Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mynediad

Dyluniwyd y Senedd i fod yn adeilad arloesol sy'n agored ac yn hygyrch i bawb.

Cyflawnwyd hyn ym mhob un o’r ardaloedd cyhoeddus gyda chymorth y Grwp Cynghori ar Fynediad a oedd yn cynnwys grwpiau sy’n cynrychioli pobl anabl ledled Cymru, y contractwr, Taylor Woodrow, a Phartneriaeth Richard Rogers.

Roedd y blaenoriaethau o ran hygyrchedd yn cystadlu ag anghenion y darlledwyr ac felly 70 y cant o'r seddi yn y Siambr sy’n gwbl hygyrch, gan gynnwys seddi’r Cabinet.

Disgrifiwyd y Senedd fel adeilad blaengar ac arloesol yn y cyfryngau a chafodd y nodweddion isod eu cynnwys i sicrhau ei bod yn cyrraedd ei nod o fod yn esiampl i bawb o ran darparu mannau cyhoeddus sy’n hawdd i’w cyrraedd:

  • Lifft ychwanegol ym mlaen yr adeilad er mwyn i’r cyhoedd gyrraedd y fynedfa;
  • Lifft cyhoeddus mwy o fewn yr adeilad;
  • Lifftiau yng nghefn yr adeilad i'w defnyddio pe bai tân;
  • Toiled ‘Mega-loo’, sy'n cynnwys teclyn codi a chyfleusterau newid i oedolion;
  • Ystafell rhieni a phlant;
  • Dolenni clywed ym mhob rhan o'r adeilad;
  • Derbynfa sy'n hygyrch i staff ac i ymwelwyr;
  • Tri lle penodol i bobl sy’n defnyddio cadair olwyn yn orielau'r ystafelloedd pwyllgora a lle i ddau arall os oes angen;
  • Naw lle penodol i bobl sy’n defnyddio cadair olwyn yn oriel y Siambr. Gellir symud seddi i wneud mwy o le os oes angen;
  • Deuddeg lle parcio ar gyfer pobl anabl gerllaw’r Senedd;
  • Llwybrau addas dan do o'r lleoedd parcio ar gyfer pobl anabl i'r lifftiau ym mlaen yr adeilad;
  • Arwyddion Cymraeg a Saesneg ac arwyddion Braille yn y ddwy iaith;
  • Marciau tywysol ar y palmant;
  • Cynlluniau gweithredu ar gyfer defnyddio’r adeilad.

Sut i gyrraedd y Senedd

Sut i gyrraedd y Senedd
Yn y rhan hon cewch fap a chyfarwyddiadau ar sut i gyrraedd y Senedd gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, mewn car, neu ar droed.
Mwy>>

Diogelwch

Diogelwch
Er mwyn sicrhau bod yr adeilad a phawb sydd ynddo'n ddiogel, mae systemau a gweithdrefnau diogelwch ar waith yn y Senedd. I ganfod mwy am ddiogelwch yn y Senedd, ewch i’r rhan hon.
Mwy>>

Cyfleusterau Cyhoeddus

Cyfleusterau Cyhoeddus
Mae’r Senedd yn adeilad cyhoeddus gydag ystod o gyfleusterau i ymwelwyr. Gallwch weld pa gyfleusterau sydd ar gael yn yr adran hon.
Mwy>>