Ymweld â ni
Mae’r Cynulliad ar agor i’r cyhoedd drwy amryw o wahanol raglenni a digwyddiadau.
Mae’r Cynulliad ar agor i’r cyhoedd drwy amryw o wahanol raglenni a digwyddiadau.
Archebwch daith dywysedig o amgylch y Senedd, ewch i Gyfarfod Llawn neu gyfarfod Pwyllgor, neu dysgwch am hanes yr adeilad ym Mae Caerdydd.
Mae'r Pierhead yn fan cyfarfod unigryw i bobl Cymru ac yn darparu ar gyfer ymwelwyr, digwyddiadau a chynadleddau. Mae'n lle i fynegi barn a rhoi llais i faterion sydd o bwys i chi fel unigolion, cymunedau neu sefydliadau.
Mae’r Gwasanaeth Addysg yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc ddysgu am waith y Cynulliad ac yn anelu at gynyddu cyfranogiad yn y broses ddemocrataidd. Am fanylion ynglyn â’n gweithgareddau ac adnoddau ewch i ymweld â'n gwefan addysg - Chwilotaynycynulliad.org.