Sut i gyrraedd y Senedd

Mapiau


View Larger Map

Bws

Mae gwasanaethau bws cenedlaethol yn rhedeg i Orsaf Ganolog Caerdydd lle gellir dal bysiau rhif 8 a 9 wrth arosfannau W2 a W3 (y tu allan i’r orsaf fysiau yn Wood Street). Mae gwasanaeth bws Bay Express yn gadael Gorsaf Ganolog Caerdydd bob 10 munud ac mae’n stopio o flaen Canolfan Mileniwm Cymru sydd gerllaw’r Senedd. Hefyd, mae bws rhif 7 yn rhedeg o Heol Eglwys Fair. Mae’r gwasanaeth hwn yn rhedeg bob chwarter awr ac yn stopio ar Stryd Pierhead, rhyw 200 metr o’r Senedd a Glanfa’r Cynulliad.

Trên

Mae gwasanaethau’n rhedeg bob 20 munud o Orsaf Heol y Frenhines, Caerdydd i Orsaf Bae Caerdydd. Mae’r orsaf ychydig funudau o’r Senedd a Glanfa’r Cynulliad.

O’r Draffordd

Gadewch yr M4 ar gyffordd 33, dilynwch yr A4232 i gyfeiriad Bae Caerdydd, a dilynwch yr arwyddion i Cynulliad Cennedlaethol Cymru, CF99 1NA.

Parcio Car

Mae’r maes parcio agosaf yng Nghei’r Forforwyn nid nepell o Lanfa’r Cynulliad. Mae hwn yn faes parcio talu ac arddangos ac mae staff diogelwch yn gweithio yno drwy’r adeg. Mae maes parcio talebau y tu allan i’r Eglwys Norwyaidd.

Parcio i Bobl Anabl

Mae lleoedd parcio ar gael ar gyfer pobl anabl ym maes parcio’r Cynulliad drwy drefniant ymlaen llaw. Gallwch drefnu drwy gysylltu â swyddfeydd preifat Aelodau’r Cynulliad yn achos cyfarfodydd gydag Aelodau a Gweinidogion neu drwy gysylltu â’r swyddogion perthnasol yn y Cynulliad. Gallwch drefnu lle parcio er mwyn dod i’r Cyfarfod Llawn neu gyfarfodydd y pwyllgorau neu ar gyfer ymweliad â’r Senedd a drefnwyd ymlaen llaw, drwy gysylltu â switsfwrdd y Cynulliad ar 0845 010 5500. Rhaid i ymwelwyr ddangos bathodyn parcio i bobl anabl ar ôl cyrraedd y Senedd.

Parcio Bws

Mae map ar gael gan linell archebu'r Cynulliad yn nodi ble y gall bysiau adael ymwelwyr.

Beicio/Cerdded

Mae llwybr ‘Taith Taf’ yn rhedeg o Aberhonddu ar hyd yr afon, drwy ganol y brifddinas, cyn dod i’w derfyn ger y Basn Hirgrwn y tu allan i’r Senedd ym Mae Caerdydd. Hefyd, mae llwybr i feicwyr a cherddwyr ar hyd yr A4232 o Barc Manwerthu Bae Caerdydd.

Tacsi

Mae nifer o gwmnïau tacsi yn cynnig gwasanaeth o ganol y brifddinas i Fae Caerdydd. Mae arosfannau tacsi y tu allan i Orsaf Reilffordd Ganolog Caerdydd, ger Neuadd Dewi Sant ac ar waelod Park Place. Efallai y bydd y wybodaeth ar y gwefannau a ganlyn yn ddefnyddiol wrth i chi drefnu’ch ymweliad: www.nationalrail.co.uk www.traveline-cymru.org.uk

Cysylltu â Ni

Cynulliad Cenedlaethol Cymru Bae Caerdydd Caerdydd CF99 1NA Switsfwrdd y Cynulliad: 0845 010 5500 Ffôn Testun: 0845 010 5678 E-bost: assembly.info@wales.gov.uk

Rydych chi yma :

  1. Hafan
  2. Ymweld â ni
  3. Y Senedd
  4. Ymweld â’r Senedd
  5. Sut i gyrraedd y Senedd

Partneriaid a Help