Fideo | Cefndir
Teithiau Rhithwir
Rhuanedd Richards, Cyflwynydd Rhaglenni Gwleidyddol BBC Cymru sy’n eich tywys ar daith rhithwir o amgylch y Senedd. Cliciwch ar y linciau i ymweld â gwahannol rannau o’r Senedd.
Cefndir
Agorodd y Senedd ei drysau am y tro cyntaf ar 7 Chwefror 2006. Gweledigaeth y pensaer Richard Rogers oedd y byddai’r adeilad yn adlewychu’r ddemocratiaeth newydd sy’n aeddfedu yma yng Nghymru. Gwnaeth hynny drwy greu gofod agored, fyddai’n gwahodd y cyhoedd i fod yn rhan o’r broses ddemocrataidd. Y gost derfynol oedd bron i £67 miliwn, a’r gobaith oedd y byddai’n cael effaith ddiwylliannol a chymdeithasol yng Nghymru.
Cynhyrchwyd y teithiau gan BBC Cymru cyn agoriad swyddogol y Senedd ar Ddydd Gwyl Dewi 2006. Gallwch ganfod mwy am y Senedd gan BBC Cymru drwy ddilyn y linc isod: www.bbc.co.uk/cymru/deddwyrain/safle/cynulliad
© Hawlfraint – BBC Cymru 2006