hyd. Mae ardaloedd sylweddol o'r Harbour Drive a phen dwyreiniol Pierhead Street wedi'u hagor i'r
cyhoedd. Mae'r gwaith o osod y tyweirch yn y pen deheuol wedi'i gwblhau.
- Y tu mewn, mae'r llawr cyntaf a'r ail bron â'u cwblhau.
- Mae'r gwaith o osod y desgiau a'r paneli ar hyd muriau'r siambr drafod ar fin ei gwblhau.
Hefyd, y tu mewn i'r Siambr mae'r gwaith o osod y llawr derw wedi dechrau.
- Mae'r gwaith gwydr ategol bron â'i gwblhau y tu mewn a bydd y darnau olaf o wydr newydd
yn cyrraedd yn ystod yr wythnosau i ddod. Mae'r gwaith mwyaf sydd ar ôl i'w wneud yn awr yn gysylltiedig
â'r gwydr ategol allanol, yn arbennig yn y cwrt cefn, y grisiau a'r llwybrau cyswllt. Bydd y gwaith
ar hyn oll yn mynd yn ei flaen yn sydyn iawn yn ystod y mis nesaf.
- Mae'r cyfarpar diogelwch wrth y fynedfa yn ei le ac ychydig o waith sydd ar ôl i orffen
y cyfan.
- Mae'r cyfarpar arlwyo yn ei le hefyd ac mae'r paneli ffabrig wedi'u gosod yn y prif ardaloedd.
Awst 2005
- Mae'r tîm sy'n gwneud y gwaith allanol wrthi ar hyn o bryd ar y cyffyrddiadau
olaf ac yn archwilio etc Maent yn gweithio'u ffordd yn raddol o amgylch y safle gan archwilio'r darnau
sydd wedi'u gorffen, yn datrys mân broblemau ac yn ffensio. Cyrhaeddwyd carreg filltir bwysig y mis
hwn, pan agorwyd y mannau y tu allan i du blaen yr adeilad. Gall y cyhoedd bellach gerdded ar draws
tu blaen y safle o Mermaid Quay heibio i Adeilad y Pierhead ac ymlaen i Britannia Quay. Mae'r grisiau
i lawr drwy geg y doc i'r rhodfa wedi'u hagor hefyd.
- Mae'r holl wydr wedi'i osod yn y llusern. Mae angen cwblhau'r seliau allanol o hyd, ond
bydd y gwaith hwn yn dibynnu ar y tywydd. Mae'r canopi gwydr dros y ddesg yn y dderbynfa wedi'i osod
hefyd.
- Mae'r gwaith o roi'r gwydr yn ffenestri'r to, ynghyd â'r gwaith ar y sgriniau mewnol a'r
cysgodlenni, yn mynd rhagddo'n dda. Bellach, mae'r gwydr diogelwch conig ar gyfer y siambr yn cael ei
osod.
- Mae'r holl diwbiau alwminiwm sy'n leinio tu mewn y simnai wedi'u gosod. Mae angen addasu
ychydig ar y tiwbiau cyn i'r gwaith hwn ddod i ben.
- Mae'r gwaith o osod y lifftiau wedi dod i ben i raddau helaeth.
- Mae'r rhan gyntaf o'r gwaith ar banelau'r siambr wedi'i chwblhau. Bydd y panelau pren
terfynol, desgiau'r siambr a'r llawr yn cael eu gosod cyn hir.
- Mae'r gwaith o osod y llechi ar du mewn yr adeilad bron ar ben, ac mae'r prif fannau wedi'u
cwblhau
Gorffennaf 2005
- Mae ymylon y pafin a'r pafin ei hun wedi'u cwblhau ar y tu allan yn y prif
ardaloedd ac mae'r gwaith o gwmpas Ty Crucywel ac ar y cysylltiadau ar fin ei gwblhau. Mae'r rhwystrau
ffordd ar gyfer Pierhead Street wedi'u rhoi yn eu lle. Mae'r gwaith caboli o'u hamgylch yn dod yn ei
flaen yn dda, ac mae'r gwaith o osod y wyneb ar fin cychwyn.
- Mae'r gwaith yn parhau ar y teras blaen ac ar y to fflat.
- Mae gwydr y lantern bellach wedi'i osod i gyd.
- Mae'r gwaith o osod soffitiau pren wedi'i gwblhau.
- Mae'r gwaith o osod leinin y corn mawr ar fin dod i ben, gyda'r tiwbiau gosod olaf yn
cael eu rhoi yn eu lle. Mae goleuadau'r Siambr Ddadlau oll wedi'u gosod a'u cysylltu â'r cyflenwad trydan.
- Mae'r gwaith o osod y lifftiau wedi dod i ben, fwy neu lai. Mae rhai gosodion i'w rhoi
yn eu lle a gwaith comisiynu ar ôl i'w gwblhau.
- Mae'r system wresogi dan y llawr a'r ffyn lefelu wedi'u gosod yn yr ardal gyhoeddus uchaf,
ac mae'r llawr llechi yn cael ei osod yno ar hyn o bryd. Mae'r llawr llechi yn y dderbynfa bellach wedi'i
osod.
Mehefin 2005
- Mae ymylon y pafin a'r pafin ei hun wedi'u cwblhau ar y tu allan yn y prif
ardaloedd ac mae'r gwaith o gwmpas Ty Crucywel ac ar y cysylltiadau yn dal i fynd yn ei flaen. Mae'r
gwaith yn parhau ar y teras blaen ac ar y to fflat.
- Mae rhan fawr o'r gwaith o osod offer yn yr ystafell beiriannau wedi'i gwblhau yn ystod
y mis, gan gynnwys gosod y cyfnewidydd gwres daear. Mae'r gwaith o gomisiynu systemau trydan a systemau
i ddelio â thân wedi mynd rhagddo yn dda.
- Mae Haran, y contractiwr gwydr allanol, yn parhau i wneud gwaith i orffen y ffasâd gwydr.
Mae'r bracedi wedi'u gosod ar y llusern yn barod i osod y gwydr.
- Mae cynnydd da wedi'i wneud ar y ffenestri atodol. Yn ystod y mis, mae rhan fawr o'r gwaith
ar orchudd Grisiau B wedi'i gwblhau, gwnaed cynnydd da ar systemau'r waliau mewnol, mae'r orielau gwylio
wedi'u gorffen a'r lloriau gwydr wedi'u gosod hyd y pontydd. Dechreuodd y gwaith o osod y gwydr ar gyfer
cysylltiadau'r pontydd ar 9 Mai 2005.
- Mae'r gwaith o osod soffitiau pren bron â'i gwblhau. Yr unig eitemau sydd ar ôl yw brig
y corn mawr a mân ddarnau ymwthiol.
- Mae'r gwaith o osod y lifftiau yng nghefn yr adeilad yn datblygu'n dda. Bydd Schindler
yn dechrau'r gwaith terfynol o baratoi'r lifftiau i fod yn weithredol yn ystod yr wythnos nesaf.
- Mae ardaloedd cyhoeddus y llawr uchaf yn datblygu'n gyflym ers cael gwared â'r sgaffaldau.
Mae hyn yn cynnwys gwaith ar ffyn lefelu'r gwasanaethau tanddaear a gosod y gorchudd llechi uchaf.
Mai 2005
- Mae MJN Colston wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r leiniwr sych i gwblhau
cam cyntaf y waliau mewnol a pharhawyd gyda'r gwaith gosod trydanol i'r to lefel uchel ar y cyd â'r
gwaith soffit coed. Mae'r gwaith o osod y soffit coed wedi datblygu'n dda yn ystod y mis diwethaf ac
mae'r gwaith ar yr holl rannau o dan y to bellach wedi cychwyn.
- Mae'r bwyler biomas - gwresogydd sy'n ystyriol o'r amgylchedd, wedi cael ei osod a gweddill
y gwaith sydd i'w wneud yn yr ystafell fwyler bron wedi'i gwblhau. Mae rhagor o wybodaeth am y bwyler
biomas ar gael yn - http://www.cymru.gov.uk/adeiladcynulliad/development/keyfeaturesflash.htm
- Mae'r gwaith ar y cyrbiau a'r pafinau allanol yn parhau fel y cynlluniwyd. Mae'r gwaith
tirlunio ar Pierhead Street/Harbour Drive yn parhau fel y cynlluniwyd ac mae'r gwaith ger y Glannau
bron wedi'i gwblhau. Mae'r gwaith ar orchudd llechi'r terasau blaen yn datblygu'n dda ac mae'r gwaith
ar ymylon to yr ystafell bwyllgor wedi cychwyn.
- Mae Haran, y contractwr gwydr, yn parhau gyda'r gwaith o orffen prif ffasadau'r adeilad.
Maent hefyd wedi cychwyn gosod gwydr ar y llusernau.
- Mae'r gwydr ar gyfer y sgriniau diogelwch yn yr Ystafell Bwyllgor wedi cael ei osod. Mae
gwaith yn mynd rhagddo ar osod gwydr ar y pontydd cysylltu. Mae gosod lifftiau 1 a 2 yng nghornel flaen
yr adeilad bron wedi'i gwblhau. Mae'r deunyddiau wedi cyrraedd y safle ar gyfer lifftiau 4 a 5 yn y
cwrt yng nghefn yr adeilad a byddant yn cael eu gosod yn y dyfodol agos.
Ebrill 2005
- Mae'r gwaith allanol ar y cwrbinau, y gwaith trydanol, y rhelings a'r palmantau
o gwmpas y mannau agored eang o amgylch yr adeilad yn mynd rhagddo yn unol â'r cynllun . Mae'r seiri
maen, C B Watson o'r Barri, wedi cwblhau'r rampiau a'r terasau llechi ar yr ochr ddeheuol ac wedi dechrau
ar y grisiau i'r gogledd a'r walydd i'r teras canol.
- Yn fewnol, mae'r gwaith gwydro ar y grisiau a'r lifftiau cefn (Grisiau B), y sgriniau
mewnol ac oriel y siambr drafod yn mynd yn ei flaen; Mae'r gwaith ar y soffitau pren a leinin y corn
mawr yn parhau; Mae Optimum yn bwrw ymlaen yn dda â'r gwaith o gau'r walydd rhannu ar ôl gosod y gwasanaethau,
ac maen nhw wedi dechrau sgimio'r walydd plastrfwrdd.
- Mae lloriau llechi'r llawr gwaelod a'r coridorau a'r toiled ar y llawr cyntaf wedi'u gosod.
Bydd y mannau sydd heb eu gwneud eto yn dilyn y strip sgaffaldau mewnol.
- Mae MJN Colston wedi bod yn gweithio yn y rhan fwyaf o'r adeilad. Maen nhw yn arbennig
wedi bod yn gweithio ar gam cyntaf y walydd rhannu, sy'n cynnwys gosod y cysylltiadau cyfrifiadurol.
Mae'r gwaith ar yr ystafell beiriannau yn mynd rhagddo'n dda gyda'r uned trin aer olaf bellach yn ei
lle. Mae'r gwaith trydanol a BMS hefyd yn mynd yn ei flaen ac mae ystafell y bwyler yn awr yn barod
i dderbyn y bwyler ei hun. Mae'r pwer parhaol bellach wedi'i gysylltu, yr olaf o'r gwasanaethau sydd
i'w cysylltu.
- Mae'r lifftiau wrthi'n cael eu gosod, mae'r gwydr yn cael ei osod yn hafn y Gogledd ac
mae'r uchel-lawr yn cael ei osod.
- Mae gwaith dur canopi'r gogledd wedi'i godi.
- Mae'r contractiwr celfi yn parhau â'i waith, gan gynnwys ei waith gyda'r prototeipiau,
oddi ar y safle. Mae'r pren wedi cyrraedd ac mae'r seddau a'r desgiau wrthi'n cael eu cynhyrchu. Mae
Stretch Fabric Systems, sy'n cynhyrchu'r paneli acwstig fydd yn leinio'r walydd, wedi derbyn y defnydd
lliw a'r lliw naturiol i'r artist gael gweithio arnynt.
- Ymwelodd yr asesydd BREEAM â'r safle ddwywaith yn y mis diwethaf i gael y wybodaeth fydd
ei hangen arno i ddyfarnu tystysgrif rhagoriaeth BREEAM i'r adeilad. Ymwelodd archwilydd Cynllun yr
Adeiladwyr Ystyriol hefyd â'r safle. Roedd y ddau i'w gweld yn hapus iawn â'r safle a'r gwaith.
- Yn goron ar fis llwyddiannus, enillodd Taylor Woodrow Construction y wobr Pencampwr Ansawdd
wrth Adeiladu gan Construction News am yr ail flwyddyn o'r bron.
Chwefror 2005
Chwilota drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymruu