Ymweliadau Grwp

Mae teithiau tywysedig a archebwyd ymlaen llaw ar gael am ddim yn y Senedd ym Mae Caerdydd (saith diwrnod yr wythnos).

Teithiau o amgylch y Senedd, Bae Caerdydd

Caiff grwpiau o ymwelwyr sydd wedi archebu ymlaen llaw eu croesawu yn y Senedd ac yna cânt eu tywys o amgylch yr adeilad unigryw a hynod hwn gan Dywysydd. Mae hefyd yn bosibl cyfarfod ag Aelodau’r Cynulliad, os gwneir cais ymlaen llaw a chyn belled â’u bod ar gael.

Ar ddyddiau busnes (dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau), caiff ymwelwyr weld y Neuadd, yr Oriel, Oriel y Pwyllgorau ac Oriel y Siambr. Mae’r cyflwyniad yn canolbwyntio ar nodweddion cynaliadwy’r adeilad yn ogystal â sut mae’r Cynulliad yn gweithio ac maent yn parhau am tua awr. Nid yw'r teithiau hyn o reidrwydd yn cynnwys sedd i wylio sesiwn Cyfarfod Llawn na chyfarfodydd Pwyllgor. Os oes angen seddi arnoch, dylech eu harchebu ar wahân, a gellir gwneud hyn hyd at dair wythnos ymlaen llaw.

Ar ddyddiau na chynhelir pwyllgorau ac yn ystod y toriad, mae grwpiau o 20 a llai yn cael y dewis ychwanegol o ymweld â’r Cwrt a’r Siambr.

Mae Siop y Cynulliad ym Mae Caerdydd yn cynnig dewis o nwyddau a rhoddion o Gymru â brand y Cynulliad Cenedlaethol arnynt i ymwelwyr.

Gwasanaethau Dehongli a Chyfieithu Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Mae dehonglwyr BSL, gwefuslefarwyr, palandeipyddion, defnyddwyr Maketon a chyfieithwyr ar gael ar gais ar gyfer cyfarfodydd llawn, cyfarfodydd pwyllgor a theithiau tywys yn y Senedd. Mae angen rhybudd o bymtheg diwrnod gwaith er mwyn sicrhau bod y cymorth hwn ar gael. Gellir archebu’r gwasanaeth am ddim drwy gysylltu â llinell archebu’r Cynulliad. Ceir y manylion isod.

Trefnu ymweliadau grwp

Rhaid trefnu ymweliadau grwp ymlaen llaw. I archebu dylech:

ffonio’r Llinell Archebu drwy ein switsfwrdd ar 0845 010 5500 (ffôn testun: 0845 010 5678)

anfon e-bost i: archebu@cymru.gov.uk

llenwi'r ffurflen archebu electronig

ysgrifennu i: Gwasanaeth Archebu’r Cynulliad,
Cynulliad Cenedlaethol Cymru,
Canolfan Ymwelwyr y Gogledd,
Parc y Tywysog,
Rhodfa’r Tywysog,
Bae Colwyn ,
Conwy,
LL29 8PL

Defnyddio iaith arall wrth gysylltu â ni dros y ffôn

Mae gwasanaeth dros y ffôn ar gael mewn hyd at 60 o ieithoedd i bobl nad ydynt yn siarad Cymraeg neu Saesneg fel iaith gyntaf. I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, ffoniwch 0845 010 5500 a nodi eich dewis iaith er mwyn cael eich cysylltu â’r gwasanaeth priodol.

Canslo ymweliad

Os bydd angen i chi ganslo ymweliad am unrhyw reswm, rhowch wybod i'r Llinell Archebu cyn gynted â phosibl gan ddefnyddio’r manylion cyswllt uchod.

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Ymweld â ni
  3. Y Senedd
  4. Ymweld â’r Senedd
  5. Ymweliadau grwp

Partneriaid a Help