Cyfleusterau Cyhoeddus
Oriau agor y Senedd:
Yr wythnos waith - yn ystod y tymor, dydd Llun a dydd Gwener 9:30am - 4:30pm, dydd Mawrth, Mercher a Iau 8:00am tan ddiwedd y trafodion
Yr wythnos waith - yn ystod y toriad, dydd Llun i ddydd Gwener 9:30am - 4:30pm
Dydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Banc (trwy'r flwyddyn) 10:30 am - 4:30pm.
(Mynediad olaf hanner awr cyn cau'r adeilad)
Mynediad
Gall y cyhoedd gyrraedd y Senedd drwy ddringo’r grisiau a’r rampiau ar y plinth o flaen yr adeilad neu drwy ddefnyddio’r lifft ar gornel flaen yr adeilad ger Canolfan y Mileniwm. Pa bynnag lwybr a ddewisir, byddwch yn cyrraedd y plinth a’r brif fynedfa. Unwaith y byddwch y tu mewn i’r Senedd, bydd staff diogelwch a staff tywys ar gael i roi cymorth fel bo’r angen. Mae cadeiriau olwyn ar gael i’r rheini sydd eu hangen.
I gael gwybod mwy am weithdrefnau diogelwch yn y Senedd
Ystafell Gotiau
Gellir gadael cotiau yn yr ystafell wrth ymyl y sganiwr ar y dyddiau hynny pan fydd y Cynulliad yn eistedd.
Lifftiau
Mae modd defnyddio’r lifftiau neu’r grisiau i fynd i’r holl fannau cyhoeddus yn y Senedd.
Seddi
Mae seddi ar gael ar gyfer y cyhoedd yn y Neuadd ac yn yr Oriel.
Gwylio Cyfarfodydd Llawn a Chyfarfodydd Pwyllgor yn yr Orielau Cyhoeddus
Er mwyn osgoi cael eich siomi, byddai'n well i chi archebu sedd ymlaen llaw, ond nid oes rhaid gwneud hyn bob amser, a gall ymwelwyr holi staff y Dderbynfa am seddi ar y diwrnod.
Dod â phlant bach i’r Senedd
Gellir cymryd pramiau ac ati i’r holl fannau cyhoeddus. Mae lle i newid babanod yn y Neuadd ac mae Ystafell Rhieni a Phlant, gyda theganau a chyfleusterau eraill i’r cyhoedd ei defnyddio, yn y Neuadd.
Caffi
Mae yna gaffi yn yr Oriel sy'n gwerthu diodydd poeth ac oer a byrbrydau. Dyma oriau agor y caffi:
Dydd Llun, dydd Iau a dydd Gwener rhwng 10.00am a 4.30pm
Dydd Mawrth a dydd Mercher rhwng 10.00am a 4.30pm
Dydd Sadwrn a dydd Sul (haf) rhwng 10.30am a 4.30pm.
Dydd Sadwrn a dydd Sul (gaeaf) rhwng 10.30am a 4.30pm.
Gwybodaeth
Mae gwybodaeth am waith y Cynulliad, Aelodau’r Cynulliad a’r Senedd ar gael i’r cyhoedd ar sgriniau plasma a phodiau gwybodaeth yn y Neuadd a’r Oriel. Mae staff ar gael i roi gwybodaeth ac ateb cwestiynau ac mae amryw o gyhoeddiadau ar gael hefyd.
Cyfleusterau Cyhoeddus
Mae toiledau cyhoeddus yn y Neuadd a thoiled â chymhorthion, yn cynnwys cyfarpar codi, yn y Neuadd.
