Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Fideo | Siambr

This is a Flash Object


Teithiau Rhithwir

Rhuanedd Richards, Cyflwynydd Rhaglenni GwleidyddolBBC Cymru sy’n eich tywys ar daith rhithwir o’r Senedd. Cliciwch ar y linciau i ymweld a gwahannol rannau o’r Senedd.

Siambr

Ar y llawr gwaelod, yng nghalon y Senedd, y mae'r Siambr Drafod, neu'r "Siambr". Yma y mae 60 Aelod y Cynulliad yn cwrdd ddwywaith yr wythnos, ar brynhawn Mawrth a phrynhawn Mercher er mwyn cynnal eu sesiwn llawn. Mae ffurf gylchol yr ystafell wedi ei dewis yn fwriadol er mwyn creu awyrgylch cynhwysol a llai cyfwynebiadol ar gyfer y trafodaethau, yn wahanol i San Steffan. Nid yw'r seddau wedi eu gosod ar ffurf gwrthwynebus, ac nid yw'r llywodraeth gyferbyn ag aelodau eraill y Cynulliad.

Mae gan bob aelod o'r Cynulliad gyfrifiadur gyda sgrin cyffwrdd lle medrant bleidleisio trwy ddull electronig gyda'r canlyniadau yn cael eu harddangos yn syth ar sgrin fawr. Gall aelodau gael gafael hefyd ar ddogfennau ac e-byst o'r cyfrifiadur hwn.

Mae pob elfen o fewn y gofod hwn wedi ei chynllunio er mwyn pwysleisio rhyw amcan neu'i gilydd. Mae trefniant y cadeiriau a'r twndis mawr o bren yn pwysleisio difrifoldeb y penderfyniadau a wneir yn y siambr. Yng nghanol llawr y siambr mae cromen wydr glas ac aur dau fetr o led. Gwaith celf yw hwn gan yr artist Alexander Beleshenko, a'i enw yw "Calon Cymru".

Cynlluniwyd y Siambr i fedru darparu lle ar gyfer nifer uwch o aelodau o'r Cynulliad pe bai'r nifer yn cynyddu yn y dyfodol. Mae'r gofod ar hyn o bryd yn medru eistedd 60 o aelodau'r Cynulliad ond gellir cynyddu hyn i 80 o dynnu'r waliau dros-dro, â phaneli drostynt, sydd ar hyn o bryd gan y Siambr.

Cynhyrchwyd y teithiau gan BBC Cymru cyn agoriad swyddogol y Senedd ar ddydd Gwyl Dewi 2006. Gallwch ganfod mwy am y Senedd gan BBC Cymru drwy ddilyn y linc isod: www.bbc.co.uk/cymru/deddwyrain/safle/cynulliad

© Hawlfraint – BBC Cymru 2006