Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Fideo | Yr Adeilad

This is a Flash Object


Teithiau Rhithwir

Rhuanedd Richards, Cyflwynydd Rhaglenni GwleidyddolBBC Cymru sy’n eich tywys ar daith rhithwir o’r Senedd. Cliciwch ar y linciau i ymweld a gwahannol rannau o’r Senedd.

Yr Adeilad

Mae'r Senedd yn gorchuddio ardal o 5,000m sgwâr gyda llechi, concrid, dur, gwydr a phren ymhlith prif ddeunyddiau'r adeilad newydd.

O goncrid y gwnaed ffrâm yr adeilad, wedi ei gastio ar y safle a'i ddewis oherwydd ei fod yn medru gwrthsefyll ffrwydradau, yn ogystal â'i allu i gadw gwres sy'n cyfrannu at berfformiad amgylcheddol yr adeilad yn ei grynswth. Gellir gweld y concrid, a fireiniwyd i safon uchel, yn glir y tu fewn a thu allan i'r adeilad ar y prif waliau.

Ers i Richard Rogers ennill y comisiwn i gynllunio'r adeilad newydd, addaswyd y cynllun gwreiddiol o ganlyniad i gonsýrn cynyddol ynghylch diogelwch. Yn benodol, yn lle gweledigaeth wreiddiol Rogers o ffasâd cain o wydr, bellach mae 'na rwydwaith anferth o ddur a gwydr.

Efallai taw'r to tonnog yw un o nodweddion mwyaf trawiadol yr adeilad. Fe gafodd ei adeiladu o ddur a'i orffen gyda bondo cain o bren cedrwydd coch. Adeiladwyd y chwe modiwl ar gyfer y to oddi ar y safle ac yn ystod y nos. Mae'r to wedi ei oleuo'n gynnil er mwyn creu'r argraff fod y to yn "arnofio".

Defnyddiwyd dros 1,000 o dunelli o lechi Cymreig yn y Senedd er mwyn creu'r waliau allanol a'r lloriau mewnol. Mae'r fynedfa i'r Senedd wedi ei hadeiladu o derasau a rampiau llechi sy'n codi o ymyl y dwr ac i fyny at y brif fynedfa ar ben y plinth. Yr effaith yw denu pobl i mewn i'r adeilad a'u hannog i fynd i'r afael â'r broses wleidyddol.

Cynhyrchwyd y teithiau gan BBC Cymru cyn agoriad swyddogol y Senedd ar ddydd Gwyl Dewi 2006. Gallwch ganfod mwy am y Senedd gan BBC Cymru drwy ddilyn y linc isod: www.bbc.co.uk/cymru/deddwyrain/safle/cynulliad

© Hawlfraint – BBC Cymru 2006