Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Fideo | Cwrt

This is a Flash Object


Teithiau Rhithwir

Rhuanedd Richards, Cyflwynydd Rhaglenni GwleidyddolBBC Cymru sy’n eich tywys ar daith rhithwir o’r Senedd. Cliciwch ar y linciau i ymweld a gwahannol rannau o’r Senedd.

Cwrt

Enw'r ardal ar y llawr gwaelod o gwmpas y siambr yw'r 'Cwrt' ac fe'i cynlluniwyd i fod yn ardal ymgynnull. Dim ond aelodau'r cynulliad, swyddogion a newyddiadurwyr sy'n cael mynediad i lawr gwaelod y Senedd. Rheolir mynediad i'r ardal gan warchodwyr a phorth diogelwch. Mae'r llawr gwaelod hefyd â Stafell De i aelodau. Mae wedi ei lleoli, yn gyfleus, drws nesaf i'r fynedfa i'r Siambr a'r ystafell i'r wasg a'r cyfryngau, sydd â'r dechnoleg ddarlledu ddiweddaraf.

Cynhyrchwyd y teithiau gan BBC Cymru cyn agoriad swyddogol y Senedd ar ddydd Gwyl Dewi 2006. Gallwch ganfod mwy am y Senedd gan BBC Cymru drwy ddilyn y linc isod: www.bbc.co.uk/cymru/deddwyrain/safle/cynulliad

© Hawlfraint – BBC Cymru 2006