Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Amodau a thelerau

Safleoedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw assemblywales.org, cynulliadcymru.org a senedd.tv a reolir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel ‘Ni’ . Wrth gysylltu â’n safle ar y we rydych chi fel defnyddiwr ‘Chi’ yn derbyn ein Amodau a Thelerau.

Mae safleoedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y we a’i safleoedd cysylltiedig yn cael eu cynnal ar gyfer eich defnydd personol. Bydd y mynediad a’r defnydd o’r Amodau a Thelerau hyn mewn grym o’r dyddiad y’i defnyddir am y tro cyntaf.

Hawlfraint Seneddol

Caiff y rhan fwyaf o'r deunydd sy'n ymddangos ar y safle hwn ei diogelu gan hawlfraint Seneddol oni nodir fel arall. Gellir atgynhyrchu'r deunydd a ddiogelir gan hawlfraint Seneddol am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng heb ofyn am ganiatâd penodol. Mae hyn ar yr amod bod y deunydd yn cael ei atgynhyrchu'n gywir ac nid mewn cyd-destun camarweiniol. Pan gaiff unrhyw un o'r eitemau ar y wefan sydd o dan hawlfraint Seneddol ei hailgyhoeddi neu ei chopïo i eraill, mae'n rhaid enwi ffynhonnell y deunydd a chydnabod y statws hawlfraint.Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn fodlon hefyd i ddefnyddwyr greu cysylltiadau hypertestun â'r wefan yma.

Logos

Marciau perchnogol y Cynulliad Cenedlaethol yw enwau, delweddau a logos adnabod Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ni chaniateir copïo neu ddefnyddio logo Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac/neu logos unrhyw barti arall a geir atynt trwy’r safle hwn ar y we heb ganiatâd gan y perchennog hawlfraint perthnasol ymlaen llaw. Dylid cyfeirio ceisiadau am gael defnyddio logo Cynulliad Cenedlaethol Cymru at

Pennaeth Gwybodaeth i'r Cyhoedd
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
CF99 1NA

Llinell Gwybodaeth: 029 2089 8200

E-bost: Webmaster@cymru.gsi.gov.uk

Dywedwch wrthym pam a sut yr ydych am ddefnyddio’n logos. Nodwch eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn, rhif ffacs ac e-bost.

Gor-gysylltu â ni yn cynulliadcymru.org

Nid oes yn rhaid i chi ofyn am ganiatâd i gysylltu’n uniongyrchol â thudalennau ar y safle hwn. Ni ydym yn gwrthwynebu i chi gysylltu’n uniongyrchol â’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys ar ein safle. Er hynny, byddai’n well gennym pe na bai’n tudalennau’n cael eu llwytho i fframiau ar eich safle. Dylai tudalennau Cynulliad Cenedlaethol Cymru gael eu llwytho i ffenestr gyflawn y defnyddiwr. Os ydych am lwytho tudalennau o fewn fframiau cysylltwch â gwefeistr@cynulliadcymru.org

Perchnogion porthol

Os ydych am gynnwys tudalennau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y we o fewn safle porthol cysylltwch â gwefeistr@cynulliadcymruorg. Nodwch eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn, rhif ffacs ac e-bost a disgrifiad o’ch safle porthol.

O’r safle hwn ar y we.

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys neu ddibynadwyedd y safleoedd cysylltiedig. Nid yw cynnwys safleoedd ar restr yn gyfystyr â chymeradwyaeth o unrhyw fath. Ni allwn roi sicrwydd y bydd y cysylltiadau hyn yn gweithio drwy’r amser ac nid oes gennym reolaeth dros ddilysrwydd tudalennau cysylltiedig.

Diogelwch rhag firysau

Byddwn yn gwneud pob ymdrech i archwilio a phrofi pob deunydd ym mhob cyfnod o’r broses gynhyrchu. Mae’n syniad doeth i chi redeg rhaglen gwrth-firws ar bob deunydd a lwythir i lawr o’r Rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, ymyrraeth neu niwed i’ch data neu’ch system gyfrifiadur a all ddigwydd tra’n defnyddio deunydd oddi ar safleoedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y we.

Telerau ac Amodau (Rheolau Trafod ar y We)

Wrth gymryd rhan yn ein hymgynghoriadau ar-lein, rydych yn cytuno i’n telerau a’n hamodau. Dyma rai rheolau yr hoffem i chi eu dilyn:

Cofiwch:

  • Fod yn gwrtais wrth anfon eich sylwadau;
  • Anfonwch eich sylwadau yn Gymraeg neu’n Saesneg ar y wefan briodol.

Ni fyddwn yn cyfieithu’r sylwadau, ac mae'n bosib y bydd y cymedrolwr yn symud sylwadau i'r wefan briodol.

Ceisiwch osgoi:

  • Anfon manylion personol (gan gynnwys eich manylion personol chi)
  • Dynwared person arall neu honni ar gam eich bod yn cynrychioli grwp neu sefydliad
  • Rhegi neu wneud sylwadau anweddus
  • Sarhau, bygwth neu bryfocio unrhyw un arall neu unrhyw grwp arall
  • Anfon unrhyw beth a allai dorri’r gyfraith (e.e. torri hawlfraint, honiadau enllibus, dirmyg llys,)
  • Defnyddio’r safle i hysbysebu unrhyw gynnyrch masnachol       

Bydd ein cymedrolwyr yn dileu rhan o neges neu neges gyfan os teimlant ei bod yn torri unrhyw un o’r rheolau hyn, ac efallai y cewch eich atal rhag anfon unrhyw gyfraniadau pellach. Os ydych yn pryderu bod eich neges yn torri’r rheolau neu ei bod yn amhriodol mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â ni i gael cyngor.

Byddwn yn gwneud pob ymdrech i ystyried eich sylwadau mor gyflym â phosibl ac os byddwn yn dod ar draws problem, byddwn yn dileu’r neges cyn gynted â phosibl.

Cofiwch hefyd, trwy gymryd rhan:

  • Rydych yn rhoi indemniad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru rhag unrhyw golledion, hawliadau, gorchmynion, difrod neu dreuliau a honnwyd gan unrhyw drydydd parti oherwydd eich neges, sy’n deillio o’ch neges neu sydd mewn cysylltiad â’ch neges.
  • Rydych yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ganiatâd rhydd o freindal a chaniatâd di-alw’n-ôl i atgynhyrchu unrhyw ddeunydd yr ydych yn ei anfon.

Ymwadiad

Mae gwybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau safle Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y we (neu wybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau trydydd parti) yn cael eu darparu ‘fel y maent’ heb unrhyw gynrychiolaeth neu gymeradwyaeth a heb warant o unrhyw fath, boed yn ddiamwys neu’n oblygedig, yn cynnwys ond heb eu cyfyngu i warantau goblygedig o ansawdd boddhaol, addasrwydd ar gyfer pwrpas penodol, heb dor cyfraith, cyfaddasrwydd, diogelwch a chywirdeb. Nid ydym yn rhoi sicrwydd y bydd y swyddogaethau yn y deunydd ar y safle hwn yn ddi-dor neu heb gamgymeriadau, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, neu y bydd y safle hwn neu’r gweinyddwr sy’n sicrhau bod y safle ar gael yn rhydd rhag firysau neu’n cynrychioli ymarferoldeb, cywirdeb, dibynadwyedd llawn y deunyddiau. Ni fyddwn dan unrhyw amgylchiadau yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod, heb gyfyngiadau, colled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol, neu unrhyw golled neu ddifrod o unrhyw fath a ddaw o ddefnyddio neu fethu defnyddio data, neu elw, sy’n deillio neu sy’n gysylltiedig â’r defnydd o safleoedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y we.

Bydd yr Amodau a Thelerau hyn yn cael eu rheoli a’u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy’n codi dan Amodau a Thelerau hyn yn ddarostyngedig i awdurdod neilltuedig llysoedd Cymru a Lloegr.